Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae FareShare Cymru (FSC) yn ailddosbarthu bwyd bwytadwy dros ben o fusnesau yng Nghymru i sefydliadau cymunedol a elwir yn Aelodau Bwyd Cymunedol (y cyfeirir atynt fel 'aelodau' yn yr adroddiad hwn). Mae aelodau'n talu ffi fach am y bwyd a dderbynnir.

Nod y gwerthusiad oedd asesu effaith a chynaliadwyedd Grant Llywodraeth Cymru i FSC o 2015 hyd at ddiwedd blwyddyn ariannol 2023 i 2024, a nodi cyfleoedd ac opsiynau yn y dyfodol i gefnogi ailddosbarthu gwastraff bwyd.

At ei gilydd, mae FSC wedi derbyn ychydig dros £3 miliwn mewn arian gan Lywodraeth Cymru ers 2015.

Methodoleg

Roedd y fethodoleg werthuso yn seiliedig ar ddull Damcaniaeth Newid wedi'i seilio ar ganllawiau Llyfr Magenta Trysorlys y DU a meini prawf Gwerthuso Gwell OECD. Roedd y dull hwn yn cynnwys creu model rhesymeg a fframwaith gwerthuso i arwain y dadansoddiad o ddata cynradd ac eilaidd ac i brofi sut yr oedd disgwyl i'r grant gyflawni ei nodau.

Cynhaliwyd ymchwil sylfaenol gyda rhanddeiliaid, busnesau sy'n rhoi bwyd i' FSC, aelodau a gwirfoddolwyr ochr yn ochr â dadansoddiad o ddata monitro ac adroddiadau FSC i Lywodraeth Cymru.

Y prif gyfyngiad ar y fethodoleg oedd argaeledd cyfyngedig aelodau a busnesau i gymryd rhan yn y gwaith maes gwerthuso.

Canfyddiadau'r gwerthusiad

Canfu'r gwerthusiad fod grant FSC wedi chwarae rhan allweddol wrth alluogi FSC i ehangu ei weithrediadau'n effeithlon drwy sicrhau bod y seilwaith, y bobl a'r setiau sgiliau cywir ar waith. O ganlyniad, mae'r grant wedi helpu i ailddosbarthu mwy o fwyd bwytadwy dros ben i fwy o aelodau ar draws ardal ddaearyddol ehangach.

Drwy’r arian grant a ddyrannwyd i FSC, mae FSC wedi gallu ehangu ei aelodaeth ledled de Cymru ac, yn gynyddol ers pandemig COVID-19, i ogledd a de-orllewin Cymru. Dros gyfnod y grant, mae FSC wedi cyrraedd 55 o aelodau ychwanegol yng ngogledd Cymru, a 12 aelod yn ne-orllewin Cymru, gan gynnal a datblygu ymhellach aelodaeth gref yn ne-ddwyrain Cymru ac Abertawe lle cefnogwyd 183 o aelodau yn ystod blwyddyn ariannol 2023 i 2024.

Adroddodd FSC fod cydbwyso ehangu ag effeithlonrwydd gweithredol wedi bod yn her barhaus, yn enwedig gan fod graddfa'r galw yn fwy na'r bwyd bwytadwy dros ben sydd ar gael a bod natur y bwyd bwytadwy dros ben sydd ar gael i'w ailddosbarthu wedi newid.

Dangosodd data monitro FSC fod 5,651 tunnell o fwyd a diod wedi'u dargyfeirio o wastraff i ailddosbarthu dros y cyfnod a ariennir, gan gyfrannu at dros 17 miliwn o brydau bwyd a darparu arbediad ariannol amcangyfrifedig o £18.6 miliwn i aelodau.

Dangosodd gwaith maes a gynhaliwyd gyda sampl fach o fusnesau sy'n rhoi bwyd i FSC fod rhoddwyr yn gwerthfawrogi rôl FSC fel ailddosbarthwr dibynadwy o fwyd bwytadwy dros ben. Pan ofynnwyd iddynt beth fyddent yn ei wneud â'u bwyd bwytadwy dros ben heb FSC, dywedodd tri busnes y byddent yn ei waredu fel gwastraff, tra dywedodd tri arall y byddent yn ei ddefnyddio ar gyfer bwyd anifeiliaid, yn ei gompostio, neu'n ei roi i rywle arall.

Yn gyffredinol, canfu aelodau fod caffael bwyd o FSC yn rhatach ac yn fwy dibynadwy nag opsiynau eraill ac yn rhoi amrywiaeth ehangach o gynhyrchion iddynt. Nododd yr aelodau, heb gefnogaeth FSC, y byddai'n rhaid iddynt gael bwyd o ffynonellau drutach, a fyddai'n lleihau lefel y gefnogaeth y gallent ei darparu i fuddiolwyr. Byddai hyn hefyd yn arwain at fwy o amser yn cael ei dreulio yn gwneud cais am grantiau i godi arian, mewn tirwedd ariannu gynyddol heriol.

