Gwerthusiad o’r cynllun peilot cronfa ddata plant sy’n colli addysg: crynodeb
Nod y gwerthusiad oedd asesu effeithiolrwydd y cynllun peilot cronfa ddata plant sy’n colli addysg a nodi gwersi y byddai angen eu hystyried wrth gyflwyno trefniadau'r gronfa ddata ymhellach.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Nodau a methodoleg yr ymchwil
Nod y gwerthusiad oedd asesu effeithiolrwydd y cynllun peilot cronfa ddata plant sy'n colli addysg (PCA) a nodi gwersi fel sail i'r posibilrwydd o gyflwyno'r trefniadau cronfa ddata ledled Cymru yn y dyfodol.
Ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar reoliadau drafft ar ddechrau 2020 a oedd yn cynnig cyflwyno gofyniad i bob awdurdod lleol sefydlu cronfa ddata o bob plentyn o oedran ysgol gorfodol yn ei ardal, y gellid ei llenwi â gwybodaeth a dderbynnir gan ysgolion annibynnol a byrddau iechyd lleol. Yn ddiweddarach, diwygiodd Llywodraeth Cymru ei chynigion ar gyfer y rheoliadau, gan gynnig drwy Reoliadau Deddf Plant 2004 Cronfa Ddata Plant sy’n Colli Addysg (Cymru) y dylai awdurdodau lleol sefydlu cronfa ddata o blant a allai fod yn colli addysg.
Ym mis Medi 2024, gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle AS, ddatganiad ysgrifenedig i gadarnhau'r penderfyniad i fwrw ymlaen â'r cynlluniau yr ymgynghorwyd arnynt. Cyhoeddwyd y byddai trefniadau’r gronfa ddata yn cael eu treialu ar draws nifer bach o awdurdodau lleol yn ystod y flwyddyn gyntaf. Cyhoeddodd y datganiad hefyd y byddai gwerthusiad o'r cynllun peilot yn cael ei gomisiynu (Senedd Cymru). Yn ddiweddarach y mis hwnnw, cadarnhaodd Ysgrifennydd y Cabinet y byddai'r peilot yn para am flwyddyn (Senedd Cymru) gan enwi'r awdurdodau lleol a oedd yn cymryd rhan yn y cynllun peilot.
Mae Adran 29 o Ddeddf Plant 2004 (Deddfwriaeth y DU) a ddaeth i rym ar Fawrth 10, 2025, drwy Orchymyn Deddf Plant 2004 (Cychwyn Rhif 10) (Cymru) 2025, yn darparu ar gyfer sefydlu a gweithredu cronfeydd data at ddibenion trefniadau o dan adran 25 neu 28 o Ddeddf Plant 2004 neu o dan adran 175 o Ddeddf Addysg 2002. Daeth Rheoliadau Deddf Plant 2004 (Cronfa Ddata Plant sy'n Colli Addysg) (Peilota) (Cymru) 2025 i rym ar 8 Ebrill 2025 gan barhau tan 8 Ebrill 2026.
Roedd y rheoliadau’n gosod dyletswydd ar fyrddau iechyd lleol a chontractwyr y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol (GMC) i ddatgelu 3 darn o wybodaeth am blant sydd fel arfer yn byw yn ardaloedd y 7 awdurdod lleol a oedd yn rhan o'r cynllun peilot erbyn 20 Mai 2025. Roedd y wybodaeth hon yn cynnwys enw'r plentyn, cyfeiriad a chod post y plentyn a dyddiad geni'r plentyn.
Daeth Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Blant mewn Ysgolion Annibynnol) (Peilota) (Cymru) 2025 (Deddfwriaeth y DU) i rym ar 8 Ebrill 2025 a pheidiodd ei heffaith ar 20 Mai 2025. Roeddent yn ei gwneud yn ofynnol i ysgolion annibynnol ddatgelu gwybodaeth am blant cofrestredig i'r awdurdod lleol perthnasol a oedd yn rhan o beilota'r gronfa ddata PCA. Roedd yn ofynnol i ysgolion annibynnol rannu'r un 3 darn o ddata gyda'r awdurdod lleol perthnasol ag yr oedd yn ofynnol i fyrddau iechyd lleol a'r GMC eu darparu (h.y. enw'r plentyn, ei gyfeiriad gan gynnwys y cod post, a dyddiad geni). Roedd yn ofynnol iddynt ddatgelu'r wybodaeth erbyn 20 Mai 2025.
