Gwerthusiad o Cymru’n Gweithio mewn carchardai: crynodeb
Ymchwil yn archwilio darpariaeth cymorth gyrfa a chyflogadwyedd yng ngharchardai fesul gwasanaeth Cymru’n Gweithio.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cefndir
Fel y manylir yng Nghynllun Lleihau Aildroseddu Cymru Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EM (HMPPS) Cymru 2022-2025, mae sicrhau cyflogaeth ar ôl gadael y carchar yn lleihau'r tebygolrwydd o aildroseddu; gall buddsoddi mewn addysg a hyfforddiant mewn carchardai gynyddu cyfleoedd unigolyn o sicrhau cyflogaeth gynaliadwy ar ôl cael ei ryddhau.
Mae Cynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer Cyflogadwyedd a Sgiliau yn nodi gweledigaeth ar gyfer cyflogaeth ac yn ymrwymo i gefnogi cyfleoedd dysgu carcharorion a gwneud y Warant i Bobl Ifanc yn hygyrch i'r rhai yn y ddalfa.
Er nad yw polisi cyfiawnder wedi'i ddatganoli, mae Llywodraeth Cymru yn ariannu'r ddarpariaeth dysgu a sgiliau mewn carchardai drwy Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda HMPPS. Bu Llywodraeth Cymru’n gweithio mewn partneriaeth â HMPPS Cymru, carcharorion a’r rhai sydd wedi gadael y carchar, darparwyr addysg a sefydliadau'r trydydd sector i gyd-ddylunio 'Gwell Dysgu, Gwell Cyfleoedd: darparu cyfleoedd dysgu a sgiliau mewn carchardai yng Nghymru’ i helpu carcharorion i fod yn barod am swyddi.
Ers 2019, mae Cymru’n Gweithio, y gwasanaeth gyrfaoedd a chyflogadwyedd cenedlaethol yng Nghymru, wedi gweithredu mewn carchardai. Mae cynghorwyr Cymru’n Gweithio yn ymgysylltu â charcharorion 12 wythnos cyn iddynt gael eu rhyddhau, gan weithredu o Hybiau Cyflogadwyedd sy'n gweithredu fel "siop un stop" ar gyfer carcharorion, lle mae gwahanol asiantaethau wedi'u cydleoli ac maent yn caniatáu i bartneriaid cyflogaeth (e.e. DWP) gydweithio wrth gefnogi carcharorion ar eu taith gyflogaeth. Mae Cymru’n Gweithio yn gweithio mewn partneriaeth â'r gwasanaethau prawf ac yn cysoni ei waith â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (2015), yn enwedig y nodau 'Cymru Fwy Cyfartal' a 'Chymru Ffyniannus'.
Yn 2023, roedd 5,034 o garcharorion sy'n hanu o Gymru, sef cynnydd o 8% ers 2022. Roedd y rhan fwyaf o Gymry yng ngharchardai Cymru yn cael eu cadw yn CEF Parc (38%). Nid oes carchardai i fenywod yng Nghymru, felly mae carcharorion benywaidd o Gymru yn cael eu carcharu yn Lloegr, yn bennaf yn CEF Eastwood Park a CEF Styal.
Mae Cymru’n Gweithio yn darparu gwasanaethau ym mhob carchar yng Nghymru ac mewn carchardai yn Lloegr sy'n gartref i fenywod o Gymru. Mae’r trefniadau dyrannu adnoddau yn ymatebol i'r galw ac yn amrywio yn ôl carchar. Mae'r dangosyddion perfformiad allweddol yn cynnwys nifer y cwsmeriaid mewn carchardai sy'n cael cynnig gwasanaeth un-i-un (wedi'i gyflawni:1,363; targed: 1,000) a chyfraddau boddhad (wedi’i gyflawni: 368 o arolygon boddhad gyda boddhad o 100%, targed: 300) [troednodyn 1].
Yr ymchwil hon
Nod yr ymchwil hon oedd deall yn well pa mor effeithiol yw gwasanaeth Cymru’n Gweithio mewn carchardai, trwy bum prif gwestiwn ymchwil:
- I ba raddau y mae'r gwasanaeth yn cael ei ddarparu fel yr amlinellir yn amcanion Cymru’n Gweithio?
- Pa heriau y mae’r gwasanaeth yn eu hwynebu, os o gwbl?
- A yw'r heriau hyn yn wahanol yn ôl carchar?
- Sut mae atgyfeiriadau a chanlyniadau yn wahanol rhwng carchardai? Beth yw'r tueddiadau?
- Pa gyswllt sydd gan y gwasanaeth gyda sefydliadau trydydd parti, os o gwbl?
