Dogfen dechnegol sy'n nodi'r dulliau ystadegol a ddefnyddir i ddadansoddi ffynonellau data meintiol wrth werthuso’r Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol i Bobl Ifanc sy'n Gadael Gofal yng Nghymru.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Gwerthusiad incwm sylfaenol i'r rhai sy'n gadael gofal yng Nghymru
Mae'r adroddiad technegol hwn yn gwella tryloywder dadansoddol y gwerthusiad trwy ddarparu rhagor o fanylion ar sut y bydd y ffynonellau data meintiol yn cael eu dadansoddi.
Pwrpas y dadansoddiad hwn yw profi a yw'r cynllun peilot wedi bod yn effeithiol o ran gwella canlyniadau i’r derbynwyr, ac yn gost-effeithiol o safbwynt y llywodraeth a chymdeithas ehangach. Nid yw'r adroddiad yn cynnwys unrhyw ganfyddiadau o'r gwerthusiad ond mae'n ganllaw i'r astudiaeth a'r dulliau a ddefnyddiwyd.
Adroddiadau
Gwerthuso’r cynllun peilot incwm sylfaenol i bobl ifanc sy’n gadael gofal yng Nghymru: cynllun dadansoddi ystadegol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 503 KB
Cyswllt
Jennie Mack
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
