Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Comisiynwyd Wavehill ym mis Tachwedd 2021 i gynnal gwerthusiad o ddau grant cymorth i fusnesau gofal plant a ddyluniwyd i annog newydd-ddyfodiaid a chynorthwyo darparwyr presennol i ehangu eu darpariaeth. Ariannwyd y ddau grant gan Lywodraeth Cymru ac fe’u gweinyddwyd gan Busnes Cymru o fis Medi 2019 i fis Medi 2021. Maent yn cynnwys:

  1. Grant Cychwyn i Warchodwyr Plant: cymorth o hyd at £500 i unigolion sy’n dymuno cychwyn busnes gwarchod plant newydd.
  2. Grant Cyflogai Newydd: cymorth grant i ddarparwyr gofal dydd cofrestredig gyda £2,000 yn cael ei ddarparu am bob cyflogai newydd a gyflogir drwy’r cynllun.

Dyluniwyd y cynlluniau i helpu i fynd i'r afael â'r cyfyngiadau capasiti yn y sector gofal plant yng Nghymru, sy'n rhwystr i gyflawni'r Cynnig Gofal Plant ac, yn fwy cyffredinol, gofynion gofal plant. Mae'r rhain yn cynnwys anawsterau o ran recriwtio a chadw staff mewn lleoliadau ac fel gwarchodwyr plant, sy'n lleihau capasiti gofal plant yn lleol ac, yn sgil hynny, yn cyflwyno heriau i rieni a gofalwyr o ran cael mynediad at waith a sicrhau cyflogaeth (thema allweddol a amlygwyd yng Nghynllun Gweithredu Economaidd Llywodraeth Cymru). Yn yr ystyr hwnnw, mae'r cynlluniau wedi'u dylunio mewn ymateb uniongyrchol i ymrwymiadau polisi Llywodraeth Cymru.

Comisiynwyd y gwerthusiad i helpu Llywodraeth Cymru i ddeall effeithiolrwydd y ddau grant hyn o ran cynyddu capasiti'r gweithlu ar draws y sector a chreu lleoedd gofal plant ychwanegol. Yn ogystal, rhoddwyd y dasg i’r gwerthusiad ddeall:

  • profiadau buddiolwyr o ymwneud â’r cynlluniau a’r canlyniadau a dderbyniwyd
  • ffactorau sy’n galluogi ac yn rhwystro cynyddu capasiti
  • effaith COVID-19 ar gyflawni’r cynlluniau
  • ai targedu'r grantiau hyn yw'r ffordd fwyaf effeithiol i gynyddu capasiti'r gweithlu a nifer y lleoedd gofal plant

Defnyddiwyd amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys 12 o gyfweliadau manwl â phartneriaid cyflawni allweddol a rhanddeiliaid y diwydiant (partneriaid Cwlwm, Gofal Cymdeithasol Cymru, Cymdeithas Cynrychiolwyr y Blynyddoedd Cynnar Cymru Gyfan, ac Arolygiaeth Gofal Cymru), adolygiad o ddogfennau craidd y prosiect, ac adolygiad o lenyddiaeth ehangach gyda’i gilydd, roedd y rhain yn llywio’r cwestiynau ymchwil ac yn rhoi cyd-destun i’n canfyddiadau.

Prif ffocws yr ymchwil, fodd bynnag, oedd ymchwil sylfaenol gyda buddiolwyr y grantiau yn ogystal â chyda busnesau ac unigolion eraill yn y sector a fu’n aflwyddiannus yn eu cais am gymorth grant neu a oedd wedi tynnu’u cais yn ôl. At hynny, cafwyd adborth gan grŵp o fusnesau ac unigolion nad oeddent wedi ymwneud â’r cynlluniau i weithredu fel grŵp cymharu.

Dosbarthwyd arolygon gan ddefnyddio cymysgedd o ddulliau ar-lein a thros y ffôn, gan arwain at 58 o ymatebion i'r arolwg o'r buddiolwyr (51% o'r boblogaeth darged), 17 o ymatebion gan ymgeiswyr aflwyddiannus (cyfradd ymateb o 19%), a 108 o ymatebion gan fusnesau ac unigolion sy'n gweithredu yn y sector nad oeddent wedi ymgeisio (3% o'r sector).

