Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Roedd Cymru Iach ar Waith: Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith (IWS) yn rhaglen a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru (LlC) a Chronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) a ddechreuodd ym mis Medi 2015 a rhedeg hyd at fis Rhagfyr 2022. Bwriad IWS yn wreiddiol oedd gorffen ym mis Awst 2018 a chafodd ei ymestyn am bedair blynedd arall hyd at fis Rhagfyr 2022, yn dilyn ailwerthusiad yn 2018.

Amcanion IWS oedd mynd i’r afael â thlodi ac allgáu cymdeithasol trwy gyflogaeth gynaliadwy yn rhannau o Ogledd a De Cymru trwy leihau cyfraddau absenoldeb salwch a phresenoliaeth yn y gweithle. Dyluniwyd IWS i hyrwyddo themâu trawsbynciol ESF, sef prif ffrydio cyfle cyfartal a rhywedd, mynd i’r afael â thlodi ac allgáu cymdeithasol, a datblygu cynaliadwy.

Y cyd-destun polisi ehangach oedd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015), lle mae gan IWS y potensial i gyfrannu at ddangosyddion yn ymwneud ag iechyd, cyflogaeth a chydraddoldeb cyflog.

Cymerodd IWS ymagwedd ataliol gyda’r bwriad o atal colledion swyddi o ganlyniad i gyflyrau iechyd sy’n cyfyngu ar allu pobl i weithio neu anableddau trwy ymyrraeth gynnar. Roedd gweithredu IWS yn cefnogi absenolion (cyflogeion sydd wedi cyrraedd neu y disgwylir iddynt gyrraedd pedair wythnos o absenoldeb salwch) a phresenolion (cyflogeion sydd mewn perygl o absenoldeb salwch hirdymor) gyda mynediad cyflym, am ddim i amrywiaeth o gymorth a therapïau ymarferol, wedi eu personoli i fynd i’r afael â rhwystrau personol fel materion iechyd meddwl (yn cynnwys straen, gorbryder ac iselder) a symptomau iechyd corfforol yn ymwneud â phoen yn y cyhyrau a’r cymalau sy’n effeithio ar eu gallu i weithio. Darparodd IWS hefyd gymorth menter oedd yn cynnwys cyngor, arweiniad, hyfforddiant a chymorth am ddim ar gyfer busnesau bach a chanolig yn yr ardaloedd cyflenwi i ddatblygu a gweithredu rhaglen iechyd yn y gweithle i hyrwyddo lles yn y gweithle.

Cyflwynwyd IWS gan ddau ddarparwr. Roedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (SBU) yn cynnwys Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr, ac yn defnyddio dulliau cyflenwi o bell yn bennaf. Roedd Strategaeth Dinas y Rhyl i ddechrau yn cynnwys Conwy, Sir Ddinbych a rhannau o Wynedd o amgylch Bangor, cyn cael ei hymestyn i gynnwys Gwynedd gyfan ac Ynys Môn. Cafodd hwn wedyn ei ymestyn i Sir Gaerfyrddin a Cheredigion o fis Hydref 2021. Defnyddiodd RCS gymysgedd o ddulliau cyflenwi wyneb yn wyneb ac o bell.

Nodau a dulliau ymchwil

Ym mis Mehefin 2022, penododd Llywodraeth Cymru y Sefydliad Dysgu a Gwaith (L&W) i werthuso cyfnod diweddaraf yr IWS. Dechreuodd y gwerthusiad ym mis Gorffennaf 2022 a chafodd ei gwblhau ym mis Hydref 2022. Mae’n dilyn gwerthusiad cychwynnol o IWS a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2019. Roedd hyn yn cynnwys gweithgareddau rhwng mis Medi 2015 a mis Mehefin 2018.

