Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Rhaglen ataliol a ariennir gan Lywodraeth Cymru yw'r Gronfa Gofal Integredig (y Gronfa) a'i nod yw integreiddio ac annog cydweithio rhwng y sectorau gwasanaethau cymdeithasol, iechyd, tai, a’r trydydd sector a’r sector annibynnol er mwyn gwella bywydau’r bobl sydd fwyaf agored i niwed yng Nghymru. Fe'i cyflwynwyd yn 2014 ac mae cyllid ar gael tan ddiwedd mis Mawrth 2022. Yr enw gwreiddiol arni oedd y Gronfa Gofal Canolraddol ac mae wedi sicrhau bod cyllid blynyddol ar gael i'r saith Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ledled Cymru i ddiwallu anghenion gofal a chymorth pobl yn well drwy wasanaethau mwy cydgysylltiedig a di-dor.

Mae'r Gronfa Gofal Integredig yn cynnwys dyraniadau cyfalaf a refeniw, ond mae'r gwerthusiad hwn wedi canolbwyntio ar ddyraniadau refeniw y Gronfa. Mae gwerth blynyddol y gronfa refeniw wedi cynyddu dros amser, o’r dyraniad cychwynnol o £30 miliwn yn 2014/15 i £89 miliwn yn 2021/22.

Gwnaed newidiadau blynyddol i’r Gronfa dros amser a gwnaed newidiadau sylweddol iddi yn ystod 2017/18 er mwyn sicrhau ei bod yn cyd-fynd â’r amcanion a’r grwpiau blaenoriaeth a nodir yn y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant. Mae pob Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn cyflwyno Cynlluniau Buddsoddi Refeniw blynyddol i Lywodraeth Cymru i’w hadolygu er mwyn sicrhau eu bod yn dilyn y canllawiau cyllido.

Ar hyn o bryd, mae’r Gronfa Gofal Integredig yn canolbwyntio ar bum grŵp blaenoriaeth allweddol:

  • pobl hŷn sydd ag anghenion cymhleth a chyflyrau hirdymor gan gynnwys dementia
  • pobl sydd ag anableddau dysgu
  • plant sydd ag anghenion cymhleth 
  • gofalwyr, gan gynnwys gofalwyr ifanc
  • plant ar ymylon gofal.

Nodau ac amcanion yr adolygiad

Nod y gwerthusiad oedd asesu'r canfyddiad o effaith a/neu effaith bosibl y Gronfa Gofal Integredig o ran creu newid mewn systemau ac ymddygiad er mwyn gwella'r gallu i ddiwallu anghenion iechyd a gofal cymdeithasol pobl.

Roedd disgwyl i’r gwerthusiad asesu:

  • effaith y rhaglen rhwng 2016 a 2021 ar unigolion a’r cymunedau dan sylw
  • effaith y rhaglen ar ddarparu gwasanaethau ar draws y sector iechyd a gofal cymdeithasol
  • effaith prosiectau ataliol o ran lleihau'r pwysau ar y system iechyd a gofal
  • y ffactorau llwyddiant hanfodol a'r rhwystrau a all lywio rhaglenni ac ymyriadau yn y dyfodol
  • i ba raddau y gellir ehangu modelau cyflawni a'u lledaenu er mwyn eu mabwysiadu'n ehangach ledled Cymru.

Dull

Cynhaliwyd y gwerthusiad rhwng mis Ionawr a mis Hydref 2021 ac roedd yn cynnwys:   

  • cam cychwynnol, a oedd yn cynnwys cyfarfod cychwynnol gyda swyddogion Llywodraeth Cymru a pharatoi cynllun prosiect  
  • adolygiad pen desg o bolisïau a deddfwriaeth berthnasol, gwerthusiadau perthnasol, a dogfennau ar lefel rhaglen
  • drafftio canllawiau trafod ar gyfer cyfweld â chyfranwyr a datblygu arolwg ar y we ar gyfer arweinwyr prosiectau'r Gronfa
  • metaddadansoddiad o ddogfennaeth ar gyfer sampl o 77 o brosiectau'r Gronfa
  • cynnal arolwg ar-lein a gwblhawyd gan 68 o arweinwyr prosiectau'r Gronfa
  • gwaith maes gyda 15 o brosiectau'r Gronfa a oedd yn cynnwys gofyn barn 48 o staff prosiectau a 26 o dderbynyddion prosiectau
  • cyfweld â 74 o randdeiliaid o bob un o’r saith Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn ogystal â thri o swyddogion Llywodraeth Cymru a dau gynrychiolydd o sefydliadau rhanddeiliaid
  • cyfuno canfyddiadau'r gwaith maes a'r adolygiad pen desg a pharatoi adroddiad gwerthuso

