Gwerthusiad o Wasanaethau Cymorth Busnes Cymru (BSSW): crynodeb
Crynodeb o werthusiad terfynol o Wasanaethau Cymorth Busnes yng Nghymru (BSSW). Gan y Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru; gyflwynir trwy Raglenni Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd (ERDF) 2014 i 2020 yn Dwyrain Cymru (EW) a Gorllewin Cymru a Cymoedd (WWV).
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad a chefndir
Ym mis Mawrth 2022, cafodd Wavehill eu comisiynu gan Lywodraeth Cymru i gynnal gwerthusiad terfynol o’r rhaglen Gwasanaethau Cymorth Busnes yng Nghymru ac, yn benodol, y prosiectau a gynhaliwyd o dan frand Busnes Cymru yn ogystal â’r rhaglen Manteisio ar Fand Eang Cyflym Iawn. Dechreuodd pob prosiect yn 2016 gan barhau i gynnig cymorth tan 30 Ebrill 2023.
Cynhaliwyd y prosiectau drwy raglen Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd 2014 i 2020 drwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) mewn dwy ardal ddaearyddol, sef Gorllewin Cymru a’r Cymoedd (GCC) a Dwyrain Cymru (DC). Ariannwyd y rhaglenni drwy Echel Flaenoriaeth 2: Cystadleurwydd Busnesau Bach a Chanolig eu maint (BBaChau) o dan yr Amcanion Penodol (AP) canlynol:
- AP2.2: Cynyddu nifer y BBaChau sy’n dechrau o’r newydd drwy ddarparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad a chymorth ar gyfer entrepreneuriaeth;
- AP2.3: Cynyddu rhwydweithiau Mynediad i’r Genhedlaeth Nesaf (NGA) a seilwaith TGCh y mae BBaChau yn eu defnyddio ac yn manteisio arnynt;
- AP2.4: Cynyddu twf y BBaChau hynny sydd â’r potensial i dyfu, yn enwedig trwy gael mynediad at farchnadoedd newydd (yn ddomestig ac yn rhyngwladol).
Mae’r chwe rhaglen a ariennir o dan yr Amcanion Penodol hyn sy’n dod o fewn cwmpas y gwerthusiad wedi’u nodi isod:
- Cymorth Entrepreneuriaeth – Busnes Cymru (prosiectau yn DC a GCC)
- Manteisio ar Fand Eang Cyflym Iawn (DC a GCC)
- Cymorth BBaCh – Busnes Cymru (DC a GCC)
Dyma’r gwasanaethau a gynhaliwyd o dan y rhaglenni hyn:
- Manteisio ar fand eang cyflym iawn (SFBE) a oedd wedi cefnogi busnesau i fanteisio ar dechnoleg a band eang i wella perfformiad busnes.
- Gwasanaeth Craidd a Thwf (Lefelau 1–4) Busnes Cymru: roedd hwn yn cefnogi entrepreneuriaid a BBaCh o Gymru drwy gynnig mynediad i wybodaeth, gweithdai, cyngor ar-lein ac wyneb yn wyneb, cymorth arbenigol, cymorth dechrau busnes, a chyngor busnes cyffredinol.
- Rhaglen Cyflymu Twf (Lefel 5) Busnes Cymru: roedd hwn yn cynnig cymorth pwrpasol i fusnesau cyn-refeniw a BBaCh twf uchel a oedd yn tyfu’n gyflym.
- Hybiau Menter Busnes Cymru (GCC yn unig): roedd y rhain yn cynnig cyllid yr ERDF i redeg tri o’r pump o Hybiau Menter Busnes Cymru ledled Cymru (gyda chyllid yr ERDF yn cefnogi’r Hybiau hynny a oedd wedi’u lleoli yn GCC).
Dull methodolegol
Mae hwn yn werthusiad terfynol sy’n adeiladu ar werthusiad canol tymor[troednodyn 1] a gwblhawyd yn 2018. Mae’r gwerthusiad terfynol wedi cynnwys y gwaith canlynol:
- Adolygiad o ddogfennau allweddol i gael deall cyd-destun tarddiad a chynllun y prosiectau a chael ymdeimlad o berfformiad yn erbyn targedau dros amser.
