Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

‘Mwy na geiriau’ yw'r fframwaith strategol ar gyfer gwasanaethau Cymraeg mewn iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Lansiwyd y fframwaith gwreiddiol yn 2012, a'r fframwaith olynol sef ffocws y gwerthusiad hwn, yn 2016. Nod y fframwaith olynol oedd hybu a chefnogi'r defnydd o'r Gymraeg ar draws y sector, gan ganolbwyntio ar saith amcan allweddol.

  1. Arweinyddiaeth leol a chenedlaethol, a pholisi cenedlaethol
  2. Mapio, archwilio, casglu data ac ymchwil
  3. Cynllunio gwasanaethau, comisiynu, contractio a chynllunio'r gweithlu
  4. Hybu ac ymgysylltu
  5. Addysg broffesiynol
  6. Y Gymraeg yn y gweithle
  7. Rheoleiddio ac arolygu

Nod y gwerthusiad hwn oedd asesu sut ac i ba raddau y mae 'Mwy na geiriau' wedi cyflawni ei nod, yn ogystal â nodi rhwystrau a hwyluswyr i weithredu saith amcan y fframwaith olynol. Mae'r adroddiad yn canolbwyntio ar ganfyddiadau a chasgliadau gwaith ymchwil a dadansoddi terfynol y gwerthusiad. Fe wnaeth camau blaenorol y gwerthusiad amlinellu theori newid a'r fframwaith gwerthuso.

Casglwyd tystiolaeth drwy gyfweliadau ansoddol â rhanddeiliaid, defnyddwyr gwasanaethau, a myfyrwyr prifysgol sy'n astudio cyrsiau iechyd a gofal cymdeithasol. Ategwyd hyn gydag ymchwil desg, a oedd yn cynnwys adolygiad o ddogfennau strategaeth, polisi a chynllunio lleol a chenedlaethol, ynghyd â dogfennau ymchwil a data oedd eisoes yn bodoli.

Prif ganfyddiadau

Arweinyddiaeth leol a chenedlaethol, a pholisi cenedlaetho

Mae fframwaith strategol olynol ‘Mwy na geiriau’ yn ystyried bod arweinyddiaeth ar lefel genedlaethol a lleol yn ofyniad allweddol o ran sicrhau bod y defnydd o'r Gymraeg yn cael ei gryfhau ar draws y sector. Roedd rhanddeiliaid o'r farn bod cefnogaeth i'r Gymraeg wedi cynyddu ymhlith llawer o'r uwch bersonél gweithredol ar draws y sector, ond nid ymysg pawb ohonynt. Fodd bynnag, ymddengys na fu'r gefnogaeth hon yn ddigonol i ysgogi'r newidiadau ar draws y sector sy'n ofynnol i gyflawni nodau ac amcanion ‘Mwy na geiriau’. Mae'r canfyddiadau hefyd yn awgrymu bod cefnogaeth gref o ran arweinyddiaeth a ddangoswyd gan weinidogion Llywodraeth Cymru pan lansiwyd y fframwaith gyntaf yn 2012 wedi dod yn llai amlwg yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Mae cyfeiriadau at y Gymraeg a ‘Mwy na geiriau’ wedi'u cynnwys mewn llawer o bolisïau cenedlaethol. Dengys y canfyddiadau fod y cyfeiriadau hyn mewn polisïau cenedlaethol yn cael eu hadlewyrchu mewn cyfeiriadau tebyg sydd wedi cael eu cynnwys mewn llawer o strategaethau a dogfennau cynllunio lleol, yn enwedig o fewn gofal cymdeithasol a gwasanaethau cymdeithasol a gefnogir gan awdurdodau lleol. Fodd bynnag, prin oedd yr enghreifftiau o sut y defnyddiwyd y cyfeiriadau mewn dogfennau cynllunio lleol i lywio ac arwain camau gweithredu yn ymarferol, yn enwedig yn y sector iechyd.

Mapio, archwilio, casglu data ac ymchwi

Awgryma'r dystiolaeth fod cynnydd wedi'i wneud o ran cofnodi sgiliau Cymraeg y gweithlu, yn enwedig ar draws byrddau iechyd drwy'r cofnod staff electronig. Fodd bynnag, erys bylchau yn y data, yn enwedig ym maes gofal sylfaenol. Ychydig iawn o enghreifftiau a nodwyd o sut y defnyddiwyd y data a gasglwyd i lywio cynlluniau datblygu'r gweithlu a chynlluniau cyflenwi gwasanaethau.

