Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn dweud wrthych sut y caiff eich data ei brosesu a pha mor hir y byddwn yn ei gadw.
Cynnwys
Cefndir
Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Wavehill i werthuso’r ffyrdd y mae’r rhaglen Ariannu Hyblyg yn cael ei gweithredu gan awdurdodau lleol ledled Cymru. Nod y gwerthusiad hwn yw darparu gwybodaeth gadarn ac amserol ar weithrediad Ariannu Hyblyg, er mwyn dod i ddeall sut bydd ei darpariaeth yn effeithio ar gyflawniad deilliannau yn y tymor hir.
Fel rhan o’r prosiect hwn, gwahoddir chi i gymryd rhan mewn cyfweliad ansoddol manwl a fydd yn darparu cipolwg o brofiadau pobl o’r ffordd y rhoddwyd y rhaglen ar waith, gan ddarparu gwybodaeth werthfawr ar sut y gellid ei gweithredu orau ledled Cymru.
Ar sail canfyddiadau’r gwerthusiad bydd adroddiad ymchwil a chrynodeb gweithredol yn cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru, yn y Gymraeg a’r Saesneg. Ni fydd hi’n bosib adnabod unrhyw unigolion o’r adroddiadau ar y canfyddiadau.
Llywodraeth Cymru yw’r rheolydd data ar gyfer yr ymchwil hwn. Fodd bynnag, bydd Wavehill yn dileu unrhyw ddata personol a ddarperir yn ystod y gwaith maes ymchwil.
Mae cymryd rhan yn hollol wirfoddol. Fodd bynnag mae eich barn a’ch profiadau yn bwysig er mwyn helpu llywio polisïau Llywodraeth Cymru.
Y person cyswllt yn Wavehill ar gyfer y gwerthusiad hwn yw Simon Tanner.
Ffôn: 01545 571711
E-bost: simon.tanner@wavehill.com
Pa ddata personol ydyn ni’n ei gadw ac o le ydym yn cael gafael ar y wybodaeth hon?
Diffinnir data personol o dan Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) fel “unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud ag unigolyn adnabyddadwy y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol drwy gyfeirio at ddynodwr”.
Rhoddwyd eich manylion cyswllt i Wavehill gan Lywodraeth Cymru wedi i chi roi caniatâd ar gyfer hynny drwy e-bost i’r tîm Aliniad Ariannu. Bydd Wavehill yn cysylltu gyda chi’n uniongyrchol i’ch gwahodd chi i gymryd rhan mewn cyfweliad manwl gydag ymchwilydd o Wavehill.
Nid oes angen i chi ddarparu unrhyw ddata personol ychwanegol fel rhan o’r cyfweliad. Caiff unrhyw wybodaeth bersonol adnabyddadwy a ddarperir ei dileu.
Os ydych chi’n gwneud ymholiad neu gŵyn ac yn darparu data personol wrth ofyn am ymateb, bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais ymlaen i’r swyddog perthnasol yn unig, ac yna ei ddileu o’r data ymchwil.
Beth yw’r sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio eich data?
Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, ymarfer ein hawdurdod swyddogol i gynnal cyfrifoldeb a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.
Mae cymryd rhan yn hollol wirfoddol. Mae astudiaethau gwerthuso fel hon yn bwysig i Lywodraeth Cymru er mwyn casglu gwybodaeth a thystiolaeth fel sail gweithredu am ei allu i ddarparu blaenoriaethau’r llywodraeth. Er enghraifft, efallai y defnyddir y wybodaeth a gesglir i ddeall sut i gefnogi pobl a theuluoedd sy’n agored i niwed mewn ffordd fwy integredig ac effeithiol.
Pa mor ddiogel yw eich data personol?
Cedwir yr wybodaeth bersonol a ddarperir i Wavehill gan Lywodraeth Cymru yn ddiogel ar bob adeg. Dim ond nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy’n gweithio ar y gwerthusiad sy’n medru defnyddio’r data. Bydd ymchwilwyr cymdeithasol Wavehill yn defnyddio manylion cyswllt cyfranogwyr i gysylltu â nhw at ddibenion ymchwil yn unig.
Mae gan Wavehill weithdrefnau mewn lle i ddelio gydag unrhyw sefyllfa lle amheuir bod diogelwch data wedi ei danseilio. Os amheuir bod diogelwch data wedi ei danseilio, bydd Wavehill yn rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru, a fydd yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol lle bod gofyn cyfreithiol i ni wneud hynny. Mae Wavehill wedi ei ardystio gan Cyber Essentials.
Bydd yr holl ddata a gesglir drwy’r ymchwil hwn yn cael ei adrodd mewn fformat dienw. Ni fydd hyn yn cynnwys eich manylion cyswllt a bydd unrhyw wybodaeth adnabyddadwy yn cael ei dileu. Bydd Wavehill yn defnyddio’r wybodaeth o’ch cyfweliad i gynhyrchu adroddiad ar gyfer Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth a allai gael ei defnyddio i adnabod cyfranogwyr unigol. Ni ddarperir set ddata ar wahân i Lywodraeth Cymru.
Am ba hyd fyddwn ni’n cadw eich data personol?
Bydd Wavehill yn cadw data personol dros gyfnod y cytundeb, a bydd unrhyw ddata personol nad sydd wedi ei ddileu yn cael ei ddileu dri mis wedi diwedd y cytundeb.
Hawliau unigolion
O dan GDPR, mae gennych chi’r hawliau canlynol mewn cysylltiad â’r wybodaeth bersonol yr ydych yn ei darparu fel rhan o’r gwerthusiad. Mae gennych chi’r hawl:
- i gael mynediad at gopi o’ch data chi
- i fynnu ein bod ni’n cywiro camgymeriadau yn y data hwnnw
- i (o dan rhai amgylchiadau) wrthwynebu i neu gyfyngu ar y prosesu
- i fynnu (o dan rhai amgylchiadau) bod eich data yn cael ei ‘ddileu’
- i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data
Manylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yw: Information Commissioner’s Office, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF. Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113. Gwefan: www.ico.gov.uk
Gwneud cwyn
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i drin eich data personol yn saff ac yn ddiogel, a dim ond cyhyd ag y mae angen inni wneud hynny.
Os oes gennych chi unrhyw bryderon ynglŷn â'r ffordd rydym yn defnyddio eich data personol, y peth gorau fyddai ichi eu codi â’r tîm perthnasol i ddechrau.
Gallwch hefyd gysylltu â'r Swyddog Diogelu Data drwy e-bostio SwyddogDiogeluData@llyw.cymru neu drwy anfon llythyr i’r cyfeiriad isod:
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Os hoffech wneud cwyn ffurfiol am y ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi prosesu eich data personol, gallwch ddilyn y canllawiau ar y dudalen Cwyn am Lywodraeth Cymru.
Byddwn yn cydnabod eich cwyn ac yn ymateb o fewn amserlen briodol, yn unol â deddfwriaeth diogelu data a'n proses gwyno.
Gwybodaeth Bellach
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau pellach am sut caiff y data a ddarperir fel rhan o’r astudiaeth hon ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru, neu os hoffech chi arfer eich hawliau gan ddefnyddio’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, cysylltwch â:
Sara Ahmad (Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru)
Ffôn: 03000 250 331
E-bost: sara.ahmad@gov.wales
Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn:
Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ
E-bost: DataProtectionOfficer@gov.wales
