Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Comisiynwyd Arad Research gan Lywodraeth Cymru ym mis Awst 2018 i gynnal gwerthusiad o weithrediad Cyrchfannau Denu Twristiaeth (TAD). Ariannwyd TAD gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) ac roedd yn rhan o Raglen ERDF Gorllewin Cymru a'r Cymoedd 2014-2020. Ariannwyd y gweithrediad o dan Flaenoriaeth 4.4 o Raglen ERDF gyda’r nod o gynyddu cyflogaeth trwy fuddsoddiadau mewn seilwaith blaenoriaeth neu ranbarthol sy'n cefnogi strategaeth economaidd ranbarthol neu drefol.

Amcan TAD oedd sicrhau buddsoddiad economaidd sylweddol mewn asedau twristiaeth allweddol a fyddai’n denu buddsoddiad busnes pellach a chreu twf busnes i sicrhau canlyniadau allweddol o ran cyflogaeth ac adfywio.

Cafodd deuddeg prosiect TAD eu dewis drwy ymarferiad blaenoriaethu rhanbarthol, a oedd yn cynnwys byrddau economaidd rhanbarthol a phartneriaid allweddol. [troednodyn 1]

Cyfanswm gwariant gweithrediad TAD oedd £67.2m, yn cynnwys £26.7m mewn cyllid ERDF a £40.5m mewn cyllid cyfatebol trwy amrywiol ffynonellau (cyfraniadau awdurdodau lleol yn bennaf, cyfraniadau buddiolwyr ar y cyd, cyllid Llywodraeth Cymru, benthyciadau a ffynonellau cyllid eraill).

Cyhoeddwyd adroddiad interim yn Ionawr 2020, a gyflwynodd asesiad o’r cynnydd hyd at ddiwedd 2019. Mae'r adroddiad hwn yn darparu synthesis o'r canfyddiadau interim, crynodeb o ymchwil ail-ymgysylltu yn dilyn pandemig COVID-19 a chanfyddiadau cam terfynol y gwerthusiad.

Methodoleg

Roedd dulliau ymchwil y gwerthusiad yn cynnwys:

  • ymchwil desg i adolygu dogfennaeth perthnasol Rhaglen ERDF a gweithrediad TAD
  • cyfweliadau cwmpasu gyda chynrychiolwyr Croeso Cymru, Llywodraeth Cymru a buddiolwyr ar y cyd
  • gwaith maes y gwerthusiad interim, yn seiliedig yn bennaf ar ddulliau ansoddol er mwyn datblygu dealltwriaeth o gynnydd, o’r heriau a'r ffactorau lleol a oedd yn effeithio ar brosiectau
  • gweithgarwch ail-ymgysylltu: cyfweliadau gyda chynrychiolwyr prosiectau er mwyn derbyn diweddariad ar gynlluniau a chynnydd yn dilyn effaith cyfnodau cloi COVID-19
  • cam ymchwil terfynol: ymchwil ansoddol pellach gyda buddiolwyr ar y cyd rhwng Gorffennaf 2022 a Ionawr 2023 i archwilio enghreifftiau o ganlyniadau ac effeithiau prosiectau; gofynnwyd i brosiectau TAD gasglu data ar brofiadau ymwelwyr o ymweld â safleoedd, gan ddefnyddio holiadur wedi'i deilwra ar gyfer pob prosiect unigol

Canfyddiadau ac argymhellion y gwerthusiad

Cyffredinol 

Llwyddodd gweithrediad TAD i gefnogi 12 prosiect uchelgeisiol a oedd â'r nod o godi ansawdd a chanfyddiadau cyrchfannau twristiaeth yng Nghymru.

