Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r adroddiadau yn nodi’r canfyddiadau sy’n dod i’r amlwg a themâu allweddol o’r Rhaglen Beilot hyd at fis Mai 2020 ac yn rhoi’r diweddaraf ar gynnydd gyda dealltwriaeth gynnar o effaith COVID-19.

Adroddiad interim

Canfu'r adroddiad gwerthuso cychwynnol hwn dystiolaeth gynnar fod y rhaglen beilot yn effeithiol a bod ganddi ddamcaniaeth gadarn o newid. 

Mae recriwtio gweithwyr medrus iawn wedi bod yn hanfodol i lwyddiant hyd yn hyn. Mae cynnal ansawdd y gwaith yn debygol o fod yn her; wrth i fwy o ysgolion gymryd rhan, gyda'r un nifer o weithwyr medrus, mae'n debygol y bydd yr effaith yn wannach

Mae'n argymell:

  • gohirio penderfyniadau am ddyfodol y peilot hyd nes y cesglir tystiolaeth bellach
  • teilwra'r cynnig dysgu proffesiynol
  • newidiadau i werthuso dysgu proffesiynol
  • ystyried ymestyn y peilot i weithio gyda disgyblion iau

Papur atodol

Cafodd y gwaith maes ar gyfer yr adroddiad hwn ei wneud yn union cyn ac yn ystod y cyfnod pan oedd cyfyngiadau oherwydd COVID-19 yng ngwanwyn 2020.

Y prif ganfyddiadau oedd:

  • yn gyffredinol, mae’r peilot yn gweithio’n dda
  • mae’r ysgolion yn y rhaglen beilot mewn sefyllfa fwy parod i ddychwelyd i’r ysgol ar ôl y cyfyngiadau
  • roedd y staff o’r farn bod yr hyfforddiant a’r cymorth ar gyfer iechyd meddwl a llesiant y disgyblion yn well na’r hyn oedd ar gael i staff
  • mae angen dadansoddi sut mae’r rhaglen yn cydweddu â mentrau eraill mewn iechyd ac addysg
  • bydd angen newid dull cyflawni’r rhaglen yn sgil COVID-19
  • mae pryderon dwys am effaith y cyfyngiadau ar iechyd meddwl a llesiant disgyblion a staff ysgolion

Adroddiadau

Gwerthusiad o raglen beilot CAMHS Mewngymorth i Ysgolion: adroddiad interim , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Gwerthusiad o'r rhaglen beilot CAMHS Mewngymorth i Ysgolion: cynnydd y rhaglen beilot ac effaith COVID-19, papur atodol i'r adroddiad interim , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Helen Shankster

Rhif ffôn: 0300 025 9247

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.