Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r ymchwil hon yn gwerthuso sut y cafodd y Rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur ei chynnal yn 2021-22 ac effaith y prosiectau a gynhaliwyd yn 2020-21 a 2021-22, lle medrir.

Gwelwyd bod tair maes gwahanol y rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn ategu’i gilydd, a hynny oherwydd bod maint/graddfa a ffocws pob maes yn wahanol. Nodwyd bod tensiynau yn y rhaglen Cymru Gyfan wrth ddarparu lleoedd ar gyfer natur mewn ardaloedd trefol, ardaloedd o gwmpas trefi, neu ardaloedd dan anfantais. Nodwyd ei bod yn anos cwrdd â meini prawf y rhaglen mewn rhannau mwy gwledig o Gymru.

Ddiwedd mis Mawrth 2022, mynegwyd pryderon ynglŷn â chyflawni yn unol â’r terfynau amser tynn a oedd yn gysylltiedig â’r cyllid.

Yn gyffredinol, nodwyd bod codi ymwybyddiaeth am waith y rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn ffordd o sicrhau bod pobl yn cefnogi’r rhaglen a bod rhagor o waith yn cael ei wneud drwyddi. Roedd hynny’n cynnwys rhoi gwybod i  gynghorwyr ac  awdurdodau lleol am y rhaglen. Roedd hefyd yn ymddangos nad oedd grwpiau bob amser yn gwybod bod cyfle i symud ymlaen i wneud cais am gyllid o dan feysydd eraill y rhaglen.

Gwelwyd bod cynnydd da wedi’i wneud ym mhob maes o ran dechrau cysylltu a thrafod â grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol. Roedd arweinwyr prosiectau’n teimlo'n hyderus am y buddion yr oedd eu prosiectau’n eu sicrhau ar gyfer cymunedau. Mae'r adroddiad hefyd yn argymell ffyrdd o fynd ati yn y dyfodol i gynnwys cymunedau mewn ardaloedd lle mae’r rhaglen  Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn cael ei darparu.

Adroddiadau

Gwerthusiad Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, 2021-22 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Gwerthusiad Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, 2021-22: crynodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 365 KB

PDF
365 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Aimee Marks

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.