Nododd y gwerthusiad cychwynnol feysydd o arfer da yn cynnwys egwyddorion ymyrraeth gynnar a chanfu fod tystiolaeth o gyfranogwyr unigol yn cyflawni canlyniadau disgwyliedig. Fodd bynnag, canfu fod llawer llai o dystiolaeth o ganlyniadau llwyddiannus ar gyfer mentrau, awgrymodd nad oedd y targedau gwreiddiol a osodwyd ar gyfer ymgysylltu â chyflogwyr a’u cefnogi yn realistig ac y dylid cynnig modelau cymorth mwy hyblyg i gyflogwyr. Nodwyd heriau yn hyrwyddo’r gwasanaeth i grwpiau o gyflogwyr a meddygon teulu ac argymhellwyd y dylid buddsoddi adnoddau pellach mewn gweithgareddau hyrwyddo. Roedd argymhellion eraill yn cynnwys y dylai IWS ganolbwyntio ar yr ardaloedd daearyddol a’r grwpiau cleientiaid hynny oedd yn wynebu’r angen mwyaf.

Cafodd yr ail werthusiad a gynhaliwyd gan L&W ei lywio gan yr ymchwil flaenorol ac roedd yn cynnwys y nodau ymchwil canlynol:

  • Gwerthuso perfformiad ac effaith ganfyddedig yr IWS yn erbyn nodau cyflenwi, yn cynnwys budd ei raglenni iechyd yn y gweithle.
  • Asesu cynnydd yn erbyn themâu trawsbynciol.
  • Asesu’r ffordd y mae IWS wedi cyfrannu at nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
  • Archwilio a yw argymhellion perthnasol a wnaed yn y gwerthusiad blaenorol, wedi, neu yn cael eu bodloni.
  • Archwilio pa mor effeithiol yr oedd IWS yn gallu ymateb i’r heriau ychwanegol a gyflwynwyd gan bandemig COVID-19.

Defnyddiodd y gwerthusiad ddulliau cymysg. Roedd yn cynnwys dadansoddiad o wybodaeth rheoli ymgymeriad yn cynnwys manylion cyflenwi gwasanaeth, demograffeg cleientiaid, a chanlyniadau cleientiaid. Roedd yr ymchwil ansoddol yn cynnwys cyfweliadau lled-strwythuredig gyda 62 o gleientiaid, 13 aelod o staff, wyth cyflogwr, pedwar gweithiwr iechyd proffesiynol, arolwg gyda thri gweithiwr gofal iechyd pellach, a thri rhanddeiliad. Cafodd y cyfweliadau eu dadansoddi’n thematig.

Roedd cyfyngiadau i’r ymchwil ansoddol a meintiol. Profodd y partneriaid cyflenwi heriau yn casglu a chofnodi canlyniadau’r cyfranogwyr, oedd yn golygu bod dadansoddi data canlyniad cyfranogwyr yn gyfyngedig. Ni chyflawnwyd y cwota llawn o gyfranogwyr gafodd eu cyfweld chwaith; roedd yn arbennig o heriol i recriwtio cyflogwyr ac ymarferwyr cyffredinol (meddygon teulu), oedd yn golygu bod angen trin y canfyddiadau o’r grwpiau hyn o gyfranogwyr gyda gofal.

Prif ganfyddiadau

Nid oedd un o’r partneriaid cyflenwi yn gallu recriwtio a chefnogi’r nifer ddisgwyliedig o gyfranogwyr absenoldeb salwch, gydag SBU ond yn cofnodi 41% o’r targed disgwyliedig ac RCS 47%. Mae’r rhesymau dros hyn yn ymwneud yn bennaf â pheidio â derbyn atgyfeiriadau a ragwelwyd trwy Ffit i Weithio. Llwyddodd SBU i recriwtio 89% o’u targed presenolion, gydag RCS yn cyflwyno cymorth i 175% o’u targed presenolion. Nid oedd y partneriaid cyflenwi’n gallu cefnogi’r nifer darged o gyflogwyr chwaith na chyflwyno’r nifer a dargedwyd o raglenni iechyd yn y gweithle. Er y canfuwyd bod y ddau bartner wedi gwella eu hallgymorth a’u gweithgareddau hyrwyddo ers y gwerthusiad cyntaf, nodwyd bod COVID-19 yn cael effaith sylweddol ar recriwtio.

Mae tystiolaeth ansoddol ar berfformiad ac effaith y gwasanaeth yn awgrymu ei fod wedi cyflwyno buddion sylweddol i dderbynwyr cymorth unigol, ar lwybrau ffisiotherapi ac iechyd meddwl. Trwy gynnig ymyrraeth gynnar a hyrwyddo hunanreolaeth iechyd, galluogodd y cyfranogwyr i ddychwelyd i’r gwaith, fe wnaeth leihau’r amser a gymerwyd i ffwrdd yn sâl, ac atal sawl unigolyn rhag mynd ar absenoldeb salwch.

