Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r adroddiad hwn yn ystyried effaith PaCE, gan ystyried y sefyllfaoedd gwrthffeithiol a gwerth am arian, o gymharu ag ymyriadau tebyg.

Prif ganfyddiadau

Ymwneud â’r rhaglen

  • Ar y cyfan, mae llai o bobl na'r disgwyl wedi ymuno â rhaglen PaCE.

Deilliannau'r rhaglen

  • Mae cyfran sylweddol uwch na’r disgwyl o'r cyfranogwyr wedi symud ymlaen i gael gwaith.
  • Roedd bron i hanner y cyfranogwyr a symudodd ymlaen i gael swyddi yn gwneud hynny ar ôl bod yn rhan o PaCE am dri mis neu lai, ac roedd mwyafrif helaeth y rheini a ddaeth o hyd i swyddi wedi gwneud hynny o fewn blwyddyn i ymuno â’r rhaglen.
  • Ymhlith y ffactorau a oedd yn gysylltiedig ag unigolion yn symud ymlaen i gael swyddi roedd: bod allan o waith am gyfnodau byrrach cyn ymuno â PaCE; bod â chymwysterau gwell; bod yn siaradwyr Cymraeg; bod rhwng 30 a 40 oed.  
  • Ymhlith y ffactorau a oedd i’w gweld yn cael effaith andwyol ar y tebygolrwydd y byddai cyfranogwyr yn dod o hyd i waith roedd: bod o gymuned ethnig leiafrifol; bod â chyflwr iechyd/anabledd sy’n cyfyngu ar y gallu i weithio; bod yn rhiant sengl; bod rhwng 16 a 25 oed; bod allan o waith am fwy na phum mlynedd.

Costau'r rhaglen a gwerth am arian

  • Ar y cyfan, mae’r gost ddisgwyliedig fesul cyfranogwr wedi bod fymryn yn uwch na’r disgwyl, a’r gost fesul deilliant swydd wedi bod yn is na’r meincnodau diwygiedig hyd at fis Medi 2021

Adroddiadau

Gwerthusiad o'r prosiect Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth (PaCE): effaith, sefyllfaoedd gwrthffeithiol a gwerth am arian , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Launa Anderson

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.