Mae'r adroddiad gwerthuso hwn yn ymwneud â'r cyfnod rhwng mis Medi 2021 ac Awst 2022 ac yn ystod y cyfnod hwnnw cyrchwyd y Cynnig gan 21,729 o blant.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Gwerthuso’r Cynnig Gofal Plant i Gymru
Mae Cynnig Gofal Plant Llywodraeth Cymru yn darparu hyd at 30 awr o ofal plant ac addysg gynnar i blant tair a phedair oed rhieni cymwys am 48 wythnos y flwyddyn. Mae’r adroddiad gwerthuso hwn yn ymwneud â’r cyfnod rhwng mis Medi 2021 a mis Awst 2022, pumed flwyddyn y Cynnig Gofal Plant (‘y Cynnig’).
Casgliadau
- Mae'r nifer a fanteisiodd ar y Cynnig wedi dychwelodd i'r lefelau cyn y pandemig
- Cynnydd yn y nifer o blant a gefnogir gan y Cynnig ag ADY oherwydd effeithiau negyddol COVID-19 a newidiau i ddeddfwriaeth AAA.
- Mae materion recriwtio a chadw staff y darparwr gofal plant yn parhau i gael eu hadrodd gan darparwyr gofal plant.
- Roedd 54% o rieni a fanteisiodd ar y Cynnig yn ennill llai na £26,000 y flwyddyn.
- Nododd 75% bod y Cynnig yn ei gwneud hi'n haws iddynt ymgymryd â'u gwaith.
