Nod y prosiect yw cynorthwyo rhieni di-waith i dderbyn hyfforddiant neu swydd os mai gofal plant yw eu prif rwystr rhag gwneud hynny.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Gwerthusiad o'r prosiect Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth
Comisiynwyd y gwerthusiad gyda’r nod o ddarparu dealltwriaeth o’r canlynol:
- y ffordd y sefydlwyd prosiect Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth
- dyluniad y prosiect
- pa mor dda y caiff y prosiect ei weinyddu
- pa mor effeithiol ydyw ar nodi’r derbynwyr arfaethedig ac ymgysylltu â hwy
- sut mae’r prosiect yn helpu’r cyfranogwyr i oresgyn rhwystrau i weithio, meithrin sgiliau sy’n berthnasol i waith, a manteisio ar gyfleoedd sy’n berthnasol i waith.
Roedd y gwaith ymchwil yn cynnwys ymchwil ddesg, cyfres o gyfweliadau â rhanddeiliaid ac arolwg dros y ffôn o 60 o gyfranogwyr y prosiect.
