Neidio i'r prif gynnwy

Nodau a methodoleg yr ymchwil

Ym mis Ionawr 2022, fe lansiodd y Llywodraeth Cymru flaenorol Gynllun Lesio Cymru (‘y cynllun’), sef dull arloesol o gynyddu’r stoc dai sydd ar gael i awdurdodau lleol i hwyluso cyflawni eu dyletswyddau tai (yn enwedig dyletswyddau Rhan 2 Deddf Tai (Cymru) 2014) (Deddfwriaeth y DU) i helpu pobl sy’n profi digartrefedd (adran 73) neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref (adran 66). Mae awdurdodau lleol yn dod o hyd i eiddo cymwys yn y sector rhentu preifat drwy ymrwymo i gytundeb les gyda pherchennog yr eiddo am gyfnod o rhwng pump ac 20 mlynedd, gan warantu incwm rhent misol ar gyfradd y Lwfans Tai Lleol. Mae hyn yn gwneud yr awdurdod lleol yn landlord yr eiddo am y cyfnod y cytunwyd iddo, gan eu galluogi i ddarparu llety hirdymor a fforddiadwy (sy'n cyfateb i'r Lwfans Tai Lleol) o ansawdd da. Cynigir cymhellion i berchnogion eiddo ymuno â'r cynllun, gan gynnwys grantiau hyd at £5,000 ar gyfer dod ag eiddo i’r safon ofynnol, bodloni safonau dymunol eraill yn seiliedig ar alw lleol, neu gynyddu eu heffeithlonrwydd ynni drwy'r Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio, yn ogystal â grantiau hyd at £25,000 ar gyfer eiddo a ddosbarthwyd yn flaenorol fel eiddo gwag.

Comisiynwyd Alma Economics gan y Llywodraeth Cymru flaenorol ym mis Ionawr 2023 i gynnal gwerthusiad tair blynedd o'r cynllun. Nod y gwerthusiad oedd deall sut mae’r cynllun wedi bod yn gweithredu fel cynllun cenedlaethol, gan gynnwys nodi beth sy'n gweithio'n dda a pha heriau a wynebwyd wrth ei roi ar waith, ei effeithiau disgwyliedig ar randdeiliaid (awdurdodau lleol, perchnogion eiddo a thenantiaid), a'i gyfraniad at nodau tai cyffredinol y llywodraeth. Mae'r gwerthusiad wedi llywio'r set o argymhellion a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru ynghylch gweithredu’r cynllun yn y dyfodol, fel yr amlinellir isod. Cyhoeddwyd canfyddiadau a ddaeth i’r amlwg o’r gwerthusiad mewn adroddiad interim yn 2024, a oedd yn cynnwys set gyntaf o argymhellion yn seiliedig ar ymchwil ansoddol a meintiol, yn ogystal â dadansoddiad o ddata monitro’r cynllun ar draws yr 13 awdurdod lleol a oedd eisoes yn gweithredu’r cynllun rhwng mis Ionawr 2023 a mis Chwefror 2024.

Addaswyd cam olaf y gwerthusiad, a oedd yn cwmpasu'r cyfnod rhwng Mawrth 2024 a Chwefror 2026, i ystyried cynnwys awdurdodau lleol newydd yn y cynllun, yn ogystal ag ehangu'r cynllun yn yr awdurdodau lleol hynny sydd eisoes yn ei weinyddu, gan gofnodi elfennau proses ac effaith ar wahanol gamau o weithredu’r cynllun ledled Cymru.

Prif gamau’r fethodoleg oedd:

  • cyfweliadau ag awdurdodau lleol sy'n cymryd rhan yn y cynllun, a gynhaliwyd rhwng mis Tachwedd 2024 a mis Tachwedd 2025, gan gynnwys 12 awdurdod lleol a oedd eisoes wedi cael eu cyfweld yn y cam interim (awdurdodau lleol ‘sefydledig’) a chwe awdurdod lleol nad oeddent wedi ymuno â'r cynllun eto neu a oedd yn rhy gynnar o hyd yn y broses ymsefydlu yn y cam interim (awdurdodau lleol ‘a gynhwyswyd yn ddiweddar’)
  • casglu data monitro’r cynllun gan bob awdurdod lleol a oedd ag eiddo wedi'u cynnwys yn y cynllun ym mis Mawrth a mis Medi 2024, a mis Mawrth a mis Medi 2025
  • cyfweliadau â 12 o berchnogion eiddo sy'n cymryd rhan yn y cynllun a pherchnogion eiddo sydd â diddordeb mawr yn y cynllun, a gynhaliwyd rhwng mis Tachwedd 2024 a mis Hydref 2025
  • ffurflen adborth fer ar-lein a oedd ar agor rhwng mis Mai 2025 a mis Hydref 2025 a gwblhawyd gan 20 o berchnogion eiddo a oedd wedi tynnu'n ôl yn ystod y broses ymuno â’r cynllun
  • arolwg ar-lein a weinyddwyd gyda chymorth swyddogion tai awdurdodau lleol i 65 o denantiaid a oedd yn cymryd rhan yn y cynllun rhwng mis Hydref 2024 a mis Hydref 2025, gydag un tenant arall yn cymryd rhan mewn cyfweliad ar-lein

