Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Nodau ac amcanion yr adolygiad

Penodwyd Ymchwil OB3 gan Lywodraeth Cymru i gynnal gwerthusiad o gynllun ENRaW:

Nod y gwerthusiad yw asesu a yw prosiectau a ariannwyd gan ENRaW, a gyflawnwyd rhwng mis Ebrill 2019 a mis Mawrth 2023, yn cyflawni nodau ac amcanion y cynllun. Disgwylir i’r gwerthusiad adolygu:

  • y ffordd y cafodd y cynllun grant ei weinyddu a'i gyflawni gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys y prosesau ymgeisio, y gofynion monitro a'r ffordd y cafodd y grant ei reoli gyda'r nod o ganfod yr hyn sydd wedi gweithio’n dda a’r hyn y gellid ei wella yn y dyfodol
  • effaith uniongyrchol grantiau ac a gyflawnodd y grantiau a ddyfarnwyd eu nodau a’u hamcanion gwreiddiol, gan gynnwys cyflawni'r targedau a'r canlyniadau a nodir mewn ceisiadau a chynlluniau cyflawni
  • manteision a chyflawniadau ehangach ac annisgwyl, gan gynnwys unrhyw fanteision lluosog ehangach yn ychwanegol at y manteision uniongyrchol a ddisgwyliwyd

Mae'r gwerthusiad yn cael ei gynnal rhwng mis Hydref 2021 a mis Hydref 2023. Mae eisoes wedi cynnwys paratoi Damcaniaeth Newid ac adroddiad Fframwaith Gwerthuso (heb ei gyhoeddi, Ionawr 2022) ac Adroddiad Interim sy'n ystyried sut y cafodd y cynllun grant ei weinyddu a'i gyflawni ac sy'n cyflwyno canfyddiadau cynnar ar effaith y cynllun. Bydd hefyd yn golygu paratoi adroddiad gwerthuso terfynol erbyn mis Hydref 2023 a fydd yn ystyried effaith a chyflawniadau'r cynllun yn fanylach.

Dull

Mae'r gwerthusiad interim hwn wedi cynnwys:

  • adolygiad desg o ddogfennau polisi a dogfennau strategol diweddar, dogfennau cynllun ENRaW a'r data monitro, a gwybodaeth ar lefel prosiect
  • cyfweld â chyfanswm o 13 o swyddogion Llywodraeth Cymru sy’n ymwneud â dylunio a datblygu ENRaW a hwyluso gweithdy ar y Ddamcaniaeth Newid gyda’r swyddogion hyn
  • datblygu a dosbarthu arolwg dwyieithog ar-lein i holl ymgeiswyr ENRaW a derbyn 45 o ymatebion i'r arolwg, sef cyfradd ymateb o 47 y cant
  • dewis sampl o 30 o blith 57 o brosiectau a ariannwyd a chynnal cyfweliadau manwl gydag arweinwyr y prosiectau hynny. Cynhaliwyd gwaith maes pellach gyda sefydliadau partner, buddiolwyr, cynrychiolwyr cymunedol a swyddogion polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer wyth o’r prosiectau hyn. Cyfrannodd cyfanswm o 91 o unigolion at y gwaith maes ar draws y 30 o brosiectau a ddewiswyd
  • cyfweld ag un ymgeisydd aflwyddiannus am grant ENRaW
  • cyfuno canfyddiadau'r gwaith maes a'r adolygiad desg a pharatoi adroddiad interim

Prif ganfyddiadau

Canfu’r gwerthusiad fod ENRaW wedi adlewyrchu polisi a strategaethau Llywodraeth Cymru yn fanwl a’i fod wedi bod yn gyfle gwych i gefnogi prosiectau trawsbolisi sy’n cwmpasu'r amgylchedd, cymunedau, yr economi, ac iechyd a llesiant ledled Cymru yn gyflym ac ar raddfa fawr.

O ran gweinyddu a chyflawni'r cynllun, canfu’r gwerthusiad y canlynol:

  • mae ENRaW wedi cael ei hyrwyddo’n effeithiol, gydag egni ag agwedd bositif ar ran staff Llywodraeth Cymru
  • bu galw mawr am gyllid, yn bennaf oherwydd bod y cynllun wedi’i gynllunio i ysgwyddo 100 y cant o gostau prosiectau dros gyfnod tymor canolig o dair blynedd, ac mae hwn wedi bod yn gynnig deniadol i bartneriaethau
  • fe wnaeth prosesu nifer mawr o geisiadau am gyllid roi cryn bwysau ar adnoddau staff Llywodraeth Cymru
  • canfuwyd bod trefniadau ymgeisio, asesu a gweinyddu grant Cyfnod 1 yn rhesymol a phriodol, ac un o gryfderau amlwg y cyfnod cyllido hwn oedd y ffaith y gallai'r ymgeisydd ddelio'n uniongyrchol ag un o swyddogion Llywodraeth Cymru
  • mae trosglwyddo'r cynllun i fecanweithiau'r Cynllun Datblygu Gwledig a'r angen i fodloni gofynion cyllido'r Cynllun Datblygu Gwledig wedi bod yn aflonyddgar ac yn niweidiol i'r broses o weinyddu'r cynllun yn ddidrafferth. Digwyddodd y newidiadau hyn cyn Cyfnodau 2 a 3 y broses ymgeisio am grant ac roeddent yn cyd-daro â'r pandemig COVID-19; canfuwyd bod y newid yn y broses weinyddol yn rhoi straen mawr i brosiectau a’i fod yn cael effaith negyddol ar eu gallu i gyflawni canlyniadau llwyddiannus, yn bennaf oherwydd iddynt golli ewyllys da y staff, y gymuned a phartneriaid tuag at eu prosiectau

O ran cyfatebiaeth y prosiectau a ariannwyd â nodau ac amcanion y cynllun, canfu'r gwerthusiad y canlynol:

  • mae'r prosiectau o ansawdd da ac yn cyflawni gwaith amgylcheddol a chymunedol gwerth chweil
  • mae'r prosiectau’n cynnal gweithgareddau sy'n cyd-fynd â Meysydd Ffocws y Cynllun Datblygu Gwledig ac Amcanion Trawsbynciol, yn ogystal â themâu trawsbynciol Llywodraeth Cymru, ond ychydig iawn o dystiolaeth sydd ar gael hyd yma i ddangos sut y maent yn mynd ati i brif ffrydio rhywedd
  • mae'r prosiectau'n mabwysiadu dulliau da iawn, sy'n aml yn greadigol, o ddefnyddio a hyrwyddo’r Gymraeg mewn ffordd gadarnhaol
  • mae ffocws ENRaW ar gydweithio wedi annog a chefnogi gwaith traws-sector sylweddol a fyddai'n annhebygol o fod wedi'i gyflawni fel arall
  • mae tystiolaeth dda bod ENRaW wedi cefnogi'r broses o sefydlu a datblygu partneriaethau newydd yn ogystal â galluogi eraill i ehangu a chryfhau, yn ddaearyddol ac o ran yr ystod o bartneriaid dan sylw

O ran y prosiectau a ariannwyd yn cyflawni eu nodau a'u hamcanion:

  • mae tystiolaeth dda bod prosiectau a gwblhawyd yng Nghyfnod 1 wedi cyflawni’r hyn yr oeddent yn bwriadu ei gyflawni, ac mae’r prosiectau hyn wedi sicrhau canlyniadau sy’n cwmpasu gwahanol bolisïau a sectorau
  • mae set briodol o ddangosyddion y cynllun ar waith sy'n ddefnyddiol i ddangos yr allbynnau sy'n cael eu cyflawni; mae'r cynllun yn perfformio'n dda yn erbyn ei dargedau gwreiddiol a hyd yma, mae prosiectau wedi rhagori ar y targedau a osodwyd ganddynt ar eu cyfer nhw eu hunain; fodd bynnag, mae angen gwneud rhagor o waith i gasglu ac adrodd ar fetrigau mwy cyson yn erbyn y dangosyddion hyn er mwyn gallu adrodd ar gyflawniadau mwy cywir
  • mae prosiectau a gwblhawyd wedi cynhyrchu ystod eang o fanteision cymunedol a chymdeithasol; iechyd a llesiant; ac amgylcheddol; hyd yma, ychydig o brosiectau sydd wedi’u cwblhau sy’n gallu dangos tystiolaeth eu bod wedi cynhyrchu canlyniadau economaidd cadarnhaol, heblaw defnyddio contractwyr lleol i wneud gwaith, er bod rhywfaint o dystiolaeth dda bod prosiectau wedi sicrhau rhagor o ffynonellau incwm
  • mae’r materion sylweddol sy’n gysylltiedig â Chyfnodau 2 a 3 yn golygu bod y prosiectau hyn yn annhebygol o gyflawni eu holl nodau ac amcanion, yn bennaf oherwydd eu cyfnod cyflawni byrrach ond hefyd oherwydd bod materion yn ymwneud â gweinyddu grantiau, megis cael cymeradwyaeth ymlaen llaw ar gyfer unrhyw wariant dros £500, yn rhwystro cynnydd a chyflymder y ddarpariaeth
  • mae tystiolaeth dda bod prosiectau a phartneriaethau yn parhau ar ôl i'r cyllid ddod i ben neu'n debygol o barhau ar ôl i'r cyllid ddod i ben yn achos prosiectau parhaus; mae prosiectau a phartneriaethau'n cael eu cynnal mewn amrywiaeth o ffyrdd, gan gynnwys drwy ffynonellau cyllid grant eraill, cronfeydd sydd gan y sefydliadau eisoes neu drwy berchnogaeth gymunedol a gwirfoddol

