Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Menter gan Lywodraeth Cymru yw'r Rhaglen Beilot Bwndeli Babi i ddarparu 'rhodd croeso i'r byd' i fabanod newydd-anedig. Cyflwynwyd y peilot yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a dosbarthodd fwndeli babi i 200 o deuluoedd a oedd yn disgwyl babi erbyn dechrau 2021. Mae'r bwndeli babi yn cynnwys amrywiaeth o gynhyrchion a gwybodaeth ar gyfer misoedd cyntaf y plentyn.

Nod y gwerthusiad, a gynhaliwyd gan Ymchwil Arad, oedd darparu tystiolaeth annibynnol i fod yn ail i benderfyniadau polisi a chyflawni ar gyfer y posibilrwydd o gyflwyno'r cynllun bwndeli babi yn genedlaethol. Mae'r gwerthusiad yn adeiladu ar waith ymchwil datblygu cynnar, ac mae wedi'i fwriadu i'w ystyried ochr yn ochr â thystiolaeth arall.

Methodoleg

Mabwysiadwyd y dulliau a ganlyn ar gyfer y gwerthusiad:

  • adolygiad o ddogfennau polisi a chyflawni sy'n ymwneud â'r Rhaglen Beilot
  • cyfweliadau â phartneriaid polisi a chyflawni
  • arolwg ar-lein o rieni (a gwblhawyd gan 57 o rieni) a chyfweliad dros y ffôn gydag 16 o rieni, i gasglu eu barn am y broses o gofrestru ar gyfer y bwndel a'i dderbyn; yr eitemau a oedd yn y bwndel; yr effaith ar wariant; a'r wybodaeth a'r negeseuon a ddaeth gyda'r bwndel   

Dylid trin canfyddiadau'r ymchwil fel rhai dangosol yn unig, o ystyried graddfa fach y rhaglen beilot, ynghyd â phroblemau samplu ac amseru'n ymwneud ag oedi i'r Rhaglen Beilot yn sgil COVID-19.

Dylunio a chyflawni'r Rhaglen Beilot

Cynhaliwyd y trafodaethau cynllunio cychwynnol—a sefydlwyd a chynhaliwyd cyfarfod cyntaf y bwrdd prosiect—ar ddechrau haf 2019. Cytunwyd ar ddyluniad cyffredinol y bwndel bryd hynny.

Disgrifiwyd y gwaith o gynllunio a sefydlu'r peilot bwndeli babi fel proses lafurus, ble roedd angen trafodaethau a gwaith ymchwil manwl ar farn rhieni, defnyddioldeb, diogelwch ac argaeledd eitemau, cyllid a chaffael a'r prosesau dosbarthu. Roedd COVID-19 yn golygu bod camau olaf y prosiect yn anoddach. Serch hynny, ar ôl i'r broses o weithredu'r cynllun ddechrau, nododd APS, y contractwr dosbarthu, a'r bydwragedd yn Abertawe eu bod wedi cael gwybodaeth glir a bod ganddynt berthynas waith dda â Llywodraeth Cymru a gweithredwyd y rhaglen beilot yn llwyddiannus.

Cofrestru ar gyfer y bwndeli a'u derbyn

Roedd cofrestru i gael y bwndel yn broses syml iawn yn ôl y rhieni a'r bydwragedd. Roedd bron pob rhiant a ymatebodd i'r arolwg (54 o blith 57) o'r farn bod yr wybodaeth a roddodd y fydwraig am y bwndel babi yn 'eglur iawn'. Esboniodd rhieni yn y cyfweliadau ei bod yn hawdd cofrestru ar gyfer bwndel babi, gyda'r fydwraig yn llenwi'r ffurflenni ar eu rhan mewn sawl achos. Roedd amseriad yr wybodaeth a gawsant am y bwndel yn briodol i fwyafrif (46 o blith 57) y rhieni a ymatebodd i'r arolwg a'r rhai a gafodd eu cyfweld. Fodd bynnag, roedd ambell riant yn teimlo y byddai clywed am y bwndel yn gynharach (gan gynnwys rhestr fanwl o gynnwys y bwndel) wedi sicrhau eu bod yn gwybod beth i'w brynu neu beth i beidio â'i brynu ymlaen llaw.

Roedd pob rhiant yn falch o'r modd y cafodd y bwndel ei ddosbarthu a'i gyflwr cyffredinol, gan nodi nad oedd unrhyw broblemau mawr.