Cynhaliwyd y rhaglen waith ar gyfer y gwerthusiad hwn mewn 4 cam.
- Cam cychwynnol a oedd yn cynnwys cyfarfod cychwynnol.
- Cam 2, a oedd yn cynnwys adolygiad desg o ddogfennau a chyfweliadau cwmpasu â swyddogion Llywodraeth Cymru a chynrychiolydd o Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC). Roedd y tasgau hyn yn sail i ddatblygu damcaniaeth newid a model rhesymeg ar gyfer y prosiect peilot.
- Cam 3 a oedd yn cynnwys gwaith maes gyda'r 7 awdurdod lleol a oedd yn rhan o'r prosiect peilot a sampl o 6 ysgol annibynnol.
- Cam 4 a oedd yn cynnwys dadansoddi data'r gwaith maes a pharatoi adroddiad.
Prif ganfyddiadau
O ran effeithiolrwydd systemau a phrosesau presennol awdurdodau lleol peilot ar gyfer canfod plant a allai fod yn colli addysg, canfu'r gwerthusiad y canlynol:
- roedd tua hanner yr awdurdodau lleol peilot yn credu bod ganddynt systemau a phrosesau cryf ar gyfer nodi PCA pan ddaethant yn rhan o'r cynllun peilot, ond roedd yr hanner arall yn credu eu bod mewn sefyllfa wannach
- adeg ein gwaith maes, roedd cynnydd yn cael ei wneud gan awdurdodau lleol peilot i fabwysiadu dulliau gweithredu mwy cyson, cryfhau trefniadau cydweithio a chyflwyno trefniadau mwy ffurfiol gyda gwasanaethau a allai adrodd am achosion o PCA. Roedd llai o gynnydd yn cael ei wneud i wella systemau gwybodaeth
- roedd gan y rhan fwyaf o awdurdodau lleol peilot systemau i fonitro trefniadau pontio disgyblion, fel o Flwyddyn 6 i Flwyddyn 7, ond roedd cysondeb ac awtomatiaeth y prosesau hyn yn amrywio. Roedd monitro trefniadau pontio cynharach, fel o'r feithrinfa i'r dosbarth derbyn, yn fwy amrywiol
- mae olrhain disgyblion sy'n symud rhwng ardaloedd awdurdodau lleol yn heriol ac mae rhannu data rhwng awdurdodau yn aml yn broses araf ac anghyson. Mae gwahaniaethau yn y ffordd y mae ysgolion yn cofnodi cyrchfannau disgyblion yn ychwanegu at y cymhlethdodau ac yn aml mae'n rhaid i staff awdurdodau lleol fynd ar drywydd y rhain â llaw
- roedd pob awdurdod lleol peilot wedi dweud bod ganddo bolisïau sy'n atal ysgolion rhag dadgofrestru disgyblion heb awdurdodiad penodol gan yr awdurdod lleol. Roedd arfer da yn cynnwys ei gwneud yn ofynnol i ysgolion gadarnhau cyrchfan addysgol disgybl cyn tynnu ei enw oddi ar y gofrestr
- roedd gan bob awdurdod lleol gofrestr PCA ar waith cyn y cynllun peilot, ond roedd systemau'n amrywio o gronfeydd data integredig datblygedig i daenlenni sylfaenol, ac roedd eu heffeithiolrwydd o ran olrhain PCA yn amrywio
- roedd y dulliau o gofnodi teuluoedd sy'n darparu Addysg Ddewisol yn y Cartref anaddas yn ogystal â chofnodi pa mor hir yr oedd plentyn wedi bod yn colli addysg yn anghyson
- roedd trefniadau ar gyfer rhannu gwybodaeth am symudiadau disgyblion i'r sector ysgolion annibynnol ac oddi yno cyn y cynllun peilot yn gyfyngedig, yn anghyson ac yn anffurfiol ar y cyfan. Lle roedd trefniadau'n gweithio'n dda, roeddent yn dibynnu ar berthnasoedd lleol yn hytrach na chytundebau rhannu data ffurfiol
- nid oedd ysgolion annibynnol a gyfrannodd at y gwerthusiad yn rhannu gwybodaeth ag awdurdodau lleol am blant a oedd wedi cofrestru yn eu lleoliad na phryd y gwnaethant roi'r gorau i fynychu'r ysgol cyn y cynllun peilot.