Mae enghreifftiau i'w cael o brosesau sydd wedi bod ar waith i gasglu data yn ymwneud â dewis iaith defnyddwyr gwasanaethau. Fodd bynnag, awgryma'r dystiolaeth fod y prosesau hyn wedi bod yn anghyson o fewn ac ar draws lleoliadau. Prin oedd yr enghreifftiau a nodwyd o sut mae'r data hyn wedi'u rhannu rhwng darparwyr gwasanaethau neu'n cael eu defnyddio i arwain y broses o gyflenwi gwasanaethau.

Mae'r canfyddiadau'n awgrymu y bu cefnogaeth i ddatblygu systemau gofal iechyd digidol penodol i Gymru. Fodd bynnag, nododd y rhanddeiliaid mai prin yw'r systemau gofal iechyd digidol sydd ar gael ar gyfer casglu a rhannu data yn Gymraeg a chael mynediad at y data hynny, a'r rhai sy'n gallu cofnodi a rhannu dewisiadau defnyddwyr gwasanaethau o ran y Gymraeg. Awgrymodd rhai rhanddeiliaid fod y Gymraeg wedi tueddu i gael ei hystyried yn 'atodiad' i'r systemau ar ôl iddynt gael eu datblygu yn hytrach na chael ei hystyried yn y cam dylunio.

Mae ymchwil sy'n nodi'r angen am ddarpariaeth Gymraeg a'r Cynnig Rhagweithiol ar gael, ac mae'r canfyddiadau'n dangos bod y gwaith ymchwil hwn wedi'i ddefnyddio'n effeithiol i ddylanwadu ar bolisi iaith Gymraeg ar draws y sector. Roedd rhanddeiliaid o'r farn, er mwyn i'r ymchwil hwn ddylanwadu ar newidiadau ymarferol mewn cyflenwi gwasanaethau, bod angen tystiolaeth ynghylch ymyriadau effeithiol o ran cyflenwi gwasanaethau ac enghreifftiau o arfer da i gyd-fynd â hynny. 

Cynllunio gwasanaethau, comisiynu, contractio a chynllunio'r gweithlu

Prin oedd yr enghreifftiau a nodwyd o gamau gweithredu yn ymwneud â'r Gymraeg a gynhwyswyd mewn cynlluniau cyflenwi gwasanaethau a datblygu'r gweithlu, neu strategaethau sgiliau dwyieithog, a oedd wedi cael eu rhoi ar waith yn ymarferol. Nodwyd pocedi o arfer da; fodd bynnag, nid oedd yr arferion hyn wedi'u gweithredu mewn modd cyson ar draws y sector. Roedd y rhanddeiliaid o'r farn bod y pocedi hyn o arfer da, mewn llawer o achosion, wedi'u hysgogi gan ymdrechion a brwdfrydedd swyddogion iaith Gymraeg unigol a / neu ymarferwyr eraill. Awgryma'r dystiolaeth hefyd y gallai fod gorddibyniaeth ar swyddogion a hyrwyddwyr y Gymraeg a disgwyliadau afrealistig ohonynt mewn perthynas â'r graddau y gallent ddylanwadu ar newidiadau ar draws y sector wrth gyflenwi gwasanaethau Cymraeg.

Awgrymodd y rhanddeiliaid fod y broses o roi camau gweithredu ar waith i gryfhau a chefnogi'r Gymraeg wedi'i chyfyngu mewn sawl achos gan ddiffyg dealltwriaeth o sut i roi'r nodau uchelgeisiol sydd wedi'u cynnwys mewn cynlluniau a strategaethau lleol ar waith. Ymhlith rhwystrau pellach a nodwyd mae amharodrwydd ymhlith rhai gweithwyr i ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg, yn aml oherwydd diffyg hyder yn eu sgiliau Cymraeg neu eu bod yn ofni cam-gyfleu gwybodaeth glinigol bwysig yn Gymraeg; amharodrwydd ymhlith rhai rheolwyr i gynnwys sgiliau Cymraeg fel gofyniad mewn swydd-ddisgrifiadau; diffyg data i gyfiawnhau dyrannu adnoddau; ac adnoddau ariannol cyfyngedig. Dengys y canfyddiadau, fodd bynnag, fod swyddogion a hyrwyddwyr y Gymraeg wedi ceisio mynd i'r afael â'r rhwystrau hyn drwy godi ymwybyddiaeth aelodau'r staff o bwysigrwydd darpariaeth Gymraeg a'r angen i gyflwyno'r Cynnig Rhagweithiol er mwyn eu hannog i ddefnyddio mwy ar eu sgiliau Cymraeg.

