Neidio i'r prif gynnwy

Nod y gwerthusiad oedd asesu effeithiolrwydd y cynllun peilot cronfa ddata plant sy’n colli addysg a nodi gwersi y byddai angen eu hystyried wrth gyflwyno trefniadau'r gronfa ddata ymhellach.

Roedd y gwerthusiad hwn yn edrych ar y systemau a’r prosesau yr oedd yr awdurdodau lleol dan sylw yn eu defnyddio ar gyfer adnabod plant sy’n colli addysg cyn i'r cynllun peilot ddechrau, yn ogystal â'r broses o dderbyn y data gan Bartneriaeth Cydwasanaethau y GIG ac ysgolion annibynnol. Roedd hefyd yn edrych ar nifer y plant yn colli addysg a oedd yn hysbys cyn dechrau’r cynllun a’r nifer yr oedd modd eu hadnabod o bosib ar ôl y cynllun peilot.

Roedd y gwaith ymchwil yn cynnwys:

  • cyfweliadau gyda'r 7 awdurdod lleol fu'n rhan o'r cynllun peilot
  • cyfweliadau gyda sampl o 6 ysgol annibynnol
  • datblygu model rhesymeg a theori newid

Mae'r adroddiad yn cyflwyno canfyddiadau'r gwaith maes, ac yn nodi argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru.

Adroddiadau

Adroddiad , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Ymchwil Ysgolion

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn:

0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.