Neidio i'r prif gynnwy

Gwerthusiad o ddau grant cymorth busnes gofal plant a gynlluniwyd i annog darparwyr newydd a chefnogi darparwyr presennol i ehangu'r ddarpariaeth.

Ceisiodd y gwerthusiad deall effeithiolrwydd y ddau grant hyn o ran cynyddu capasiti'r gweithlu a chreu lleoedd gofal plant ychwanegol.

Mae'r canfyddiadau'n seiliedig ar adolygiad o ddogfennaeth y prosiect a llenyddiaeth ehangach; cyfweliadau gyda phartneriaid cyflawni allweddol a rhanddeiliaid.

Cynhaliwyd ymchwil sylfaenol gyda buddiolwyr grantiau a'r busnesau/unigolion a oedd yn aflwyddiannus neu a dynnodd yn ôl. Cafwyd adborth hefyd gan grŵp o fusnesau ac unigolion nad oeddent wedi ymgysylltu â'r cynlluniau o gwbl.

Mae'r canfyddiadau wedi'u nodi o dan ddau faes.

  1. Gweinyddu'r cynlluniau grant: mae hyn yn cynnwys canfyddiadau ar sut y cafodd y grantiau eu cynllunio a'u rheoli gan gydnabod effaith COVID-19.
  2. Effaith: mae hyn yn darparu manylion am fuddion y grant, gan dynnu sylw at nifer y gweithwyr a gwarchodwyr plant newydd a’r lleoedd gofal plant newydd a chrëwyd.

Mae'r adroddiad yn gwneud wyth argymhelliad i Lywodraeth Cymru eu hystyried.

Adroddiadau

Gwerthusiad o grantiau cymorth i fusnesau gofal plant , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Siân Williams

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.