Neidio i'r prif gynnwy

Ariannodd y rhaglen Cynnydd ar gyfer Llwyddiant (PfS) weithwyr presennol i ymgymryd â chymwysterau cydnabyddedig yn y meysydd gofal plant a chwarae er mwyn cynyddu eu sgiliau. Prif nod y gwerthusiad oedd asesu effeithiolrwydd, effeithlonrwydd ac effaith rhaglen Cynnydd ar gyfer Llwyddiant.

Darparodd Cynnydd ar gyfer Llwyddiant gyllid er mwyn cynorthwyo gweithwyr gofal plant a chwarae i ymgymryd â chymwysterau cydnabyddedig er mwyn cynyddu ac ymestyn eu sgiliau. Nod Cynnydd ar gyfer Llwyddiant oedd cynorthwyo gwelliannau i ansawdd y ddarpariaeth a gynigir i blant, gan adlewyrchu tystiolaeth bod gweithlu hynod o fedrus yn arwain at ddeilliannau addysgol gwell i blant yn y dyfodol. Cynhaliwyd Cynnydd ar gyfer Llwyddiant i ddechrau o 2016 hyd 2019, a chafodd ei ymestyn er mwyn cael ei gynnal o 2019 hyd 2023.

Cafodd y rhaglen Cynnydd ar gyfer Llwyddiant ei hariannu'n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop a'i gweinyddu gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru o fewn Echel Flaenoriaeth 3, Cyflogaeth a Chyrhaeddiad Ieuenctid, Amcan Penodol 4: Cynyddu sgiliau'r gweithlu Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant yn ardal Gorllewin Cymru a'r Cymoedd. Roedd Cynnydd ar gyfer Llwyddiant hefyd ar gael i weithwyr yn Nwyrain Cymru, wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, felly roedd yr holl gyfleoedd hyfforddi ar gael ledled Cymru. 

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gomisiynu Ymchwil Arad i gynnal gwerthusiad o'r rhaglen gychwynnol, ac yna o'r rhaglen estynedig. Cynhaliwyd adolygiad llenyddiaeth hefyd ar gyfer y gwerthusiad cychwynnol ac mae wedi’i gynnwys fel Atodiad i'r adroddiad cyntaf.

Nod y gwerthusiad o'r cam cychwynnol oedd asesu effeithiolrwydd, effeithlonrwydd ac effaith y gweithrediadau yn ystod y cyfnod rhwng mis Gorffennaf 2015 a mis Medi 2019. Cwblhawyd y rhan fwyaf o'r adroddiad hwn yn 2020, ond nid yw wedi'i gyhoeddi tan nawr am nad oedd data allbwn allweddol ar gael.

Defnyddiwyd rhai o argymhellion yr adroddiad cyntaf i ailbennu ffocws y rhaglen, a gafodd ei hymestyn hyd 2023:

  • Dylai Llywodraeth Cymru barhau i ariannu cymwysterau gofal plant a chwarae.
  • Byddai gweithrediadau yn y dyfodol yn cael budd o sicrhau bod y meini prawf cymhwysedd mor eang a hyblyg ag y bo modd.
  • Dylai gweithrediadau yn y dyfodol sy’n ceisio uwchsgilio'r gweithlu ymestyn y ddarpariaeth dysgu seiliedig ar waith cyfrwng Cymraeg a dwyieithog er mwyn cefnogi'r weledigaeth a nodwyd yn strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru i ehangu darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y blynyddoedd cynnar fel pwynt mynediad ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg.

Cynhaliwyd gwerthusiad o gam 2019 - 2023 rhwng 2021 a 2023 gan asesu effeithiolrwydd y gweithrediad newydd o ran diwallu anghenion uwchsgilio'r sector a chefnogi datblygiad proffesiynol ymarferwyr.