Methodoleg
Mae Pennod 2 yr adroddiad yn disgrifio'r dull dulliau cymysg, a oedd yn cynnwys:
- adolygiad tystiolaeth cyflym i ddeall effaith cymorth cyflogadwyedd mewn carchardai. adolygwyd 20 o gyhoeddiadau yn seiliedig ar berthnasedd a chadernid
- dadansoddiad meintiol o wybodaeth fonitro Gyrfa Cymru; diffiniwyd cyfnodau o gymorth fel cyfnodau ymgysylltu, yn y carchar neu yn y gymuned, rhwng Ebrill 2021 a Mawrth 2024; mae rhyngweithiadau yn cyfeirio at gyswllt unigol o fewn cyfnod, rhwng Ebrill 2022 a Mawrth 2024
- pum cyfweliad lled-strwythuredig ansoddol gyda chynghorwyr Cymru’n Gweithio (allan o gyfanswm o saith cynghorydd sy'n gweithio mewn carchardai) tua dechrau 2024; dadansoddwyd y cyfweliadau gan ddefnyddio Dadansoddiad Thematig Atgyrchol
Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at sawl cyfyngiad sy'n gysylltiedig â'r astudiaeth hon, yn arbennig:
- maint bach y sampl o gyfweliadau, sy'n golygu nad yw'r canfyddiadau yn gyffredinoladwy
- ni chynhaliwyd unrhyw ymchwil sylfaenol gyda charcharorion, gan arwain at fwlch posibl yn y dystiolaeth
- cyfyngiadau wrth ddadansoddi data monitro oherwydd polisïau cadw data a data coll
Crynodeb o'r adolygiad llenyddiaeth
Mae'r adolygiad llenyddiaeth i'w weld ym mhennod 3 yr adroddiad. Roedd yr adolygiad yn canolbwyntio ar Gymru a Lloegr, gyda rhai mewnwelediadau rhyngwladol. Mae'r adolygiad yn tynnu sylw at bwysigrwydd cymorth cyflogadwyedd i gynorthwyo ailintegreiddio a lleihau aildroseddu, ac mae’n nodi heriau sylweddol ar ôl i garcharorion gael eu rhyddhau, yn enwedig oherwydd amharodrwydd cyflogwyr.
Yng Nghymru a Lloegr, mae aildroseddu yn costio £18 biliwn bob blwyddyn. Dim ond 17% o gyn-garcharorion sydd wedi’u cyflogi flwyddyn ar ôl cael eu rhyddhau [troednodyn 2]. Canfu ymchwil gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder fod y rhai a oedd wedi cymryd rhan mewn addysg yn y carchar 7.5 pwynt canran yn llai tebygol o aildroseddu o fewn blwyddyn ar ôl cael eu rhyddhau o gymharu â'r rhai nad oeddent wedi gwneud hynny. Er gwaethaf hyn, mae ansawdd a chyrhaeddiad addysg mewn carchardai yn y DU wedi dirywio; dim ond 9 allan o 32 sefydliad a gafodd eu graddio'n dda neu'n rhagorol gan Ofsted yn 2020 [troednodyn 3]. Yng Nghymru, dangosodd arolygiadau diweddar gan Estyn ansawdd addysgu anghyson [troednodyn 4].
Ar y cyfan, canfuwyd bod y dystiolaeth i ategu gwerth arweiniad addysg a chyflogadwyedd yn y DU yn gyfyngedig iawn. Roedd y rhan fwyaf o astudiaethau yn y DU yn seiliedig ar garcharorion gwrywaidd, gyda thystiolaeth gyfyngedig ar gymorth cyflogadwyedd i fenywod yn y carchar. Mae tystiolaeth ryngwladol yn cynnig mewnwelediadau defnyddiol, yn enwedig wrth leihau aildroseddu a gwella canlyniadau cyflogaeth, ond mae rhwystrau systemig, yn enwedig agweddau cyflogwyr, yn parhau i gyfyngu ar effeithiolrwydd yr ymyriadau hyn.
Crynodeb o'r canfyddiadau
Darparu gwasanaethau
Rhwng Ebrill 2021 a Mawrth 2024, roedd 2,747 o gyfnodau o gymorth, gyda chynnydd sylweddol o un flwyddyn i’r llall [troednodyn 5].
Cafwyd 4,500 o ryngweithiadau un-i-un ar gyfer cyfnodau o gymorth rhwng Ebrill 2022 a Mawrth 2024, [troednodyn 6] gyda chynnydd o 76% mewn rhyngweithiadau rhwng 2022 i 23 a 2023 i 24. Rhyngweithiadau wyneb yn wyneb oedd y sianel fwyaf poblogaidd, gan ffurfio 88% o'r rhyngweithiadau yn 2022 i 23 ac 86% yn 2023 i 24.