- Dadansoddi gwybodaeth reoli sydd gan Lywodraeth Cymru er mwyn chwilio am batrymau yn yr ymgysylltu a’r cymorth. Yna cafodd data’r wybodaeth reoli ei baru â thystiolaeth gan y rheiny a gafodd cymorth drwy’r prosiectau uchod, sef tystiolaeth a gasglwyd trwy arolwg buddiolwyr a gynhaliwyd fel rhan o werthusiad o gymorth busnes ERDF[troednodyn 2] arall gwahanol.
- Chwech o gyfweliadau cwmpasu wedi’u cynnal yn Awst-Medi 2022 i gael dealltwriaeth bellach o’r rhaglenni a’r profiadau o’u cynnal. Hefyd ymgynghorwyd â 19 o randdeiliaid yn ystod Mawrth ac Ebrill 2023. Y rhanddeiliaid oedd y rhai a allai roi persbectif gwybodus, strategol ar y ddarpariaeth neu a oedd wedi bod yn ymwneud â darparu’r gwasanaethau cymorth sy’n gysylltiedig â’r rhaglenni.
- Cynhaliwyd gwerthusiad gwrthffeithiol o effaith (CIE) i archwilio cyflogaeth ar lefel cwmnïau ac effeithiau trosiant ymhlith y busnesau a oedd wedi cymryd rhan.
Cyfyngiadau ar y fethodoleg
Roedd y broses paru data wedi’i thanseilio gan gyfuniad o rifau cofrestru cwmni a oedd yn anghywir ac anghyflawn, ac felly nid oedd yn bosibl cyfateb 22% o’r busnesau a gymerodd ran.
Er bod y prosiectau wedi dechrau yn 2016, roedd ffrâm y sampl ar gyfer yr arolwg wedi rhoi pwyslais ar holi busnesau a gafodd gymorth o fis Mawrth 2019 ymlaen er mwyn cryfhau’r cof am y cymorth ymysg y busnesau a holwyd. Fodd bynnag, roedd 78% o gleientiaid rhaglen Cyflymu Twf (AGP) Busnes Cymru wedi cofrestru yn y gwasanaeth cyn Mawrth 2019 (o gymharu â 40% o gleientiaid Craidd a Thwf L1–4) ac, felly, wedi’u heithrio o ffrâm y sampl. Ni wyddai’r gwerthuswyr hyn ar adeg dylunio’r arolwg a’r ffrâm sampl.
Roedd y dull gwrthffeithiol hefyd wedi defnyddio rhifau cofrestru cwmnïau (CRN) fel y dynodwyr unigryw ar gyfer paru data, fodd bynnag dim ond 5.4% o’r rhai a gafodd Gymorth Entrepreneuriaeth a oedd wedi cynnwys rhifau CRN. O’r herwydd mae’r effaith ar gyfranogwyr Cymorth Entrepreneuriaeth yn deillio’n bennaf o effeithiau a gofnodwyd gan y busnesau eu hunain a gwybodaeth reoli.
Crynodeb o ganfyddiadau ac argymhellion
Trosolwg
Mae rhaglen Busnes Cymru wedi ennill ei phlwyf fel y prif wasanaeth cymorth i fusnesau yng Nghymru. Fe’i hadwaenir yn eang i fod yn siop un stop i gael gafael ar atebion neu frocera cefnogaeth. Mae’r brand yn adnabyddus ac ymddiriedir ynddo ac mae’r mwyafrif o gyfranogwyr a rhanddeiliaid yn ystyried y gwasanaeth yn rhwydd cael gafael arno a’i ddeall.
