Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Wedi’i gyflwyno yn 2019 ac yn cael ei gyflawni gan Gyrfa Cymru, mae Cymru'n Gweithio yn wasanaeth a ariennir gan Lywodraeth Cymru a luniwyd i ddarparu cymorth cyflogadwyedd symlach ac effeithlon sy'n ymateb i anghenion unigolyn.

Caiff y gwerthusiad ei gynnal gan Wavehill, cwmni ymchwil cymdeithasol ac economaidd, ac mae’n canolbwyntio ar ddyluniad, cyflawniad, perfformiad ac effaith gwasanaeth Cymru'n Gweithio.

Dyma'r cyntaf o gyfres o bapurau cryno a fydd yn cael eu cynhyrchu fel rhan o'r gwerthusiad ac mae’n dilyn yr adroddiad gwerthuso cyntaf a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2022. Mae'n nodi canfyddiadau allweddol ymgynghoriadau a gynhaliwyd yn rhan olaf 2021:

  • Arolwg ar-lein o gwsmeriaid/cyfranogwyr Cymru'n Gweithio (n=344).
  • Cyfweliadau ffôn manwl â chwsmeriaid/cyfranogwyr Cymru'n Gweithio (n=44).
  • Cyfweliadau â staff rheoli Cymru'n Gweithio (n=20).
  • Cyfweliadau â sefydliadau allanol/partner sy'n cyfeirio cwsmeriaid at wasanaeth Cymru'n Gweithio ac y mae Cymru'n Gweithio yn cyfeirio cwsmeriaid atynt (n=18). 

Y sampl o gyfranogwyr Cymru'n Gweithio

Roedd yr ymgynghoriad â chyfranogwyr Cymru'n Gweithio yn cynnwys arolwg ar-lein o bawb a gefnogir gan y gwasanaeth a chyfweliadau mwy manwl â grŵp llai o gyfranogwyr.

Roedd nifer yr ymatebion i'r arolwg ar-lein yn llai na'r hyn oedd wedi'i obeithio. Roedd hefyd yn heriol ymgysylltu â chyfranogwyr er mwyn cynnal y cyfweliadau manwl. Mae'n bwysig cofio hyn wrth ystyried canfyddiadau'r arolwg.

Un rheswm tebygol am hyn yw y gall y cymorth y mae Cymru'n Gweithio yn ei ddarparu fod yn gymharol fychan neu'n gymorth 'cyffyrddiad ysgafn'. Dyma natur gwasanaeth Cymru'n Gweithio sy'n ymateb i anghenion yr unigolyn. Efallai fod diffyg awydd yn gyffredinol i gymryd rhan yn yr ymchwil hefyd, heb fod cymhelliad wedi’i ddarparu. Mae'n bosibl hefyd nad yw cyfran o'r cyfeiriadau e-bost a ddarparwyd yn cael eu defnyddio na'u monitro gan yr unigolion dan sylw am eu bod wedi'u darparu'n wreiddiol pan oedd yr unigolyn dan sylw, er enghraifft, yn y coleg.

Mae angen ystyried y materion hyn wrth i'r gwerthusiad fynd rhagddo. Serch hynny, mae'r data sydd wedi ei gasglu yn dal i roi cipolwg pwysig ar brofiad cwsmeriaid gwasanaeth Cymru'n Gweithio a'r effaith y gall ei chreu.

Canfyddiadau: rheolaeth a darpariaeth y gwasanaeth

Perthynas â’r Ganolfan Byd Gwaith

Mae'r berthynas rhwng Cymru'n Gweithio a’r Ganolfan Byd Gwaith yn hanfodol. Dywedodd y rhan fwyaf o'r cyfranogwyr eu bod wedi clywed am y gwasanaeth drwy’r Ganolfan Byd Gwaith. Caiff eu nodi drwy’r arolwg hefyd mai hwy yw prif ffynhonnell yr atgyfeiriadau at Cymru'n Gweithio.

Marchnata a hyrwyddo

Mae gweithgareddau marchnata yn bwysig o ran ymgysylltu ag ystod eang o fuddiolwyr posibl a chafwyd sylwadau cadarnhaol am y gweithgareddau hynny gan randdeiliaid. Er bod rhaid ystyried cyfyngiadau'r sampl fan yma, roedd cyfran ymatebwyr yr arolwg a ddwedodd eu bod wedi clywed am wasanaeth Cymru'n Gweithio drwy lwybr marchnata neu hyrwyddo yn gymharol isel ac roedd y Ganolfan Byd Gwaith yn bwynt amlycach o wybodaeth am y gwasanaeth.