O ran effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y broses o dderbyn data gan y sector iechyd, canfu'r gwerthusiad y canlynol:
- roedd y broses yn effeithlon ac roedd y trefniadau trosglwyddo data o PCGC i awdurdodau lleol yn gweithio'n ddidrafferth. Trosglwyddwyd dros 167,000 o gofnodion yn ddiogel ac yn effeithlon i 7 awdurdod lleol
- roedd problemau'n ymwneud â fformat, ansawdd a chywirdeb data’r GIG yn llesteirio awdurdodau lleol rhag paru’r data â’u cofnodion eu hunain. Y mater a oedd yn achosi'r pryder mwyaf i awdurdodau lleol oedd cywirdeb cofnodion y GIG
- byddai awdurdodau lleol wedi elwa o gael mynediad at fwy o wybodaeth ar gyfer pob cofnod iechyd a dderbyniwyd, a byddai defnyddio dynodwyr unigryw wedi cefnogi proses fwy effeithiol o baru data'n awtomatig.
O ran effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd derbyn data gan ysgolion annibynnol, canfu'r gwerthusiad y canlynol:
- roedd y broses yn anghyson. Nid oedd pob ysgol yn cydymffurfio â'r rheoliadau nac yn cyflwyno data o fewn yr amserlenni gofynnol
- roedd rhai awdurdodau lleol yn ansicr a oeddent wedi derbyn data gan bob ysgol berthnasol, gan iddynt ddweud nad oedd ganddynt fynediad at unrhyw gofrestr o ysgolion annibynnol yng Nghymru
- mewn rhai achosion, fe wnaeth ysgolion gyflwyno data, ond ni chawsant eu hanfon i'r cyfeiriad e-bost a ddarparwyd gan yr awdurdod lleol
- roedd ansawdd y data a rannwyd gan ysgolion annibynnol yn amrywio. Er yr ystyriwyd eu bod yn gyfoes yn gyffredinol, roedd y data weithiau'n cynnwys disgyblion nad oeddent o fewn cwmpas y data o ran oedran neu leoliad daearyddol
- roedd ysgolion yn cyflwyno data mewn amrywiaeth o fformatau a chyda gwahanol lefelau o ddiogelwch. Mae angen gwella prosesau trosglwyddo data ac efelychu'r arfer da a welwyd yn ystod y cynllun peilot
- mae ehangu'r ymarfer hwn ledled Cymru yn debygol o greu heriau, yn enwedig i ysgolion sy'n cofrestru plant o sawl ardal awdurdod lleol. Un ateb posibl fyddai i ysgolion gyflwyno data unwaith i borth canolog, gan nodi'r awdurdod lleol y mae pob plentyn yn byw ynddo, ac i'r wybodaeth hon gael ei rhannu â'r awdurdodau perthnasol
- roedd rhai cofnodion data a rannwyd gan ysgolion annibynnol eisoes yn hysbys i awdurdodau lleol, yn enwedig disgyblion a gynhelir gan yr awdurdod drwy Gynlluniau Datblygu Unigol (CDUau) ac a osodwyd yn y lleoliadau hyn gan yr awdurdod, gan godi cwestiynau ynghylch pa mor ddefnyddiol yw trosglwyddo data o'r fath.
O ran nifer y plant a allai fod yn colli addysg a ganfuwyd o ganlyniad i'r cynllun peilot cronfa ddata PCA, canfu'r gwerthusiad y canlynol:
- bu derbyn data gan y sector iechyd yn werthfawr o ran nodi plant a allai fod yn colli addysg mewn tua hanner yr awdurdodau lleol peilot, ond yn llai defnyddiol yn yr hanner a oedd yn weddill
- bu data'r cynllun peilot yn arbennig o ddefnyddiol i awdurdodau lleol gwledig llai o faint â phoblogaethau llai byrhoedlog, lle yr oedd y dasg o baru data yn fwy hylaw a gellid defnyddio technegau paru rhannol lled-awtomataidd yn effeithiol. Mewn gwrthgyferbyniad â hynny, roedd awdurdodau trefol mwy gyda phoblogaethau mwy byrhoedlog, er gwaetha'r ffaith bod ganddynt brosesau PCA a Systemau Gwybodaeth Reoli mwy soffistigedig, yn ei chael hi'n anodd gwneud defnydd llawn o ddata'r sector iechyd oherwydd maint y data a phroblemau gyda'u hansawdd
- cafodd y gwaith o adnabod plant a allai fod yn colli addysg ei lesteirio gan ddiffyg gwybodaeth am blant sy'n mynychu ysgolion mewn ardaloedd awdurdodau lleol cyfagos. Dylai mynd i'r afael â'r bwlch hwn mewn data fod yn flaenoriaeth ar gyfer y dyfodol, gan y credwyd bod llawer o blant a allai fod yn colli addysg a nodwyd drwy gronfa ddata'r sector iechyd wedi cofrestru mewn ysgolion y tu allan i'w hawdurdod cartref
- bu offer fel Fuzzy LookUp a Power Query Excel yn ddefnyddiol ar gyfer paru cofnodion data yn rhannol a dylid eu mabwysiadu'n ehangach pe bai'r cynllun peilot yn cael ei ymestyn ledled Cymru.