Cryfhau wnaeth y partneriaethau, cydweithrediadau, a gweithgareddau atgyfeirio wrth i’r rhaglen fynd rhagddi a dywedodd rhanddeiliaid fod hyn wedi gwella’r ddarpariaeth allgymorth yn ogystal â’r ymgysylltu â chymunedau lleol a grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Roedd yr adolygiad o Hybiau Menter a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru[troednodyn 3] yn adleisio’r safbwynt hwn wrth nodi’r rôl bwysig sydd gan yr Hybiau wrth ymgysylltu ag entrepreneuriaid na fyddent o reidrwydd wedi ymgysylltu â darpariaeth prif ffrwd Busnes Cymru. Yn ogystal, cryfhau hefyd wnaeth y cysylltiadau â darpariaethau eraill ar gyfer busnesau sy’n canolbwyntio ar dwf (gan gynnwys yr hyn sy’n gysylltiedig â darpariaeth y Banc Datblygu a SMART). Fodd bynnag, nododd sawl rhanddeiliad y gellid cryfhau’r integreiddio ymhellach.
Argymhellion
- Dylai gwybodaeth reoli a gesglir trwy raglenni cymorth yn y dyfodol gofnodi nifer yr achosion o atgyfeirio rhwng gwasanaethau. Byddai hyn yn rhoi mewnwelediad defnyddiol i ba raddau y mae integreiddio rhwng rhaglenni cymorth amrywiol yn digwydd.
- Dylai cyflenwyr gael eu rheoli o ran perfformiad er mwyn annog atgyfeiriadau priodol rhwng gwasanaethau.
Cyd-destun
Mae llu o ddata economaidd-gymdeithasol yn dangos pwysigrwydd buddsoddiad parhaus mewn gwasanaethau cymorth busnes ac entrepreneuraidd, o ystyried y diffyg mewn cyfraddau cynhyrchiant a gweithgarwch entrepreneuraidd yng Nghymru o gymharu â gwledydd eraill y DU. O ran y SFBE, roedd y cymorth a gynigid yn cynrychioli’r cam rhesymegol nesaf wrth ddarparu gwasanaethau yn dilyn y buddsoddiad mewn seilwaith band eang cyflym iawn yn rownd flaenorol Cronfeydd Strwythurol yr UE.
Dros amser, newidiodd y cyd-destun economaidd-gymdeithasol yn sylweddol, a hynny wedi dylanwadu ar berfformiad. Y siociau allanol a ddylanwadodd fwyaf oedd y rhai a oedd yn gysylltiedig â phandemig COVID-19, Brexit, a’r argyfwng costau byw. Cyn y pandemig, fodd bynnag, arweiniodd y cynnydd yn y farchnad lafur yng Nghymru a’r cyfraddau diweithdra isel at ostyngiad yn y galw am weithgarwch entrepreneuraidd ar sail angen. Yn ei dro, credir bod hyn, ochr yn ochr â chyflwyno’r cynllun Lwfans Menter Newydd, wedi arwain at alw is na’r disgwyl am Gymorth Entrepreneuraidd.
Cynnydd
Cafodd y prosiectau eu dylunio a’u lansio i fod yn brosiectau asgwrn cefn strategol yn rhaglen yr ERDF ac, felly, cawsant fudd o fuddsoddiad cynnar a dechrau cynnar. Yn ogystal, mae’n debygol bod eu pennu yn brosiectau asgwrn cefn wedi helpu eu gwreiddio ymhellach yn y dirwedd cymorth busnes. Un o’r heriau o fod yn un o’r cynlluniau cynnar mewn rownd cyllid drwy Gronfeydd Strwythurol yr UE yw’r risg uwch y gallai fod rhai bylchau mewn gwybodaeth, neu rai elfennau ar ofynion tystiolaeth a allai fod yn llai clir. Mae’n bosibl bod hyn wedi dylanwadu ar rai o’r problemau cynnar a gododd yn y rhaglen ynghylch casglu tystiolaeth a oedd yn cydymffurfio â gofynion yr UE.
Argymhelliad
- Yn ystod y cam rhoi prosiect ar waith dylid cynnal adolygiad cynnar o brosesau casglu data yn erbyn meini prawf cymhwysedd.