Cynyddodd rhyngweithiadau wyneb yn wyneb un-i-un mewn carchardai o 1,437 yn 2022 i 23 i 2,456 yn 2023 i 24. Yr amser canolrifol a dreuliwyd fesul rhyngweithiad oedd 45 munud yn y ddwy flynedd. Roedd gan CEF Caerdydd a CEF a Sefydliad Troseddwyr Ifanc Parc hyfforddwyr cyflogadwyedd a oedd yn darparu cymorth, yn ogystal â chynghorydd gyrfaoedd.
Proffil carcharorion
Cynhaliwyd tua thri chwarter y cyfnodau o gymorth gyda charcharorion rhwng 25 a 34 oed (41%) a 35 i 49 (35%), sy'n adlewyrchu'r carfanau sy'n cyrchu gwasanaeth ehangach Cymru’n Gweithio [troednodyn 7].
Cynhaliwyd 96% o’r cyfnodau o gymorth gyda dynion. Roedd y cyfnodau o gymorth gyda menywod (3%) wedi’u tangynrychioli ychydig o gymharu â phoblogaeth carchardai (5%) [troednodyn 8].
Cynhaliwyd 89% o’r cyfnodau o gymorth gyda charcharorion Gwyn, 4% gyda charcharorion Du/Prydeinig, 3% gyda charcharorion Asiaidd/Prydeinig, 3% gyda charcharorion â chefndir ethnig cymysg ac 1% a oedd wedi'i gofnodi fel 'grŵp ethnig arall'. Mae'r proffil hwn yn adlewyrchu'n fras wasanaeth ehangach Cymru’n Gweithio [troednodyn 9]. Saesneg oedd yr iaith lafar ac ysgrifenedig a ffafriwyd ar gyfer 96% o’r cyfnodau o gymorth, a Chymraeg oedd yr iaith a ffafriwyd ar gyfer 1% o’r cyfnodau o gymorth.
Cynhaliwyd 12% o’r cyfnodau o gymorth gyda charcharorion a adroddodd fod ganddynt anabledd. Mae hyn yn gyfran uwch o gymharu â mynediad i wasanaeth ehangach Cymru’n Gweithio (8%) [troednodyn 10]. Cynyddodd cyfnodau o gymorth yn ymwneud â charcharor ag anabledd yn raddol flwyddyn ar ôl blwyddyn rhwng 2021 i 22 a 2023 i 24. Gallai hyn fod oherwydd newidiadau ym mhoblogaeth y carcharorion a/neu welliannau mewn trefniadau adrodd.
Cynhaliwyd mwy na hanner y cyfnodau o gymorth gyda charcharor â chymhwyster uchaf o Lefel 28 neu’n is [troednodyn 11], o gymharu ag 28% a adroddwyd ar gyfer gwasanaeth ehangach Cymru’n Gweithio [troednodyn 12]. Mae'r ffigur hwn yn cynyddu o flwyddyn ar ôl blwyddyn (45% yn 2021 i 22, 57% yn 2022 i 23, 59% yn 2023 i 24).
Bu cynnydd mewn data coll sy'n ymwneud â'r lefel gymwysterau uchaf, sy'n bryder gan fod yr wybodaeth hon yn hanfodol i ddeall sut i deilwra cymorth.
Atgyfeiriadau
Prif ffynhonnell yr atgyfeiriadau i Cymru’n Gweithio am gyfnodau o gymorth oedd carchardai (98%). Gostyngodd cyfran y cyfnodau o gymorth a atgyfeiriwyd gan CEF Eastwood Park flwyddyn ar ôl blwyddyn. I’r gwrthwyneb, cynyddodd cyfran y cyfnodau o gymorth a atgyfeiriwyd gan CEF Eastwood Park flwyddyn ar ôl blwyddyn, a dyrannwyd cynghorydd i CEF Styal ym mis Mawrth 2023.
Gwnaeth gwasanaeth Cymru’n Gweithio mewn carchardai gyfanswm o 3,581 o atgyfeiriadau i lwybr rhwng Ebrill 2021 a Mawrth 2024. Mae'r ffigur hwn yn cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn (394% yn 2021 i 22; 1,102 yn 2022 i 23; 2,085 yn 2023 i 24). Roedd bron tri chwarter y cyfnodau o gymorth (72%) yn cynnwys atgyfeiriad i brosiect yn y carchar.
