Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r adroddiad hwn yw edrych yn fanylach ar brofiadau cyfranogwyr o PaCE.

Rôl unigryw Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth (PaCE) wrth gefnogi unigolion

Roedd llawer yn teimlo ei bod yn annhebygol y byddent wedi dod o hyd i waith heb gymorth PaCE. Roeddent yn teimlo bod cymorth ac anogaeth eu cynghorwyr yn arbennig o werthfawr.

Roedd gwerthfawrogiad i’r cyngor ar sut i ddod o hyd i ofal plant, ei drefnu neu dalu amdano tra bo rhieni yn dilyn hyfforddiant neu’n gweithio. Yn fwy felly ymhlith dynion, gan fod llai o rwydweithiau cymdeithasol ganddynt o bosibl.

Roedd y niferoedd a gafodd gymorth gyda hyfforddiant, cymwysterau a lleoliadau yn is. Fodd bynnag, roedd y rheini a wnaeth o’r farn bod yr hyder a’r sgiliau a ddatblygwyd ganddynt yn amhrisiadwy.

Natur y swyddi a gymerwyd

Roedd mwyafrif y rheini a gyfwelwyd, a oedd mewn gwaith, ar gyflog isel. Roedd y rheini a oedd wedi newid eu swydd wedi gwneud hynny am resymau’n ymwneud ag ansicrwydd y gwaith yn aml.

Yn gyffredinol, roedd yr unigolion a oedd yn y rolau hynny yn eu mwynhau, ac roeddent yn darparu rhywfaint o incwm. Roedd y swyddi hefyd yn cynnig hyblygrwydd a manteision cymdeithasol.

Gofal plant

Roedd y mwyafrif wedi cymryd swyddi rhan-amser i gyd-fynd â gofal plant. Fodd bynnag, yn achos y rheini â phlant oed ysgol, roedd y gwyliau yn broblem o ran gofal plant. Roedd hyn yn waeth i’r rheini heb rwydweithiau agos o’u cwmpas.

Perfformiad o ran y deilliannau pennawd

Roedd 38% o’r unigolion dan sylw wedi dod o hyd i waith erbyn yr ymchwil, gan ragori’n sylweddol ar y targedau cychwynnol.

Yn y rhan fwyaf o leoliadau, roedd niferoedd llai o gefndiroedd du a lleiafrifoedd ethnig, o gymharu â’r niferoedd cenedlaethol. Caerdydd oedd yr eithriad i hyn.

Menywod oedd 95% o’r unigolion dan sylw, sy’n adlewyrchu’n rhannol y ffaith bod mwy o fenywod yn economaidd anweithgar a’r ffaith bod cyfran is o fenywod sydd â phlant dibynnol yn gweithio.

Roedd 3% o’r unigolion dan sylw wedi ennill cymhwyster. Mae hyn yn llai nag a ddisgwylid i ddechrau, ac efallai mai’r rheswm oedd yr awydd i ddechrau gweithio’n gyflym.

Gwybodaeth bellach

Bydd adroddiad nesaf y gyfres yn ymchwilio i effaith unigryw PaCE ar unigolion a gwerth am arian y rhaglen.

Adroddiadau

Gwerthusiad o'r prosiect Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth: profiadau a deilliannau , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Launa Anderson

Rhif ffôn: 0300 025 9274

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Media

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.