Hybu ac ymgysylltu

Un newid nodedig ers cyflwyno'r fframwaith olynol fu'r defnydd o linynnau gwddf 'Iaith Gwaith' ac arwyddion gweledol eraill gan ymarferwyr ar draws y sector i hysbysu eraill eu bod yn siaradwyr Cymraeg. Mae tystiolaeth gan randdeiliaid a defnyddwyr gwasanaethau yn awgrymu bod hyn wedi cynyddu gallu defnyddwyr gwasanaethau i adnabod staff sy'n gallu siarad Cymraeg a'u hyder i ymgysylltu â nhw yn Gymraeg. Fodd bynnag, nododd y rhanddeiliaid fod rhai ymarferwyr yn parhau i fod yn amharod i ddatgan eu bod yn siaradwyr Cymraeg, yn aml oherwydd y materion yn ymwneud â hyder ac ofn. Nododd rhai defnyddwyr gwasanaethau, fodd bynnag, y gallai ymarferwyr yn defnyddio dim ond rhywfaint o Gymraeg wneud gwahaniaeth mawr iddynt.

Roedd rhai rhanddeiliaid o'r farn y dylai enghreifftiau o arfer da mewn perthynas â chyflenwi gwasanaethau sy'n diwallu anghenion Cymraeg defnyddwyr gwasanaethau gael eu dathlu a'u cymeradwyo'n ehangach. Hefyd, gellid rhannu gwybodaeth sy'n ymwneud ag arferion da ymhellach ar draws y sector i annog eu dyblygu mewn mannau eraill.

Prin oedd yr enghreifftiau a nodwyd o weithgareddau wedi'u hanelu at fyfyrwyr ysgol a choleg i hyrwyddo manteision sgiliau Cymraeg ar gyfer gyrfaoedd yn y maes iechyd, gofal cymdeithasol a gwasanaethau cymdeithasol. Nododd y rhanddeiliaid y gellid gwneud mwy i godi ymwybyddiaeth pobl ifanc o'r cyfleoedd i ddefnyddio sgiliau Cymraeg mewn gyrfaoedd yn y sector hwn.

Addysg broffesiynol

Dengys y dystiolaeth y gwnaed cynnydd sylweddol o ran darparu cyrsiau Cymraeg newydd yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol, ac o ran y ffocws a roddir ar y Cynnig Rhagweithiol o fewn cyrsiau sy'n bodoli eisoes. Mae hyn wedi cynnwys cynnydd mawr ym muddsoddiad y Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn cyrsiau a modiwlau addysg uwch Cymraeg a dwyieithog yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol. Mae hefyd wedi cynnwys gofyniad o fewn contract newydd a gyhoeddwyd gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) i ddarparwyr addysg gynnig sesiynau blynyddol i godi ymwybyddiaeth myfyrwyr o bwysigrwydd y Gymraeg wrth ddarparu gwasanaethau gofal iechyd. Fodd bynnag, nododd rhai rhanddeiliaid nad yw'r cynnydd yn y ddarpariaeth o reidrwydd wedi dod law yn llaw â chynnydd sylweddol yn y galw am gyrsiau Cymraeg a'r nifer sy'n manteisio ar gyrsiau o'r fath.

