Adroddiad yn asesu i ba raddau, a sut, y mae Mwy na geiriau wedi hyrwyddo a chefnogi defnydd o'r Gymraeg ar draws y sector iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Gwerthusiad o Mwy na geiriau
Mae'r adroddiad yn cyflwyno canfyddiadau ar y cynnydd tuag at bob un o saith amcan allweddol y fframwaith olynol.
- Arweinyddiaeth leol a chenedlaethol, a pholisi cenedlaethol
- Mapio, archwilio, casglu data ac ymchwil
- Cynllunio gwasanaethau, comisiynu, contractio a chynllunio'r gweithlu
- Hybu ac ymgysylltu
- Addysg broffesiynol
- Y Gymraeg yn y gweithle
- Rheoleiddio ac arolygu
Mae hefyd yn ystyried yr hwyluswyr a’r rhwystrau i weithredu.
Mae'r adroddiad yn gwneud cyfres o argymhellion ynglyn â rôl 'Mwy na geiriau' yn y dyfodol a sut i fynd i'r afael â'r bylchau o ran cyflawni a'r rhwystrau gweithredu.