Mae'r canfyddiadau allweddol ar draws y ddau adroddiad

  • Mae Cynnydd ar gyfer Llwyddiant wedi llwyddo i gyflawni ei brif ganlyniad tymor byr, sef gwella lefelau sgiliau yn y gweithlu blynyddoedd cynnar, gofal plant a chwarae.
  • Roedd nifer sylweddol is o bobl wedi cymryd rhan yn y rhaglen Cynnydd ar gyfer Llwyddiant nag a gynlluniwyd yn wreiddiol. Roedd cyfanswm o 1,063 o gyfranogwyr yn rhan o'r rhaglen yng Ngorllewin Cymru a'r Cymoedd rhwng 2016 a 2023 (37% o'r targed o 2,849).
  • Roedd y sector gofal plant a chwarae yn gefnogol o nodau cyffredinol Cynnydd ar gyfer Llwyddiant i uwchsgilio'r gweithlu.
  • Gwelwyd amrywiadau o ran amlder a natur y cyswllt gydag aseswyr a pha mor gryf oedd y berthynas waith rhwng yr aseswr/darparwr a'r cyflogwr.
  • Adroddodd cyfranogwyr Cynnydd ar gyfer Llwyddiant nifer o gymhellion ar gyfer ymgymryd â chymwysterau, gan gynnwys y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer gofal plant a reoleiddir, gwella rhagolygon gyrfa, a dysgu gwybodaeth am waith chwarae.
  • Nododd cyflogwyr fod eu cymhellion i gymryd rhan yn gysylltiedig â defnyddio Cynnydd ar gyfer Llwyddiant i gynyddu nifer y staff cymwys gan amlaf, er mwyn cydymffurfio â'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol.
  • Yn gyffredinol, darparodd dysgwyr a chyflogwyr adborth cadarnhaol ar yr effaith a gafodd Cynnydd ar gyfer Llwyddiant ar wybodaeth, dealltwriaeth, sgiliau a hyder. Roedd cyflogwyr yn cydnabod bod sicrhau’r cymhwyster wedi peri i’w staff fod yn ymarferwyr mwy 'myfyriol', a bod ganddynt werthfawrogiad gwell o sut i gynllunio a darparu gweithgareddau i gefnogi cerrig milltir datblygiadol plant.
  • Roedd y gweithrediad Cynnydd ar gyfer Llwyddiant yn llwyddiannus ar y cyfan o ran cyfrannu at nodau'r Cynllun Cyflogadwyedd, y Cynllun Gweithredu ar yr Economi (Ffyniant i Bawb), a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Fodd bynnag, roedd graddfa'r cyfraniad yn gyfyngedig gan fod llai o gyfranogwyr nag a gynlluniwyd wedi cymryd rhan.
  • Roedd rhanddeiliaid yn amheus ynghylch gallu ynysu a mesur cyfraniad Cynnydd ar gyfer Llwyddiant tuag at nodau polisi ehangach.

Mae'r argymhellion allweddol o'r ail adroddiad ar gyfer y cyfnod rhwng 2019 a 2023

  1. Cefnogaeth barhaus ar gyfer uwchsgilio'r gweithlu gofal plant a chwarae, gan hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer dilyniant a chefnogi cadw staff.
  2. Cefnogi uwchsgilio gwirfoddolwyr: cydnabod y gallai rôl gwirfoddolwyr gynnig llwybr o wirfoddoli i gyflogaeth er mwyn helpu i fynd i'r afael â phrinder gweithwyr a darparu cefnogaeth ychwanegol i leoliadau.
  3. Parhau i ymchwilio i ffyrdd o ddarparu hyblygrwydd wrth ddysgu, gan sicrhau y gall unrhyw weithrediad yn y dyfodol ddarparu ar gyfer gwahanol fathau o ddysgwyr, lleoliadau a sefyllfaoedd.
  4. Gwella prosesau casglu data ar gyfer manylion cyswllt cyflogwyr a'u cydsyniad i gymryd rhan mewn gweithgarwch gwerthuso, er mwyn cael dealltwriaeth o effaith y rhaglen ar eu lleoliad.
  5. Sicrhau bod dysgwyr a chyflogwyr yn glir ynghylch yr ymrwymiad amser sy'n gysylltiedig â chymwysterau. Byddai hyn yn galluogi cyfranogwyr a chyflogwyr i ddeall a chynllunio eu hamser a'u hamserlenni yn well.

Adroddiadau

Gwerthusiad o'r rhaglen Cynnydd ar gyfer Llwyddiant, 2016 i 2019 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Gwerthusiad o'r rhaglen Cynnydd ar gyfer Llwyddiant: datblygu'r gweithlu gofal plant a chwarae, 2019 i 2023 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Kim Wigley

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.