Roedd buddiolwyr ar y cyd gweithrediad TAD wedi wynebu heriau sylweddol wrth gyflawni prosiectau, yn enwedig yn ystod pandemig COVID-19, a gafodd effaith ddinistriol ar fusnesau a sefydliadau ar draws y sectorau twristiaeth a lletygarwch. Mae'r ffaith fod buddiolwyr ar y cyd wedi medru addasu, ail-grwpio a chwblhau prosiectau yn gamp nodedig. Mae'n dangos gwytnwch, dyfalbarhad a hyblygrwydd pawb a oedd yn rhan o’r gweithrediad, yn cynnwys rheolwyr prosiectau TAD unigol, tîm rheoli'r rhaglen yn Croeso Cymru a chydweithwyr yn WEFO.

Alinio strategol

Roedd nodau’r gweithrediad a’r ystod o brosiectau a gefnogwyd yn cyd-fynd yn strategol â pholisïau Llywodraeth Cymru i gefnogi twristiaeth ac adfywio. Canfu'r gwerthusiad enghreifftiau o integreiddio rhwng prosiectau TAD a rhaglenni buddsoddi ehangach ar lefelau lleol a rhanbarthol.

Nododd cynllun busnes y gweithrediad nifer o'r heriau sy'n wynebu'r diwydiant twristiaeth yng Nghymru a nododd botensial prosiectau TAD i helpu i fynd i'r afael â'r materion hyn, gan gynnwys materion gwariant, natur dymhorol y sector a’r angen i amrywio’r cynnig i ymwelwyr. Ar draws y gyfres o brosiectau cafwyd enghreifftiau cadarnhaol o gynnydd mewn gwariant ymwelwyr o ganlyniad uniongyrchol i'r buddsoddiad mewn safleoedd. Mae TAD wedi gwella'r cynnig twristiaeth drwy gydol y flwyddyn mewn safleoedd a allai, dros amser, helpu i fynd i'r afael â'r galw tymhorol sy'n cyfrannu at gynhyrchiant isel a chyfleoedd cyflogaeth ansicr yn y diwydiant. Yn olaf, mae'r buddsoddiad mewn prosiectau wedi cyfrannu at wella amrywiaeth y cynnig i ymwelwyr â Chymru, gan arwain at atyniadau arloesol o ansawdd uchel.

Model gweithredu

Roedd model gweithrediad TAD yn canolbwyntio ar fuddsoddi mewn safleoedd ar raddfa fawr. Mae’r tystiolaeth a gasglwyd ac a adolygwyd yn ystod y gwerthusiad yn awgrymu bod buddsoddiad sylweddol mewn nifer gymharol fach o gyrchfannau wedi llwyddo i wella'r cynnig twristiaeth, denu ymwelwyr newydd a bod yn gatalydd ar gyfer gweithgareddau twristiaeth ac adfywio eraill. Roedd graddfa'r buddsoddiad mewn nifer fach o safleoedd twristiaeth a flaenoriaethwyd yn rhanbarthol yn wahanol i amcanion cronfeydd buddsoddi eraill fel y Cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth, Cronfa Buddsoddi Twristiaeth Cymru a'r Gronfa i Fusnesau Bach a Micro. Mae cefnogaeth barhaus i fodel buddsoddi o'r fath a all fod yn effeithiol wrth ysgogi trawsnewidiadau i safleoedd.

Yn ystod cyfnod cythryblus i'r diwydiant twristiaeth, roedd graddfa'r prosiectau a gefnogwyd, a'r ffaith eu bod yn cael eu rheoli gan sefydliadau sector cyhoeddus yn y rhan fwyaf o achosion, yn golygu eu bod mewn sefyllfa well i wrthsefyll yr heriau ariannol a gweithredol a gyflwynwyd yn ystod y pandemig.

Roedd y model gweithredu a graddfa'r buddsoddiad hefyd wedi annog sefydliadau i feddwl yn arloesol am y safleoedd yr oeddent yn eu rheoli a'u hyrwyddo. Dywedodd sefydliadau eu bod wedi cael eu hysbrydoli drwy TAD i feddwl yn wahanol am safleoedd, gan arwain at gyfleoedd busnes newydd.

