Adroddiad yn asesu effaith ganfyddedig y Gronfa Gofal Integredig o ran gwella gallu i gwrdd ag anghenion iechyd a gofal cymdeithasol pobl.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Mae'r adroddiad yn cyflwyno canfyddiadau ar gyfer cyfnod 2016 - 2021 y Gronfa Gofal Integredig.
Asesodd y gwerthusiad effaith dybiedig y gronfa o ran gwella'r gallu i ddiwallu anghenion iechyd a gofal cymdeithasol pobl.
Yn benodol, mae'n trafod sut mae prosiectau a ariennir yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd a lles pobl. Mae'r rhain yn cynnwys gwell iechyd meddwl ac ansawdd bywyd. Adroddwyd am amrywiaeth o ganlyniadau, gan adlewyrchu'r ystod amrywiol o weithgareddau a grwpiau a ariannwyd bu'n gweithio gyda. Nid oedd yn bosibl deall canlyniadau defnyddwyr gwasanaeth ar gyfer y gronfa yn gyffredinol.