Gwelwyd cynnydd hefyd o’r naill flwyddyn i’r llall ar gyfer atgyfeiriadau a wnaed yn ystod cyfnodau o gymorth i ReAct [troednodyn 13], asiantaeth gymorth a chyflogaeth. Mae ychwanegu carfan troseddwyr at raglen ReAct yn 2022, pan ddaeth yn ReAct+, yn debygol o fod yn ffactor allweddol ar gyfer y cynnydd blynyddol [troednodyn 14]. Erbyn mis Ebrill 2024, roedd ReAct+ wedi dyfarnu 120 o grantiau hyfforddiant galwedigaethol i droseddwyr/cyn-droseddwyr a ddaeth i gyfanswm o dros £110k.
Roedd gwahaniaethau mewn cyfraddau atgyfeirio a llwybrau atgyfeirio rhwng carchardai.
Canlyniadau
Cynghorodd Gyrfa Cymru nad ydynt yn cynnal gweithgareddau dilynol ar gyfer cwsmeriaid Cymru’n Gweithio [troednodyn 15]. Roedd yr ymchwil ond yn gallu dadansoddi data canlyniadau ar gyfer carcharorion sydd wedi ail-ymgysylltu â gwasanaeth Cymru’n Gweithio neu lle mae gwybodaeth yn dod i law gan sefydliad partner (581 o 1,940 (30%) o gyfnodau o gymorth). Yn unol â hynny, cydnabyddir bod yr is-sampl hon wedi'i gyfyngu i unigolion sydd wedi ail-ymgysylltu â'r gwasanaeth neu sefydliadau partner, ac felly, gall gynrychioli sampl rhagfarnllyd.
Roedd gan ddwy ran o bump (40%) o gyfnodau o gymorth statws di-waith chwe mis ar ôl gadael. Dywedodd 14% eu bod yn gyflogedig neu'n hunangyflogedig chwe mis ar ôl gadael cyfnod o gymorth.
O ystyried y pryderon ynghylch sampl a allai fod yn rhagfarnllyd o bosibl, gwnaethom geisio cymharu data canlyniadau â data’r Weinyddiaeth Gyfiawnder ar gyfer rhanbarth prawf Cymru. Nid yw cyfran yr unigolion yn nata'r Weinyddiaeth Gyfiawnder a gyrchodd wasanaeth Cymru’n Gweithio yn y carchar yn hysbys, er bod yr ymchwil hon yn awgrymu bod cynghorwyr Cymru’n Gweithio’n ceisio cysylltu â phob carcharor o fewn 12 wythnos ar ôl iddynt gael eu rhyddhau. Mae data canlyniadau cyflogaeth troseddwyr, a gyhoeddwyd gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, yn dangos bod 28% o droseddwyr yn rhanbarth brawf Cymru rhwng Ebrill 2021 a Mawrth 2024 yn gyflogedig neu'n hunangyflogedig chwe mis ar ôl gadael y carchar. Fodd bynnag, mae'r cyfrifiad hwn yn eithrio'r rhai nad ydynt ar gael ar gyfer gwaith a'r rhai sydd â statws anhysbys. Ar ôl tynnu'r rhai nad ydynt ar gael ar gyfer gwaith o’r data, mae data canlyniadau Cymru’n Gweithio yn dangos bod ffigur cymharol o 25% yn gyflogedig neu'n hunangyflogedig ar chwe mis ar ôl cyfnod o gymorth. Rhaid ychwanegu cafeat at hyn gan gydnabod nad yw 'chwe mis ar ôl cyfnod o gymorth' yn uniongyrchol gymaradwy i fesurau'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, sef 'chwe mis ar ôl cael ei ryddhau'.
Yn ystod y cyfnod adrodd 2021 i 2024, gostyngodd cyfran y cyfnodau o gymorth â statws cyflogedig chwe mis ar ôl gadael flwyddyn ar ôl blwyddyn. Dyma'r duedd i'r gwrthwyneb i'r hyn a geir yn nata canlyniadau cyflogaeth y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar gyfer yr un cyfnod cyfeirio yn rhanbarth brawf Cymru; fodd bynnag, nid yw'r ddwy set ddata yn gymharol yn uniongyrchol fel y trafodwyd yn yr adroddiad llawn.
O ystyried argaeledd cyfyngedig data canlyniadau, nid yw'n bosibl gwneud cymariaethau ystyrlon ar draws carchardai neu edrych ar ddadansoddiadau yn ôl nodweddion.
Cymorth gwasanaeth dilynol
Cynyddodd cyfnodau o gymorth dilynol Cymru’n Gweithio gyda chyn-ddefnyddwyr yn y gwasanaeth carchardai yn y gymuned o 106 o gyfnodau yn 2021 i 22 i 245 o gyfnodau yn 2023 i 24.
Hunan-atgyfeiriadau (47%) oedd y ffynhonnell fwyaf cyffredin o atgyfeiriadau ar gyfer cyfnodau dilynol o gymorth Cymru’n Gweithio.
