Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Ariannodd y rhaglen Cynnydd ar gyfer Llwyddiant (PfS) weithwyr presennol i ymgymryd â chymwysterau cydnabyddedig yn y meysydd gofal plant a chwarae er mwyn cynyddu eu sgiliau. Mae’r adroddiad gwerthuso hwn yn edrych ar weithrediad y rhaglen PfS ac yn gwerthuso ei heffaith ar hyfforddiant a chymwysterau’r gweithlu gofal plant a gwaith chwarae.

Cefndir

Cafodd y rhaglen PfS ei hariannu’n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) o fewn Echel Blaenoriaeth 3 Cyflogaeth a Chyrhaeddiad Pobl Ifanc, Amcan Penodol 4: Cynyddu sgiliau'r gweithlu Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant yn ardal Gorllewin Cymru a'r Cymoedd (GCC). Roedd y rhaglen PfS hefyd ar gael i weithwyr yn Nwyrain Cymru (DC), wedi'i hariannu gan Lywodraeth Cymru, felly roedd yr holl gyfleoedd hyfforddi ar gael ledled Cymru.

Cyfnod gwreiddiol y rhaglen PfS oedd 2016 i 2019 a chafodd ei hymestyn am gyfnod arall, o 2019 i 2023. Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar y cyfnod 2019 i 2023.

Ariannodd y rhaglen weithwyr presennol 18 oed a hŷn i ymgymryd â chymwysterau cydnabyddedig gofal plant a chwarae i gynyddu eu lefelau sgiliau, a meithrin gallu yn y sector trwy ehangu'r cymwysterau ar gael i'r gweithlu. Gwnaeth hynny drwy ddarparu cyfleoedd i uwchsgilio i'r rhai oedd yn gweithio llai nag 16 awr yr wythnos. Yn ogystal, roedd yn anelu at fodloni gofynion y Safonau Gofynnol Cenedlaethol erbyn 2022, sef gofyniad bod gan leoliadau sy'n cynnig darpariaeth y tu allan i'r ysgol a darpariaeth wyliau sicrhau gyfran briodol o'u staff yn meddu ar gymwysterau gwaith chwarae addas.

Darparodd PfS lwybrau gwahanol ar gyfer cymwysterau:

Prentisiaethau ar gyfer ymarferwyr presennol sy'n gweithio rhwng 10 ac 16 awr yr wythnos mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (CCPLD) neu Waith Chwarae. Roedd y llwybr hwn yn darparu hyfforddiant seiliedig ar waith ar lefelau 2 neu 3 ar gyfer ymarferwyr presennol na fyddent fel arall wedi gallu gwneud cais am brentisiaeth oherwydd eu bod yn gweithio llai nag 16 awr yr wythnos.

Llwybr at Chwarae. Roedd y llwybr hwn yn darparu cymwysterau gwaith chwarae i helpu'r sector chwarae gyda'r cymwysterau perthnasol i fodloni gofynion cofrestru Safonau Gofynnol Cenedlaethol diwygiedig. Roedd Lefel 3 Trawsnewid i Waith Chwarae ar gael i unigolion oedd eisoes â chymwysterau gofal plant neu flynyddoedd cynnar, a chwrs byr Dyfarniad lefel 2 mewn Arfer Gwaith Chwarae (L2 APP) ar gael fel sylfaen gwybodaeth ar chwarae a gwaith chwarae.

Ni weithredwyd rhai llwybrau a gynlluniwyd yn wreiddiol, yn benodol, y dyfarniad Gwaith Chwarae: Rhoi Egwyddorion ar Waith (P3), dyfarniad lefel 3 mewn Rheoli Cynllun Chwarae Gwyliau, y Llwybr at y Gymraeg, a'r Llwybr Camu i fyny at Reoli ar Lefel 4.

Methodoleg

Roedd ffocws y gwerthusiad ar archwilio effeithlonrwydd, effeithiolrwydd ac effaith PfS, gyda'r amcanion yn cynnwys gwerthuso cyflawniad nodau PfS, asesu ei effaith ar sgiliau'r gweithlu, archwilio ymgysylltiad cyflogwyr, ac asesu aliniad â mentrau eraill.

