Neidio i'r prif gynnwy

Gwerthusiad terfynol o Wasanaethau Cymorth Busnes yng Nghymru (BSSW). Gan y Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru; gyflwynir trwy Raglenni Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd (ERDF) 2014 i 2020 yn Dwyrain Cymru (EW) a Gorllewin Cymru a Cymoedd (WWV).

Gwerthusiad o dair rhaglen cymorth busnes: Entrepreneuriaeth Busnes Cymru, Manteisio ar Fand Eang Cyflym Iawn (SFBE) a Busnesau Bach a Chanolig (SME) a ariennir drwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) ac a gyflwynir trwy Raglenni Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd 2014 i 2020.

Mae'r gweithrediadau yn cael eu hariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a'u nod yw darparu cymorth busnes i fusnesau yng Nghymru.

Prif gasgliadau

  • Mae brand Busnes Cymru (BW) yn cael ei gydnabod a'i ymddiried ynddo, mae gwasanaethau'n cael eu hystyried yn syml i'w cyrchu ac yn syml i'w ddeall.
  • Mae Hybiau Menter yn chwarae rhan bwysig wrth ymgysylltu ag entrepreneuriaid na fyddent o reidrwydd wedi ymgysylltu â darpariaeth prif ffrwd Busnes Cymru.

Cyd-destun

  • Creodd allanoldebau (pandemig COVID-19, Brexit, a'r argyfwng costau byw) alw is na'r disgwyl am Gymorth Entrepreneuraidd.

Cynnydd

  • Manteisiodd gweithrediadau ar fuddsoddiad cynnar a chychwyn cynnar. Roedd eu dynodiad fel prosiectau asgwrn cefn yn helpu i'w hymgorffori yn tirwedd y cymorth i busnesau.
  • Roedd angen hyrwyddo gweithredol a pharhaus ar Craidd a Thwf L1-4, a adeiladodd lefel uwch o gydweithio ac ymgysylltu cymunedol lleol dros amser.
  • Roedd Manteisio ar Fand Eang Cyflym Iawn (SFBE) yn dibynnu ar frand Busnes Cymru i gynyddu lefelau ymgysylltu.
  • Mae gan Rhaglen Cyflymu Twf (AGP) Busnes Cymru (BW) dangynrychiolaeth mewn ardaloedd gwledig, o bosibl yn symptomatig o natur busnesau sy'n gweithredu yn y lleoliadau hynny.
  • Roedd Rhaglen Cyflymu Twf (AGP) Busnes Cymru (BW) yn dibynnu'n fwy helaeth ar Reolwyr Cyswllt i nodi busnesau addas ar gyfer y rhaglen.
  • Mae cymorth entrepreneuriaeth a chymorth Busnesau Bach a Chanolig (SME) yn dangos perfformiad cryf mewn perthynas â thwf cyflogaeth a gwerthiant allforio.
  • Arafodd pandemig COVID-19 gynnydd ar gyfer y gweithrediadau Cymorth Entrepreneuriaeth a Chymorth Busnesau Bach a Chanolig (SME) yn erbyn mwyafrif y dangosyddion.
  • Bron i ddwy ran o dair o holl fentrau cyfranogwr yn cyfrannu at ddangosyddion targed Themâu Trawsbynciol (CCT).

Canfyddiadau o Cymorth

  • Dangosodd yr arolwg cyfranogwyr gyfraddau boddhad cymharol uchel, gyda'r daith tuag at ddarpariaeth yn cael ei hystyried yn syml.
  • Disgrifiodd bron i un rhan o bump o'r rhai a dderbyniodd Cymorth Busnesau Bach a Chanolig (SME) eu bod yn anfodlon â'r ffordd y darparwyd y cymorth.
  • Roedd diffyg cyfathrebu dilynol â chleientiaid ar ôl derbyn cymorth yn ddylanwad sylfaenol ar anfodlonrwydd y cyfranogwyr.

Canlyniadau ac Effaith - Rhaglen Craidd a Thwf L1–4 a Rhaglen Cyflymu Twf (AGP) Busnes Cymru (BW)

  • Creodd 70% o fentrau cyfranogwr yn L1-4 Craidd a Thwf neu’r Rhaglen Cyflymu Twf (AGP) Busnes Cymru (BW) gyflogaeth ers derbyn cymorth.
  • Disgrifiodd tua hanner yr ymatebwyr gynnydd mewn cynhyrchiant, gwerthiant a phroffidioldeb o ganlyniad uniongyrchol i'r gefnogaeth.
  • Dechreuodd dros hanner yr ymatebwyr sy'n derbyn Cymorth Entrepreneuriaeth fusnes ar ôl derbyn y gefnogaeth honno.

Canlyniadau ac Effaith- Manteisio ar Fand Eang Cyflym Iawn (SFBE)

  • Mae'r gweithrediad wedi rhagori ar darged mentrau a gefnogir i gyflwyno cynhyrchion newydd i'r cwmni.
  • Ni ddangoswyd fawr o effaith o ran twf cyflogaeth ond ni fwriadwyd i ddarpariaeth Manteisio ar Fand Eang Cyflym Iawn (SFBE) erioed gyflawni canlyniadau swyddi.

Darpariaeth yn y dyfodol

  • Roedd rhanddeiliaid yn croesawu yn eang cyllid pellach ar gyfer Busnes Cymru (BW). Maen nhw'n ei weld fel elfen hanfodol o dirwedd y cymorth i busnesau yng Nghymru.

Adroddiadau

Adroddiad terfynol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Tîm Ymchwil, Monitro a Gwerthuso

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn:

0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.