Menywod a'r rhai rhwng 16 a 18 oed oedd â'r gyfradd isaf o gymorth dilynol yn dilyn cymorth o gymorth yn y carchar (9%). Roedd y rhai a ddywedodd fod ganddynt anabledd 12 pwynt canran yn llai tebygol o gyrchu cymorth pellach gan y gwasanaeth ar ôl i'w cymorth yn y carchar ddod i ben [troednodyn 16].
Crynodeb o’r adborth gan gynghorwyr Cymru’n Gweithio
Mae hyn yn cynnwys adborth gan gynghorwyr Cymru’n Gweithio sy'n gweithio mewn carchardai ledled Cymru a dau garchar i fenywod yn Lloegr. Gofynnwyd i'r cyfranogwyr ddisgrifio eu rôl fel cynghorwyr Cymru’n Gweithio. Mae eu rôl yn cynnwys:
- codi ymwybyddiaeth o'r gwasanaeth
- gwybodaeth, cyngor ac arweiniad
- agor llwybrau i garcharorion ar gyfer yr adeg pan gânt eu rhyddhau
- meithrin perthynas â'r carcharorion
- cymorth ‘drwy’r giât’
- nodi a deall anghenion a rhwystrau carcharorion
- a chyfeirio carcharorion at gymorth pellach yn y gymuned
Disgrifiwyd dulliau cyflwyno amrywiol, gan gynnwys sesiynau grŵp ar bynciau fel ysgrifennu CV, ffeiriau cyflogaeth, ymgysylltu â chyflogwyr, a sesiynau unigol i ddarparu amgylchedd mwy diogel a oedd yn cydweddu ag anghenion rhai carcharorion. Dywedodd cyfwelai ei fod bellach yn creu sesiynau sydd wedi’u teilwra’n well, gan gynnwys ar gyfer pobl â chyflyrau niwroamrywiol. Cyflwynwyd sesiynau cynefino gyda phawb sy'n mynd i mewn i garchardai, i godi ymwybyddiaeth o wasanaethau Cymru’n Gweithio.
Nododd cynghorwyr fanteision a heriau i leoliad y carchar ar gyfer darparu gwasanaeth Cymru’n Gweithio. Ymhlith y manteision roedd ymddiriedaeth a pherthynas; fodd bynnag, roedd yr heriau yn cynnwys diffyg mannau preifat priodol, gan arwain at ddarparu’r gwasanaeth ar adenydd y carchar. Fodd bynnag, nododd cynghorwyr fod hyn yn hyrwyddo gwelededd y gwasanaeth.
Dechreuodd Cymru’n Gweithio ei waith mewn carchardai yn 2019, a dim ond am newidiadau cadarnhaol ers hynny y soniodd cynghorwyr, gyda gwelliannau i wasanaethau. Nododd y rhan fwyaf o’r cyfweleion y defnydd o ReAct. Adroddodd un cyfwelai fod mynediad at gyllid ReAct wedi ehangu'r cyfleoedd hyfforddi sydd ar gael i garcharorion, a allai gyfrannu at leihau’r tebygolrwydd o aildroseddu ar ôl iddynt gael eu rhyddhau.
Roedd cynghorwyr Cymru’n Gweithio o’r farn bod eu gwasanaeth yn werthfawr o gymharu â gwasanaethau cyflogadwyedd eraill yn y carchar oherwydd ei hyblygrwydd, arweiniad manwl a rhwydweithio.
I fenywod sy'n hanu o Gymru mewn carchardai Lloegr, awgrymodd cynghorwyr fod gwasanaeth Cymru’n Gweithio yn hynod werthfawr, gyda'r opsiwn o sgwrsio yn eu hiaith frodorol.
Rhwystrau
Gwasanaethau TG
Nododd cynghorwyr fynediad TG fel rhwystr mawr mewn carchardai, gyda chynghorwyr yn cael eu cyfyngu i ysgrifennu nodiadau ar bapur ar yr adenydd a threfniadau swyddfa anymarferol yn yr adeiladau hanesyddol.
Nodweddion carcharorion
Dylanwadir ar y cyfleoedd o ran ymgysylltu a gyrfa sydd ar gael i garcharorion gan nodweddion ac amgylchiadau unigol, megis oedran a’r math o euogfarn.
Nododd cynghorwyr fod carcharorion ifanc yn grŵp anodd i ymgysylltu â nhw, gan nodi bod carcharorion ifanc yn aml yn profi pwysau cymdeithasol, a allai gyfrannu at lefelau ymgysylltu is â gwasanaeth Cymru’n Gweithio. Fodd bynnag, roedd cynghorwyr yn teimlo y dylai carcharorion iau gael eu targedu'n arbennig ar gyfer gwasanaethau Cymru’n Gweithio oherwydd eu potensial ymgysylltu â'r farchnad lafur.