Mabwysiadwyd dull cymysg ar gyfer y gwerthusiad, a oedd yn cynnwys ymchwil desg  o ddogfennaeth polisi a rhaglenni a data monitro gan gyfranogwyr, cyfweliadau â saith darparwr hyfforddiant oedd yn gyfrifol am ddarparu cymwysterau a ariennir gan PfS, cyfweliadau â 28 o gyfranogwyr—20 yn dilyn cymhwyster Trawsnewid i Waith Chwarae ac 8 wedi cofrestru ar brentisiaeth, cyfweliadau â 18 cyflogwr a phum chyfweliad â sefydliadau gofal plant a chwarae.

Canfyddiadau: cyflawni’r rhaglen

Nifer cyfranogwr PfS

Y nifer targed o gyfranogwyr i gael eu cefnogi gan PfS yn GCC oedd 2,849 ar gyfer y cyfnod gweithredu cyfan, sef 2016-2023. Ni osodwyd targed ar gyfer DC. Gosodwyd targed diwygiedig ar gyfer 2019-2023 o 2,247 o gyfranogwyr ar gyfer GCC a 1,564 ar gyfer DC.

Ymgysylltodd nifer sylweddol is o gyfranogwyr â PfS o gymharu â'r targedau a osodwyd ar gyfer y rhaglen yn GCC a DC fel ei gilydd. Yn GCC, cymerodd 1,063 o gyfranogwyr ran yn PfS rhwng 2016 a 2023, gan gyflawni 37% o’r targed. 

Gan ganolbwyntio ar y cyfnod 2019 i 2023 yn unig, cymerodd 556 o gyfranogwyr ran yn GCC (25% o'r targed ar gyfer y cyfnod), tra yn DC cymerodd 359 o gyfranogwyr ran yn PfS (23% o'r targed ar gyfer y cyfnod).

Yn gysylltiedig â'r niferoedd llai a oedd yn cymryd rhan, roedd y gwariant terfynol hefyd yn is. Cyfanswm costau cymeradwy’r rhaglen oedd £6.9 miliwn ar gyfer WWV, yn cynnwys ychydig o dan £4.7 miliwn mewn costau ESF a £2.2 miliwn mewn arian cyfatebol, gan ddarparu cyfradd ymyrraeth wedi'i thargedu o 68%. Roedd y gwariant terfynol ar draws y rhaglen gyfan yn £3.31 miliwn ac roedd gwariant ESF yn £2.25 miliwn. Roedd hyn yn sylweddol is na'r ffigur a gymeradwywyd a darparodd gyfradd ymyrraeth derfynol o 68%.

Rhesymau dros beidio â chyrraedd y targedau

Roedd yna nifer o resymau dros dangyflawni targedau. Yn ystod cyfnod cyntaf y rhaglen rhwng 2016-2019, roedd codi cyfyngiadau oedran ar gyfer y rhaglen brentisiaeth ar yr adeg yr oedd y rhaglen PfS yn cael ei chynllunio wedi golygu nad oedd y rhaglen wreiddiol yn llenwi bwlch yn y ddarpariaeth mwyach. Roedd y meini prawf cymhwysedd hefyd yn cael eu hystyried yn gyfyngol, yn enwedig ar gyfer gweithwyr rhan-amser yn gweithio llai nag 16 awr, a oedd yn peri heriau i rai lleoliadau.

Er bod yr ail gam yn anelu at fynd i'r afael â'r cyfyngiadau hyn trwy ddarparu opsiynau i'r rhai oedd yn gweithio llai nag 16 awr, daeth heriau ychwanegol i'r amlwg. Gwnaeth pandemig COVID-19 amharu'n sylweddol ar y rhaglen, ac achosi oedi sylweddol i amserlenni caffael. Roedd effaith y pandemig hefyd yn golygu nad oedd uwchsgilio a datblygu’r gweithlu bob amser yn flaenoriaeth i berchnogion a rheolwyr lleoliadau. Dechreuodd y dyfarniadau Trawsnewid i Waith Chwarae yn llawer hwyrach nag a gynlluniwyd yn wreiddiol gan adael llai o amser ar gyfer recriwtio a chyflawni.

Ymhlith y ffactorau eraill yr adroddwyd eu bod wedi effeithio oedd llai o alw am brentisiaethau rhan-amser, y ffaith na chyflawnwyd rhai llwybrau penodol, a rheolau ESF a oedd yn golygu nad oedd gwirfoddolwyr yn gallu cymryd rhan yn PfS.