Mae angen ystyried canfyddiadau’r gwerthusiad yng ngoleuni rhai ystyriaethau methodolegol allweddol: 

  • er bod trawstoriad o brosiectau wedi'u dethol ar gyfer y macroddadansoddiad a'r astudiaethau achos, bwriadwyd i'r sampl ganolbwyntio ar brosiectau a oedd ag o leiaf rywfaint o dystiolaeth werthuso. O ganlyniad efallai y bydd gogwydd posibl tuag at gynnwys prosiectau mwy llwyddiannus sydd wedi'u rheoli'n well yn yr astudiaeth
  • nid oedd yn bosibl i'r gwerthusiad adrodd ar y canlyniadau a gyflawnwyd ar lefel rhaglen oherwydd diffyg dulliau mesur canlyniadau cenedlaethol cyson ar lefel rhaglen. Cafodd y canlyniadau eu pennu a'u diffinio gan brosiectau unigol gan ei gwneud yn amhosibl cymharu a chydgrynhoi cyflawniadau
  • roedd llawer o'r dystiolaeth a gasglwyd drwy'r gwerthusiad hwn am effaith y rhaglen yn anecdotaidd ei natur ac yn seiliedig ar ganfyddiad cyfranwyr o'r gwahaniaeth a wnaed gan wasanaethau'r prosiectau

Canfyddiadau allweddol

Canfu'r gwerthusiad y canlynol:

  • mae'r Gronfa Gofal Integredig wedi cefnogi uchelgeisiau Llywodraeth Cymru i drawsnewid y sector iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae wedi cyfrannu’n gadarnhaol at yr amcanion a nodir yn y Rhaglenni Llywodraethu, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) a Cymru Iachach
  • mae’r Gronfa wedi ariannu ymyriadau ataliol priodol sydd wedi helpu i gynnal gwasanaethau craidd yn ystod cyfnod o bwysau sylweddol ac mae wedi bod yn allweddol o ran ysgogi dull integredig o weithio ar draws y sectorau iechyd, gofal cymdeithasol, tai a’r trydydd sector
  • mae’r Gronfa yn ffrwd gyllido y rhoddir gwerth mawr arni a heb gyllid parhaus, mae cynaliadwyedd y gwasanaethau presennol yn ansicr, a byddai tynnu’r gwasanaethau hyn yn ôl yn niweidiol
  • mae prosiectau a ariannwyd wedi gwneud cynnydd da, ond nid yw’r rhai a sefydlwyd yn fwy diweddar wedi cael yr un cyfle i dreialu modelau cyflawni o gymharu â phrosiectau sydd wedi’u hen sefydlu
  • mae'r pandemig COVID-19 wedi cael effaith ddifrifol a gwrthgyferbyniol ar y darpariaethau a ariannwyd. Mae prosiectau'r Gronfa wedi chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o gefnogi ymdrechion y rheng flaen yn ystod y pandemig

Canfu’r gwerthusiad y canlynol o ran yr effaith ar unigolion a chymunedau:

  • mae prosiectau'r Gronfa yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol, trawsnewidiol yn aml, i bobl o ran manteision iechyd a llesiant gan gynnwys gwell iechyd meddwl ac ansawdd bywyd. Mae prosiectau hefyd yn gwneud gwahaniaeth o ran sut y mae pobl yn defnyddio gwasanaethau
  • mae ystod eang o ganlyniadau yn cael eu cyflawni, yn bennaf oherwydd bod ymyriadau’r Gronfa yn amrywio o ran cwmpas a grwpiau targed sy'n flaenoriaeth, ac felly mae’n amhosibl cydgrynhoi'r canlyniadau i ddefnyddwyr gwasanaethau ar lefel rhaglen
  • mae prosiectau wedi tueddu i ganolbwyntio ar adrodd ar allbwn prosiectau, er nad yw hyn o reidrwydd yn adlewyrchu’r gwahaniaeth y mae ymyriadau’n ei wneud, oherwydd mae dangos tystiolaeth o ymyriadau dwys, tymor hwy yn heriol ac yn cael ei egluro’n well drwy astudiaethau achos unigol a thrwy asesu'r pellter a deithiwyd

O ran yr effaith ar ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a lleihau’r pwysau ar y system, mae'r Gronfa wedi:

  • helpu i wella gwaith partneriaeth rhwng sefydliadau ac ar draws rhanbarthau; annog a hwyluso ffordd fwy rhanbarthol o weithio; a chefnogi symudiad tuag at integreiddio gwasanaethau
  • gwella rôl y trydydd sector, sydd mewn sefyllfa dda i ddarparu gwasanaethau ataliol mewn modd addasadwy a hyblyg. Mae prosiectau'r trydydd sector yn tueddu i fod yn llai integredig na'r rhai sy'n cael eu harwain gan wasanaethau statudol ac yn wynebu heriau unigryw o ganlyniad
  • cyfrannu at leihad mewn gofal sefydliadol a'r defnydd o welyau ysbyty; yn ogystal â symud y cydbwysedd tuag at wasanaethau ataliol, agosach at y cartref drwy ddatblygu llwybrau gofal canolraddol
  • ariannu prosiectau amrywiol yr ystyrir eu bod yn effeithiol o ran atal derbyniadau i'r ysbyty a hwyluso rhyddhau cleifion yn gynnar, gan ganiatáu i fwy o bobl aros yn ddiogel ac yn iach gartref; a helpu i newid agweddau tuag at werth ymyriadau cynnar a dulliau atal
  • cyfrannu at lawer o newidiadau cadarnhaol ar draws y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a ddarperir er ei bod yn amhosibl datblethu effaith y Gronfa o ffynonellau cyllid eraill wrth asesu i ba raddau y gellir priodoli effaith

O ran galluogwyr a rhwystrau allweddol ar gyfer prosiectau a ariannwyd:

  • ymysg y galluogwyr allweddol o ran cyflawni prosiectau mae trefniadau effeithiol ar gyfer cydweithio ag eraill; cael tîm cyflawni cryf; mabwysiadu model cyflawni a darpariaeth hyblyg y gellir ei addasu sy’n gwella gwybodaeth ymarferwyr eraill drwy hyfforddiant neu gydweithio
  • ymysg y rhwystrau allweddol mae'r pandemig COVID-19, effaith trefniadau cyllido blynyddol a goblygiadau hyn o ran recriwtio a chadw staff.

Argymhellion

Mae'r adroddiad yn cyflwyno argymhellion sy'n cyd-fynd â phum thema allweddol a nodwyd yn ystod yr ymchwil. Cynigir y pum set o argymhellion fel syniadau yn hytrach na rhestr gyfarwyddol ar gyfer newid. Ochr yn ochr a hwy mae cwestiynau 'prawf' a fyddai'n ddefnyddiol i'w hystyried ar gyfer y dyfodol. Y pum thema allweddol yw:

  • Thema 1: Yr angen i barhau â rhyw fath o gyllid wedi’i neilltuo yn y dyfodol er mwyn cefnogi arloesi ac integreiddio
  • Thema 2: Yr angen i’r gronfa gefnogi gwelliant a newid cynaliadwy
  • Thema 3: Sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng cyfarwyddyd a disgresiwn
  • Thema 4: Defnyddio data i ysgogi gwelliannau i wasanaethau ac ansawdd
  • Thema 5: Yr angen i sicrhau bod canlyniadau o'r gronfa yn arwain at ddysgu a lledaenu arfer da

Rhoddir crynodeb o awgrymiadau ac argymhellion isod:

