Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Cynllun grant amgylcheddol sengl a sefydlwyd ym mis Ebrill 2018 oedd cynllun grant Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant (ENRaW) Cymru gyfan Llywodraeth Cymru. Disgwyliwyd iddo gefnogi prosiectau i wneud gwelliannau mewn ardaloedd preswyl ac o’u hamgylch ac i greu manteision i bobl, busnesau a’u cymunedau. Diben ENRaW oedd cyllido prosiectau peilot a phrosiectau arddangos a oedd yn hyrwyddo cydweithredu a chydweithio er mwyn:

  • datblygu, adfywio ac ehangu mynediad i seilwaith gwyrdd cynaliadwy
  • gwella ansawdd yr amgylchedd adeiledig trefol a gwledig
  • datblygu rhwydweithiau ecolegol cydnerth ac atebion sy'n seiliedig ar natur

Neilltuwyd cyllideb gyfalaf o £33.325 miliwn a chyllideb refeniw o £26.096 miliwn dros gyfnod o bedair blynedd rhwng 2019/20 a 2022/23 a gweinyddwyd tri chyfnod cyllido cystadleuol gan Lywodraeth Cymru i ddyfarnu cyllid. Cafodd y cynllun gyllid gan y Rhaglen Datblygu Gwledig hanner ffordd drwy’r ddarpariaeth yn 2019, er mwyn cynyddu i'r eithaf yr adnoddau a oedd ar gael iddo, ond ariannwyd y cyfnod cyntaf gan gronfeydd Llywodraeth Cymru yn unig. 

Cwblhawyd cyfanswm o 59 o brosiectau ENRaW a dyfarnwyd cyfanswm o £44.115 miliwn iddynt. O blith y rhain, dyfarnwyd £14.542 miliwn o gyllid i 36 o brosiectau yn ystod Cyfnod 1, dyfarnwyd £14.402 miliwn o gyllid i bum prosiect yn ystod Cyfnod 2, a dyfarnwyd cyllid o £15.171 miliwn i 18 o brosiectau yn ystod Cyfnod 3.

Nodau ac amcanion yr adolygiad

Nod y gwerthusiad oedd asesu a lwyddodd y prosiectau a ariannwyd gan ENRaW, a gwblhawyd rhwng mis Ebrill 2019 a mis Mawrth 2023, i gyflawni nodau ac amcanion y cynllun. Roedd disgwyl i’r gwerthusiad adolygu: 

  • y ffordd y cafodd y cynllun grant ei weinyddu a'i gyflawni gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys y prosesau ymgeisio, y gofynion monitro a'r ffordd y cafodd y grant ei reoli gyda'r nod o ganfod yr hyn a weithiodd yn dda a’r hyn y gellid ei wella yn y dyfodol
  • effaith uniongyrchol grantiau ac a gyflawnodd y grantiau a ddyfarnwyd eu nodau a’u hamcanion gwreiddiol, gan gynnwys cyflawni'r targedau a'r canlyniadau a nodir mewn ceisiadau a chynlluniau cyflawni 
  • manteision a chyflawniadau ehangach ac annisgwyl, gan gynnwys unrhyw fanteision lluosog ehangach yn ychwanegol at y manteision uniongyrchol a ddisgwyliwyd

Cynhaliwyd y gwerthusiad rhwng mis Hydref 2021 a mis Hydref 2023. Roedd yn cynnwys paratoi adroddiad Damcaniaeth Newid a Fframwaith Gwerthuso (heb ei gyhoeddi, Ionawr 2022) ac Adroddiad Interim [troednodyn 1] a oedd yn ystyried sut y cafodd y cynllun grant ei weinyddu a'i gyflawni ac sy'n cyflwyno canfyddiadau cynnar ar effaith y cynllun. Roedd hefyd yn cynnwys paratoi adroddiad gwerthuso terfynol sy'n ystyried effaith a chyflawniadau'r cynllun yn fanylach.

