Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r papur hwn yn cyflwyno canfyddiadau o ail werthusiad o berfformiad y Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith o ran lleihau cyfraddau presenoliaeth ac absenoliaeth salwch yn y gweithle, effeithiolrwydd y broses ddarparu a phrofiadau gweithwyr o’r gwasanaeth.

Mae Cymorth yn y Gwaith yn rhaglen a ariannwyd drwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop a ddechreuodd ei gwaith ym mis Medi 2015 a rhedeg hyd at fis Rhagfyr 2022. Nod y gwaith oedd trechu tlodi ac allgáu cymdeithasol drwy gyflogaeth gynaliadwy drwy leihau cyfraddau presenoliaeth ac absenoliaeth salwch yn y gweithle.

Yr adroddiad hwn yw’r ail werthusiad o’r rhaglen, gyda’r nod o werthuso ymhellach effaith ganfyddedig y rhaglen ar gyfranogwyr a’r effaith gafodd COVID-19 ar y gwasanaeth, y cyfranogwyr a’r canlyniadau.

Mae’r adroddiad terfynol yn cyflwyno canfyddiadau mewn perthynas â’r amcanion a ganlyn:

  • gwerthuso perfformiad ac effaith ganfyddedig y rhaglen yn erbyn amcanion, gan gynnwys budd ei rhaglenni iechyd ar gyfer y gweithle
  • asesu cynnydd yn erbyn themâu trawsbynciol
  • asesu sut mae’r rhaglen wedi cyfrannu at nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
  • archwilio a yw argymhellion perthnasol a wnaed yn y gwerthusiad blaenorol wedi’u cyflawni, neu’n cael eu cyflawni
  • archwilio pa mor effeithiol oedd y rhaglen yn gallu ymateb i’r heriau ychwanegol a gafwyd yn sgil y pandemig COVID-19

Mae’r adroddiad yn gwneud argymhellion i lywio rhaglenni’r dyfodol.

Adroddiadau

Gwerthuso’r Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Laura Entwistle

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.