Neidio i'r prif gynnwy

Nod y cynllun oedd defnyddio buddsoddiad wedi'i dargedu i roi cyfleoedd i fusnesau pren dyfu i wella cyflwr coetiroedd yng Nghymru, ac I ddod â choetiroedd anhygyrch o dan reolaeth.

Prif ganfyddiadau

  • Roedd alinio ag amcanion polisi Llywodraeth Cymru yn gymysg. Roedd aliniad da rhwng TBIS ac amcanion polisi ehangach. Er enghraifft, roedd aliniad cryf â nifer o dargedau strategol Coetiroedd i Gymru o ran datblygu mwy o reolaeth gynaliadwy ar goetiroedd ond aliniad gwannach â chreu coetiroedd a oedd yn brif amcan.
  • Cafwyd ymateb cymysg gan buddiolwyr i effeithiolrwydd y broses datganiad o ddiddordeb, y cam ymgeisio a’r proses arfarnu, gyda chyfrannau cymharol debyg o foddhad ac anfodlonrwydd. Canfuwyd bod y broses ymgeisio yn arbennig o gymhleth gyda thraean o'r buddiolwyr yn llogi ymgynghorydd sy'n codi cwestiynau am degwch y cynllun. Ystyriwyd bod y broses arfarnu yn effeithiol, ond roedd yn ffafrio ymgeiswyr busnes mwy o faint oherwydd yr agwedd Gwerth am Arian.
  • Roedd effeithiolrwydd ymgysylltu â buddiolwyr ac ymgeiswyr posibl yn gyfyngedig oherwydd cyfyngiadau ar y cymorth sydd ar gael yn y cam ymgeisio. Roedd y proses hawliadau a monitro yn foddhaol ar y cyfan, fodd bynnag, roedd problemau mewn perthynas ag oedi amser, biwrocratiaeth, a diffyg hyblygrwydd.
  • Cafodd 71% o'r gyllideb o £9 miliwn ei hawlio'n llwyddiannus. Er bod y galw yn uchel, arweiniodd cyfuniad o faterion mewnol ac allanol at athreuliad yn y swm a hawliwyd.
  • Roedd TBIS wedi cefnogi 74% o'i rhif targed o weithrediadau, ond fe berfformiodd yn dda yn erbyn pob targed KPI arall. Nodwyd bod y targedau yn gymedrol gan y gwerthuswyr.
  • Mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod y cynllun wedi cael effaith o ran gwella galluoedd y sector coed yng Nghymru. Mae'r rhan fwyaf o fuddiolwyr yn credu eu bod wedi cyflawni'r hyn yr oeddent wedi bwriadu ei gyflawni. Mae arolygiadau in-situ Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r honiad hwn.
  • Amcangyfrifodd yr asesiad effaith economaidd fod TBIS yn creu neu'n diogelu cyfanswm o 71 o swyddi, sy'n cyfateb i tua £110k mewn buddsoddiad ar gyfer pob swydd a grëwyd neu a ddiogelir, er bod yr amcangyfrif hwn wedi'i gyfyngu gan sampl bach a chyfyngiadau eraill o fewn y fethodoleg.
  • Mae data trosiant yn awgrymu bod TBIS wedi cynhyrchu twf ar gyfer fuddiolwyr, amcangyfrif o £2.5m mewn Gwerth Ychwanegol Gros net. Y tu hwnt i hyn, mae potensial cryf ar gyfer enillion economaidd pellach yn y dyfodol, yn enwedig wrth ystyried bod 30% o brosiectau yn dal i fod yn weithredol adeg yr arolwg. Roedd llawer o fuddiolwyr yn teimlo y byddai'n cymryd mwy o amser i weld yr effaith economaidd.

Adroddiadau

Gwerthusiad o’r Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Pren , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Gwenllian Dafydd

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.