Y Gymraeg yn y gweithle

Cyfeiriodd y rhanddeiliaid at amrywiol enghreifftiau o hyfforddiant Cymraeg a gynigiwyd i aelodau o'r gweithlu, ac y manteisiwyd arno. Mae'r rhan fwyaf o'r hyfforddiant wedi'i anelu at ddysgwyr newydd. Nodwyd llai o enghreifftiau o hyfforddiant wedi'i anelu at staff â sgiliau canolradd neu lefel uwch, er bod rhanddeiliaid wedi nodi mai'r unigolion hyn sydd fwyaf tebygol o ddefnyddio'r iaith os oes ganddynt yr hyder ac os cânt y cyfle i wneud hynny.  

Y dull cyffredinol fu annog pobl yn garedig i gymryd rhan. Roedd y rhanddeiliaid o'r farn bod hwn yn ddull priodol, o ystyried y pwysau gwaith ar y staff. Fodd bynnag, nid yw'r dull hwn yn adlewyrchu'r hyfforddiant wedi'i dargedu y mae'r fframwaith olynol yn awgrymu sy'n ofynnol er mwyn sicrhau cynnydd sylweddol yn sgiliau Cymraeg y gweithlu. Nodwyd rhai enghreifftiau o ddulliau hyfforddi wedi'u targedu, megis datblygu cynllun hyfforddi yn benodol ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a Gofal Cymdeithasol Cymru.

Nododd y canfyddiadau rai rhwystrau o ran cael mynediad at yr hyfforddiant sydd ar gael. Roedd y rhain yn cynnwys diffyg amser i fynychu hyfforddiant wyneb yn wyneb; ofn (yn enwedig ymhlith rhai gweithwyr gofal cymdeithasol) ynghylch y disgwyliadau academaidd; ac amharodrwydd rhai cyflogwyr i gynnig yr hyfforddiant hwn gan eu bod yn ei ystyried yn anodd cadw staff sydd â sgiliau Cymraeg.

Nododd y rhanddeiliaid nad yw cefnogi staff i wella eu sgiliau Cymraeg ynddo'i hun yn sicrhau cynnydd yn y defnydd o'r iaith yn y gweithle. Nid yw llawer o weithwyr sy'n gallu siarad Cymraeg yn defnyddio'r iaith yn y gweithle. Yn hytrach na chefnogaeth i ddatblygu eu sgiliau iaith ymhellach, mae angen anogaeth, cefnogaeth a'r cyfle ar y gweithwyr hyn i ddefnyddio'r sgiliau Cymraeg sydd ganddynt eisoes.

Awgryma'r dystiolaeth fod y cynnydd o ran gweithredu prosesau sydd wedi'u hanelu'n benodol at recriwtio mwy o staff â sgiliau Cymraeg i'r gweithlu wedi'i gyfyngu mewn sawl rhan o'r sector. Nododd rhanddeiliaid amharodrwydd cyffredinol i gynnwys y Gymraeg fel sgil ofynnol mewn swydd-ddisgrifiadau, yn enwedig ar gyfer swyddi gwag anodd eu llenwi. Awgryma'r canfyddiadau fod mwy o gynnydd wedi'i wneud o ran codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd gwasanaethau Gymraeg a'r Cynnig Rhagweithiol ymhlith recriwtiaid newydd yn ystod y broses sefydlu.

Rheoleiddio ac arolygu

Awgryma'r canfyddiadau y bu diffyg eglurder ynghylch rhannu cyfrifoldebau dros reoleiddio a dwyn y sector iechyd, gofal cymdeithasol a gwasanaethau cymdeithasol i gyfrif mewn perthynas â chynnydd yn erbyn nodau ‘Mwy na geiriau’. Adroddodd y rhanddeiliaid mai'r rhwymedigaeth statudol i fodloni Safonau'r Gymraeg a osodwyd gan Gomisiynydd Cymraeg yw'r brif ffactor sy’n dwyn sefydliadau i gyfrif mewn perthynas â darparu gwasanaethau yn y Gymraeg. Daeth y safonau i rym yn 2016 ar gyfer gofal cymdeithasol a gwasanaethau cymdeithasol ac yn 2019 ar gyfer sefydliadau'r GIG. Fodd bynnag, mae gwasanaethau gofal sylfaenol yn parhau i fod wedi'u heithrio o'r safonau, ac awgrymodd y rhanddeiliaid bod hyn wedi cyfyngu eu pwyslais ar ddarparu gwasanaethau Cymraeg.

