Mae'r ymchwil hwn yn gwerthuso prosesau ac effaith y cynllun Grant Tai Gwag, gan nodi cyfleoedd i ddod â mwy o gartrefi yn ôl i ddefnydd.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Nod hon gwerthusiad y broses oedd nodi'r hwyluswyr a'r rhwystrau allweddol sy'n dylanwadu ar effeithiolrwydd y cynllun drwy
- deall rhwystrau i ymgeisio (h.y. y meini prawf cymhwysedd)
- deall pa ffactorau neu newidiadau a allai gynyddu nifer y ceisiadau cymwys a chynyddu cyfradd y ceisiadau llwyddiannus yn y dyfodol
- archwilio faint o geisiadau sydd wedi trosi’n waith wedi’i gwblhau; a deall y rhesymau dros dynnu ceisiadau’n ôl
Camau allweddol yr ymchwil oedd:
- dadansoddiad data eilaidd systematig o'r data ceisiadau a chwblhau gwaith a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru a setiau data eraill sydd ar gael
- arolwg o ymgeiswyr i'r cynllun. Derbyniwyd 139 o ymatebion, cyfradd ymateb o 12%
- dau grŵp ffocws rhithwir gyda swyddogion awdurdod lleol, a fynychwyd gan saith ac wyth swyddog yn y drefn honno
- un grŵp ffocws rhithwir gyda thri swyddog gweinyddu Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
- galwad ar-lein am dystiolaeth. Derbyniwyd 19 ymateb (chwech wedi'u cwblhau a 13 ymateb rhannol)
Prif ganfyddiadau
- Ym mis Ebrill 2025, roedd 582 o gartrefi wedi'u cymeradwyo. 2.6% - neu tua 1 o bob 40 - o'r holl gartrefi gwag hirdymor cyfredol yng Nghymru. Roedd 241 o'r 582 o gartrefi a gymeradwywyd wedi cyrraedd y pwynt o gwblhau, gan dderbyn grantiau gwerth £5.4 miliwn ac yn cynrychioli tua 1.1% o'r holl gartrefi gwag hirdymor yng Nghymru.
- Yn yr ymchwil ansoddol, cytunodd pob swyddog awdurdod lleol a swyddog gweinyddol fod y cynllun yn cyflawni ei amcan o ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd.
- Roedd swyddogion yr awdurdodau lleol yn cydnabod gwerth y cynllun, a'r rôl a chwaraewyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wrth ei weinyddu. Y farn gyffredinol oedd y dylid cadw'r cynllun.
- Dangosodd yr ymgeiswyr eu hunain gefnogaeth gyffredinol i'r cynllun, gyda'r rhan fwyaf yn gwerthfawrogi ei rôl yn fawr wrth eu helpu i ddod â chartref yn ôl i ddefnydd.
Ymhlith y problemau ynghlwm â’r cynllun a nodwyd gan rai o’r ymatebwyr roedd:
- lefel y cyllid sydd ar gael ar gyfer Gwaith
- y cyfraniadau lleiaf sy'n angenrheidiol i gael mynediad at y grant
- yr amser sydd ei angen ar weinyddwyr i brosesu'r Ceisiadau
- premiymau treth gyngor a wynebwyd gan ymgeiswyr sy'n gwneud cais am y grant
- gallu awdurdodau lleol i brosesu ceisiadau; hyrwyddo'r cynllun
Mae'r adroddiad hefyd yn cynnwys argymhellion ar gyfer dyfodol y cynllun.
Adroddiadau
Adroddiad llawn , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB
PDF
3 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Crynodeb
Crynodeb , HTML
HTML