Mae’r modelau darparu gwasanaeth ar gyfer Craidd a Thwf L1–4 ar draws prosiectau Cymorth Entrepreneuriaeth a Chymorth i BBaChau yn wahanol i’r hyn a gynigid drwy raglen Cyflymu Twf (AGP) BC. Roedd angen hyrwyddo gweithredol a pharhaus ar Craidd a Thwf L1–4, ynghyd â gweithio’n agos â Llywodraeth Cymru a meithrin lefel uwch o gydweithio ac ymgysylltu â’r gymuned leol dros amser. Roedd SFBE hefyd wedi dibynnu ar frand Busnes Cymru i hybu lefelau ymgysylltu, tra bod rhaglen AGP BC wedi dibynnu’n drymach ar Reolwyr Cysylltiadau i ganfod busnesau addas ar gyfer y rhaglen.
Mae’r ddarpariaeth wedi sicrhau cwmpas cenedlaethol; fodd bynnag, mae’n amlwg bod tuedd i leoliadau gwledig neu ymylol gael eu tangynrychioli yn rhaglen AGP BC. Fodd bynnag, gall y tangynrychioli hwn fod yn symptomatig o natur (o ran sector a chyfeiriadedd twf) y busnesau sy’n gweithredu yn y lleoliadau hynny. Ymhellach, roedd amseriad y cofrestru ym mhob rhaglen yn amrywio. Roedd tri chwarter o gleientiaid AGP BC wedi’u cofrestru yn y rhaglen cyn diwedd 2018, tra mai dim ond 30% o gleientiaid SFBE oedd wedi cofrestru yn y rhaglen erbyn hynny.
Roedd prosiectau Cymorth Entrepreneuriaeth a Chymorth i BBaChau yn brin yn eu proffil yn erbyn nifer o’u dangosyddion yn y cyfnod cyn y gwerthusiad canol tymor. Fodd bynnag, dangosodd y prosiectau berfformiad cryf mewn perthynas â thwf cyflogaeth a gwerthiannau allforio a chafodd y perfformiad hwnnw ei gynnal i raddau helaeth trwy gydol gweddill y prosiectau (er gwaethaf y problemau yn gysylltiedig â’r pandemig).
Yn dilyn y gwerthusiad canol tymor yn 2018, cynyddodd momentwm y rhaglen hyd at Fawrth 2020 (pan gyrhaeddodd pandemig COVID-19 y DU). Ar yr adeg honno trodd y gwasanaeth yn gyflym ac yn llwyddiannus i gynnig gwasanaeth o bell, wedi’i anelu at wydnwch a chydnerthedd (yn hytrach na thwf). Roedd y newid hwnnw yn y gwasanaeth i ddarpariaeth o bell yn ategu’r addasu a wnaed ar natur y cymorth a ddarparwyd, a oedd ar brydiau yn gofyn rhoi llawer mwy o bwyslais ar gymorth bugeiliol a llesiant.
Mae darpariaeth ar-lein o bell bellach yn cael ei derbyn yn eang gan fusnesau sy’n cymryd rhan ac mae’n ddull mwy effeithlon o ddarparu’r gwasanaeth. Fodd bynnag, gall darpariaeth bersonol yn y cnawd fod â rôl allweddol wrth fynd i’r afael â materion penodol a helpu i ddenu grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol i’w cefnogi. Mae’n debygol, felly, y bydd angen cynnig gwasanaeth cyfunol yn narpariaeth y dyfodol.
Argymhelliad
- Dylid cadw model gwasanaeth cyfunol mewn rhaglenni cymorth yn y dyfodol oherwydd ei werth yn cynnig hyblygrwydd ac effeithlonrwydd ychwanegol wrth ddarparu’r gwasanaeth ar yr un pryd hefyd â chadw’r gallu i roi cymorth personol yn y cnawd pan fo’n briodol.