Mae gwirfoddolwyr FSC yn chwarae rhan allweddol yn ymdrechion ailddosbarthu bwyd y sefydliad. Adroddwyd sawl canlyniad allweddol gan wirfoddolwyr gan gynnwys gwell ymdeimlad o lesiant a chysylltiad cymdeithasol a mwy o ymwybyddiaeth o wastraff bwyd. Roedd gwirfoddoli gydag FSC hefyd yn eu galluogi i gael mynediad at hyfforddiant a datblygu eu cyflogadwyedd. Ers 2015, mae tua 138 o wirfoddolwyr neu weithwyr wedi ennill cymhwyster ffurfiol, ac mae 59 o wirfoddolwyr wedi symud i gyflogaeth â thâl.

Roedd y gwerthusiad yn cynnwys adolygiad o'r dirwedd ailddosbarthu bwyd bwytadwy dros ben yng Nghymru, o'i gymharu â gweddill y DU. Yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a'r Alban, mae ailddosbarthu yn dilyn model mwy canolog, gan osod FareShare fel y prif ailddosbarthwr, gyda chefnogaeth sefydliadau lleol a rhwydweithiau partneriaid. Mewn cyferbyniad, mae model ariannu Lloegr yn seiliedig ar heriau, gan ddefnyddio cynlluniau grant cystadleuol i annog atebion ar gyfer ailddosbarthu bwyd ac atal gwastraff. Mae'n bwysig nodi bod y grant FSC gwreiddiol (Hydref 2015 i Hydref 2018) hefyd wedi'i ddyfarnu drwy broses gystadleuol, cyn trosglwyddo i ariannu uniongyrchol. Mae hyn yn wahanol i'r dulliau a gymerwyd gan y gwledydd datganoledig mewn cylchoedd ariannu diweddarach, sydd wedi canolbwyntio ar ariannu offer a chyfleusterau penodol i gefnogi gweithgarwch ailddosbarthu.

Canfu'r ymchwil fod ailddosbarthu bwyd dros ben yn y gwledydd datganoledig yn ymddangos yn llai amrywiol nag yn Lloegr. Er bod nifer o sefydliadau yn y dirwedd ailddosbarthu bwyd yn y gwledydd datganoledig, FareShare yw'r unig sefydliad yn y gwledydd hyn sy'n gweithredu ar raddfa fawr. Fodd bynnag, yn Lloegr mae nifer o sefydliadau mawr y tu allan i FareShare gan gynnwys ailddosbarthwyr ar lefel genedlaethol a rhanbarthol fel His Church yn ogystal â dosbarthwyr ar lefel ranbarthol fel Bread and Butter Thing, Community Shop, Felix Project ac eraill. Mae'n debygol bod amrywiaeth is y dirwedd ailddosbarthu mewn gwledydd datganoledig yn cael ei dylanwadu gan y boblogaeth a'r raddfa weithredol lai ochr yn ochr â'r ymyriadau polisi a ddilynir gan awdurdodau datganoledig.

Cydnabu'r gwerthusiad fod y grant FSC wedi chwarae rhan hanfodol wrth alluogi mwy o hunangynhaliaeth dros amser. Mae dadansoddiad o ddata monitro FSC a adroddwyd i gofnodion ariannol Llywodraeth Cymru a'r Comisiwn Elusennau yn dangos bod FSC wedi lleihau ei ddibyniaeth ar arian cyhoeddus, gyda hunangynhaliaeth yn cynyddu yn Ne-ddwyrain Cymru ac Abertawe.

Fodd bynnag, mae'r galw am fwyd bwytadwy dros ben ar lefel y gymuned yn parhau i fod yn fwy na'r cyflenwad yng Nghymru. Mae data rhestr aros FSC yn dangos bod 95 o sefydliadau yn aros i dderbyn cymorth, ac mae traean wedi bod ar y rhestr ers dros ddwy flynedd.

Wrth edrych ymlaen, nododd staff a rhanddeiliaid FSC sawl cyfle i wella cynaliadwyedd ariannol a gweithredol hirdymor, gan gynnwys: archwilio model 'FareShare Plus', sy'n caniatáu i aelodau brynu bwyd bwytadwy dros ben ychwanegol am gost isel; datblygu canolfan hyfforddi i arallgyfeirio refeniw; ac ehangu rhwydweithiau mewn ardaloedd heb ddigon o wasanaeth fel Sir Gaerfyrddin a Cheredigion.