Dull

Roedd y gwerthusiad terfynol yn cynnwys: 

  • adolygiad desg o ddogfennau polisi a dogfennau strategol diweddar, dogfennau cynllun ENRaW a'r data monitro, a gwybodaeth ar lefel prosiect 
  • cyfweld â dau o swyddogion Llywodraeth Cymru a fu'n ymwneud â rheoli cynllun ENRaW
  • datblygu a dosbarthu arolwg dwyieithog ar-lein i bob prosiect a ariannwyd gan ENRaW (59) a derbyn 30 o ymatebion i’r arolwg, a oedd yn cwmpasu 34 o brosiectau a ariannwyd [troednodyn 2], sef cyfradd ymateb o 58% o'r holl brosiectau a ariannwyd
  • cynnal gwaith maes ansoddol gyda chyfanswm o 23 o brosiectau, gydag wyth o'r rhain yn ailgyfweliadau gyda phrosiectau a gyfrannodd at y gwaith maes interim; cyfrannodd cyfanswm o 40 o unigolion at y gwaith maes ansoddol ar draws y 23 o brosiectau 
  • cyfuno canfyddiadau'r gwaith maes a'r adolygiad desg a pharatoi adroddiad terfynol

Prif ganfyddiadau

Canfu'r gwerthusiad fod ENRaW:

  • yn adlewyrchu polisïau a strategaethau Llywodraeth Cymru yn fanwl drwy gefnogi ystod eang o brosiectau traws-bolisi sy’n rhychwantu polisïau cymunedol a chymdeithasol, amgylcheddol, economaidd a diwylliannol ledled Cymru ar raddfa a chyflymder 
  • wedi annog a chefnogi gwaith traws-sector sylweddol a fyddai wedi bod yn annhebygol o gael ei gyflawni fel arall 
  • wedi cefnogi'r broses o sefydlu a datblygu partneriaethau newydd yn effeithiol yn ogystal â galluogi eraill i ehangu a chryfhau, o safbwynt daearyddol yn ogystal ag o ran yr ystod o bartneriaid dan sylw
  • wedi cyllido prosiectau o ansawdd da a oedd yn cyd-fynd â’i uchelgeisiau cymunedol a chymdeithasol, amgylcheddol, economaidd a diwylliannol

O ran gweinyddu a chyflawni'r cynllun, canfu’r gwerthusiad fod ENRaW:

  • wedi cael ei hyrwyddo’n effeithiol ac wedi bod yn gynllun cyllido poblogaidd gan ei fod yn cynnig cefnogi 100% o gostau prosiectau dros gyfnod tymor canolig o dair blynedd 
  • wedi cyflwyno trefniadau ymgeisio, asesu a gweinyddu rhesymol a phriodol ar gyfer Cyfnod 1, ac un o gryfderau amlwg y cyfnod cyllido hwn oedd y ffaith y gallai'r ymgeisydd ddelio'n uniongyrchol ag un o swyddogion Llywodraeth Cymru; roedd y broses o drosglwyddo'r cynllun i fecanweithiau'r Rhaglen Datblygu Gwledig a'r angen i fodloni gofynion cyllido'r rhaglen honno wedi bod yn drafferthus ac yn niweidiol i'r broses o weinyddu'r cynllun yn ddidrafferth

O ran cyflawniadau a pherfformiad, canfu'r gwerthusiad y canlynol:

  • roedd y prosiectau a ariannwyd yng Nghyfnod 1 wedi’u cyflawni yn unol â'r bwriad tra bod prosiectau yng Nghyfnodau 2 a 3 yn wynebu mwy o broblemau megis cyfnod cyflawni byrrach na’r disgwyl, problemau'n ymwneud â gweinyddu'r grant ac effaith y pandemig COVID-19 
  • dim ond 83% o’r cyllid a ddyrannwyd (£36.5 miliwn) yr oedd modd i brosiectau ei wario, ac nid oedd £7.5 miliwn o’r £44 miliwn o gyllid a ddyfarnwyd wedi cael ei wario adeg drafftio’r adroddiad gwerthuso terfynol 
  • mabwysiadwyd set briodol o ddangosyddion i ddangos yr allbynnau a gyflawnwyd gan brosiectau ENRaW, ond nid oedd y rhain bob amser wedi'u diffinio'n glir na'u dehongli'n gyson gan brosiectau 
  • roedd rhai o'r allbynnau a gyflawnwyd gan brosiectau Cyfnod 1 yn sylweddol e.e. ymgysylltu â bron i 100,000 o bobl a phlannu dros 19,000 o goed; a pherfformiodd prosiectau Cyfnod 1 yn dda yn erbyn eu targedau
  • roedd absenoldeb data monitro wedi'i ddilysu ar gyfer prosiectau a ariannwyd yng Nghyfnodau 2 a 3 yn ei gwneud yn amhosibl cynnig unrhyw gasgliadau am gyflawniadau a pherfformiad y prosiectau hy