O ran cymharu nifer y PCA a oedd yn hysbys cyn y cynllun peilot cronfa ddata PCA a'r rhai a oedd yn hysbys ar ôl y cynllun peilot, canfu'r gwerthusiad y canlynol:
- arweiniodd y cynllun peilot at gynnydd sylweddol yn nifer y plant hysbys a allai fod yn colli addysg – dros 5,000 ar draws 5 awdurdod lleol a ddarparodd ddata, ond roedd llawer o'r cofnodion hyn yn ymwneud â phlant a oedd wedi symud o'r ardal neu wedi cofrestru gydag ysgolion mewn awdurdod lleol cyfagos
- dywedodd 3 awdurdod lleol fod y cynllun peilot wedi eu helpu i wella ansawdd a dibynadwyedd eu data, ac felly wedi helpu i adnabod plant a allai fod yn colli addysg
- roedd y gwaith paru data a'r gwaith dilynol parhaus adeg ein gwaith maes yn golygu nad oedd awdurdodau eraill yn gwybod a oedd y cynllun peilot wedi eu helpu i nodi plant a allai fod yn colli addysg nad oeddent yn gwybod amdanynt o'r blaen
- roedd gallu, parodrwydd a chapasiti awdurdodau lleol i fynd ar drywydd y cofnodion heb eu paru a oedd yn weddill, yn amrywio. Roedd gweithgaredd dilynol yn ddibynnol mewn rhai achosion ar gael mynediad at ddata gan awdurdodau lleol cyfagos a phob ysgol annibynnol yn y lle cyntaf. Roedd awdurdodau lleol eraill yn amharod i ymgymryd â chamau dilynol oherwydd pryderon ynghylch ansawdd a chyfoesedd data’r GIG ac oherwydd maint y gwaith.
O ran y diwygiadau sydd eu hangen i'r rheoliadau neu'r broses o dderbyn data, daeth y gwerthusiad i'r casgliad fod y cynllun peilot wedi bod yn ymarfer gwerth chweil mewn egwyddor, hyd yn oed os nad oedd yn werth chweil yn ymarferol eto, oherwydd ei fod wedi annog gwelliannau i brosesau ac arferion awdurdodau lleol ac wedi rhoi sicrwydd a dilysiad i rai ohonynt bod eu systemau presennol yn gadarn.
Ni fyddai ehangu'r cynllun peilot ar ei ffurf bresennol yn ddefnydd effeithiol o adnoddau oherwydd yr angen i sicrhau cysondeb a'r defnydd o brosesau PCA presennol ar draws yr awdurdodau lleol peilot fel eu bod yn gweithredu yn unol â gofynion statudol presennol a phroblemau parhaus gydag ansawdd y data yng nghofnodion y sector iechyd. O ran y flaenoriaeth nesaf, dylid mynd i'r afael â'r ddau fater hyn ar y cyd, yn hytrach na gofyn i awdurdodau lleol ailadrodd yr ymarfer neu ei ymestyn i ardaloedd ychwanegol. Ar ôl i'r problemau hyn gael eu datrys, gellid ystyried cyflwyno'r cynllun peilot rhannu data iechyd ar raddfa ehangach.
Argymhellion
Cynigir cyfres o argymhellion i’w hystyried. Er bod llawer o’r rhain yn canolbwyntio ar awdurdodau lleol peilot, dylid eu hystyried yn argymhellion ehangach i'w gweithredu yn y dyfodol.
Argymhelliad 1
Dylai awdurdodau lleol peilot barhau i fynd i'r afael â'r gwendidau a nodwyd yn eu prosesau PCA presennol, gyda chefnogaeth barhaus gan Lywodraeth Cymru a thrwy ddysgu o arfer da mewn meysydd eraill, er mwyn cydymffurfio â'r canllawiau cenedlaethol.