Ar lefel polisi, mae dadansoddiad WRAP Cymru o adroddiadau gwastraff bwyd Llywodraeth Cymru yn awgrymu, er bod y ffigur targed o 60% yn parhau i fod yn gyraeddadwy, bod angen cymryd camau pellach ar draws y gadwyn gyflenwi i gyrraedd y targed lleihau o 60% ar gyfer 2030.

Mae canfyddiadau’r gwerthusiad hwn yn tynnu sylw at risg hirdymor bosibl sy’n gysylltiedig â mesurau atal gwastraff bwyd gwell. Mae Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle (2024) Llywodraeth Cymru yn mynnu bod rhaid i bob safle annomestig sy'n cynhyrchu mwy na 5kg o wastraff bwyd yr wythnos wahanu eu gwastraff ar gyfer ailgylchu. Gellir rhoi dirwyon i fwytai, caffis, gwestai, ysgolion, ysbytai, a swyddfeydd â ffreuturau, am beidio â chydymffurfio. Nid oes data ar gael eto i asesu effeithiau hyn. Mae rhanddeiliaid yn y sector ailddosbarthu bwyd yn rhagweld y gallai cynnydd rheoleiddiol, yn ogystal â'r diddordeb cynyddol mewn cyflwyno adrodd gwastraff bwyd gorfodol ar gyfer busnesau (gyda chefnogaeth dros 30 o fanwerthwyr a chynhyrchwyr mawr yn y DU) arwain at gynnydd cychwynnol yng nghyfaint y bwyd bwytadwy dros ben, ac yna dirywiad tymor hwy wrth i fusnesau wella effeithlonrwydd.

O ganlyniad, gall aelodau sy'n dibynnu ar fwyd dros ben wedi'i ailddosbarthu gael trafferth i weithredu a chydfodoli ag ymdrechion i liniaru bwyd dros ben, oni bai bod dewisiadau eraill yn cael eu hystyried.

Casgliadau

Ers 2015, mae FSC wedi cyrraedd targedau grant yn gyson, ac mewn rhai achosion, wedi rhagori arnynt, gan ddangos twf o flwyddyn i flwyddyn mewn cyfeintiau bwyd a ailddosbarthwyd, nifer yr aelodau a gefnogir a lefel yr hunangynhaliaeth. Mae'r grant hefyd wedi galluogi Llywodraeth Cymru i ymateb yn hyblyg i heriau cymdeithasol sy'n dod i'r amlwg.

Mae'r gweithgarwch a ariannwyd gan grant wedi cyflawni canlyniadau'n effeithlon, gan alluogi FSC i ehangu ei weithrediadau. Wrth i FSC dyfu, mae wedi cyflawni arbedion maint mwy, gan gynnal canlyniadau ac addasu i ddiwallu gofynion cyd-destun economaidd-gymdeithasol sy'n esblygu, er gwaethaf costau gweithredol cynyddol a newidiadau yn y mathau o fwyd bwytadwy dros ben sydd ar gael yn y gadwyn gyflenwi.

Mae'r gwerthusiad yn rhoi cipolwg cyfyngedig ar effaith ehangach yr arian ar y sector ailddosbarthu. Er mwyn deall effeithiau hirdymor yn well, mae angen gwybodaeth fanylach am sut mae defnyddwyr gwasanaeth aelodau yn elwa o dderbyn bwyd bwytadwy dros ben, a sut mae busnesau'n rhyngweithio ag FSC.

Mae'r grant yn cyd-fynd â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru i leihau gwastraff bwyd ac yn mynd i'r afael â methiant yn y farchnad drwy ailgyfeirio bwyd bwytadwy dros ben er budd cymunedau. Fodd bynnag, mae perthnasedd hirdymor yn dibynnu ar gydbwyso'r angen am fwyd bwytadwy dros ben i aelodau, â gwella rheolaeth amgylcheddol o ran gwastraff bwyd drwy atal gwastraff bwyd wrth y ffynhonnell. Er bod amodau grant yr FSC yn cyd-fynd yn dda â threchu tlodi ac uchelgeisiau gwydnwch cymunedol, gellid cryfhau cydlyniant yr arian â pholisïau economi gylchol a gwastraff trwy fesurau a thargedau amgylcheddol gwell. Ar hyn o bryd nid oes gan Gymru strategaeth ailddosbarthu gydlynol ac nid oes digon o ddata ar raddfa ac ystod y gweithgarwch ailddosbarthu ledled Cymru i asesu effaith amgylcheddol y grant yn llawn.