Yn erbyn cefndir o ddiffyg a oedd yn bodoli eisoes yn erbyn eu proffil dangosyddion, arafodd y pandemig gynnydd ym mhrosiectau Cymorth Entrepreneuriaeth a Chymorth i BBaChau yn erbyn mwyafrif y dangosyddion, gan ddylanwadu ymhellach ar y gwahaniaethau mewn perfformiad yn erbyn targedau’r proffil.
Cyfeiriodd rhanddeiliaid at y targedau cychwynnol fel rhai heriol, ac ambell un yn eu disgrifio fel rhai rhy uchelgeisiol. Deellir bod perfformiad hanesyddol wedi dylanwadu ar osod dangosyddion targed, ond gyda rhaglenni’r dyfodol yn seiliedig ar fodel cyflenwi tebyg (er yn gyfunol), bydd hi’n bwysig gosod targedau yn erbyn cyd-destun perfformiad camau olaf y rhaglen hon.
Argymhelliad
Mewn rhaglenni yn y dyfodol pan ddefnyddir dangosyddion perfformiad cyson, dylid defnyddio’r cynnydd yng nghamau olaf y rhaglen hon wrth lywio’r gwaith o osod targedau.
Roedd y perfformiad cynnar yn erbyn dangosyddion themâu trawsbynciol yn wael ac ar adeg y gwerthusiad canol tymor roedd y rhaglen yn gweithredu ar ffracsiwn o’r proffil a ragwelwyd yn erbyn y dangosyddion hyn. Ers y pandemig, fodd bynnag, bu gwelliant sylweddol mewn perfformiad yn erbyn dangosyddion themâu trawsbynciol. Adlewyrchai hyn weithgarwch wedi’i dargedu i ymwreiddio hyn yn fwy canolog yn y ddarpariaeth gwasanaeth, gan arwain at bron i ddwy ran o dair o’r holl fentrau cyfranogol yn cyfrannu at ddangosyddion targed themâu trawsbynciol yn 2022 (o gymharu â llai nag un o bob pump o’r mentrau cyfranogol yn 2016).
Argymhelliad
- Mewn cymorth yn y dyfodol, dylid cadw ac adeiladu ar yr arferion da sy’n gysylltiedig ag integreiddio effeithiol ar ddarpariaeth a gyfrannodd at ddangosyddion themâu trawsbynciol. Ni ddylai colli cyllid yr UE ac, felly, y gofynion ar gyfer cyfrannu at themâu trawsbynciol, arwain at wyro oddi wrth y gweithgarwch hwn.
Nid yw’r symud mwy cyffredinol yn y gwasanaeth at gyflawni targedau wedi bod heb bryder, gyda rhai rhanddeiliaid yn nodi’r tensiwn y gallai hyn ei greu rhwng cyflawni dangosyddion targed (yn enwedig y dangosyddion hynny sy’n gysylltiedig ag oriau cymorth) a darparu cymorth sy’n adlewyrchu anghenion cleientiaid.
Argymhelliad
Dylid rhoi llai o bwyslais ar ddangosyddion sy’n canolbwyntio ar brosesau (megis cyrraedd trothwy yn hyd cyfnod y cymorth a roddir) mewn rhaglenni yn y dyfodol.
Barn am y cymorth
Yn yr arolwg i gyfranogwyr, gwelwyd cyfraddau cymharol uchel o fodlonrwydd ymhlith y busnesau a ymatebodd, a theimlid bod y daith tuag at y ddarpariaeth yn arbennig o syml. Roedd y model gor-syml hwn o safbwynt y cwsmer yn amcan allweddol gan Busnes Cymru (gyda phwyslais ar guddio’r cymhlethdod y tu ôl i’r gwahanol gontractau) ac ymddengys ei fod wedi’i gyflawni’n llwyddiannus.
