Mae’r Rhaglen yn ceisio darparu buddsoddiad sylweddol mewn safleoedd twristiaeth allweddol a fydd yn denu buddsoddiad a thwf.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Gwerthusiad o’r Cyrchfannau Denu Twristiaeth
Mae’r rhaglen yn gwneud cynnydd da hyd yma, yn enwedig mewn perthynas â chwblhau cynlluniau, sicrhau arian cyfatebol, a chaffael gwasanaethau.
Mae achosion o oedi wrth gyflwyno’r rhaglen, ynghyd â data gwaelodlin anghyflawn, yn achosi heriau wrth asesu canlyniadau yn ystod y cyfnod interim hwn.
Prif ganfyddiadau
- Mae cefnogaeth i resymeg y rhaglen a’i nod o ddatblygu cyrchfannau ac atyniadau uchel eu proffil ledled Cymru.
- Mae Croeso Cymru wedi rheoli’r rhaglen yn effeithiol hyd yma.
- Mae systemau a phrosesau effeithiol wedi’u datblygu a’u gwella ar gyfer rheoli’r rhaglen.
- Mae tystiolaeth gynnar o gyfraniad y Cyrchfannau Denu Twristiaeth (TAD) at gyflenwi a chreu swyddi.
- Ychydig iawn o ymwybyddiaeth o TAD sydd gan bobl ar wahân i’r rheini sydd wedi bod yn rhan uniongyrchol o gyflenwi’r rhaglen.
- Gallai grŵp rhwydwaith y prosiect TAD fod ychydig yn fwy deinamig o ran hwyluso’r gwaith o gyfnewid gwybodaeth ac arferion da ymysg partneriaid.
- Mae themâu trawsbynciol Cronfa Ddatblygu Rhanbarthol Cymru wedi cael eu gwneud yn rhan o’r ymyriad, ond gellid rhoi mwy o sylw i’r themâu hyn a’r iaith Gymraeg, a’u hyrwyddo’n well, ar lefel prosiectau unigol.
- Mae lle i wella cysylltiadau â gweithgareddau a rhaglenni lleol a rhanbarthol eraill.