Hyd yn hyn, mae'r grant wedi cefnogi datblygiad model ailddosbarthu yng Nghymru sydd yn gynaliadwy yn ariannol . Fodd bynnag, o ystyried y cynnydd tymor byr disgwyliedig mewn bwyd bwytadwy dros ben sydd ar gael (ac yna dirywiad tymor hwy), bydd angen monitro unrhyw ddyfarniad grant yn agosach yn y blynyddoedd i ddod; gan sicrhau y gall arian gefnogi lleihau gwastraff bwyd yn nes at y ffynhonnell yn unol ag ymrwymiadau Llywodraeth Cymru i leihau gwastraff bwyd bwytadwy. Byddai cynyddu'r ffocws ar ailddosbarthu bwyd bwytadwy dros ben wrth y ffynhonnell yn cefnogi dull mwy cytbwys o gyrraedd nodau lleihau gwastraff bwyd Llywodraeth Cymru, ac yn cyd-fynd yn well â'r amcan hwn ac egwyddorion yr economi gylchol a nodir yn Strategaeth Mwy Nag Ailgylchu Llywodraeth Cymru.

Argymhellion

Gwnaeth y gwerthusiad yr argymhellion canlynol i Lywodraeth Cymru, yn seiliedig ar dystiolaeth.

Diweddaru'r dull cyffredinol o fonitro data ar gyfer y dyfarniad grant, er mwyn gwella gallu Llywodraeth Cymru i asesu effeithiau a chynhyrchu darlun mwy cywir o'r gwerth ychwanegol a'r effaith a gyflawnir gan dderbynnydd(ion) yr arian grant yn y dyfodol. Yn rhan o hyn:

  • Integreiddio targedau amgylcheddol gwell ar gyfer y gronfa i sicrhau bod effaith amgylcheddol gref, olrheiniadwy yn deillio o'r arian.
  • Gwella casglu/rhannu data ynghylch mathau o roddwyr busnes, maint ac ansawdd y cynnyrch a roddir, a chysondeb rhoddion a wneir i'r sector ailddosbarthu (i wella'r ddealltwriaeth o ble mae gwastraff yn digwydd yn y gadwyn gyflenwi).
  • Annog gwerthusiadau'r gronfa yn y dyfodol i ddefnyddio dull gwerth cymdeithasol wrth asesu canlyniadau (gyda'r nod o gynhyrchu dadansoddiad enillion cymdeithasol ar fuddsoddiad ar gyfer gweithgareddau ailddosbarthu).

Cryfhau ymdrechion ailddosbarthu drwy gefnogi partneriaethau bwyd lleol gyda dull yn seiliedig ar fuddsoddiad wedi'i dargedu mewn cyfleusterau ac offer. Dylai'r dyfarniad grant geisio mynd i'r afael â rhai o'r rhwystrau mwyaf cyffredin a nodwyd gan randdeiliaid ailddosbarthu i gefnogi sefydliadau cymunedol i gymryd bwyd bwytadwy dros ben. Mae rhwystrau parhaus a grybwyllwyd gan randdeiliaid yn cynnwys diffyg cyfleusterau storio neu storio oer a diffyg cyfleusterau i allu prosesu bwyd dros ben. Gall hyn olygu mabwysiadu dull tebyg i Zero Waste Scotland sydd wedi datblygu'r Community Fridge Fund i gefnogi sefydliadau cymunedol trwy fuddsoddiad wedi'i dargedu, neu drwy fuddsoddi mewn model mwy canolog ar gyfer prosesu bwyd dros ben fel prosiect Cegin Ailddosbarthu Cymru a dreialwyd gan FSC, ar raddfa fwy.

Darparu cefnogaeth hyblyg i helpu ymdrechion ailddosbarthu yng Nghymru i addasu i'r cynnydd tymor byr disgwyliedig a'r dirywiad yn y pen draw mewn bwyd bwytadwy dros ben, yn unol â mesurau rheoleiddio newydd a pholisïau Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol ehangach a gyflwynwyd gan fusnesau. Efallai y bydd hyn yn gofyn am adolygu ac ailstrwythuro’r gronfa yn rheolaidd, er mwyn sicrhau ei bod yn addasu yn unol â newidiadau disgwyliedig yn argaeledd bwyd dros ben.

Manylion cyswllt

Awdur yr adroddiad: Megan Byrne, Kerry Kilbride, Sophie Wheeler, Jessica Mann, Mariana Fikry, Susannah Lynn

Safbwyntiau’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd rhai Llywodraeth Cymru yw’r safbwyntiau a fynegir yn yr adroddiad hwn.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag:

Rhaglen Ymchwil Fewnol
Is-adran Effeithlonrwydd Adnoddau ac Economi Gylchol
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: EffeithlonrwyddAdnoddauAcEconomiGylchol@llyw.cymru

Rhif ymchwil gymdeithasol: 76/2025
ISBN Digidol: 978-1-80633-166-6

GSR logo