Mae angen nodi sylwadau gan randdeiliaid am bwysigrwydd hyrwyddo'r gwasanaeth yn lleol, sy'n ystyried nodweddion a blaenoriaethau lleol gwahanol. Gallai dull o'r fath flaenoriaethu materion a nodwyd, er enghraifft, yn adroddiadau rhanbarthol y farchnad lafur a chynlluniau gweithredu cyflogaeth a ddatblygir gan Bartneriaethau Sgiliau Rhanbarthol (sy'n cael eu datblygu ar hyn o bryd).

Mynediad i'r gwasanaeth

Ni wnaeth yr ymgynghoriadau nodi unrhyw bryderon am fynediad i'r gwasanaeth, er i dîm Cymru’n Gweithio gyfeirio at faterion a achoswyd gan bandemig COVID-19. Pwysleisiwyd gwerth rhyngweithio wyneb yn wyneb rhwng cynghorwyr a chyfranogwyr, nad oedd yn bosibl pan oedd cyfyngiadau ar waith o ganlyniad i COVID-19.

Pwysleisiwyd hefyd bwysigrwydd y gweithgareddau allgymorth a gynhaliwyd ar lefel leol, mewn cymunedau, gan gynnwys presenoldeb staff mewn ffeiriau swyddi, nad oedd chwaith yn bosibl yn ystod cyfyngiadau oherwydd y pandemig.

Unwaith eto, amlygwyd gwerth 'dull gweithredu lleol' hefyd. Cydnabuwyd bod hyn, yn anochel, yn arwain at ddull anghyson o weithredu ledled Cymru, ond cydnabuwyd hefyd bod angen dull gwahanol o weithredu mewn ardaloedd gwledig a threfol.

Un o ganfyddiadau allweddol y cyfweliadau manwl â'r cyfranogwyr oedd nad oedd yn ymddangos bod gan lawer ohonynt ddealltwriaeth gynhwysfawr o'r cymorth y gallai Cymru'n Gweithio ei gynnig cyn eu hymgysylltiad. Mae hyn yn gysylltiedig â'r pwyntiau am farchnata a hyrwyddo'r gwasanaeth a drafodwyd yn gynharach. Mae'n bosibl bod hyn hefyd yn gysylltiedig ag eangder y cymorth y gellir ei ddarparu a'r ffaith mai'r cyswllt cychwynnol yw trafod anghenion yr unigolyn a'r cymorth y gellir ei ddarparu.

Asesu anghenion yr unigolyn

Nododd rhanddeiliaid mewnol ac allanol fod y gallu i asesu anghenion y cyfranogwyr yn effeithiol yn hanfodol, ac mai dyma yw cryfder gwasanaeth Cymru'n Gweithio. Yn wir, nodwyd bod annibyniaeth y cyngor a'r arweiniad a ddarperir gan y cynghorwyr (sydd wedi’i sicrhau gan lefel y cymhwyster sydd gan bob cynghorydd) yn ‘bwynt gwerthu unigryw’ allweddol ac yn elfen hanfodol o'r gwasanaeth.

Roedd tîm Cymru’n Gweithio yn gyffredinol o’r farn bod gwerth cael swyddogion/timau penodol yn canolbwyntio ar sicrhau bod y gwasanaeth yn gyfredol â'r wybodaeth ddiweddaraf am y farchnad lafur ac ymgysylltu'n effeithiol â chyflogwyr, yn hanfodol i'r gwasanaeth. Roedd yna gefnogaeth gyffredinol i gynllun peilot Gwasanaeth Paru â Swyddi er bod angen ystyried y 'gost cyfle'. 