Argymhelliad 2
Dylai Llywodraeth Cymru roi cyngor ac arweiniad i awdurdodau lleol i sicrhau nad yw'r cyfrifoldeb am PCA yn cael ei roi ar wasanaethau lles addysg yn unig, a bod yr holl adrannau perthnasol, gan gynnwys timau derbyniadau ac ADY, yn llwyr ymwybodol o'u cyfrifoldebau. Yn yr un modd, dylid cefnogi awdurdodau lleol i sicrhau bod asiantaethau rheng flaen eraill fel cyrff iechyd, yr heddlu, troseddau ieuenctid a gwasanaethau hamdden yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau o ran nodi ac atgyfeirio plant a allai fod yn colli addysg at awdurdodau lleol.
Argymhelliad 3
Dylai awdurdodau lleol peilot wella cysondeb ac awtomatiaeth systemau a ddefnyddir i fonitro trefniadau pontio disgyblion, yn enwedig o flwyddyn 6 i flwyddyn 7 ac o leoliadau meithrin i ysgolion cynradd.
Argymhelliad 4
Dylai awdurdodau lleol peilot ei gwneud yn ofynnol i ysgolion gwblhau'r maes cyrchfan yn eu System Gwybodaeth Reoli cyn tynnu enw disgybl oddi ar y gofrestr. Ni ddylid caniatáu i ysgolion dynnu enw disgybl oddi ar y gofrestr nes bod y gyrchfan nesaf wedi'i chadarnhau.
Argymhelliad 5
Dylai awdurdodau lleol peilot gofnodi am ba hyd y mae pob plentyn heb fod yn mynychu'r ysgol ar eu cofrestrau PCA er mwyn helpu i fonitro ac ymateb i achosion yn fwy effeithiol.
Argymhelliad 6
Dylid cryfhau a ffurfioli protocolau rhannu data trawsffiniol rhwng awdurdodau lleol fel mater o flaenoriaeth, yn enwedig ar gyfer disgyblion nad ydynt erioed wedi cofrestru mewn ysgol yn ardal yr awdurdod lleol ble maent yn byw.
Argymhelliad 7
Dylai Llywodraeth Cymru atgoffa pob awdurdod lleol sut i gofnodi dysgwyr sy'n cael Addysg Ddewisol yn y Cartref pan ystyrir bod yr addysg a ddarperir yn anaddas. Dylai awdurdodau lleol ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru ar gofnodi'r wybodaeth hon ac unrhyw gamau dilynol a gymerir.
Argymhelliad 8
Dylai Llywodraeth Cymru ymchwilio i gyflwyno cytundebau rhannu data rhwng awdurdodau lleol a’r sector ysgolion annibynnol – neu ystyried gwneud hyn yn ofyniad statudol. Byddai hyn yn sicrhau bod ysgolion annibynnol yn rhannu gwybodaeth ag awdurdodau lleol am bob disgybl ar eu cofrestr ar ddechrau'r flwyddyn academaidd ac yn hysbysu awdurdodau lleol ar unwaith pan fydd disgybl yn gadael eu cofrestr.
Argymhelliad 9
Dylai awdurdodau lleol peilot a'r sector ysgolion annibynnol fyfyrio ar y gwersi a ddysgwyd o'r cynllun peilot ynghylch sut y mae data'n cael eu rhannu rhwng ysgolion annibynnol ac awdurdodau lleol (gweler adran 8.3 o'r adroddiad am fanylion). Yn benodol, dylid ystyried a fyddai dull wedi'i gydgysylltu'n ganolog yn gwneud y trefniadau hyn yn fwy effeithiol.
Argymhelliad 10
Dylai Llywodraeth Cymru ddarparu canllawiau cliriach i ysgolion annibynnol ynghylch pa ddisgyblion preswyl i'w cynnwys ar eu ffurflenni data, er enghraifft, a ddylid cynnwys y disgyblion preswyl o fewn ardal yr awdurdod ble maent yn byw neu'r rhai y mae eu cyfeiriad cartref arferol o fewn yr ardal honno.