Cynnwys y bwndel

Barn am yr eitemau yn y bwndel a'r defnydd ohonynt

Gwnaeth y rhieni sylwadau hynod gadarnhaol ynglŷn â chynnwys y bwndel a'i ansawdd yn yr ymatebion i'r arolwg a'r cyfweliadau. Roedd llawer yn synnu at nifer yr eitemau.

Roedd y cyfweliadau â'r rhieni yn gyfle i drafod eu hargraffiadau o'r eitemau yn fwy manwl. Yn y cyfweliadau, fe wnaeth y rhieni sylwadau cadarnhaol iawn am y math o eitemau a gynhwyswyd yn y bwndel ac ansawdd uchel yr eitemau hynny.

Pan ofynnwyd iddynt am yr hyn a ddefnyddiwyd a beth oedd wedi bod yn ddefnyddiol, dywedodd yr holl rieni eu bod wedi defnyddio'r rhan fwyaf o'r eitemau. Yr eitemau mwyaf defnyddiol, a nodwyd gan hanner y rhieni, oedd amrywiol eitemau ymarferol fel y llieiniau mwslin, tywelion mamolaeth a phadiau ac eli bwydo o'r fron. Dillad oedd yr eitem fwyaf defnyddiol wedyn a nododd bron bob rhiant ei fod yn eu defnyddio, gan gynnwys y rhieni hynny â phlant hŷn. Nid oedd consensws ynghylch pa mor ddefnyddiol oedd y bag newid cewyn ar ffurf sach deithio. Disgrifiodd pump o blith yr 16 rhiant a gyfwelwyd hwn fel un o'r eitemau mwyaf defnyddiol, ond dywedodd pump arall nad oeddent wedi'i ddefnyddio.

Roedd hanner y bwndeli a ddosbarthwyd i rieni yn cynnwys sling babi ac roedd yr hanner arall yn cynnwys cewynnau y gellir eu hailddefnyddio. Yn yr ymatebion i'r arolwg ac yn y cyfweliad, nododd rhieni eu bod yn ffafrio'r sling yn hytrach na chewynnau y gellir eu hailddefnyddio. Roedd wyth o'r rhieni a gafodd eu cyfweld wedi cael cewynnau y gellir eu hailddefnyddio yn eu bwndeli, ond nid oedd yr un ohonynt wedi eu defnyddio; roedd naw o'r rhieni a gafodd eu cyfweld wedi cael sling yn eu bwndel, a nododd chwech ohonynt eu bod wedi ei defnyddio.

Yr wybodaeth a'r negeseuon yn y bwndel

Dywedodd mwyafrif yr ymatebwyr i'r arolwg eu bod wedi darllen y daflen a'r cerdyn a ddaeth gyda'r bwndel, ond nad oeddent wedi dilyn y dolenni i wefannau. Nid oedd y mwyafrif o'r rhieni hyn yn cofio rhyw lawer am y cerdyn na'r daflen pan gawsant eu cyfweld ychydig fisoedd ar ôl derbyn y bwndel.

Yr effaith sy'n dod i'r amlwg

Bwriad bwndeli babi yw bod yn rhodd 'croeso i'r byd' gan Lywodraeth Cymru ac un o'u hamcanion yw hyrwyddo cyfle mwy cyfartal i rieni a'u babanod drwy leihau'r angen i wario ar bethau hanfodol ar gyfer y newydd-anedig.

Yn yr arolwg a'r cyfweliadau, gofynnwyd i rieni a oedd gwybod eu bod yn cael y bwndel wedi effeithio ar yr hyn y gwnaethant ei brynu i'w babi a dywedodd bron i ddwy ran o dair o'r rhieni a holwyd y byddent yn prynu llai o eitemau eu hunain. Nododd y rhieni nad oeddent wedi gorfod prynu eitemau penodol oherwydd eu bod wedi'u cynnwys yn y bwndel, gan nodi enghreifftiau fel y sach gysgu, y bag neu'r mat chwarae. Mynegodd y rhieni a gyfwelwyd eu diolch a'u syndod at nifer yr eitemau 'drud' neu o ansawdd uchel a oedd yn y bwndel, gan nodi bod hynny yn lleihau eu gwariant eu hunain yn sylweddol.

Esboniodd y rhieni y byddai'n ddefnyddiol cael rhestr glir o gynnwys eu bwndel yn gynharach yn eu beichiogrwydd gan y bydd rhai rhieni eisoes wedi dechrau prynu eitemau. Nododd un neu ddau o rieni eu bod wedi oedi'n fwriadol cyn prynu eitemau nes eu bod wedi cael eu bwndel, er mwyn osgoi dyblygu.