Fodd bynnag, roedd barn groes iawn i’w gilydd ar y cymorth yn amlwg. Dywedodd mwyafrif y cyfranogwyr a holwyd y rhagorwyd ar eu disgwyliadau. Fodd bynnag, dywedodd bron i un o bob pump o’r rhai a gafodd Gymorth i BBaChau eu bod yn anfodlon â’r ffordd y darparwyd y cymorth. Mae dadansoddi hyd y cymorth yn awgrymu cydberthynas rhwng faint o gymorth a roddwyd a lefel y bodlonrwydd â’r cymorth hwnnw. Er ei bod yn debygol bod cleientiaid a oedd yn anfodlon â’r gwasanaeth yn fwy tebygol o fod wedi tynnu’n ôl o’r cymorth yn gynnar, eto prif ddylanwad ar anfodlonrwydd cyfranogwyr oedd pryderon ynghylch diffyg cyfathrebu dilynol â chleientiaid ar ôl cael cymorth.
Argymhelliad
- Mae angen i raglenni’r dyfodol sicrhau neges glir ynghylch natur y cymorth sydd ar gael tra hefyd ar yr un pryd reoli disgwyliadau ymhlith y grŵp cleientiaid o ran hyd y cymorth y gallent ei gael.
Canlyniadau ac Effaith: Rhaglen Craidd a Thwf L1–4 a rhaglen Cyflymu Twf (AGP) BC
Mae Craidd a Thwf L1–4 ac AGP BC wedi arwain at lefelau da o greu swyddi, a hynny o fewn y dangosyddion targed a gofnodwyd a’r gwerthusiad gwrthffeithiol (CIE). Yn ôl data’r System Cyfrifon Busnes (BAS), roedd 70% o’r mentrau yn Craidd a Thwf L1–4 neu raglen AGP BC wedi creu cyflogaeth ers cael y cymorth. Mae’r rhaglen hefyd yn cynrychioli gwerth da am arian ar sail cost-effeithiolrwydd wrth gyfrifo’r gost fesul swydd a grëwyd ymhlith busnesau a gefnogwyd. Fodd bynnag, mae’n bosibl mai is na’r disgwyl oedd nifer y busnesau eu hunain a oedd wedi priodoli swyddi drwy’r arolwg.
Mae cyflogau FTE y swyddi a grëwyd wedi gostwng ymhlith y busnesau hynny a gofrestrodd ym mlynyddoedd olaf y rhaglen. Er bod hyn yn debygol o fod dan ddylanwad proffil y busnesau a oedd yn ymgysylltu â chymorth (gyda mentrau oedd â 0 i 1 o weithwyr yn dod yn fwyfwy cyffredin yn y rhaglen bob blwyddyn), mae’r patrwm yn parhau pan roddir cyfrif am faint y busnes. Mae cyflogaeth yn dod ag ystod o fanteision economaidd a llesiant. Mewn ymchwil yn y dyfodol byddai’n ddefnyddiol cael cipolwg ychwanegol ar y swyddi a grëwyd gan gynnwys oriau a sicrwydd cytundebol y rolau hynny ac a yw unigolion a oedd yn ddi-waith yn flaenorol wedi mynd i’r swyddi hynny ai peidio. Byddai hynny’n help i roi rhagor o eglurder ynghylch gwerth ychwanegol y swyddi hynny a grëwyd yn erbyn patrwm o gyflogau sy’n gostwng sydd, ar yr wyneb, yn awgrymu gostyngiad mewn cynhyrchiant fesul swydd a grëwyd ac yn ansawdd y swyddi hynny.
Roedd dros hanner yr ymatebwyr a gafodd Gymorth Entrepreneuriaeth wedi dechrau busnes ar ôl cael y cymorth hwnnw. Heb y cymorth, ni fyddai 16% ohonynt wedi sefydlu busnes, tra bod 3% arall yn ansicr a fyddent wedi gwneud hynny ai peidio.