Barn defnyddwyr gwasanaethau

Roedd tystiolaeth gan ddefnyddwyr gwasanaethau yn awgrymu bod argaeledd gwasanaethau Cymraeg a'r Cynnig Rhagweithiol wedi amrywio ar draws ardaloedd daearyddol yng Nghymru, yn bennaf yn unol ag amrywiadau yng nghyfran y boblogaeth leol sy'n siarad Cymraeg. Fodd bynnag, nododd defnyddwyr gwasanaethau nad oedd gwasanaethau Cymraeg, yn enwedig gwasanaethau gofal iechyd arbenigol mewn ysbytai, yn aml ar gael o gwbl hyd yn oed mewn ardaloedd lle y siaredir Cymraeg yn bennaf.

Dywedodd llawer o ddefnyddwyr gwasanaethau eu bod yn amharod i ofyn am wasanaeth Cymraeg pan nad yw'n cael ei gynnig, yn enwedig mewn ysbytai. Nododd rhai defnyddwyr gwasanaethau, gan gynnwys y rhai a oedd yn siarad Cymraeg a Saesneg yn rhugl, fod derbyn gwasanaethau yn Gymraeg yn cael effaith gadarnhaol ar eu profiad cyffredinol ac mewn llawer o achosion ar eu canlyniadau iechyd a llesiant.

Awgryma tystiolaeth gan ddefnyddwyr gwasanaethau fod y graddau y mae gwybodaeth ddwyieithog ar gael wedi bod yn wahanol ar draws gwasanaethau. Nododd rhai defnyddwyr gwasanaethau fod fersiynau Cymraeg o wybodaeth wedi'i hargraffu neu wybodaeth ar-lein yn aml yn cynnwys termau nad ydynt yn gyfarwydd â nhw, neu nad ydynt yn defnyddio Cymraeg clir. Mae hyn, yn eu barn nhw, yn gwneud y wybodaeth yn anodd ei deall.

Dylanwad COVID-19

Efallai y bydd COVID-19 yn cael dylanwad hirdymor - parhaol o bosibl - ar y ffordd y mae'r sector yn gweithredu, gan arwain at oblygiadau i wasanaethau Cymraeg. Mae wedi cadarnhau pwysigrwydd gwasanaethau Cymraeg, yn enwedig i unigolion sy'n agored i niwed. Roedd cyfyngiadau COVID-19 yn atal perthnasau neu ffrindiau rhag mynd gyda'r unigolion hyn i leoliadau iechyd neu ofal cymdeithasol neu ymweld â nhw, ac felly eu gallu i gefnogi'r cyfathrebu neu gynnig geiriau o gysur ac anogaeth yn y Gymraeg.

Dywedodd y rhanddeiliaid fod COVID-19 hefyd wedi creu rhai cyfleoedd, gan gynnwys mwy o ddefnydd o dechnoleg ar-lein i wella mynediad at wybodaeth, gan gynnwys hyfforddiant Cymraeg ar-lein i rai gweithwyr ar draws y sector. Mae hefyd wedi creu cyfleoedd i rai ymarferwyr sy'n siarad Cymraeg i ddarparu gwasanaethau ar-lein a thrwy hynny gyrraedd mwy o ddefnyddwyr gwasanaethau sy'n medru'r Gymraeg ar draws ardal ddaearyddol ehangach.

Casgliadau ac argymhellion

Mae canfyddiadau'r gwerthusiad yn dangos bod peth cynnydd wedi'i wneud mewn perthynas â phob un o saith amcan ‘Mwy na geiriau’ sydd wedi'u cynnwys yn y fframwaith olynol, er na ellir ystyried bod yr un ohonynt wedi'i gyflawni'n llawn eto. At ei gilydd, awgryma'r canfyddiadau fod mwy o gynnydd wedi'i wneud o bosibl gyda nodau strategol ‘Mwy na geiriau’ yn y maes gofal cymdeithasol nag yn y maes iechyd.