  1. Parhau i sicrhau bod cyllid wedi’i neilltuo ar gael i gefnogi arloesi a darpariaethau integredig a chydweithredol ar draws y maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
  2. Ystyried symleiddio’r cyllid presennol sydd ar gael drwy’r Gronfa Gofal Integredig a’r Gronfa Trawsnewid mewn un gronfa o fis Ebrill 2022 ymlaen sy’n cefnogi’r amcanion a nodir yn Cymru Iachach a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).
  3. Darparu mwy o eglurder ynghylch yr hyn y mae gwir arloesi yn ei olygu yn ymarferol er mwyn osgoi unrhyw arloesi 'synthetig' sy'n honni ei fod yn newydd ond nad yw'n newydd mewn gwirionedd.
  4. Sicrhau nad yw rhanbarthau’n cael eu hannog yn anfwriadol i ddehongli arloesi fel cynyddu nifer y prosiectau.
  5. Cael cadarnhad o effaith bosibl prosiectau cyn cytuno arnynt.
  6. Ehangu’r gofyniad i randdeiliaid eraill fod yn rhan o’r gwaith o ddatblygu mentrau sy’n deillio o’r gronfa, yn enwedig defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr, y sector annibynnol, ac Ymddiriedolaeth Ambiwlans Cymru.
  7. Egluro ei bod yn dderbyniol i fanteision y gronfa gael eu cronni’n anghymesur gan wahanol asiantaethau partner ar yr amod bod hyn wedi’i gytuno ar y cyd.
  8. Sicrhau bod cyllid ar gael yn y dyfodol am gyfnod hwy - tair blynedd o leiaf ond yn ddelfrydol, pum mlynedd - er mwyn caniatáu trawsnewidiad a mynd i’r afael â heriau cyflawni.
  9. Cynnwys trefniadau wrth gefn yn y gronfa er mwyn sicrhau y gellir ymdrin â strategaethau ymadael yn briodol.
  10. Galluogi cydberchnogaeth o gynaliadwyedd prosiectau, rhaglenni a mentrau a gynhyrchir gan gronfeydd fel y Gronfa Gofal Integredig.
  11. Ymgysylltu â rhanddeiliaid i sefydlu’r trefniadau mwyaf priodol ar gyfer sicrhau y gall prosiectau ddechrau a gorffen heb ofni gorfod wynebu sefyllfa lle y daw'r cyllid i ben yn sydyn, boed hynny digwydd mewn gwirionedd neu'n ganfyddiad.
  12. Ceisio cael dealltwriaeth gliriach gan randdeiliaid o'r anawsterau sy'n gysylltiedig â phrif ffrydio ac ehangu a chynnwys darpariaeth o fewn y gronfa newydd i oresgyn yr anawsterau hynny.
  13. Cefnogi defnydd hyblyg o’r gronfa a pharhau i gyfuno gwahanol ffrydiau cyllido er mwyn cyflawni'r amcanion a nodir yn y canllawiau ar gyfer y gronfa newydd ac egluro sut y mae hyn yn effeithio ar atebolrwydd lleol a rhanbarthol yng ngoleuni unrhyw newidiadau sy’n codi o’r Papur Gwyn diweddar. Egluro i ba raddau y mae defnyddio'r gronfa newydd mewn ffordd hyblyg yn dderbyniol.
  14. Sicrhau dealltwriaeth o amcanion y gronfa newydd ac, yn ddelfrydol, cytuno arnynt gyda rhanddeiliaid. Sicrhau lle bynnag y bo modd bod yr amcanion yn bodloni egwyddorion 'CAMPUS'.
  15. Ystyried sefydlu elfennau ar wahân yn y gronfa newydd ar gyfer arloesi, cydgrynhoi a thrawsnewid, a therfynu.
  16. Ffafrio cymaint o ddisgresiwn rhanbarthol â phosibl wrth ystyried y cydbwysedd rhwng cyfarwyddyd a disgresiwn yn y gronfa newydd. Sicrhau'r cydbwysedd hwn drwy broses ymgysylltu effeithiol rhwng Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid a gwneud hyn cyn gynted ag y bo modd.