Argymhellion a gynigir rhag ofn y bydd gofynion data'r sector iechyd yn cael eu hailadrodd neu eu cyflwyno’n ehangach yn y dyfodol
Argymhelliad 11
Dylai awdurdodau lleol peilot rannu gwybodaeth â PCGC am blant y maent wedi'u nodi fel rhai nad ydynt yn mynychu eu hysgolion mwyach ac nad ydynt yn ymddangos ar gronfeydd data'r ALl fel achosion gweithredol mwyach er mwyn caniatáu i GIG Cymru ddiweddaru eu cofnodion.
Argymhelliad 12
Os caiff y cynllun peilot trosglwyddo data iechyd ei ailadrodd neu ei ymestyn, dylai GIG Cymru ystyried cynnwys meysydd data ychwanegol yn y cofnodion a rennir ag awdurdodau lleol er mwyn cynorthwyo gyda'r gwaith o baru setiau data awdurdodau lleol yn fwy cywir. Yn ddelfrydol, dylai cofnodion data gynnwys data Cyfeirnod Eiddo Unigryw (UPRN), a lle bo modd, enwau rhieni. Dylai awdurdodau lleol nad ydynt yn cadw data UPRN ar hyn o bryd ymchwilio i fabwysiadu hynny.
Argymhellion a gynigir rhag ofn y bydd gofynion data ysgolion annibynnol yn cael eu hailadrodd neu eu cyflwyno’n ehangach yn y dyfodol
Argymhelliad 13
Dylai Llywodraeth Cymru hepgor disgyblion sydd eisoes yn cael eu cynnal gan awdurdodau lleol sydd wedi'u lleoli mewn ysgolion annibynnol oherwydd eu ADY o unrhyw ymarfer rhannu data yn y dyfodol, gan fod y cofnodion hyn eisoes yn cael eu cadw gan awdurdodau lleol.
Argymhelliad 14
Dylai Llywodraeth Cymru roi canllawiau cliriach i ysgolion annibynnol ynghylch y data y mae angen iddynt eu darparu a beth y dylid ei hepgor. Dylai hyn gynnwys templed adrodd a chyfarwyddiadau clir ar y fformat disgwyliedig ar gyfer y data. Dylai awdurdodau lleol hefyd sicrhau bod porth diogel ar gael er mwyn i ysgolion allu cyflwyno'r data yn ddiogel.
Argymhelliad 15
Dylai Llywodraeth Cymru rannu cronfa ddata o’r holl ysgolion annibynnol yng Nghymru ynghyd â manylion cyswllt (enw a chyfeiriad e-bost) ag awdurdodau lleol i'w helpu i fonitro ymatebion a sicrhau bod setiau data yn gyflawn.
Argymhelliad 16
Dylid ystyried datblygu porth canolog lle y gall ysgolion annibynnol gyflwyno eu data unwaith, gan symleiddio prosesau adrodd a chyfathrebu. Dylai awdurdodau lleol ymchwilio i sut y gellid sefydlu a rheoli porth canolog o'r fath.
Argymhellion a gynigir rhag ofn y bydd gofynion data'r sector iechyd yn cael eu hailadrodd neu eu cyflwyno’n ehangach yn y dyfodol
Argymhelliad 17
Dylai awdurdodau lleol hysbysu awdurdod lleol preswyl y plentyn yn awtomatig pan fydd disgybl yn cofrestru mewn ysgol yn eu hardal. Byddai mynd i'r afael â'r bwlch hwn yn gwneud data'r sector iechyd yn y dyfodol yn fwy defnyddiol ac yn haws ei baru, gan helpu awdurdodau i nodi plant a allai fod yn colli addysg yn fwy effeithiol.
Argymhelliad 18
Dylai awdurdodau lleol peilot rannu profiadau a thechnegau ar gyfer paru data awtomataidd a lled-awtomataidd, gan gynnwys offer fel Excel Fuzzy LookUp a Power Query. Byddai hyn yn cefnogi prosesau paru mwy effeithlon a chyson, yn enwedig os caiff y cynllun peilot ei ehangu ledled Cymru.
Manylion cyswllt
Awduron: Nia Bryer a Heledd Bebb, Ymchwil OB3
Safbwyntiau'r ymchwilwyr yw'r farn a fynegir yn yr adroddiad hwn ac nid barn Llywodraeth Cymru o reidrwydd.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Cangen Ymchwil Ysgolion
Yr Is-adran Ymchwil Gymdeithasol a Gwybodaeth
Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Ebost: YmchwilYsgolion@llyw.cymru
Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 56/2026
ISBN digidol 978-1-83745-360-3