Adroddwyd hefyd fod troseddwyr rhyw yn arbennig o anodd i ymgysylltu â nhw oherwydd anghysondeb rhwng eu dyheadau o ran cyflogaeth a chyfyngiadau a chyfleoedd cyflogaeth yn y dyfodol.
Mae cynghorwyr Cymru’n Gweithio yn cynnig rhai gwasanaethau i garcharorion sy'n hanu o Loegr mewn carchardai yng Nghymru, er bod cynghorwyr yn teimlo bod camsyniadau o'r cynnig cymorth ymhlith carcharorion sy'n hanu o Loegr mewn carchardai yng Nghymru.
Mae carcharorion yn cymryd rhan mewn 'unrhyw beth a phopeth'
Adroddodd yr ymgynghorwyr fod llawer o garcharorion yn ceisio cofrestru ar gyrsiau sy'n gysylltiedig ag opsiynau gyrfa sy'n ennill cyflogau uwch, gan anwybyddu opsiynau a allai fod yn fwy addas iddynt. Mae carcharorion yn cael eu tywys i gyrchu cyfleoedd dysgu a chyrsiau sy'n addas i'w gofynion a'u hanghenion, gan osgoi cymryd rhan mewn cynifer o raglenni hyfforddi â phosibl i geisio eu gwella cyfleoedd.
Staffio
Adroddodd cynghorwyr fod ganddynt lwythi achosion mawr, gydag un cynghorydd Cymru’n Gweithio fesul carchar. Mae mynediad at raglenni eraill, fel ReAct a Chyfrifon Dysgu Personol (PLA), wedi cynyddu'r galw ymysg carcharorion sydd eisiau cael mynediad at Cymru’n Gweithio. Trafododd un cynghorydd y ffaith ei fod yn awyddus i ddechrau ymgysylltu’n gynharach i wella canlyniadau.
Lleoliad y carchar
Adroddwyd bod teilwra cyngor o amgylch cyfyngiadau prawf yn her, tra bod y posibilrwydd y caiff carcharorion yn cael eu rhyddhau'n gynnar yn effeithio ar y dull o ddarparu cymorth. Mae cyfyngiadau diogelwch mewn carchardai caeedig, ynghyd â materion adnoddau staff carchardai, yn golygu efallai na fydd carcharorion yn ei chael yn hawdd mynd i hybiau cyflogaeth lle mae gwasanaethau Cymru’n Gweithio yn cael eu darparu. Adroddodd cynghorwyr fod cerdded o amgylch yr adenydd yn ddull ymarferol i ymgysylltu â charcharorion a darparu cyngor, gwybodaeth ac arweiniad; fodd bynnag, ceir problemau yn aml wrth ddod o hyd i le tawel neu fynediad i liniadur ar yr adain, ynghyd ag adegau pan oedd carcharorion ar adain yn gorfod bod yn gaeth i’w celloedd.
Atgyfeiriadau
Roedd atgyfeiriadau i Cymru’n Gweithio yn wahanol ar draws carchardai, yn amrywio o gyn gynted â phosibl i ymgysylltu 12 wythnos cyn i garcharor gael ei ryddhau. Trafododd rhai cynghorwyr fanteision ymgysylltu cynnar, gan gynnwys siawns uwch o gefnogi carcharorion i gyflawni'r canlyniadau gorau. Roedd atgyfeiriadau hefyd yn cael eu sbarduno o ganlyniad i argymhellion personol rhwng carcharorion. Canfuwyd bod y math o wasanaeth a ddarperir yn dibynnu i raddau helaeth ar pryd y disgwylir i'r carcharor gael ei ryddhau.
Yn y carchar
Roedd cynghorwyr yn teimlo ei bod yn bwysig bod carcharorion yn cael mynediad i gyfleoedd a ddarperir gan sefydliadau trydydd parti tra byddant yn y carchar. Gall y rhain helpu carcharorion i ddatblygu meddylfryd blaengar, gwella hunan-barch a symud ymlaen i gyfweliadau a chyflogaeth.
Gwasanaeth arall sy'n rhedeg mewn carchardai yw Cyfrifon Dysgu Personol (PLA) [troednodyn 17]. Teimlai un cynghorydd fod Cymru’n Gweithio yn hwyluso gweithredu PLA mewn carchardai ac roedd yn ystyried bod PLA yn bwysig i uwchsgilio carcharorion a diwallu gofynion y farchnad lafur.
Nododd un cynghorydd y mynediad cyfyngedig at ystod o wasanaethau a fyddai ar gael yn y gymuned, megis Busnes Cymru [troednodyn 18].
