Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar nodweddion a phrofiadau’r cyfranogwyr Rhaglenni Cymunedau am Waith (CaW) a Cymunedau am Waith a Mwy (CaW+) rhaglenni, ers eu sefydlu yn 2015 a 2018 yn y drefn honno hyd at fis Ebrill 2023.

Nod y gwerthusiad yw rhoi tystiolaeth am effaith y rhaglenni CaW a CaW+. Mae hwn yn un o bedwar adroddiad gwerthuso sy'n mynd i'r afael â hyn.

Mae’r adroddiad yn canolbwyntio ar brofiadau cyfranogwyr ac yn mynd i’r afael â’r amcanion canlynol:

  • asesu i ba raddau yr oedd y rhaglenni'n ymgysylltu ag unigolion o'r grwpiau blaenoriaeth yr oeddent wedi'u bwriadu i ymgysylltu â nhw.
  • cymharu canlyniadau ar gyfer unigolion ar draws gwahanol grwpiau demograffig ac is-grwpiau, fel y'u diffinnir gan y grwpiau targed ar gyfer y rhaglenni.
  • adolygu a yw’r rhesymeg dros dargedu grwpiau a daearyddiaethau penodol yn briodol ar gyfer rhaglenni cyflogadwyedd cymunedol presennol a rhaglenni tebyg yn y dyfodol.
  • adolygu i ba raddau y mae'r modelau cyflawni yn diwallu anghenion grwpiau penodol.
  • adolygu sut y mae elfennau newydd o'r rhaglen CaW a CaW+, megis yr 'elfen cymorth yn y gwaith' yn cael eu cyflawni a sut y maent wedi cyfrannu at gyflawni nodau ac amcanion y rhaglen.

Adroddiadau

Gwerthusiad o Cymunedau am Waith a Cymunedau am Waith a Mwy: Nodweddion a phrofiadau'r cyfranogwyr , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 4 MB

PDF
4 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Joshua Parry

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.