Ymrwymiadau cyflawni

Gan ystyried cyd-destun y gweithrediad, roedd TAD yn llwyddiannus yn gyffredinol o ran yr allbynnau a gyflawnwyd yn erbyn ymrwymiadau a thargedau. Er mai dim ond un o'r pedwar dangosydd (tir a ddatblygwyd) a gyrhaeddwyd, daeth y gweithrediad yn agos iawn at gwrdd â’r tri dangosydd arall. O ystyried yr aflonyddwch a achoswyd gan y pandemig a'r newidiadau i gynlluniau a phroffiliau prosiectau, mae hwn yn gyflawniad cadarnhaol iawn.

Canfyddiadau ymwelwyr o safleoedd

Darlun rhannol yn unig o ganfyddiadau ymwelwyr o safleoedd TAD a gafwyd drwy’r data a gasglwyd yn ystod y gwerthusiad. Mae arwyddion bod safleoedd wedi llwyddo i ddenu ymwelwyr newydd. Roedd ymwelwyr a gwblhaodd arolwg yn cydnabod bod safleoedd TAD wedi gwella ac yn adrodd lefelau uchel o foddhad ag ansawdd eu profiadau yn y safleoedd. Nododd cyfran uchel o ymwelwyr y byddent yn argymell y safle i eraill a nododd dros ddwy ran o dair y byddent yn ail-ymweld â'r safle y tu allan i'r tymor prysuraf (h.y. rhwng Hydref a Mawrth).

Argymhelliad

Fel rhan o unrhyw raglenni yn y dyfodol, dylid sicrhau bod prosiectau a ariennir yn canolbwyntio'n fwy cadarn ar gynnal gweithgarwch hunanwerthuso, gan gynnwys casglu data ymwelwyr.

Argymhelliad

Dim ond dros gyfnod hwy y bydd llawer o'r canlyniadau a'r effeithiau ar safleoedd TAD yn dod i’r amlwg, o bosibl 2 i 5 mlynedd ar ôl i brosiectau gael eu cwblhau. Dylai Croeso Cymru ystyried cynnal gwerthusiadau tymor hwy o safleoedd er mwyn deall eu heffaith ar ganfyddiadau ymwelwyr dros amser a'u cyfraniad at wella'r dirwedd dwristiaeth yn lleol a rhanbarthol.

Marchnata a hyrwyddo

Tynnwyd cronfa farchnata TAD yn ôl yn sgil y pandemig ac roedd buddiolwyr ar y cyd o’r farn fod hyn wedi effeithio ar eu gallu i hyrwyddo a marchnata atyniadau, yn enwedig o ystyried y cyllid refeniw cyfyngedig sydd ar gael gan bartneriaid. Roedd yr oedi i amserlenni ar gyfer prosiectau TAD unigol hefyd wedi golygu bod angen addasu gwaith hyrwyddo a marchnata. Mae'r prosiectau'n cael eu trin fel ychwanegiadau gwerthfawr i gynnig twristiaeth Cymru ac mae Croeso Cymru wedi nodi y bydd yn parhau i gynnwys prosiectau TAD yn ei weithgareddau marchnata yn ôl cynnyrch, tymor a chynulleidfa.

O ganlyniad i bandemig COVID-19, nid oedd modd cynnal marchnata ar y cyd, syniad a drafodwyd mewn cyfarfodydd gweithredol (cynnar) rhwng buddiolwyr ar y cyd TAD. O dan amgylchiadau arferol, gellid bod wedi manteisio ar y cyfleoedd ar gyfer marchnata neu hyrwyddo ar y cyd ar y lefel ranbarthol, fodd bynnag, nid oedd hyn yn bosibl ar gyfer gweithrediad TAD oherwydd effaith COVID-19. 