Soniwyd am gyllid ReAct gan y mwyafrif o gynghorwyr Cymru’n Gweithio. Mae ReAct yn cynnig cymorth wedi'i deilwra i'r rhai sy'n ceisio ail-ymuno â'r farchnad lafur trwy gael gwared ar rwystrau a darparu cymorth grant ar gyfer hyfforddiant galwedigaethol, costau teithio a gofal sy'n gysylltiedig â hyfforddiant.
Y tu allan i'r carchar
Y gwasanaeth prawf yw'r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer cymorth ar ôl i garcharor gael ei ryddhau. Mae gan gynghorwyr Cymru’n Gweithio wybodaeth gyfyngedig am y carcharor a ble byddant yn cael eu rhyddhau. Dywedodd un cynghorydd ei fod yn gweithio'n rheolaidd gyda’r gwasanaeth prawf i ddarparu cyngor.
Roedd y graddau y gwnaeth cynghorwyr Cymru’n Gweithio aros mewn cysylltiad â'r carcharor ar ôl iddo gael ei ryddhau yn amrywio ar draws cynghorwyr, wedi'i ddylanwadu gan lwyth gwaith a throsiant cwsmeriaid. Mae cynghorwyr Cymru’n Gweithio yn annog carcharorion i hunangyfeirio at sefydliadau a gwasanaethau perthnasol ar ôl iddynt gael eu rhyddhau.
Casgliadau
Ers i raglen Cymru’n Gweithio ddechrau mewn carchardai yn 2019, darparwyd cyngor, arweiniad a hyfforddiant ar gyflogadwyedd ym mhob un o'r carchardai diogel yng Nghymru, yn ogystal â dau garchar i fenywod yn Lloegr.
Mae’r dadansoddiad o ddata monitro a chyfweliadau yn awgrymu bod darpariaeth Cymru’n Gweithio mewn carchardai wedi cynyddu rhwng Ebrill 2021 a Mawrth 2024, gyda hanner yr holl gyfnodau o gymorth yn dechrau yn 2023 i 2024, sy'n awgrymu bod y gwasanaeth wedi bodloni ei amcan yn 2023 i 24 o roi 'mwy o adnoddau i garchardai'. Roedd rhyngweithiadau â chynghorydd Cymru’n Gweithio yn cyd-fynd yn fras â'r adnodd a ddyrannwyd i'r carchar. Mae darpariaeth a gwaith ymgysylltu Cymru’n Gweithio yn amrywiol ar draws ystadau carchardai, gydag atgyfeiriadau i lwybrau fel React yn amrywio'n fawr yn ôl carchardai.
Nid yw data canlyniadau yn cael ei ddal yn rheolaidd ar gyfer cwsmeriaid Cymru’n Gweithio mewn carchardai. Dim ond data canlyniadau rhannol oedd ar gael i'r rhai sydd wedi ail-ymgysylltu â Cymru’n Gweithio neu sefydliadau partner. O'r rhain, dim ond 14% a adroddodd eu bod yn gyflogedig neu'n hunangyflogedig chwe mis ar ôl gadael cyfnod o gymorth, sy'n cyd-fynd â'r canfyddiad o'r adolygiad llenyddiaeth bod carcharorion yn cael trafferth cael gwaith. Fodd bynnag, mae'r is-sampl hon yn cynnwys y rhai nad ydynt ar gael ar gyfer gwaith ac mae'n debygol o gyflwyno sampl rhagfarnllyd.
Mae'r ymchwil hon wedi darganfod llawer o agweddau cadarnhaol ar y ffordd y caiff gwasanaeth Cymru’n Gweithio ei ddarparu mewn carchardai. Canfuwyd bod gan Cymru’n Gweithio bartneriaeth gref gyda sefydliadau eraill yn y carchar a gyda staff y carchar. Nodwyd sawl her wrth ddarparu'r gwasanaeth Cymru’n Gweithio mewn carchardai, gan gynnwys mynediad i wasanaethau TG, adnoddau cynghorwyr, goblygiadau cyfyngiadau diogelwch, lle a chymhellion y carcharorion eu hunain. Nodwyd bod ymgysylltu â grwpiau penodol, gan gynnwys carcharorion ifanc a charcharorion ag euogfarn rhywiol, yn her. Roedd y gwasanaeth mewn carchardai i fenywod yn fwy cyfyngedig, yn bennaf oherwydd ymweliadau cynghorwyr llai rheolaidd a llai o opsiynau hyfforddi.
Argymhellion
Fel y manylir ym mhennod 7 yr adroddiad, gwneir yr argymhellion canlynol yn seiliedig ar ganfyddiadau'r ymchwil.