Prif ganfyddiadau

Lleihau rhestrau aros am lety yng Nghymru

Mae'r cynllun wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth ehangu ledled Cymru. Ers i'r 15 awdurdod lleol cyntaf ymuno â'r cynllun yn 2022, mae'r awdurdodau lleol hynny sy'n weddill hefyd wedi ymuno’n raddol, ac ymunodd y ddau awdurdod lleol olaf yn 2026. 

Mae hyn wedi caniatáu i’r cyfanswm gynyddu’n raddol, ond hefyd y gwahanol fathau o eiddo sydd wedi'u cynnwys yn y cynllun ledled y wlad. Ym mis Medi 2025, roedd 444 o eiddo yn rhan o’r cynllun, y mwyafrif yn eiddo dwy ystafell wely a thair ystafell wely, ac mae’r cynllun hefyd wedi cynyddu ei stoc o eiddo un ystafell wely a phedair ystafell wely neu fwy yn raddol, er ar gyfradd is. Mae eiddo sydd wedi ymuno â'r cynllun yn cael eu hysbysebu'n fewnol ym mhob awdurdod lleol, ac mae swyddogion cymorth tai yn enwebu tenantiaid o'u rhestrau aros sy'n dod o dan eu dyletswydd ddigartrefedd. Mae hyn wedi arwain fwyfwy at symud tenantiaid allan o lety dros dro, gan roi’r sgiliau iddynt, trwy'r cymorth tenantiaeth a gynigir fel rhan o'r cynllun, i allu byw'n annibynnol, ac felly leihau rhestrau aros am lety yn effeithiol. Er gwaethaf rhestrau aros hir mewn llety dros dro, teimlai awdurdodau lleol fod y cynllun yn cyflawni'r diben hwn.

Ymgysylltu â pherchnogion eiddo ac ailddefnyddio eiddo gwag

Yn ddiamau, prif anfantais y cynllun i berchnogion eiddo yw'r rhent, sy'n cael ei osod ar gyfradd y Lwfans Tai Lleol. Mae perchnogion eiddo sy'n cymryd rhan yn y cynllun, perchnogion sydd â diddordeb yn y cynllun, perchnogion a dynnodd allan yn ystod y broses ymuno, yn ogystal ag awdurdodau lleol, wedi cydnabod y gellir sicrhau cyfraddau rhent uwch yn y sector preifat. Fodd bynnag, mae nodweddion y cynllun, fel y grantiau a gynigir, y gwaith o reoli’r eiddo (y gofelir amdano gan yr awdurdod lleol), a rhoi tai i denantiaid agored i niwed, wedi gallu gwrthbwyso cyfradd rhent y Lwfans Tai Lleol yn bennaf ar gyfer landlordiaid damweiniol (e.e. y rheini sydd wedi etifeddu eiddo), perchnogion tai gwag, yn ogystal â'r rheini sydd wedi'u cymell gan effaith gymdeithasol gadarnhaol y cynllun.

Mae eiddo gwag yn benodol wedi bod yn hollbwysig wrth gynyddu'r stoc dai o dan y cynllun; o'r 444 eiddo yn y cynllun ym mis Medi 2025, roedd 307 wedi'u dosbarthu'n wag o'r blaen. O ystyried, yn ôl data Cyfrifiad 2021, fod 102,875 o anheddau gwag yng Nghymru (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, 2024), disgwylir y bydd effaith gadarnhaol hirdymor ar y sector tai yn ehangach wrth i eiddo gwag gael eu defnyddio eto ar ôl cael eu huwchraddio. Er enghraifft, mae ymchwil ddiweddar (Portman, 2024) yn tynnu sylw at yr effaith enfawr y gall cartrefi gwag sydd wedi'u hôl-osod ei chael ar y prinder cynyddol o dai diogel a fforddiadwy yn y DU ac yn rhyngwladol.