Disgrifiodd tua hanner yr ymatebwyr i’r arolwg gynnydd mewn cynhyrchiant, gwerthiant a phroffidioldeb o ganlyniad uniongyrchol i’r cymorth. Ymhellach, roedd bron i draean o’r rheiny a oedd yn rhan o Gymorth Entrepreneuriaeth wedi dweud bod y cymorth wedi gwneud cyfraniad hanfodol tuag at berfformiad eu busnes. Mae’r rhain yn ddangosyddion canlyniadau cryf sy’n dangos gwerth yn y cymorth nad yw’n cael ei godi drwy ddangosyddion yr ERDF.
Er yr ymddengys bod twf mewn gwerthiannau yn gryf ar gyfer darpariaeth Cymorth i BBaChau, roedd dangosyddion cynhyrchiant wrth gymharu â’r grŵp cymhariaeth yn llai cryf (er bod effaith dal i fyny yn amlwg dair blynedd ar ôl y cymorth). Mae’n bosibl bod y diffyg pwyslais yn y dangosyddion targed ar dwf gwerthiannau neu gynhyrchiant domestig wedi dylanwadu ar y canlyniad hwn.
Canlyniadau ac Effaith: SFBE
Y dangosydd canlyniad allweddol ar gyfer prosiect SFBE yw nifer y mentrau a gefnogwyd i gyflwyno cynnyrch newydd i gwmni. Rhagorodd y prosiect ar y targed yn erbyn y dangosydd hwn gan eu cyflawni’n fwy cost-effeithiol na’r targed a osodwyd yn y cynllun busnes gwreiddiol. Ymhellach, ar gyfartaledd, roedd pob busnes a gefnogwyd gan yr SFBE wedi mabwysiadu 2.3 cynnyrch newydd i gwmni sy’n dangos llwyddiant y prosiect yn erbyn y dangosydd targed hwn.
O ddadansoddi natur y cynnyrch newydd a gyflwynwyd i gwmnïau, gwelir bod bron i un o bob pump (19%) yn cael eu hystyried yn gynnyrch technoleg uchel tra bod 16% arall yn cael eu hystyried yn gynnyrch technoleg ganolig. Yn fwy cyffredinol, ar gyfer busnesau ar draws y rhan fwyaf o’r sectorau diwydiannol, roedd dros hanner y cynnyrch newydd a gyflwynwyd yn ddatrysiad technoleg uchel neu ganolig[troednodyn 4].
Ychydig iawn o effaith y mae’r gwerthusiad gwrthffeithiol o effaith (CIE) yn ei awgrymu a gafwyd ar dwf cyflogaeth y rhai a gafodd gymorth SFBE. Mae hyn yn debygol o ymwneud â’r ffaith nad oedd darpariaeth SFBE erioed wedi’i bwriadu i gyflawni canlyniadau swyddi. Roedd y prif ddeilliannau a ddisgwylid ar gyfer y cymorth hwn yn ymwneud â chynhyrchiant ac enillion effeithlonrwydd, yn wir teimlai 85% o ymatebwyr yr arolwg fod y cymorth wedi gwneud o leiaf rhywfaint o gyfraniad i berfformiad eu busnes tra bod 59% yn adrodd am gynnydd mewn cynhyrchiant yn eu busnes. Ymhellach, mae’n debygol y byddai pwyslais cysylltiedig cymorth SFBE ar gyflwyno cynnyrch newydd i’r cwmni yn gweld oedi rhwng eu cyflwyno ac unrhyw newidiadau diriaethol mewn gwerthiant a chyflogaeth i’w cynnwys yn y CIE.
Argymhellion
- Dylid sicrhau bod ystod ehangach o ddeilliannau targed/dangosyddion canlyniad yn gysylltiedig â menter sy’n rhoi cymorth i fusnesau. Byddai hyn yn galluogi prosiectau (mentrau) i dargedu a chipio’r dangosyddion canlyniad hynny sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan y cymorth a gynigir.
- Dylid ystyried rhoi mwy o bwyslais ar gynhyrchu gwerthiannau ac enillion cynhyrchiant ymhlith cyfres o ddangosyddion targed yn y dyfodol ar gyfer darpariaeth cymorth i fusnesau sy’n canolbwyntio ar dwf.