Argymhelliad 1
Adolygu adnoddau Cymru’n Gweithio ar draws carchardai mewn ymateb i dystiolaeth o alw cynyddol a llwythi achosion mawr.
Argymhelliad 2
Er mwyn sicrhau bod cynghorwyr yn gallu darparu'r gwasanaeth yn effeithiol, mae angen gweithio gyda’r ystâd carchardai i fynd i'r afael â chyfyngiadau ymarferol.
Argymhelliad 3
Gwneud defnydd pellach o rwydweithio â sefydliadau eraill ac atgyfeiriadau i raglenni addas eraill, megis PLA a ReAct+, sy'n ennyn diddordeb carcharorion mewn cymorth cyflogadwyedd ac yn eu huwchsgilio.
Argymhelliad 4
Ystyried arferion gorau ar sut i gefnogi'r carcharorion hynny a nodwyd yn yr ymchwil hon fel y rhai mwyaf anodd i ymgysylltu â nhw, sy'n cynnwys carcharorion ifanc a charcharorion ag euogfarn rywiol.
Argymhelliad 5
Ystyried dulliau i ddal canlyniadau i'r rhai sydd wedi cael cymorth gan wasanaeth Cymru’n Gweithio yn y carchar.
Troednodiadau
[1] Ffynhonnell: Llythyr Dyfarnu Grant Gyrfa Cymru ac adroddiad DPA Cymru’n Gweithio 2023-2024
[2] Strategaeth Addysg a Chyflogaeth y Weinyddiaeth Gyfiawnder (2018)
[3] Tŷ'r Cyffredin (2022) Not just another brick in the wall
[4] Estyn (2024) Dysgu yn y sector cyfiawnder
[5] Mae’r dadansoddiad o gyfnodau o gymorth yn ôl blwyddyn yn seiliedig ar y flwyddyn pan ddechreuodd
[6] Mae hyn yn cynnwys rhyngweithiadau dilynol a allai ddigwydd ar ôl i garcharorion gael eu rhyddhau o'r carchar.
[7] Gwerthusiad o Wasanaeth Cymru’n Gweithio: adroddiad terfynol. Mae'r dadansoddiad yn eithrio categorïau lle nad yw data demograffig wedi'i ddarparu, ar gyfer y cyfnod adrodd rhwng Chwefror 2019 a Mawrth 2023.
[8] Jones, R. (2024) 2023 Factfile: Prisons and sentencing in Wales
[9] Jones, R. (2024) 2023 Factfile: Prisons and sentencing in Wales
[10] Jones, R. (2024) 2023 Factfile: Prisons and sentencing in Wales
[11] Mae hyn yn cynnwys: Dim cymwysterau, Lefel Mynediad a Lefel 1. Mae Lefel 1 yn cyfateb i raddau TGAU D i G (Fframwaith Credydau a Chymwysterau (FfCChC): diagram gwyntyll | LLYW. CYMRU)
[12] Jones, R. (2024) 2023 Factfile: Prisons and sentencing in Wales
[13] Mae hyn yn cynnwys ReAct III, Access a ReAct Plws
[14] Ffynhonnell: Gyrfa Cymru – Gwybodaeth fonitro Cymru’n Gweithio (n=2,747 o gyfnodau o gymorth)
[15] Heblaw am weithgareddau dilynol systematig ar gyfer cyfranogwyr YPG, ReAct ac Access a gynhaliwyd yn y gorffennol
[16] Pan nododd y cwsmer fod ganddo anabledd, roeddent 12 pwynt canran yn llai tebygol o gael cymorth dilynol nag y cwsmeriaid heb anabledd (19% o gymharu â 7%).
[17] Mae Cyfrifon Dysgu Personol (Gyrfa Cymru) yn darparu dysgu hyblyg sydd wedi'i ariannu'n llawn, naill ai ar-lein neu wyneb yn wyneb neu gyfuniad o'r ddau i gefnogi unigolion cymwys i ennill sgiliau lefel uwch.
[18] Mae Busnes Cymru yn darparu cyngor annibynnol am ddim i bobl sy'n dechrau, rhedeg a thyfu busnes yng Nghymru.
Manylion cyswllt
Awduron yr Adroddiad: Maisie Simmonds, James Lundie, Sean Homer and Jessica Steventon
Safbwyntiau’r ymchwilwyr yw’r rhai a fynegir yn yr adroddiad hwn ac nid ydynt o reidrwydd yn rhai Llywodraeth Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r canlynol:
Eloise Gowing
Uwch Swyddog Ymchwil ar gyfer Addysg a Sgiliau Ôl-16
Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: cyflogadwyedd.sgiliau.ymchwil@llyw.cymru
Rhif ymchwil gymdeithasol: 95/2025
ISBN Digidol: 978-1-80633-485-8