Meysydd o gynnydd

Mae ‘Mwy na geiriau’ wedi gosod cyfeiriad strategol clir ac wedi codi ymwybyddiaeth o'r angen am gynnydd parhaus yn narpariaeth gwasanaethau Cymraeg. Drwy roi egwyddor y Cynnig Rhagweithiol wrth wraidd ei nodau strategol, mae ‘Mwy na geiriau’ wedi cyfleu pwysigrwydd darparu gwasanaeth Cymraeg nid yn unig fel hawl neu ddewis, ond hefyd fel angen hanfodol i lawer o ddefnyddwyr gwasanaethau sy'n siarad Cymraeg.

O ran amcanion penodol, awgryma'r dystiolaeth fod meysydd o gynnydd allweddol yn cynnwys cynnydd yn y defnydd o arwyddion gweledol i alluogi pobl i adnabod staff sy'n gallu siarad Cymraeg; y buddsoddiad mewn cyrsiau iechyd a gofal cymdeithasol Cymraeg mewn addysg uwch; a chynnydd yn y ffocws a roddir ar bwysigrwydd darpariaeth Gymraeg a'r Cynnig Rhagweithiol, o fewn addysg uwch ac o fewn rhaglenni sefydlu i aelodau newydd o staff. 

Bylchau o ran cyflawni

Erys bylchau yn y cynnydd a wnaed mewn perthynas â phob un o saith amcan ‘Mwy na geiriau’. Yn benodol, dengys y dystiolaeth fod ‘Mwy na geiriau’ wedi ennill calonnau a meddyliau llawer o lunwyr polisïau ac ymarferwyr rheng flaen ar lefel strategol, ond nid yn gymaint ar y lefel cynllunio gweithredol. Mae anghysondeb yn amlwg mewn sawl maes o'r sector rhwng deall pwysigrwydd darpariaeth Gymraeg a deall sut i gyflawni hynny'n effeithiol yn ymarferol. O ganlyniad, mae gwasanaethau Cymraeg mewn llawer o leoliadau wedi bod yn fwy cyfyngedig nag y dylent fod, ac mae'r sgiliau Cymraeg sydd ar gael wedi parhau i gael eu tanddefnyddio. Hyd yma, nid yw'r hyfforddiant wedi'i dargedu'n strategol tuag at feysydd penodol o'r gweithlu lle mae'r angen mwyaf am sgiliau Cymraeg wedi'i nodi. Hefyd mae diffyg data cyson yn ymwneud â sgiliau Cymraeg y gweithlu yn ogystal ag anghenion Cymraeg defnyddwyr gwasanaethau unigol, ynghyd â diffyg systemau a phrosesau i gasglu a rhannu'r data hyn, wedi bod yn rhwystrau pellach i gyflawni amcanion y fframwaith yn llawn. 

Ymddengys fod deall rôl ‘Mwy na geiriau’ a'r angen am y strategaeth wedi dod yn llai eglur ymhlith rhai rhanddeiliaid yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig ar ôl cyflwyno Safonau'r Gymraeg. Dengys y canfyddiadau fod angen parhaus am ‘Mwy na geiriau’. Fodd bynnag, efallai y bydd angen i'w rôl newid o fod yn fframwaith strategol y gall y sector ei ddefnyddio er mwyn cynllunio darpariaeth, i fod yn alluogwr sy'n cefnogi ac yn arwain y sector i roi arferion ar waith sy'n cefnogi'r gwaith o gyflenwi gwasanaethau Cymraeg a'r Cynnig Rhagweithiol. Mae angen sicrhau bod y sector yn deall sut y gall ategu'r safonau yn hytrach na'u dyblygu.

