Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r adroddiad yn nodi canfyddiadau gwerthusiad o ddyfarniad grant FareShare Cymru, sy'n cwmpasu cyflwyno, monitro a chynaliadwyedd y dyfarniad grant rhwng 2015 a 2024.

Canfu'r gwerthusiad fod FareShare Cymru wedi cyrraedd neu ragori ar dargedau grant yn gyson ers 2015, gan ddangos twf cyson mewn cyfeintiau bwyd a ailddosbarthwyd, nifer yr aelodau a gefnogir, a hunangynhaliaeth weithredol.

Canfu hefyd fod y grant wedi chwarae rhan allweddol wrth alluogi FareShare Cymru i ehangu ei weithrediadau yn effeithlon drwy sicrhau bod y seilwaith, y bobl a'r setiau sgiliau cywir ar waith.

Roedd y gwerthusiad hefyd yn cwmpasu effeithiau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd y grant; ac adolygiad cymharol o'r dirwedd ailddosbarthu bwyd bwytadwy dros ben yng Nghymru ac ar draws y DU.

Mae'r adroddiad yn cynnwys nifer o gasgliadau ac argymhellion manwl yn seiliedig ar ganfyddiadau'r gwerthusiad.

Adroddiadau

Gwerthuso dyfarniad grant FareShare Cymru: 2015 i 2024 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB

PDF
3 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Dr Hannah Browne Gott

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.