Profiadau'r cyfranogwyr

Rhoddwyd gwybod i'r cyfranogwyr am y cyfleoedd yn bennaf trwy eu rheolwyr, eu cydweithwyr, neu trwy gyswllt uniongyrchol gan ddarparwyr hyfforddiant. Ymhlith y cymhellion ar gyfer cwblhau cymwysterau oedd bodloni gofynion newydd y Safonau Gofynnol Cenedlaethol Gwasanaeth, gwella eu CV a gwella cyfleoedd dilyniant gyrfa, a dysgu mwy am waith chwarae.

Roedd profiadau cyfranogwyr o strwythur y cwrs a'r llwyth gwaith yn amrywio. Roedd rhai o'r farn bod modd rheoli'r llwyth gwaith, yn enwedig y rhai mewn swyddi uwch neu'n gweithio'n rhan-amser. Fodd bynnag, roedd nifer wedi'u synnu gan faint y gwaith dan sylw, gan ddisgrifio'r llwyth gwaith fel un sylweddol a heriol a oedd yn aml yn gofyn am ymrwymiadau penwythnos a gyda'r nos.

Yn gyffredinol, rhoddodd y cyfranogwyr adborth cadarnhaol am gynnwys y cyrsiau, a oedd naill ai'n atgyfnerthu gwybodaeth bresennol neu'n cyflwyno mewnwelediadau newydd. Fodd bynnag, cyfeiriodd rhai at faterion yn ymwneud â chynnwys ailadroddus, diffyg dyfnder a chynnwys di-drefn. Roedd y gefnogaeth a ddarparwyd gan ddarparwyr hyfforddiant, tiwtoriaid a chyflogwyr yn amrywio. Er bod llawer yn fodlon, roedd rhai wedi wynebu oedi mewn adborth, anghysondebau, neu heriau yn ymwneud â dysgu ar-lein.

Barn cyflogwyr

At ei gilydd, roedd y cyflogwyr yn fodlon ar y cymorth a ddarparwyd gan ddarparwyr hyfforddiant gan nodi ei effaith gadarnhaol ar brofiad dysgu eu staff. Fodd bynnag, tynnodd rhai cyflogwyr sylw at anghysondebau o ran ansawdd a chyfathrebu cymorth yn dibynnu ar y tiwtor, a gwnaethant sylwadau ar effaith y pandemig ar gyfathrebu.

Canfyddiadau: deilliannau'r Rhaglen Cynnydd ar gyfer Llwyddiant

Mae'r adran hon yn cyflwyno barn cyfranogwyr a chyflogwyr ar effaith PfS ar wybodaeth a sgiliau'r cyfranogwyr, rhagolygon swyddi a'r tebygolrwydd o ymgymryd â hyfforddiant pellach.

Effaith: Gwell gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau

Yn gyffredinol, rhoddodd y cyfranogwyr adborth cadarnhaol ar yr effaith y mae ymgymryd â chymhwyster PfS wedi’i chael ar eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth a’u sgiliau fel ymarferwr gofal plant/gwaith chwarae.  Gwelwyd yr effaith hon ar draws y cymhwyster Trawsnewid i Waith Chwarae a'r prentisiaethau. Nid oedd manylion ar gael i'r cyfranogwyr yn dilyn L2 APP, felly ni chasglwyd unrhyw adborth ganddynt.

Adroddodd cyfranogwyr wnaeth ymgymryd â'r cymhwyster Trawsnewid i Waith Chwarae fwy fod y cwrs wedi cynyddu eu gwybodaeth am egwyddorion gwaith chwarae a’u gwneud yn fwy ymwybodol o’r gwahanol arddulliau chwarae, y gwahanol gamau yn natblygiad plant a gwahanol ddulliau o gefnogi chwarae ar wahanol oedrannau. Fe wnaethant gyfeirio at rôl y cwrs o ran gwella eu hyder fel ymarferwyr ac annog dull chwarae dan arweiniad plant, gan wella profiadau'r plant yn y pen draw.

Cadarnhaodd cyflogwyr yr effaith gadarnhaol, gan nodi bod eu gweithwyr wedi dod yn ymarferwyr mwy medrus ar ôl cwblhau'r cymhwyster Trawsnewid i Waith Chwarae. Roedd y wybodaeth well wedi eu galluogi i lynu at bolisïau a rheoliadau diogelwch yn well, ac i fynd i’r afael â lles plant yn well.