Ymarferion meintiol yn bennaf oedd yr arolygon a amlinellir uchod; felly, gwnaethom hefyd gynnal cyfweliadau dilynol manwl ag is-set o ymatebwyr er mwyn ategu'r sylfaen dystiolaeth ag adborth ansoddol. Cymerodd cyfanswm o 10 o fuddiolwyr ran yn y cyfweliadau hyn yn ogystal â saith ymgeisydd aflwyddiannus ac 11 o rai nad oeddent wedi ymgeisio. Yn olaf, cynhaliwyd sesiwn grŵp ffocws gyda phedwar o ddarpar warchodwyr plant neu rai a oedd wedi'u cofrestru'n ddiweddar i ddeall mwy am daith arferol gwarchodwyr plant, yr heriau a wynebir ganddynt a’u anghenion cymorth.

Prif ganfyddiadau

Gweinyddu’r cynlluniau grant

Daeth busnesau ac unigolion yn ymwybodol o'r cynlluniau drwy dri phrif lwybr: drwy gysylltiadau allweddol o fewn awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am gefnogi'r sector, drwy bartneriaid Cwlwm, a thrwy Busnes Cymru.

Nid yw'n ymddangos bod y cysylltiadau hyn mewn awdurdodau lleol wedi'u cynnwys o'r cychwyn cyntaf i gynorthwyo â’r gwaith o hyrwyddo'r cynlluniau, ond daethant i fod yn sianelau pwysig i godi ymwybyddiaeth felly, dylai cynlluniau yn y dyfodol ystyried rhoi mwy o bwyslais ar ymgysylltu â'r rhanddeiliaid hynny.

Estynnwyd y dyddiad cau ar gyfer hawliadau’r grant i fis Mawrth 2021 ac yna fe'i hestynnwyd ymhellach i fis Medi 2021 yn sgil COVID-19. Cytunwyd ar yr estyniad hwn i ganiatáu amser i fusnesau gasglu'r gwaith papur angenrheidiol er mwyn cynorthwyo unrhyw hawliadau a wneir o dan y ddau grant. Nid bwriad yr estyniad oedd ailagor y gronfa i ymgeiswyr newydd, gan fod y dyraniad presennol yn agosáu at ei derfyn uchaf. Bryd hynny roedd 86% o’r Grant Cychwyn i Warchodwyr Plant wedi'i ymrwymo ac roedd 96% o’r Grant Cyflogai Newydd wedi'i ymrwymo.

Fodd bynnag, ni wnaeth cyfran sylweddol o ymgeiswyr llwyddiannus y Grant Cychwyn i Warchodwyr Plant (47%) dynnu’r cyllid i lawr. Mae adborth gan rai o'r ymgeiswyr hynny'n awgrymu mai'r ansicrwydd a achoswyd gan y pandemig oedd y prif sbardun y tu ôl i hyn.

Roedd mwyafrif helaeth yr ymgeiswyr yn fodlon ar y broses ymgeisio a'r gwahanol agweddau ar ddyluniad y cynlluniau (e.e. maint y grant, gwariant cymwys, dull talu, ac ati), er bod ymateb y darpar warchodwyr plant yn fwy cymysg mewn perthynas â'r cynnig o £500 o gyllid, gyda 48% yn rhoi sgôr gadarnhaol a 38% yn rhoi sgôr negyddol. Mae tystiolaeth o'r trafodaethau ansoddol â rhai a dderbyniodd grantiau yn awgrymu mai'r rheswm pennaf am hyn oedd nad oeddent yn teimlo bod y grant yn mynd yn ddigon pell i dalu costau sefydlu eu busnes. Ar y llaw arall, ystyriwyd yn gyffredinol bod y cynnig o £2,000 yn swm priodol i dalu costau cyflogi gweithiwr newydd, ac roedd yn gymhelliant pwysig i gyflogwyr.

Effaith

Ymgysylltodd y cynlluniau â busnesau ac unigolion o bob rhan o Gymru, er ei bod yn ymddangos bod rhai ardaloedd wedi’u tangynrychioli. Er enghraifft, ni chafwyd ceisiadau llwyddiannus gan ddarpar warchodwyr plant yn Rhondda Cynon Taf, ac roedd Gorllewin Cymru hefyd wedi’i dangynrychioli mewn perthynas â’r Grant Cychwyn i Warchodwyr Plant. Mae sawl ardal awdurdod lleol yng Ngorllewin Cymru hefyd wedi’u tangynrychioli mewn perthynas â’r Grant Cyflogai Newydd (Ynys Môn, Gwynedd, Sir Gaerfyrddin), ac mae'n ymddangos bod diffyg defnydd gan ddarparwyr cyfrwng Cymraeg yn sgil hynny.

