Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r adroddiad hwn yn asesu effaith y gronfa Cymorth ar feithrin gallu partneriaeth, ar gyflenwi gwasanaethau ataliol, a’i dylanwad ar ddarpariaeth gwasanaethau prif ffrwd.

Mae’r adroddiad gwerthuso hwn yn darparu tystiolaeth o’r hyn y mae Cymorth wedi’i gyflawni o ran sefydlu seilweithiau partneriaeth i gefnogi darpariaeth gwasanaethau pobl ifanc mewn ardaloedd difreintiedig. Mae’n ystyried i ba raddau y mae Cymorth wedi darparu gwasanaethau a chefnogaeth arloesol ac ataliol, sydd wedi’u cynllunio i gynnig dyfodol gwell i blant a theuluoedd dan anfantais.

Mae’r adroddiad yn tynnu ar amrywiaeth o dystiolaeth a gafodd ei chasglu dros y tair blynedd ddiwethaf, gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau ymchwilio gwahanol.

Adroddiadau

Gwerthuso’r gronfa Cymorth: adroddiad terfynol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 471 KB

PDF
471 KB
Os mae arnoch chi angen fersiwn o’r ddogfen hon mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd.