Neidio i'r prif gynnwy

Cyfres o argymhellion i ni ddefnyddio er mwyn mynd i’r afael â chynrychiolaeth anghyfartal ymhlith cynghorwyr etholedig mewn llywodraeth leol.

Canfyddiadau allweddol

  • Canfu’r gwerthusiad fod y rhaglen Amrywiaeth mewn Democratiaeth yn llwyddiannus o ran mynd i’r afael â rhai rhwystrau mae pobl o gefndiroedd amrywiol yn eu hwynebu.
  • Helpodd y rhaglen i fentoreion gynyddu gwybodaeth ac ymwybyddiaeth o lywodraeth leol.
  • Ar ddiwedd y rhaglen, roedd 20 allan o 51 o fentoreion yn agored i sefyll mewn etholiad llywodraeth leol.
  • Datgelodd y gwerthusiad heriau cyffredin a wynebir gan gynghorwyr gan gynnwys tâl isel, yr ymrwymiad amser sy’n ofynnol, gofal plant a chanfyddiadau cyhoeddus negyddol.

Prif argymhellion

Tynnodd y gwerthusiad nifer o argymhellion y dylai cynlluniau yn y dyfodol ystyried:

  • cyfnod datblygu wedi’i wreiddio i ddiffinio cyfranogwyr targed a chynllunio gweithgareddau ac adnoddau allweddol
  • ymgorffori prosesau monitro a gwerthuso
  • ymdrin â chanfyddiadau’r cyhoedd o lywodraeth leol drwy ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd a chyfathrebu i herio canfyddiadau cyhoeddus negyddol o’r cynghorwyr
  • gweithio gyda chyflogwyr er mwyn ymdrin â chanfyddiadau ynghylch y sgiliau a enillir yn sgil rôl cynghorydd
  • Cynllun Drws i Ddemocratiaeth neu gynllun tebyg i gefnogi ymgeiswyr a chynghorwyr anabl
  • dylai cyd-drafod â phleidiau gwleidyddol er mwyn sicrhau cefnogaeth ar draws y pleidiau gwleidyddol a rhoi sylw i ragfarn ddiarwybod – yn bennaf ar baneli dewis.

Cefndir

Cynhaliwyd y rhaglen Amrywiaeth mewn Democratiaeth rhwng mis Gorffennaf 2014 a mis Mawrth 2017. Nod y rhaglen oedd cynyddu’r nifer o ymgeiswyr llywodraeth leol o gefndiroedd amrywiol, trwy nifer o feysydd gweithredu:

  • cynllun mentora
  • ymgyrch gyfathrebu
  • cynllun annog cyflogwyr
  • Drws i Ddemocratiaeth
  • cyd-drafod â phleidiau gwleidyddol.

Adroddiadau

Gwerthusiad o amrywiaeth mewn democratiaeth , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Gwerthusiad o amrywiaeth mewn democratiaeth: crynodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 601 KB

PDF
601 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Gwerthusiad o amrywiaeth mewn democratiaeth: crynodeb hawdd ei ddarllen , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 128 KB

PDF
128 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Gwerthusiad o amrywiaeth mewn democratiaeth: ffeithlun , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 130 KB

PDF
130 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Merisha Hunt

Rhif ffôn: 0300 062 8345

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.