Argymhellion

  • Gan fod ‘Mwy na geiriau’ bellach yn frand cydnabyddedig a chryf, mae angen i Lywodraeth Cymru barhau i'w ddefnyddio ynghyd â'r egwyddorion sylfaenol y mae'n eu cynrychioli, i gefnogi ac arwain y ffordd o ran cryfhau'r defnydd o'r Gymraeg yn y sector iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol.
  • Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod ‘Mwy na geiriau’ yn esblygu o fod yn fframwaith strategol ar gyfer darpariaeth Gymraeg i fod yn fframwaith gweithredu tair i bum mlynedd sy'n cynnig arweiniad ymarferol i gefnogi'r sector i gynyddu ei ddefnydd o'r Gymraeg a symud ymlaen ymhellach tuag at gyflawni'r Cynnig Rhagweithiol.
  • O fewn ei rôl yn cynnig arweiniad ymarferol, dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod ‘Mwy na geiriau’ yn ymgymryd â rôl galluogwr, gan gefnogi'r sector i roi arferion ar waith sy'n cadw at Safonau'r Gymraeg. 
  • Dylai darparwyr gwasanaethau ar draws y sector barhau i gofnodi enghreifftiau o arferion sy'n ymwneud â'r ffordd y maent yn defnyddio'r Gymraeg ar draws y sector. Dylai Llywodraeth Cymru ystyried sefydlu porth ar-lein canolog i hwyluso'r broses o gasglu'r enghreifftiau hyn a'u gwneud yn hygyrch ar draws y sector cyfan. Dylai enghreifftiau o weithredu'n llwyddiannus bolisïau ac arferion sy'n cefnogi'r Gymraeg a'r Cynnig Rhagweithiol, y mae Llywodraeth Cymru hefyd yn eu hystyried yn arfer da, gael eu cydnabod a'u dathlu ymhellach o dan y brand ‘Mwy na geiriau’.
  • Gan ddefnyddio egwyddorion ‘Mwy na geiriau’, dylai Llywodraeth Cymru barhau â'r ymdrechion i ennill calonnau a meddyliau drwy ganolbwyntio ar y Cynnig Rhagweithiol a defnyddio enghreifftiau sy'n canolbwyntio ar ddefnyddwyr gwasanaethau i ddangos yr angen am ddarpariaeth Gymraeg. Bydd hyn yn ffactor allweddol o ran cefnogi'r newid mewn diwylliant sy'n ofynnol i annog cynnydd parhaus mewn darpariaeth Gymraeg. 
  • Dylai byrddau iechyd unigol a chyrff cynrychioliadol eraill y sector benodi aelod o'u huwch dîm / tîm gweithredol fel hyrwyddwr ‘Mwy na geiriau’. Byddai'r hyrwyddwyr hyn yn gyfrifol am annog a chefnogi gweithredu arferion sy'n cefnogi'r Gymraeg a chyflwyno'r Cynnig Rhagweithiol yn eu lleoliadau.
  • Dylai Llywodraeth Cymru, o dan y brand ‘Mwy na geiriau’, roi pwyslais penodol ar alluogi arferion sy'n cefnogi'r Gymraeg i gael eu gweithredu mewn gofal sylfaenol, yn ogystal ag unrhyw feysydd eraill o'r sector lle nad yw Safonau'r Gymraeg yn berthnasol ar hyn o bryd.
  • Er bod Safonau'r Gymraeg yn ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau gadw cofnod o sgiliau Cymraeg eu staff, dylai ‘Mwy na geiriau’ roi pwyslais ar ei rôl yn arwain y sector i gasglu data cyson yn ymwneud ag anghenion Cymraeg defnyddwyr gwasanaethau a defnyddio'r data hyn i fynd i'r afael â phrinder sgiliau Cymraeg.  Gallai'r sector hefyd elwa o gymorth pellach yn ymwneud â sut y gellid defnyddio data a gesglir am gleifion a'r gweithlu i gynllunio'r gwaith o ddatblygu'r gweithlu a chyflenwi gwasanaethau - a chanllawiau er mwyn rhoi'r cynlluniau hyn ar waith. 
  • Mae angen i uwch gynrychiolwyr ar draws y sector fabwysiadu dull mwy strategol wedi'i dargedu tuag at ddysgu Cymraeg er mwyn sicrhau cynnydd sylweddol yng nghymhwysedd y gweithlu yn y Gymraeg, gan ganolbwyntio ar annog defnyddio'r Gymraeg yn y gweithle, yn enwedig ymysg y rhai sy'n gallu siarad Cymraeg ond nad oes ganddynt yr hyder i wneud hynny.