Mae’n ymddangos bod y Grant Cyflogai Newydd wedi’i ddefnyddio gan fusnesau mwy o faint na’r cyfartaledd o ran lleoliadau gofal plant, mwy o fusnesau sydd wedi derbyn cymorth grant yn flaenorol, a busnesau sydd â mwy o hyder yn eu rhagolygon o ran cynaliadwyedd a thwf. Mae hyn yn awgrymu bod lleoliadau sydd â phrofiad blaenorol o grantiau ac sydd efallai’n fwy craff o ran busnes wedi bod yn fwy tueddol o ymgeisio am y grantiau hyn a’u derbyn.

Derbyniodd cyfanswm o 41 o unigolion y Grant Cychwyn i Warchodwyr Plant a mynd ymlaen i gofrestru eu busnes. Amcangyfrifir bod hyn wedi darparu 335 o leoedd gofal plant. Prif effaith y grant, fodd bynnag, oedd cyflymu’r broses o sefydlu’r busnesau hyn. Mae data hunangofnodedig y gwarchodwyr plant yn awgrymu eu bod eisoes wedi penderfynu dod i mewn i’r sector a bod y grant wedi’u cynorthwyo ar adeg allweddol ar eu taith.

Nid yw'r daith i fod yn warchodwr plant o reidrwydd yn llinol, a gall gynnwys nifer o ymholiadau cyn ymrwymo i'r hyfforddiant a chofrestru. Mae’n annhebygol y byddai unigolion sydd heb wneud unrhyw ymholiadau ac sydd efallai heb hyd yn oed ystyried gwarchod plant wedi clywed am gynnig y grant mae’r dystiolaeth felly’n awgrymu nad yw’r cynllun yn gymhelliad i newid gyrfa nac yn llwybr i mewn i faes gwarchod plant, ond y mae’n cyflymu’r broses i’r rheiny sydd eisoes wedi ymrwymo. Fodd bynnag, mae tynnu sylw darpar newydd-ddyfodiaid i'r farchnad at gyfleoedd grant yn bwysig ac mae’r effaith gyflymu yn sicr yn fuddiol gan ei bod yn dod â chapasiti i'r system a fyddai fel arall yn cael ei ohirio, ac am gost cymhorthdal gymharol fach. Yn wir, dywedodd pob un ond un o’r gwarchodwyr plant a ymatebodd i’n harolwg y byddai wedi cymryd mwy o amser iddynt gychwyn eu busnes heb y cymorth, a dywedodd y rhan fwyaf y byddai oedi wedi bod o un i dri mis.

Yn ôl cofnodion y cynllun Grant Cyflogai Newydd, mae 118 o swyddi wedi'u creu gan 59 o leoliadau, gan greu 589 o leoedd gofal plant newydd. Os ydym yn ystyried yr effaith ychwanegol net (h.y. beth ddigwyddodd y tu hwnt i’r hyn fyddai wedi digwydd beth bynnag), amcangyfrifwn fod y cynllun wedi arwain at 71 o swyddi a 355 o leoedd gofal plant newydd na fyddent wedi’u creu heb yr ymyriad. Mae’r amcangyfrif hwn yn seiliedig ar ddata hunangofnodedig lle y gofynnwyd i’r rhai a dderbyniodd grantiau a fyddent wedi cyflogi aelodau staff newydd heb y cymorth er mwyn nodi cyfran yr effeithiau y gellir eu priodoli i'r cynllun.

Mae’r arolwg o’r buddiolwyr yn awgrymu bod 85% o’r busnesau gwarchod plant a grëwyd o ganlyniad i’r cynllun yn dal i fasnachu, a dywedodd 79% o leoliadau fod o leiaf rai o'r staff a gyflogwyd drwy'r cynllun yn dal i gael eu cyflogi.

Mae’r rhan fwyaf o leoliadau gofal plant yn credu bod y cymorth wedi gwella eu cynaliadwyedd a’u gallu i ehangu. Prin oedd y dystiolaeth bod y cymorth yn arwain at fwy o gyswllt â Busnes Cymru a datblygu eu llythrennedd busnes, a oedd yn amcanion eilaidd pan ddyluniwyd y cynlluniau. Ychydig iawn o fuddiolwyr a dderbyniodd gymorth parhaus gan Busnes Cymru y tu hwnt i’r broses ymgeisio, e.e. i edrych ar yr achos busnes dros gyflogi staff newydd a llunio strategaeth ar gyfer twf eu busnes. Roedd hyn yn rhannol am nad oedd mecanwaith clir ar waith i hwyluso’r fath gymorth cynghori ehangach ar wahân i gynnig prif ffrwd llinell gymorth Busnes Cymru (nid oedd gweithio gyda Busnes Cymru yn ofynnol i dderbyn y cymorth, ac nid oedd gan gynghorwyr Busnes Cymru yr adnoddau i fynd ati’n rhagweithiol i feithrin y perthnasoedd hynny). Dywedodd pob buddiolwr a dderbyniodd gymorth gan Busnes Cymru ei fod wedi bod yn ddefnyddiol.