Gwella llesiant ac ansawdd bywyd tenantiaid

Mae boddhad tenantiaid â'r eiddo y maent yn cael mynediad iddynt o dan y cynllun hefyd yn amlwg. Mae hyn ar draws y broses denantiaeth lawn, gan ddechrau gyda thenantiaid yn cael eu paru'n ofalus ag eiddo yn seiliedig ar eu hanghenion, cael mynediad at fathau o gymorth wedi'u teilwra, yn ogystal â chael eu llywio’n dda trwy'r broses o ymuno â’r cynllun, a chydnabyddir bod pob un o'r rhain yn cael effaith gadarnhaol ar eu llesiant a'u hansawdd bywyd.

Mynegodd tenantiaid a gwblhaodd yr arolwg lefelau uchel o foddhad ag amodau eu tai o dan y cynllun a'r graddau y mae'r eiddo'n diwallu eu hanghenion o ran tai. Roedd tenantiaid hefyd yn cydnabod sawl mantais o rentu drwy’r cynllun, gyda fforddiadwyedd rhent, cymorth tenantiaeth, a hydoedd lesoedd hwy yn dod i’r amlwg yn arbennig. Mae canlyniadau arolwg y tenantiaid hefyd yn dangos bod boddhad penodol â'r cymorth sy’n dod i law ar reoli eu tenantiaeth, cymorth gydag atgyweiriadau ac addasiadau, a chymorth i wneud cais am fudd-daliadau. Roedd rhai mathau pellach o gymorth yr hoffai tenantiaid gael mynediad iddynt yn cynnwys cyngor neu gymorth wrth edrych ar opsiynau llety ar gyfer y dyfodol ar ôl i'r contract tenantiaeth presennol ddod i ben, pecynnau dodrefn, a chymorth i ddod o hyd i gyflogaeth neu ei chadw.

Ar y llaw arall, mae data monitro a chanfyddiadau o gyfweliadau ag awdurdodau lleol yn dangos bod y nifer a oedd yn manteisio ar grantiau’r cynllun a’r Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio wedi cynyddu wrth i ragor o eiddo ymuno â'r cynllun, gyda'r mwyaf o’r eiddo yn cael eu huwchraddio cyn iddynt gael eu cynnwys. Felly mae'r cynllun yn cyfrannu'n effeithiol at wella eiddo'r sector rhentu preifat ledled Cymru, sy'n effeithio'n gadarnhaol ar ansawdd bywyd pob tenant sy’n rhentu’n breifat, ac nid dim ond y rheini sy'n cael eu lletya o dan y cynllun.

Hyrwyddo cymorth gan gymheiriaid ymhlith awdurdodau lleol

Yn hanfodol i lwyddiant y cynllun fu'r cydgysylltu a'r cyfathrebu a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn wedi galluogi awdurdodau lleol ymhellach i gynghori a dysgu o heriau ac arferion gorau ei gilydd wrth weithredu'r cynllun, dull sy'n addas iawn ar gyfer ennyn awdurdodau lleol i ymuno ar wahanol adegau ac wrth gyflwyno’r cynllun yn lleol ar wahanol gyflymderau. Canmolodd awdurdodau lleol yn benodol y gweithdai pwrpasol a hwyluswyd gan Lywodraeth Cymru a galwodd rhai am i'r rhain fod yn amlach.

Argymhellion ar gyfer gwelliannau pellach

Cyflwyno ‘cynllun cyfeillio’ ar gyfer awdurdodau lleol

Pwysleisiodd awdurdodau lleol a ymunodd â’r cynllun yn ddiweddar, er bod y cynllun wedi’i sefydlu’n fwy erbyn hyn, ei fod yn dal yn newydd iddyn nhw, felly byddai cyfarfodydd amlach i drafod heriau ac arferion gorau yn ddefnyddiol. Mae awdurdodau lleol eisoes yn darparu cymorth anffurfiol i'w gilydd, ond gellir ymsefydlu hyn ymhellach trwy ‘gynllun cyfeillio’ lle mae awdurdodau lleol sydd wedi arfer â’r cynllun yn cael eu paru ag awdurdodau lleol sydd wedi ymuno'n ddiweddar, gan gynnig mwy o gymorth ac arweiniad ymarferol iddynt.

Targedu proffil perchnogion eiddo y mae'r cynllun yn apelio atynt yn bennaf

Mae’r cynllun wedi profi i fod fwyaf deniadol i berchnogion eiddo gwag, landlordiaid damweiniol, perchnogion eiddo sy'n llai dibynnol ar eu hincwm rhent, a'r rheini sy'n cael eu cymell mewn ffyrdd eraill gan amcanion y cynllun. Dylai ymdrechion i hyrwyddo’r cynllun barhau i dargedu nodweddion nodedig proffil y perchnogion eiddo y mae'n apelio ato wrth wrando'n ofalus ar adborth y grŵp hwn ar gyfer gwelliannau.