Argymhelliad

Dylai Croeso Cymru archwilio cyfleoedd pellach i hwyluso marchnata a hyrwyddo ar y cyd rhwng prosiectau TAD ac atyniadau lleol a rhanbarthol eraill fel rhan o gynnig twristiaeth yn seiliedig ar thema, lle bo hynny'n briodol.

Themâu trawsbynciol a’r iaith Gymraeg

Cafodd themâu trawsbynciol eu hymgorffori fel rhan o gynlluniau’r deuddeg prosiect – y themâu oedd: i) cyfleoedd cyfartal a phrif ffrydio rhywedd, ii) datblygu cynaliadwy, a iii) mynd i'r afael â thlodi ac allgáu cymdeithasol Roedd prosiectau'n llwyddiannus wrth gyflawni eu dangosyddion CCT, gyda 88 y cant o'r targedau yn cael eu cyflawni. Mae llawer o brosiectau wedi gwella hygyrchedd i safleoedd ar gyfer pobl anabl. Ceisiodd buddiolwyr ar y cyd datblygu cadwyni cyflenwi lleol, sefydlu cysylltiadau newydd â busnes a gwella buddion cymunedol prosiectau. Yn ogystal, cymerodd brosiectau TAD gamau i sicrhau effeithlonrwydd adnoddau ac i gefnogi bioamrywiaeth eu safleoedd.

Canfu'r gwerthusiad rywfaint o dystiolaeth o gyfraniad prosiectau i nodau Cymraeg 2050. Fodd bynnag, ar draws y gweithrediad cyfan, roedd hyn yn aml yn cael ei yrru gan gydymffurfio â dyletswyddau statudol fel rhan o safonau'r Gymraeg.

Wrth gynllunio eu prosiectau, roedd angen i fuddiolwyr ar y cyd sicrhau bod prosiectau'n cyd-fynd â nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Roedd ymrwymiad i gynaliadwyedd ar draws pob prosiect, yn ogystal ag awydd i gydweithio â chymunedau drwyddi draw. Roedd cynhwysedd a chydraddoldeb hefyd yn nodweddion amlwg iawn ar draws y gweithrediad. Yn seiliedig ar y canlyniadau a welwyd, mae'r gweithrediad wedi gwneud cyfraniad amlwg i gefnogi nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

Nododd Cynllun Busnes TAD yr uchelgais i gefnogi safleoedd a all ddod yn gyrchfannau twristiaeth eiconig, hanfodol yng Nghymru. Heb os, mae TAD wedi trawsnewid safleoedd, gan godi ansawdd y safleoedd ac arallgyfeirio'r cynnig sydd ar gael i ymwelwyr. Ni ellir dweud yn gwbl hyderus bod y gweithrediad wedi cyflawni'r uchelgeisiau beiddgar a bennwyd, fodd bynnag ar gyfer rhai prosiectau mae datblygiadau pellach wedi'u cynllunio ac mae TAD yn cynrychioli un cam mewn cynllun strategol tymor hwy.

Argymhelliad

Dylai Croeso Cymru ystyried sut y gellir cefnogi prosiectau TAD ymhellach drwy raglenni strategol fel rhan o’r strategaeth dwristiaeth genedlaethol i barhau eu datblygiad tuag at fod yn brofiadau o'r radd flaenaf i ymwelwyr.

Troednodiadau

[1] Ceir rhestr o’r prosiectau, a chrynodeb o’u gweithgarwch, yn Nhabl 2 o’r adroddiad llawn. 

Manylion cyswllt

Awduron yr adroddiad: Duggan, B. Howells, D. Cole, P. and Stedman, K.: Arad Research

Mae’r safbwyntiau a fynegwyd yn yr adroddiad hwn yn perthyn i’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd Llywodraeth Cymru.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Andrew Booth
Ebost: gwerthuso.ymchwil@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 11/2024
ISBN digidol 978-1-83577-518-9

Image
GSR logo