Casgliadau

Nid yw’n ymddangos bod y Grant Cychwyn i Warchodwyr Plant wedi cael effaith sylweddol o ran ysgogi unigolion i ddod yn warchodwyr plant, gan ei fod wedi’i ddefnyddio’n unig gan unigolion sydd eisoes wedi ymrwymo i ymuno â’r sector. Heb ymgyrch gyfathrebu fawr sy’n defnyddio llawer o adnoddau, mae’n anodd gweld sut y gellid sicrhau bod unigolion yn ymwybodol o’r opsiwn heb eu bod wedi mynd ati’n weithredol i archwilio’r peth, ac mae £500 yn annhebygol o berswadio llawer i newid eu gyrfa. Dylid ystyried y grantiau hyn, felly, yn offeryn i gyflymu’r daith at yrfa ym maes gwarchod plant a chynorthwyo’r rhai sy’n dod i mewn i’r sector, ond nid o anghenraid yn ffordd i annog newydd-ddyfodiaid i’r maes.

Mae’n ymddangos bod cynnig cymhorthdal ar gyfer cyflogeion newydd yn gymhelliant pwysig i fusnesau, a chyfeiriwyd at gyllid fel un o’r prif rwystrau i recriwtio. Fodd bynnag, roedd rhwystrau eraill (fel diffyg ymgeiswyr addas) hefyd yn her sylweddol. Yn amlwg, ni fydd cyllid ar ei ben ei hun yn mynd i’r afael â’r materion sy’n wynebu’r sector. Yn gysylltiedig â hyn, mae heriau amlwg yn ymwneud â chadw staff cyfeiriodd cyfran sylweddol o ymatebwyr yr arolwg at hyn fel her allweddol, ynghyd â meddu ar gapasiti ffisegol digonol (h.y. lle) er mwyn cynyddu’r cyflenwad o ofal plant. Mae rheoliadau ynghylch lle, cymarebau a chymwysterau’n ychwanegu cymhlethdod pellach i’r uchelgais o gynyddu capasiti. Yn unol â hynny, dylai ymyriadau yn y dyfodol fod mor gyfannol â phosibl i gyfrif am yr anghenion niferus a gwahanol sydd gan fusnesau ac unigolion.

Agwedd bwysig wrth ddeall effaith y cynlluniau oedd ystyried prosesau gwneud penderfyniadau’r buddiolwyr posibl. Canfuwyd bod penderfyniadau ynghylch manteisio ar grantiau yn gymhleth ac amlweddog. Trafodwyd hyn yn helaeth gyda rhanddeiliaid yn ystod yr ymgynghoriad cwmpasu, a nododd fod y rhai a oedd yn ystyried cychwyn ym maes gwarchod plant, er enghraifft, yn pwyso a mesur ystod o ystyriaethau cyn ymuno â'r proffesiwn, a bod lleoliadau gofal plant hefyd yn pwyso a mesur goblygiadau economaidd recriwtio staff ochr yn ochr ag ystyriaethau eraill, gan gynnwys i ba raddau mae ymarferwyr â chymwysterau addas ar gael, lle ffisegol, ac ati.

Roedd yr ecosystem gymhleth o grantiau a oedd ar gael yn destun trafod cyson arall yn y cyfweliadau cwmpasu, gyda llawer o gynlluniau grant tebyg yn cael eu cyflawni ar lefel llywodraeth leol. Gall fod yn anodd i warchodwyr plant a lleoliadau gofal plant lywio drwy’r ecosystem hon, yn enwedig pan fo’r cynigion grant wedi’u targedu at grwpiau penodol neu pan fo ganddynt feini prawf cymhwysedd gwahanol, neu pan fo gwahanol awdurdodau lleol yn rhoi enwau gwahanol i’r un grant. Mae’n arwain at ddryswch i sefydliadau’r sector a darparwyr sy’n gweithio ar draws sawl ardal ddaearyddol. Mae angen ystyried ymhellach y cydlyniad cymharol hwn rhwng grantiau llywodraeth ganolog a llywodraeth leol er mwyn osgoi dyblygu ymdrechion, a symleiddio'r system o safbwynt buddiolwyr posibl.