Yn fwy cyffredinol, yn ystod eu cyfweliadau, esboniodd y rhieni y gall y bwndeli arbed ymdrech i rieni o ran prynu'r holl bethau hanfodol newydd y gallai fod eu hangen arnynt, yn ogystal ag arbed arian iddynt. Ystyriwyd bod y bwndeli yn weithred garedig gan Lywodraeth Cymru a oedd yn gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael cefnogaeth dda, a phwysleisiodd eraill bod y bwndel yn helpu i roi tawelwch meddwl i ddarpar rieni gan nad oes angen iddynt boeni am brynu pob eitem hanfodol ymlaen llaw.

Gweithredu'r cynllun yn y dyfodol

Gofynnwyd i'r rhieni a ymatebodd i'r arolwg am sylwadau ynghylch a ddylid cyflwyno'r bwndeli babi yng ngweddill Cymru, neu am unrhyw awgrymiadau ynghylch sut y gellid gwella prosiect o'r fath yn y dyfodol. Yn gyffredinol, roedd rhieni o blaid cyflwyno'r bwndeli babi yn ehangach. Mewn cyfweliadau dywedodd y rhieni y byddai'n well ganddynt pe bai'r bwndeli ar gael i'r holl rieni sy'n dymuno cael un, ond os nad oedd hynny'n bosibl, awgrymwyd y gellid darparu'r bwndeli dim ond i'r rhieni hynny ar incwm isel a / neu i'r rhai sy'n rhieni am y tro cyntaf. Nid oedd consensws ymhlith y bydwragedd a gafodd eu cyfweld ynghylch ai'r cynllun bwndeli babi oedd y ffordd fwyaf addas o helpu darpar rieni.

Casgliadau

Ar sail y dystiolaeth a gasglwyd gan swyddogion Llywodraeth Cymru, bydwragedd a rhieni, gweithredwyd y rhaglen beilot yn effeithlon a chroesawyd y bwndeli gan rieni.

Cynlluniwyd y broses o weithredu'r rhaglen yn ofalus, ac er gwaethaf yr anawsterau ychwanegol a gododd yn sgil cyfyngiadau COVID-19, gweithredwyd y cynllun yn ddidrafferth. Adroddodd y rhieni fod y broses o glywed am y bwndeli, cofrestru ar eu cyfer a'u derbyn yn glir ac yn syml. Roedd amseriad y cofrestru a derbyn y bwndel yn briodol i'r mwyafrif o rieni ond yn rhy hwyr i rai.

Yn gyffredinol, roedd y farn am gynnwys y bwndel yn gadarnhaol iawn. Roedd y rhieni'n gwerthfawrogi'r rhodd, a defnyddiodd llawer ohonynt y cyfweliadau gwerthuso fel cyfle i fynegi eu diolch. Yn seiliedig ar gyfweliadau'r rhieni, pe bai'r fenter yn cael ei chyflwyno, ni fyddai angen newid cynnwys y bwndeli rhyw lawer.

Roedd yn amlwg bod y rhieni'n gwerthfawrogi’r bwndel yn fawr yn enwedig gan ei fod yn gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael cefnogaeth ar adeg arbennig. O ran sut y dylid cyflwyno'r fenter, roedd gwahaniaeth barn ynghylch a ddylai fod ar gael i bob rhiant ynteu a ddylai fod yn seiliedig ar brawf modd a/neu gael ei thargedu at y rhai sy'n rheini am y tro cyntaf. Roedd rhai rhieni, a'r bydwragedd, yn cydnabod y gellir dadlau o blaid targedu'r bwndeli neu eu darparu i bawb, ond ar y cyfan, roedd y rhieni a gymerodd ran yn yr ymchwil hon yn gogwyddo rhyw fymryn tuag at sicrhau ei fod ar gael i bawb os yn bosibl.

Manylion cyswllt

Awduron: Sioned Lewis a Tanwen Grover (Arad Research).

Adroddiad Ymchwil Llawn: Lewis, S., Grover, T. (2021). Gwerthusiad o'r Rhaglen Beilot Bwndeli Babi. Caerdydd: Llywodraeth Cymru, adroddiad GSR rhif xx/2021.

Safbwyntiau’r ymchwilydd ac nid o reidrwydd rhai Llywodraeth Cymru yw’r safbwyntiau a fynegir yn yr adroddiad hwn.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

Faye Gracey
Arweinydd Ymchwil a Thystiolaeth
Yr Is-adran Gofal Plant, Chwarae a’r Blynyddoedd Cynnar
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: trafodgofalplant@llyw.cymru

Image
GSR logo

ISBN digidol 978-1-80195-031-2