Symleiddio contractau lesoedd i leihau'r galw ar landlordiaid damweiniol

Un argymhelliad sy'n deillio'n uniongyrchol o ganfyddiadau'r ymchwil yw symleiddio contractau lesoedd, oherwydd bod nifer o berchnogion eiddo a oedd yn rhan o'r cynllun ac a gymerodd ran yn yr ymchwil yn teimlo bod y contractau hyn ar hyn o bryd yn “ormodol”, gyda gormod o jargon cyfreithiol, ac yn aml roedd yn rhaid iddynt dalu cyfreithwyr i'w hadolygu. Mae hyn yn adlewyrchu'r ffaith y bydd gan landlordiaid damweiniol lai o brofiad ag ochr gyfreithiol y trefniadau lesio, ac felly dylent gael cymorth ac arweiniad ychwanegol ar gyfer hyn.

Darparu cymhellion pwrpasol i ddarparu adnoddau ar gyfer mathau ychwanegol neu ddymunol o eiddo

Er mwyn denu proffiliau eraill o berchnogion eiddo (e.e. perchnogion eiddo proffesiynol), bydd angen cymhellion ychwanegol. Nid yw'r grantiau sydd ar gael ar hyn o bryd yn darparu cymhelliant ar gyfer eiddo sydd angen ychydig iawn o waith neu ddim gwaith o gwbl. Yn yr un modd, nid yw'r rhent a osodir ar gyfradd y Lwfans Tai Lleol yn denu perchnogion eiddo sy'n dibynnu ar incwm rhent. Yn yr un modd, gellid defnyddio cymhellion ychwanegol i ddenu mathau o eiddo sydd fwyaf mewn galw, fel eiddo un ystafell wely ac eiddo sy'n bodloni gofynion o ran hygyrchedd.

Adolygu canllawiau'r cynllun ar gyfer awdurdodau lleol

Gofynnodd awdurdodau lleol am addasiadau pellach i sawl agwedd ar y canllawiau a ddarparwyd iddynt ar weinyddu'r cynllun, gan gynnwys: i) yr hyn mae cyllid y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio yn ei gynnwys, yn enwedig o ran boeleri, ii) pa sgoriau Tystysgrif Perfformiad Ynni (EPC) sy'n dderbyniol wrth fod yn rhan o’r cynllun, yn enwedig a yw sgoriau EPC yn is nag C yn annerbyniol, neu a ydynt yn dderbyniol dim ond wrth weithio tuag at sgôr EPC uwch, iii) cymhwystra tai amlfeddiannaeth ar y cynllun, a iv) manylion pellach am y broses ar gyfer pan ddaw lesoedd i ben, megis adnewyddu'r lesoedd o dan y cynllun neu symud tenantiaid i gynlluniau newydd.

Ailwerthuso effaith y cynllun ar denantiaid ar ôl cyrraedd carreg filltir y sector rhentu preifat o 1%

O ystyried cyflwyno'r cynllun yn raddol ledled y wlad a'r ffaith nad oedd y tenantiaid a gymerodd ran yn yr ymchwil hon yn dod o bob awdurdod lleol a gymerodd ran yn y cynllun, fe gynghorir cynnal arolwg tenantiaid arall ar ôl i bob awdurdod lleol gyrraedd carreg filltir y cynllun o sicrhau 1% o lety’r sector rhentu preifat fesul awdurdod lleol. Bydd hyn yn rhoi mynediad at gronfa ehangach o denantiaid ac felly cyfle i ddysgu am wahanol brofiadau o gael eu cartrefu o dan y cynllun ar draws pob awdurdod lleol, tra bydd cyrraedd y targed o 1% hefyd yn golygu y bydd awdurdodau lleol yn llai pryderus ynghylch camau cychwynnol y broses sefydlu a’r broses o roi’r cynllun ar waith yn lleol, a all ddefnyddio llawer o adnoddau. Mae'n hysbys bod cyfranogiad tenantiaid yn heriol, yn enwedig mewn tai cymdeithasol a lleoliadau tebyg (Preece, 2019). Mae'r gwerthusiad hwn wedi dangos bod cymorth ymarferol yr awdurdodau lleol wedi bod yn allweddol wrth sicrhau ymgysylltiad tenantiaid, felly dylai unrhyw ymdrechion ymgysylltu yn y dyfodol ystyried gallu awdurdodau lleol ac amseriadau i gydlynu hyn.

Manylion cyswllt

Awduron: Alma Economics

Safbwyntiau'r ymchwilwyr a fynegir yn yr adroddiad hwn, ac nid safbwyntiau Llywodraeth Cymru o reidrwydd.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

Tîm Ymchwil Tai (KAS)
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: TimYmchwilTai@llyw.cymru   

Rhif ymchwil cymdeithasol: 79/2026
ISBN Digidol: 978-1-80853-117-0

GSR logo