  • Mae angen i Iechyd a Gofal Digidol Cymru gefnogi'r gwaith o ddatblygu systemau TG sy'n ymgorffori dwyieithrwydd yn y cam dylunio a datblygu, yn enwedig systemau sy'n cofnodi gwybodaeth am ddewis iaith a sgiliau'r gweithlu.
  • Mae angen i swyddogion y Gymraeg, hyrwyddwyr y Gymraeg a chynrychiolwyr eraill ar draws y sector hybu ymhellach gyfleoedd gyrfa ym maes iechyd a gofal cymdeithasol sy'n gofyn am sgiliau Cymraeg neu lle y byddai sgiliau o'r fath yn fantais. Gellid cyflawni hyn drwy hwyluso cysylltiadau agosach â phartneriaid eraill gan gynnwys Gyrfa Cymru i drefnu ymweliadau ag ysgolion a cholegau lle y gallai cyn-fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith sydd bellach yn gweithio yn y sector amlinellu i fyfyrwyr beth yw manteision sgiliau Cymraeg i'w gyrfa.
  • Dylai Llywodraeth Cymru adolygu rôl a phwrpas Bwrdd Partneriaeth ‘Mwy na geiriau’ yng nghyd-destun yr angen i gyflawni swyddogaeth graffu a chefnogi mewn perthynas â gweithredu polisïau'r Gymraeg ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Fel rhan o'r adolygiad hwn dylai Llywodraeth Cymru ystyried rhoi cyfrifoldeb i'r Bwrdd Partneriaeth i barhau i gadw llygad manwl ar ddatblygiadau newydd mewn perthynas â'r ffordd y mae gwasanaethau'n cael eu darparu ar draws y sector. Byddai hyn yn cynnwys cynnig cefnogaeth ac arweiniad, lle bo angen, i sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei hystyried yn llawn mewn unrhyw newidiadau cyffredinol o ran cyflenwi gwasanaethau sy'n digwydd ar draws y sector.
  • Dylai Llywodraeth Cymru ystyried ail-lansio ‘Mwy na geiriau’ i gyd-daro â dechrau tymor gweinyddu'r llywodraeth newydd. Gallai hyn gynnwys annog gweinidogion Llywodraeth Cymru i ddangos cefnogaeth gyhoeddus i ‘Mwy na geiriau’ a chyfathrebu sut mae'n ategu Safonau'r Gymraeg. Byddai hyn yn rhoi cyfle i godi proffil ‘Mwy na geiriau’ o fewn y sector a chyfleu bwriad a phwrpas y fframwaith ar gyfer y dyfodol, gan ystyried y cyd-destun strategol a'r cyd-destun polisi newydd y bydd yn gweithredu ynddo. 
  • Daw canfyddiadau'r gwerthusiad hwn i'r casgliad, er bod cynnydd wedi'i wneud mewn perthynas â saith amcan ‘Mwy na geiriau’, ni ellir ystyried bod yr un ohonynt wedi'i gyflawni'n llawn eto. O'r herwydd, dylai Llywodraeth Cymru ystyried comisiynu gwerthusiad arall i adolygu'r cynnydd a wneir yn ystod y tair neu bedair blynedd nesaf. Dylai unrhyw werthusiad yn y dyfodol hefyd ganolbwyntio ar effaith barhaus / tymor hwy COVID-19 ar yr angen am wasanaethau Cymraeg a gallu'r sector i ddarparu gwasanaethau Cymraeg.
  • Er mwyn cynorthwyo gyda gwerthusiadau yn y dyfodol, dylai Llywodraeth Cymru annog y sector i gasglu a rhannu gwybodaeth arferol a fyddai'n helpu i asesu cynnydd yn y dyfodol a mynd i'r afael â rhai o'r bylchau yn y data a ganfuwyd yn y gwerthusiad hwn. Gallai hyn gynnwys data ar sgiliau Cymraeg y gweithlu, anghenion Cymraeg defnyddwyr gwasanaethau a manylion gwasanaethau Cymraeg sydd ar gael ar draws lleoliadau, yn enwedig gwasanaethau sydd wedi'u hanelu at grwpiau blaenoriaeth. 

Manylion cyswllt

Awduron yr Adroddiad: Stuart Harries a Nia Bryer

Mae’r safbwyntiau a fynegwyd yn yr adroddiad hwn yn perthyn i’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd Llywodraeth Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
Eleri Jones
Rhif ffôn: 0300 025 0536
E-bost: ymchwil.iechydagwasanaethaucymdeithasol@llyw.cymru

Rhif ymchwil gymdeithasol:  55/2021
ISBN digidol: 978-1-80195-839-4

Image
GSR logo