  17. Sicrhau bod dulliau ymgysylltu yn mynd y tu hwnt i gyswllt uniongyrchol â chynrychiolwyr rhanbarthol enwebedig ac yn cynnwys cynrychiolwyr yr holl randdeiliaid allweddol, e.e. ADSS Cymru, Conffederasiwn GIG Cymru, CGGC, CLlLC, Fforwm Gofal Cymru.
  18. Ailystyried sut y mae data a gwybodaeth yn cael eu casglu, eu monitro a'u defnyddio. Darparu mwy o eglurder ynghylch sut y mae gwahanol randdeiliaid yn defnyddio data gyda’r nod o sicrhau bod y fethodoleg casglu data a monitro prosiectau o fudd iddynt hwy ac i Lywodraeth Cymru.
  19. Annog mabwysiadu dulliau safonol o fesur y pellter a deithiwyd gan ddefnyddwyr gwasanaethau, gyda modelau gofal tebyg, ac yn ddelfrydol ymchwilio i'r opsiwn o fabwysiadu offer cyffredin.
  20. Symud y pwyslais o ddulliau casglu a monitro data sy'n canolbwyntio ar gydymffurfiaeth i ysgogi gwelliannau ansawdd lleol, rhanbarthol a rhyngranbarthol.
  21. Parhau i ddefnyddio methodoleg atebolrwydd sy’n seiliedig ar ganlyniadau ond egluro’r disgwyliadau o ran sut y caiff ei chymhwyso.
  22. Sicrhau bod y gronfa newydd yn seiliedig ar gyfres o ganlyniadau cenedlaethol wedi’u diffinio’n dda, sy’n cael eu grwpio i adlewyrchu’r canlyniadau disgwyliedig ar gyfer modelau gofal neu grwpiau blaenoriaeth penodol.
  23. Sicrhau bod y ffocws yn y dyfodol ar y data a’r metrigau pwysicaf, a chynnwys partneriaid allweddol fel Comisiwn Bevan, Gofal Cymdeithasol Cymru, a Gwelliant Cymru yn y broses honno.
  24. Symud y pwyslais o ddull yn seiliedig ar brosiectau i ddull rhaglen y gellid alinio prosiectau â hi. Cefnogi hyn drwy wella'r gyfatebiaeth rhwng systemau data lluosog, gan gynnwys ystyried ei gwneud yn orfodol i ddefnyddio system Gwybodaeth Gofal Cymunedol Cymru.
  25. Cynyddu cyflymder prosiectau llwyddiannus sy’n cael eu rhoi ar waith ledled Cymru drwy greu cymunedau ymarfer a arweinir gan gymheiriaid er mwyn i arweinwyr prosiectau sy’n ymwneud â modelau gofal tebyg rannu arferion da a phrofiadau, ac i fireinio modelau cyflawni.
  26. Ailystyried sut y caiff prosiectau eu treialu gyda'r nod o gael nifer o ranbarthau i dreialu mentrau ar y cyd er mwyn dysgu ohonynt a’u cyflwyno yn hytrach na bod pob un o’r saith rhanbarth yn cychwyn yr un prosiectau.
  27. Annog cydberchnogaeth o’r gronfa newydd drwy bwysleisio ei bod yn gronfa Cymru gyfan sydd â’r nod o ddangos manteision y tu hwnt i ffiniau lleol a rhanbarthol.
  28. Ystyried defnyddio ysgogiadau a chymhellion, megis mynediad at ragor o gyllid, i annog rhaeadru'r hyn a ddysgir.

Gwybodaeth bellach

Awduron yr Adroddiad: Nia Bryer a Heledd Bebb, Ymchwil OB3, Yr Athro Mark Llewellyn a'r Athro Tony Garthwaite, Athrofa Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru, Prifysgol De Cymru

Mae’r safbwyntiau a fynegwyd yn yr adroddiad hwn yn perthyn i’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd Llywodraeth Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
Victoria Seddon
E-bost: Ymchwil.IechydAGwasanaethauCymdeithasol@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Rhif ymchwil cymdeithasol: 26/2022
ISBN digidol: 978-1-80391-893-8

Image
GSR logo