O ran y manteision a’r canlyniadau a gyflawnwyd, canfu’r gwerthusiad y canlynol:

  • roedd prosiectau wedi cyflawni ystod eang iawn o ganlyniadau sy'n berthnasol i wahanol bolisïau a sectorau; llwyddiant mwyaf ENRaW oedd creu manteision cymunedol, cymdeithasol ac amgylcheddol; arweiniodd y prosiectau at lai o fanteision diwylliannol ac economaidd, er bod y rheini'n dal i fod yn gadarnhaol 
  • canlyniadau’n ymwneud â gwelliannau a wnaed (e.e., mynediad i gyfleusterau) sydd fwyaf tebygol o gael eu cynnal yn barhaus a’r rhai sy’n dibynnu ar adnoddau parhaus a chapasiti (e.e., cydlynu cyfleoedd gwirfoddoli ac addysgol) sydd leiaf tebygol o gael eu cynnal yn y dyfodol heb ffynhonnell arall o gyllid
  • roedd diffyg allbynnau a chyflawniadau cyffredinol y cynllun yn ei gwneud hi'n anodd cynnig barn ar y gwerth am arian a gyflawnwyd drwy ENRaW; gallai’r cynllun fod wedi sicrhau gwell gwerth am arian pe bai'r prosiectau a ariannwyd wedi cael cyfnod cyflawni llawn er mwyn gwneud defnydd llawn o’r cyllid a ddyrannwyd iddynt a chyflawni eu hamcanion
  • roedd tystiolaeth dda bod gweithgareddau'n cael eu cynnal ar ôl i'r cyllid ddod i ben yn bennaf oherwydd bod partneriaethau wedi sicrhau cyllid grant o ffynonellau eraill; mae'r ffynonellau cyllid eraill hyn yn aml yn cael eu hystyried yn fwy addas nag ENRaW ar gyfer partneriaethau a'r math o weithgareddau sy'n cael eu darparu

O ran cyflawni amcanion trawsbynciol, canfu’r gwerthusiad y canlynol:

  • roedd prosiectau wedi cynnal gweithgareddau arloesol ac ystyrlon i gyfrannu at Amcanion Trawsbynciol y Rhaglen Datblygu Gwledig a themâu trawsbynciol Llywodraeth Cymru; roedd prosiectau hefyd yn defnyddio ac yn hyrwyddo'r Gymraeg mewn ffordd gadarnhaol; ychydig iawn o dystiolaeth a oedd ar gael i ddangos sut yr oedd y prosiectau wedi prif ffrydio rhywedd 
  • er bod y prosiectau wedi cyfrannu’n gadarnhaol at Feysydd Ffocws y Rhaglen Datblygu Gwledig a oedd yn cyd-fynd yn agos â’u cylch gwaith (fel datblygu gwledig, swyddi, ac arallgyfeirio) roedd eu cyfraniad at uchelgeisiau Meysydd Ffocws mwy technegol eraill yn fwy cyfyngedig gan fod prosiectau’n tueddu i beidio â chanolbwyntio ar arloesi neu ddatblygiadau yn y meysydd amaethyddol neu goedwigaeth
  • roedd ymgysylltu â chymunedau ymylol yn nodwedd eithriadol o gryf o brosiectau ENRaW a chasglwyd tystiolaeth helaeth yn ystod y gwerthusiad eu bod yn gweithio gyda grwpiau difreintiedig a grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol

Argymhellion

Mae'r gwerthusiad yn cynnig y 10 argymhelliad a ganlyn.