Nododd prentisiaid a ddilynodd gymwysterau CCPLD a Gwaith Chwarae fod ganddynt well dealltwriaeth o bolisïau a gweithdrefnau eu cwmni ac o gerrig milltir datblygiad plant. Roedd y wybodaeth hon yn ddefnyddiol i’w galluogi i arsylwi'n well ar ddatblygiad plant ac i siarad yn hyderus â rhieni.

Effaith ar gyfleoedd gwaith a hyfforddiant pellach

Dywedodd llawer o gyfranogwyr PfS eu bod yn credu bod cymryd rhan wedi cael effaith gadarnhaol ar eu rhagolygon swydd a'u dilyniant gyrfa. Roedd bron pob un o'r cyfranogwyr Trawsnewid i Waith Chwarae a phrentisiaethau a gafodd eu cyfweld wedi aros yn eu rolau neu wedi ymgymryd â chyfrifoldebau ychwanegol, gan arwain yn aml at ddyrchafiad yn eu gweithleoedd. Dywedwyd bod cymryd rhan yn y cwrs wedi cryfhau eu diddordeb yn y sector ac wedi cynyddu eu tebygolrwydd o aros yn y rôl a’r sector

Mynegodd sawl cyfranogwr ddiddordeb mewn dilyn cymwysterau lefel uwch, megis Lefel 4 neu 5 mewn Gwaith Chwarae, gan ddangos eu hymroddiad i ddatblygiad proffesiynol. Roedd eraill wedi canolbwyntio ar fentora cydweithwyr ac integreiddio eu gwybodaeth newydd i'w gwaith ers y cwrs, gan gyfrannu at effaith ehangach ar leoliadau gofal plant/chwarae.

Cyd-fynd â blaenoriaethau polisi Llywodraeth Cymru

Gwnaeth PfS ymgorffori nifer o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ynghyd â’r themâu trawsbynciol cyfle cyfartal a phrif ffrydio rhywedd a'r Gymraeg, datblygu cynaliadwy, mynd i'r afael â thlodi, ac allgáu cymdeithasol. Gwnaeth PfS ymgorffori’r themâu trawsbynciol hyn yn ei ddyluniad a'i ddarpariaeth, ac yn benodol cynlluniwyd y rhaglen i gyfrannu at wella mynediad at ofal plant o ansawdd uwch. Addasodd y darparwyr hyfforddiant eu deunyddiau a'u harferion i gefnogi hygyrchedd a chynhwysiant i bob dysgwr, hyrwyddo gweithgareddau cymorth cymheiriaid, a chamau gweithredu cadarnhaol ar gyfer pobl anabl.

Gwerth am arian

Gwnaeth y gwerthusiad o werth am arian y rhaglen ganolbwyntio ar gost-effeithiolrwydd a'r gwerth canfyddedig. Y bwriad i ddechrau oedd uwchsgilio 2,849 o ymarferwyr at gost gyfartalog ragamcanol o £2,423 y cyfranogwr. Arweiniodd y nifer lai o ymarferwyr a gafodd gymorth yn y pen draw ynghyd â’r cyfanswm gwariant is, at gost gyfartalog uwch o £3,115 y cyfranogwr. Mae gan y dadansoddiad hwn rai cyfyngiadau, gan gynnwys yr anallu i wahaniaethu costau rhwng prentisiaethau a chyrsiau byrrach a chwmpasu'r cyfnod PfS cyfan.

Mae dadansoddiad cymharol yn dangos bod PfS wedi cynnig gwerth cadarn am arian, gyda chostau fesul cyfranogwr yn unol â meincnodau'r diwydiant, yn enwedig wrth ystyried Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd. Roedd y dull a ddefnyddiwyd i gomisiynu darpariaeth drwy ymarferion tendro cystadleuol hefyd yn golygu bod costau a risgiau’n cael eu rhannu ar draws darparwyr hyfforddiant masnachol. Amlygodd y data ansoddol y manteision canfyddedig o'r gwariant hwn, megis gweithlu mwy cymwys a mwy o gyfleoedd datblygu proffesiynol i ymarferwyr.

