Neidio i'r prif gynnwy

Adolygu i ba raddau y mae'r dyletswyddau yn y Cod Ymarfer Awtistiaeth yn cael eu bodloni.

Nod y Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Awtistiaeth yw sicrhau bod anghenion plant, pobl ifanc ac oedolion ag awtistiaeth yn cael eu deall a'u bod yn cael eu cefnogi i fyw bywydau boddhaus. Mae'r Cod Ymarfer ar Gyflenwi Gwasanaethau Awtistiaeth yn nodi'r hyn y gall pobl awtistig, eu teulu a'u gofalwyr ei ddisgwyl gan wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Cynhaliwyd gwerthusiad o'r Cod i adolygu'r graddau y mae'r dyletswyddau yn y Cod yn cael eu cyflawni ac i ddatblygu argymhellion ar gyfer gwella wrth gyflawni'r dyletswyddau.

Mae'r gwerthusiad wedi'i strwythuro mewn dau gam a dyma'r cam cyntaf sy'n canolbwyntio ar gydymffurfiaeth â'r Cod a'i ddyletswyddau o safbwynt ymarferwyr.

Mae'r adroddiad yn nodi cydymffurfiaeth â'r Cod, yn ogystal â ffactorau ehangach sydd wedi cynorthwyo neu lesteirio’r cydymffurfio.

Mae'r adroddiad yn gwneud argymhellion i bob awdurdod lleol a bwrdd iechyd lleol wneud gwelliannau wrth gyflawni dyletswyddau'r Cod.

Adroddiadau

Gwerthusiad o'r Cod Ymarfer ar Gyflenwi Gwasanaethau Awtistiaeth: Crynodeb o Gam Un (asesiad ymarferwyr o gydymffurfio) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 677 KB

PDF
677 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Laura Entwistle

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.