Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar berfformiad a gwerth am arian Rhaglenni Cymunedau am Waith (CaW) a Cymunedau am Waith a Mwy (CaW+) rhaglenni, ers eu sefydlu yn 2015 a 2018 yn y drefn honno hyd at fis Ebrill 2023.

Nod y gwerthusiad yw rhoi tystiolaeth am effaith y rhaglenni CaW a CaW+. Mae hwn yn un o bedwar adroddiad gwerthuso sy'n mynd i'r afael â hyn. Mae’n canolbwyntio ar berfformiad a gwerth am arian y rhaglenni ac yn mynd i’r afael â’r amcanion canlynol:

  • rhoi diweddariad ar gynnydd yn erbyn targedau'r rhaglenni.
  • adolygu a oes amrywiadau mewn perfformiad rhwng pedwar gweithrediad CaW a rhaglen CaW+ a nodi unrhyw resymau dros yr amrywiadau hyn.
  • adolygu sut y mae gweithrediadau CaW wedi integreiddio a chyflawni gweithgaredd sy'n ymwneud â'r themâu trawsbynciol.
  • asesu gwerth am arian y rhaglenni o gymharu â rhaglenni cyflogadwyedd eraill.

Adroddiadau

Gwerthusiad o Cymunedau am Waith a Cymunedau am Waith a Mwy: perfformiad a gwerth am arian y rhaglenni , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Joshua Parry

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.