Cyfeiriadau at y gwasanaeth ac oddi wrth y gwasanaeth

Dim ond cyfran gymharol fach (25 y cant) o ymatebwyr yr arolwg ar-lein ac ychydig llai na hanner y rhai a gafodd gyfweliad manwl a ddywedodd eu bod wedi cael eu cyfeirio at wasanaeth arall neu gymorth pellach gan raglen Cymru’n Gweithio, neu eu bod wedi cael gwybodaeth am hynny. Mae ein sampl ar gyfer archwilio'r elfen hon o wasanaeth Cymru'n Gweithio, felly, yn fach iawn ac mae hwn yn faes lle y bydd angen gweithgareddau gwerthuso â mwy o ffocws yn y dyfodol. Roedd yr adborth gan y grŵp bach hwnnw fodd bynnag yn gadarnhaol. Yn benodol, roedd y rhan fwyaf (10/14) o'r rhai a gafodd gyfweliad manwl yn dweud na fyddent / mwy na thebyg na fyddent wedi derbyn y gwasanaeth heb iddynt gael eu hatgyfeirio / y wybodaeth gan raglen Cymru'n Gweithio.

Ar y cyfan roedd tîm Cymru'n Gweithio yn gadarnhaol iawn am y broses atgyfeirio, a nodwyd bod datblygu ffurflen gyfeirio safonol yn ddatblygiad pwysig. Pryder y cyfeiriwyd ato oedd canfyddiad bod rhai darparwyr yn ystyried bod Cymru'n Gweithio yn cystadlu â hwy.

Roedd pryder hefyd ynghylch y ffaith bod yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cyflwyno cymorth newydd mewn ymateb i bandemig COVID-19, ac ystyriwyd bod hynny wedi arwain at gynnydd mewn 'atgyfeiriadau mewnol' o fewn yr Adran Gwaith a Phensiynau ar draul atgyfeiriadau at raglen Cymru'n Gweithio.

Cydnabuwyd hefyd bryderon rhai sefydliadau partner am nifer yr atgyfeiriadau a wneir gan raglen Cymru'n Gweithio. Fodd bynnag, pwysleisiwyd y ffaith bod atgyfeiriadau’n cael eu pennu gan anghenion y cyfranogwyr dan sylw, yn ogystal â phwysigrwydd natur annibynnol y cyngor sy'n cael ei ddarparu a/neu’r atgyfeiriad a wneir.

Roedd y trafodaethau â rhanddeiliaid allanol am y broses atgyfeirio yn unfrydol gadarnhaol. Roedd hyn yn cynnwys i ba raddau roedd y cyfranogwyr a atgyfeiriwyd yn 'paru' â'r cymorth y gallent ei ddarparu. Er bod effaith pandemig COVID-19 yn cael ei gydnabod, roedd y pryderon am niferoedd yr atgyfeiriadau a nodwyd gan dîm Cymru'n Gweithio hefyd yn cael eu mynegi gan rai o'r cyfweleion allanol.

Canfyddiadau: canlyniadau i gyfranogwyr

Ar y cyfan, roedd rhanddeiliaid o fewn a thu allan i raglen Cymru’n Gweithio yn gadarnhaol am yr effaith yr oedd y cymorth yn ei chael ar gyfranogwyr, a chafwyd sylwadau'n benodol am effaith y cymorth ar hyder unigolion a 'chanlyniadau meddal' eraill a adleisiwyd gan gyfranogwyr a fu’n rhan o’r gwaith ymchwil.

Gan gofio cyfyngiadau'r sampl, roedd y wybodaeth a ddarparwyd gan gyfranogwyr drwy'r arolwg ar-lein a chyfweliadau manwl ar y cyfan yn gadarnhaol ynghylch canlyniadau'r cymorth.  Cytunodd y rhan fwyaf a ymatebodd i'r arolwg ar-lein fod Cymru'n Gweithio wedi eu helpu:

  • i fod yn fwy hyderus wrth fynd ati i chwilio am swyddi a/neu weithio
  • i gael mwy o ysgogiad i ystyried cyfleoedd gwaith a hyfforddiant
  • i fod yn fwy gwybodus ac ymwybodol o'r hyfforddiant a'r swyddi sydd ar gael iddynt.

Roedd sylwadau a wnaed gan y rhai a gafodd gyfweliad manwl yn gyson â hyn, ac roedd yr effaith ar hyder a lles cyfranogwyr yn arbennig o amlwg o'r trafodaethau hynny. Yn wir, roedd y rhan fwyaf a gafodd gyfweliadau manwl yn gadarnhaol iawn am y manteision roedden nhw wedi’u derbyn o ymwneud â rhaglen Cymru'n Gweithio.