Darpariaeth yn y dyfodol
Mae’r pandemig yn parhau i ddylanwadu ar berfformiad busnes, gyda dros hanner y rhai a ymatebodd i’r arolwg yn dweud ei fod wedi effeithio ar eu helw i raddau helaeth yn eu blwyddyn ariannol ddiwethaf.
Argymhelliad
- Dylai darpariaeth cymorth yn y dyfodol barhau i ganolbwyntio ar weithgarwch sy’n cynnwys elfennau sy’n cefnogi busnesau i adfer ar ôl yr economi newidiol a ddeilliodd o bandemig COVID-19 ac i addasu i’r economi hwnnw.
Roedd rhanddeiliaid yn croesawu’n eang gyllid pellach ar gyfer Busnes Cymru. Maent yn ei ystyried yn elfen hollbwysig yn y dirwedd cymorth busnes yng Nghymru ac yn ffynhonnell adnabyddus y gellir ymddiried ynddi i gael cyngor diduedd yn y gymuned fusnes. Canmolwyd yn fawr ei hyblygrwydd wrth ymateb i anghenion busnes dros gyfnod economaidd-gymdeithasol cythryblus, ond mae pryderon a fydd y gallu hwnnw i newid ac ymateb i argyfyngau yn y dyfodol yn parhau heb adnoddau ychwanegol.
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF) yn destun pryder i’r rhan fwyaf o randdeiliaid yr ymgynghorwyd â nhw fel rhan o’r gwerthusiad hwn. Mae Busnes Cymru wedi symleiddio’r dirwedd cymorth busnes, ond cred rhanddeiliaid yn eang y gallai’r UKSPF arwain at gynnig cymorth busnes a fyddai’n fwyfwy cymhleth, darniog ac anghyson.
Argymhelliad
- Bydd angen gwaith helaeth gydag awdurdodau lleol a chymunedau i feithrin perthnasoedd cryf a rhannu gwybodaeth er mwyn sicrhau aliniad llwyddiannus rhwng darpariaeth Busnes Cymru a’r hyn a ddaw i’r fei drwy’r UKSPF.
Troednodiadau
[1] Zaidi, A; Shah, P; a Beadle, S (2018). Gwerthusiad o Wasanaethau Cymorth Busnes yng Nghymru: adroddiad ar gyfer Llywodraeth Cymru. Caerdydd: Llywodraeth Cymru.
[2] Oliver Allies, Paula Gallagher, Michelle Hollier, Michael Pang, Benjamin Reinertz, Prabhat Vaze, a Paul Woodcraft (2023). Gwerthusiad o Gymorth Busnes yr ERDF. Caerdydd: Llywodraeth Cymru, rhif adroddiad GSR 87/2023.
[3] OB3 (2022) Adolygiad o hybiau menter gwasanaethau cymorth entrepreneuraidd Llywodraeth Cymru, Llywodraeth Cymru.
[4] Mae cynnyrch technoleg uchel yn cynnwys technolegau cwmwl, rheoli cysylltiadau cwsmeriaid, Diogelwch TG/gwrthfaleiswedd, caledwedd neu feddalwedd arbenigol (pwrpasol) a chyfathrebu Unedig. Mae technoleg ganolig yn cynnwys datrysiadau archebu ar-lein, meddalwedd rheoli dogfennau/rhannu ffeiliau, taliad electronig/cerdyn, seilwaith gweinydd.
Manylion cyswllt
Awduron yr adroddiad: Oliver Allies, Michael Pang, Benjamin Reinertz a Prabhat Vaze.
Mae’r safbwyntiau a fynegwyd yn yr adroddiad hwn yn perthyn i’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd Llywodraeth Cymru.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Tîm Ymchwil, Monitro a Gwerthuso
Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi
Llywodraeth Cymru
Caerdydd
CF10 3NQ
Ebost: gwerthuso.ymchwil@llyw.cymru
Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 3/2025
ISBN digidol 978-1-83715-161-5