  • Dylai unrhyw gynllun cyllido yn y dyfodol roi mwy o arweiniad a gosod disgwyliadau cliriach i brosiectau ynghylch yr hyn a ddisgwylir ganddynt o ran cyflawni amcanion trawsbynciol yn ymwneud â phrif ffrydio rhywedd.
  • Dylid cofnodi'r allbynnau a gyflawnwyd gan brosiectau ENRaW yng Nghyfnodau 2 a 3 ac adrodd arnynt, a dylai Llywodraeth Cymru ystyried eu cyhoeddi mewn adroddiad diweddaru byr i ategu'r adroddiad gwerthuso terfynol hwn.
  • Dylai unrhyw gynllun cyllido tebyg yn y dyfodol fabwysiadu diffiniadau cliriach ar gyfer dangosyddion cyffredin er mwyn adrodd ar gyflawniadau yn fwy cywir.
  • Dylid annog prosiectau a ariennir gan grant yn y dyfodol i ledaenu eu stori a'u cyflawniadau drwy gyfrwng ffilmiau bach.
  • O ran prosiectau ENRaW nad ydynt eto wedi bodloni'r gofyniad cyllido mewn perthynas â darparu adroddiadau gwerthuso diwedd prosiect, dylid eu hannog i wneud hynny.
  • Dylai Llywodraeth Cymru ymgynghori â’r sector i ganfod maint y bwlch cyllido ar ôl i ENRaW ddod i ben ac ymchwilio i sut y dylai flaenoriaethu'r defnydd o lai o gyllid i gefnogi gwaith partneriaeth traws-sector.
  • Dylai Llywodraeth Cymru gydnabod cryfderau cynllun cyllid grant ENRaW pe bai’n darparu cyllid tebyg yn y dyfodol, ac adeiladu ar hynny, yn benodol:
    • y broses ymgynghori a mewnbwn rhanddeiliaid i'r broses o'i chyd-ddylunio
    • y dull hirdymor y bwriedir ei fabwysiadu i ddarparu cyllid dros gyfnod o dair blynedd
    • cynnig cyllid refeniw yn ogystal â chyllid cyfalaf 
    • model cyllido sy'n seiliedig ar adennill costau llawn 
    • proses ymgeisio dau gam sy’n cynnwys (i) cam Datgan Diddordeb syml, byr a (ii) cam cais llawn 
    • ffocws ar bartneriaeth gynaliadwy a chydweithio ar draws meysydd polisi lluosog 
    • ffocws ar gyflawni ar raddfa ranbarthol a graddfa'r dirwedd
  • Dylai Llywodraeth Cymru fyfyrio ar y gwersi a ddysgwyd er mwyn bod yn sail i unrhyw gynllun cyllid grant tebyg yn y dyfodol:
    • dylid pennu'r amserlenni ar gyfer cymeradwyo ceisiadau a chadarnhau'r cyllid ymlaen llaw, a chadw atynt
    • dylai fod modd i ymgeiswyr a deiliaid grantiau ddelio'n uniongyrchol â swyddog cyllido penodedig 
    • dylai prosesau adrodd a hawlio'r grant fod yn gymesur â lefel y cyllid a ddyfernir 
    • dylid symleiddio a byrhau amserlenni a phrosesau ar gyfer cymeradwyo gwariant y cynllun 
    • dylid rhoi mwy o hyblygrwydd i brosiectau a ariennir ymdopi â newidiadau yn eu cyllidebau
    • dylid dylunio prosesau hawlio, monitro ac adrodd yn well er mwyn cydweddu â phrosiectau mawr, cymhleth a chydweithredol
  • Dylai unrhyw gynllun cyllid grant tebyg yn y dyfodol ar gyfer prosiectau partneriaeth gael ei ddylunio i:
    • gynnwys cyfnod datblygu byr, tua thri i chwe mis, i alluogi partneriaethau i ddatblygu cynllun cyflawni cynhwysfawr, sefydlu eu trefniadau llywodraethu a sicrhau bod trefniadau cydweithio ac ymddiriedaeth yn bwrw gwreiddiau 
    • hwyluso prosiectau a ariennir i rannu profiadau ac arferion da ymysg ei gilydd
  • Dylai Llywodraeth Cymru archwilio ac adolygu gwerth mecanweithiau cyllid grant partneriaeth amgen megis drwy Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol neu Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, pe bai’n penderfynu darparu cyllid tebyg yn y dyfodol.

Troednodiadau

[1Gwerthusiad o'r Grant Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant

[2] Gan fod rhai o'r ymatebwyr i'r arolwg yn gyfrifol am fwy nag un prosiect ENRaW

Manylion cyswllt

Awduron yr adroddiad: Bryer, N; a Bebb, H; (2023)

Mae’r safbwyntiau a fynegwyd yn yr adroddiad hwn yn perthyn i’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd Llywodraeth Cymru.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Hannah Browne Gott
Ebost: ymchwilhinsawddacamgylchedd@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 17/2024
ISBN digidol 978-1-83577-467-0

Image
GSR logo