Mae maint effaith cymhellion ariannol wedi’i gyfyngu mewn nifer o ffyrdd pwysig, gan gynnwys heriau strwythurol ehangach sy'n wynebu'r sector mewn perthynas â recriwtio a chadw staff, fel i ba raddau mae staff sydd â chymwysterau addas ar gael a pha mor ddeniadol yw'r proffesiwn i newydd-ddyfodiaid. Felly, gall effeithiolrwydd cymharol cymhellion ariannol fod yn cysylltu’n agos â chydlyniad cymharol y cymorth ehangach a gynigir i'r sector, fel drwy feddwl a myfyrio ymhellach ar sut i wneud gyrfaoedd yn y sector gofal plant yn fwy deniadol.

Argymhellion

Yn seiliedig ar y canfyddiadau hyn, rydym yn gwneud yr argymhellion canlynol.

Gellid ystyried cymhlethdod y broses o wneud penderfyniadau wrth ddylunio cynlluniau grant. Os yw’n ymarferol bosibl, mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, dylunio cynlluniau sydd ag amserlenni hirach ac sy'n symud i ffwrdd o ffenestri grantiau. Gallai hyn greu cynnig mwy cyson sy'n adlewyrchu'n well y cymhlethdod a'r amserlenni mewn perthynas â gwneud penderfyniadau i ddarpar warchodwyr plant a lleoliadau.

Ystyried a ddylai cynlluniau yn y dyfodol ddarparu grantiau mwy i ddarpar warchodwyr plant er mwyn talu cyfran uwch o gostau cychwyn a bod yn well cymhelliant i ymuno â'r sector.

Dylid ystyried darparu adnoddau ar gyfer ymgyrch hyrwyddo fwy i gyrraedd unigolion nad ydynt eisoes ar y daith i faes gwarchod plant os mai'r amcan strategol yw annog newydd-ddyfodiaid (yn hytrach na dim ond cyflymu’r broses i’r rhai sydd eisoes wedi ymrwymo).

Dylai cynlluniau yn y dyfodol ystyried sut mae cymhellion ariannol yn cyd-fynd â chymorth ehangach sy'n mynd i'r afael â materion a heriau pellgyrhaeddol, gan gynnwys denu ymarferwyr i'r sector. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, codi proffil y proffesiwn a darparu llwybrau dilyniant cliriach.

Gall ymarferiad manwl i fapio cymorth a dadansoddi bylchau fod yn werthfawr er mwyn deall cymysgedd presennol y cymorth sydd ar gael i leoliadau a gwarchodwyr plant a chefnogi'r gwaith o greu cynnig mwy cyson a mwy cydlynol i'r sector. Gellid defnyddio hyn i lunio cymorth ariannol yn y dyfodol, yn ogystal â sicrhau ei fod yn cysylltu'n gydlynol ag elfennau eraill o gymorth sydd ar gael.

Dylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio modelau rhesymeg a theorïau newid i gynorthwyo’r gwaith o lunio polisi a rhaglennu yn y dyfodol.

Dylai cynlluniau yn y dyfodol ystyried a ddylid bod yn well ar gyfathrebu a chydweithio’n barhaus gyda phartneriaid i gyfrif am ymgeiswyr y bu'n rhaid iddynt dynnu'n ôl. Fel arall, gallai cynlluniau yn y dyfodol ystyried a ddylid darparu cyllid mewn tonnau i ganiatáu ailagor cyllid er mwyn cyflawni'r dyraniad llawn. Fodd bynnag, gallai hyn beri risg i Lywodraeth Cymru a gweinidogion yn sgil disgwyliadau uwch.

Ystyried a ddylai cynlluniau yn y dyfodol gynnwys gwell mecanwaith i sicrhau bod busnesau'n derbyn cymorth cynghori busnes ochr yn ochr â'r cymorth ariannol.

Manylion cyswllt

Awduron: Teifi I, Johnson I, O’Prey L, Clark M and Grunhut S

Safbwyntiau’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd rhai Llywodraeth Cymru yw’r safbwyntiau a fynegir yn yr adroddiad hwn.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
E-bost: trafodgofalplant@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 54/2022
ISBN digidol 978-1-80364-541-4

Image
GSR logo