Neidio i'r prif gynnwy

Gwerthusiad o gyrchfannau twristiaeth dethol a gyllidir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) ac a gyflenwir drwy Raglenni Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd 2014 hyd 2020.

Caiff y gwaith ei gyllido’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a’r nod yw cyflawni buddsoddiad sylweddol yn economaidd mewn asedau twristiaeth allweddol a fyddai’n denu rhagor o fuddsoddiad gan fusnesau a thwf i fusnesau. Canolbwyntiodd y gwaith am Gyrchfannau Denu Twristiaeth ar 12 o safleoedd ar gyfer buddsoddi.

Prif gasgliadau

  • Mae’r angen strategol am Gyrchfannau Denu Twristiaeth yn parhau.
  • Roedd y Cyrchfannau Denu Twristiaeth yn llwyddiannus at ei gilydd o ran y canlyniadau a gyflawnwyd yn erbyn yr ymrwymiadau cyflenwi.
  • Mae safleoedd wedi llwyddo i ddenu ymwelwyr newydd.
  • Mae’r gwaith wedi cyfrannu’n helaeth at Themâu Trawsbynciol amrywiol.
  • Ni allai marchnata posibl ar y cyd rhwng gwahanol Gyrchfannau Denu Twristiaeth ddigwydd.
  • Mae Cyrchfannau Denu Twristiaeth wedi trawsnewid safleoedd, gan godi Safonau ac ehangu’r hyn a gynigir i ymwelwyr.

Adroddiadau

Cyswllt

Andrew Booth

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.