Casgliadau ac argymhellion

Yn gyffredinol, fe wnaeth y rhaglen gynnydd tuag at gyflawni nifer o'r deilliannau allweddol a fwriadwyd. Yn benodol, llwyddodd i wella gwybodaeth a sgiliau ymarferwyr gofal plant a chwarae, gan arwain at well hyder a chymhwysedd ymhlith ymarferwyr, Gwnaeth hyn, yn ei dro, helpu lleoliadau i fodloni'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol.

Fodd bynnag, yn y pen draw, cyflawnwyd y rhaglen PfS ar raddfa lai na'r disgwyl ac roedd nifer y cyfranogwyr a ymgysylltodd â'r rhaglen ac a gafodd eu huwchsgilio, gryn dipyn yn is na'i thargedau cyffredinol. Effeithiodd y niferoedd is o gyfranogwyr ar faint o arian ESF a dynnwyd i lawr i gefnogi'r gweithgaredd. Y gwariant terfynol drwy ESF ac arian cyfatebol oedd £3.32 miliwn, o gymharu â gwariant cymwys o £6.9 miliwn.

Dengys y gwerthusiad fod galw parhaus am gymwysterau wedi’u hariannu yn y sectorau gofal plant a chwarae. Mae'r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion ar gyfer y dyfodol, a fyddai'n gwella effeithiolrwydd ac effaith unrhyw fentrau tebyg.

Argymhelliad 1: Cefnogaeth barhaus ar gyfer uwchsgilio

Dylai Llywodraeth Cymru barhau i gefnogi uwchsgilio’r gweithlu gofal plant a chwarae, gan hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer dilyniant a chefnogi cadw saff.

Argymhelliad 2: Cefnogi uwchsgilio gwirfoddolwyr

Dylai Llywodraeth Cymru ymchwilio i ffyrdd o ymgysylltu â gwirfoddolwyr o leoliadau chwarae a gofal plant fel rhan o fentrau yn y dyfodol i uwchsgilio gweithwyr yn y sectorau hyn. Gan gydnabod rôl allweddol gwirfoddolwyr, gallai hyn gynnig llwybr o wirfoddoli i gyflogaeth a helpu i fynd i’r afael â phrinder gweithlu a darparu cymorth ychwanegol i leoliadau.

Argymhelliad 3: Parhau i ymchwilio i ffyrdd o ddarparu hyblygrwydd wrth ddysgu

Dylai Llywodraeth Cymru barhau i ymchwilio i ffyrdd o gynnwys mwy o hyblygrwydd mewn rhaglenni hyfforddi gofal plant a chwarae, gan sicrhau y gall unrhyw raglen yn y dyfodol ddarparu ar gyfer gwahanol fathau o ddysgwyr, lleoliadau a sefyllfaoedd.

Argymhelliad 4: Gwella prosesau casglu data

Fel rhan o unrhyw raglenni hyfforddi yn y dyfodol, dylai Llywodraeth Cymru gasglu manylion cyswllt cyflogwyr a'u cydsyniad i gymryd rhan mewn gweithgaredd gwerthuso er mwyn cael dealltwriaeth o effaith y rhaglen ar eu lleoliad.

Argymhelliad 5: Sicrhau bod dysgwyr a chyflogwyr yn glir ynghylch yr ymrwymiad amser sy'n gysylltiedig â chymwysterau

Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda darparwyr hyfforddiant i sicrhau bod dysgwyr yn cael gwybod am yr ymrwymiadau amser sy’n gysylltiedig â chwblhau cymwysterau gofal plant a chwarae amrywiol, gan gynnwys sesiynau a gwaith cwrs a gwblhawyd y tu allan i oriau gwaith arferol, lle y bo’n berthnasol.  Byddai hyn yn galluogi cyfranogwyr a chyflogwyr i ddeall a chynllunio eu hamser a'u hamserlenni yn well.

Manylion cyswllt

Awduron yr adroddiad: Duggan, B

Mae’r safbwyntiau a fynegwyd yn yr adroddiad hwn yn perthyn i’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd Llywodraeth Cymru.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Kim Wigley
Yr Is-adran Ymchwil Gymdeithasol a Gwybodaeth
Ebost: cyflogadwyedd.sgiliau.ymchwil@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 117/2023
ISBN digidol 978-1-83504-860-3

Image
GSR logo