Mae hyn yn awgrymu y gall Cymru'n Gweithio gael effaith gadarnhaol o ran yr hyn y gellid ei ddisgrifio fel 'canlyniadau meddal'. Mae hyn hefyd yn cyd-fynd â'r canlyniadau a ddisgrifiwyd gan randdeiliaid wrth drafod eu canfyddiadau o effaith y gwasanaeth.

Mae’n ddiddorol cymharu sefyllfa'r cyfweleion ar-lein cyn ac ar ôl iddynt ymwneud â rhaglen Cymru'n Gweithio. Gwnaeth cyfran yr ymatebwyr a oedd yn dweud eu bod yn gyflogedig gynyddu dros 30 y cant, a gwnaeth cyfran y rhai a oedd yn dweud eu bod yn ddi-waith ostwng dros 35 y cant.  Mae'r ffigyrau yma'n gadarnhaol er bod angen pwysleisio maint bach y sampl unwaith eto. Mae hefyd angen ystyried yr amodau economaidd cyfredol (lefelau diweithdra yn gostwng).

Nid yw'n glir i ba raddau y gellir priodoli'r newidiadau hyn i wasanaeth Cymru'n Gweithio. Yn wir, mae’r arolwg hefyd yn canfod nad oedd y rhan fwyaf (61 y cant) o'r rhai a nododd newid yn eu sefyllfa gyflogaeth yn priodoli'r newid i'r cymorth a gawsant gan wasanaeth Cymru'n Gweithio. Fel y nodwyd yn gynharach, gall yr amodau economaidd sy'n bodoli ddylanwadu ar hyn, yn ogystal â natur 'cyffyrddiad ysgafn' y cymorth a nodwyd yn gyffredinol gan ymatebwyr yr arolwg. Fodd bynnag, mae'r canfyddiad yn gyson â barn rhai rhanddeiliaid a oedd yn cwestiynu a ellid priodoli canlyniadau cyflogaeth yn llwyr i’r cymorth a ddarperir gan Cymru'n Gweithio. Yr hyn sy'n allweddol i hyn efallai yw y dylai gwasanaeth Cymru'n Gweithio gael ei weld fel cam mewn proses yn hytrach na'r mecanwaith cymorth ei hun - mae'n helpu cyfranogwyr i symud yn agosach at gyflogaeth hyd yn oed os nad dyna'r cam olaf yn y broses honno bob amser.

Argymhellion

Wrth i'r gwerthusiad fynd rhagddo, dylid ystyried ffyrdd gwahanol o ymgynghori â chyfranogwyr Cymru'n Gweithio. Gallai hyn gynnwys bod â mwy o ffocws wrth symud ymlaen, gan dargedu grwpiau penodol o gyfranogwyr/cwsmeriaid i drafod materion penodol er mwyn gwella'r ymgysylltiad â nhw a chadernid y data sy’n cael ei gasglu.

Dylid ystyried manteision ac anfanteision posibl ymgymryd â marchnata a hyrwyddo gwasanaeth Cymru’n Gweithio yn fwy lleol neu ranbarthol. Dylai hyn gynnwys ystyried 'cost cyfle' gweithgareddau marchnata a hyrwyddo cenedlaethol, o gymharu â dull mwy lleol wedi'i dargedu a allai gael ei arwain gan dîm lleol Cymru'n Gweithio.

Bydd y gwerthusiad yn archwilio'r materion hyn ymhellach wrth iddo fynd rhagddo. Fodd bynnag, y canfyddiad sy'n dod i'r amlwg, gan nodi maint bach y sampl, yw bod Cymru'n Gweithio yn cael effaith gadarnhaol bwysig ar y cyfranogwyr, ond nad yw'r cyfranogwyr, ar y cyfan, yn ystyried bod yr effaith yn uniongyrchol gyfrifol am eu canlyniad cyflogaeth.

Manylion cyswllt

Awduron yr adroddiad: Endaf Griffiths, Dr Nicola Vousden, Sam Grunhut (oll yn Wavehill) a Calvin Lees (Sefydliad Dysgu a Gwaith)

Mae’r safbwyntiau a fynegwyd yn yr adroddiad hwn yn perthyn i’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd Llywodraeth Cymru.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Sean Homer
Ebost: cyflogadwyedd.sgiliau.ymchwil@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 15/2023
ISBN digidol 978-1-80535-072-9

Image
GSR logo