O ran gwersi a ddysgwyd o weithredu'r cyfnodau a ariannwyd gan y Cynllun Datblygu Gwledig, canfu’r gwerthusiad:

  • fod angen symleiddio a byrhau amserlenni a phrosesau ar gyfer cymeradwyo gwariant cynlluniau
  • y dylid rhoi mwy o hyblygrwydd i brosiectau a ariennir i ymdopi â newidiadau yn eu cyllidebau
  • nid yw'r system taliadau a hawliadau bresennol yn addas ar gyfer gweinyddu prosiect mawr, cymhleth fel ENRaW

Argymhellion

Mae'r gwerthusiad yn cynnig tri argymhelliad ar gyfer y cyfnod cyflawni sy'n weddill ar gyfer ENRaW.

  1. Dylai ENRaW gefnogi prosiectau a ariennir i fabwysiadu metrigau cyson wrth adrodd ar yr allbynnau a gyflawnwyd yn erbyn dangosyddion craidd y rhaglen megis gwella mannau gwyrdd a phlannu gwrychoedd.
  2. Dylai Llywodraeth Cymru hwyluso rhannu profiadau rhwng prosiectau a ariennir ac yn arbennig y broses o rannu arferion da mewn perthynas â’r themâu trawsbynciol, gan gynnwys y Gymraeg, a Meysydd Ffocws y Cynllun Datblygu Gwledig er mwyn annog eraill i fabwysiadu arferion tebyg a mynd i'r afael â meysydd gwannach megis prif ffrydio rhywedd.
  3. Dylai Llywodraeth Cymru neilltuo swyddog cyllido penodedig o fewn Taliadau Gwledig Cymru i brosiectau a ariennir yn barhaus gan y Cynllun Datblygu Gwledig er mwyn helpu i ddatrys materion yn ymwneud â hawliadau ariannol a thaliadau grant.

Ar ôl i ENRaW ddod i ben, mae’r gwerthusiad yn argymell y canlynol dylai Llywodraeth Cymru gydnabod cryfderau cynllun cyllid grant ENRaW ac adeiladu arnynt, yn benodol:

  • y broses ymgynghori a mewnbwn rhanddeiliaid i'r broses gyd-ddylunio
  • ei ddull hirdymor arfaethedig o ddarparu cyllid dros gyfnod o dair blynedd
  • ei gynnig o gyllid refeniw a chyllid cyfalaf
  • ei fodel cyllido sy'n seiliedig ar adennill costau llawn
  • ei ffocws ar bartneriaeth gynaliadwy a chydweithio ar draws meysydd polisi lluosog
  • ei ffocws ar gyflawni ar raddfa ranbarthol a thirwedd

Dylai Llywodraeth Cymru fyfyrio ar yr adborth gan ymgeiswyr a phrosiectau a ariannwyd am y prosesau ymgeisio, asesu a hawlio grant er mwyn bod yn sail i ddulliau gweithredu yn y dyfodol; o ystyried ei fod yn awgrymu'n gryf bod prosesau Cyfnod 1 wedi bod yn fwy addas ar gyfer cynllun cyllido fel ENRaW. Yn benodol, byddai’r gwerthuswyr yn argymell:

  • cadw at broses ymgeisio dau gam sy'n cynnwys cam Datgan Diddordeb a cham ymgeisio llawn ond bod gofynion y cam Datgan Diddordeb yn cael eu symleiddio a rhoi mwy o gyfle i ymgeiswyr amlinellu diben eu prosiect
  • cytuno ar amserlenni ar gyfer asesu a chymeradwyo ceisiadau ymlaen llaw a chadw atynt
  • penodi swyddog cyllido penodedig ar gyfer pob prosiect a ariennir i fonitro cynnydd a datrys unrhyw faterion yn ymwneud â hawliadau
  • modelu trefniadau ar gyfer cyflwyno a chymeradwyo hawliadau ar brosesau Cyfnod 1 sy'n brosesau mwy addas, ac yn darparu mwy o hyblygrwydd, i brosiectau traws-bolisi cymhleth

Manylion cyswllt

Report authors: Bryer, N and Bebb, H (2023), Ymchwil OB3

Mae’r safbwyntiau a fynegwyd yn yr adroddiad hwn yn perthyn i’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd Llywodraeth Cymru.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Hannah Browne Gott
Ebost: climateandenvironmentresearch@gov.wales

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 22/2023
ISBN digidol 978-1-80535-536-6

Image
GSR logo