Roedd nodweddion craidd cyflenwi oedd yn cyfrannu at effeithiolrwydd y cymorth unigol yn cynnwys: atgyfeirio cyflym a dechrau cymorth; asesiad cychwynnol effeithiol a pharu cyfranogwyr â therapyddion; cymorth wedi ei deilwra a’i bersonoli; a ffocws ar ddarparu’r offer a’r technegau er mwyn i unigolion allu rheoli eu hiechyd eu hunain.

Roedd heriau’n parhau yn cyrraedd y rheiny a allai elwa o’r gwasanaeth. Er i hyrwyddo’r gwasanaeth wella, roedd cwmpas ac ansawdd y wybodaeth yn parhau’n fylchog. Roedd ymgysylltu â meddygon teulu yn arbennig o heriol ar gyfer y ddau bartner.

Roedd maint, hyd a dwysedd y cymorth yn gyffredinol yn adlewyrchu anghenion unigol. Fodd bynnag, roedd angen mwy o sesiynau na chafodd y gwasanaeth ei ariannu i’w cyflwyno ar nifer fach o unigolion, yn arbennig y rheiny oedd yn cael cymorth iechyd meddwl. Nid oedd unrhyw ffordd gytûn na chyson o ymateb i hyn, felly roedd yr hyn oedd yn digwydd mewn achosion unigol yn amrywio’n sylweddol ac mewn nifer fach o achosion roedd yn cael effaith negyddol.

Roedd tystiolaeth o ymarfer effeithiol gyda chyflogwyr oedd yn codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o les yn y gweithle ac yn hyrwyddo diwylliant sefydliadol mwy agored a chefnogol mewn perthynas â lles meddwl a chorfforol.

Yn y ddwy ardal gyflenwi, ymatebodd y gwasanaeth yn gyflym ac yn effeithiol i’r heriau a gyflwynwyd gan bandemig COVID-19. Galluogodd newidiadau i’r dulliau cyflenwi ar gyfer cefnogi unigolion a chyflogwyr y gwasanaeth i barhau i ddarparu cymorth trwy gydol y cyfnod o gyfyngiadau. Gwaddol hyn oedd mabwysiadu cyflenwi ar-lein yn ehangach. Roedd hyn yn galluogi mwy o ddewis a hyblygrwydd yn y ffordd yr oedd cymorth yn cael ei ddefnyddio ac yn gwella hygyrchedd i rai grwpiau.

Roedd heriau’n ymwneud â chael tystiolaeth o gymhwysedd a chanlyniadau oedd yn cael eu priodoli’n gyffredinol i ofynion noddwr penodol yn ymwneud â’r fformat yr oedd yn rhaid cyflwyno tystiolaeth.

Canlyniadau ac argymhellion

Mae’r dystiolaeth a gyflwynir yn y gwerthusiad o unigolion â chyflyrau iechyd yn cael eu cefnogi i ddychwelyd i’r gwaith, neu aros mewn gwaith, yn awgrymu bod gan y gwasanaeth botensial i wneud cyfraniad sylweddol at gyflenwi’r maes gweithredu blaenoriaeth o ‘Waith Iach, Cymru Iach’ o fewn y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau newydd.

Er ei fod yn ymddangos yn annhebygol y gallai IWS ar ei lefel bresennol, gyfrannu at newid y tu hwnt i’r hyn a brofir gan unigolion neu weithleoedd penodol, gallai cyflwyno cenedlaethol gyfrannu at ganlyniadau polisi ehangach. Fodd bynnag, gall fod angen ystyriaeth ar a fyddai angen i grwpiau penodol o gleientiaid gael eu targedu er mwyn sicrhau effaith.

Mae gan cyflwyno IWS yn ehangach y potensial i gyfrannu at sawl dangosydd o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) (2015). Mae tystiolaeth o’r ymchwil ansoddol yn awgrymu y gall IWS helpu pobl i aros mewn gwaith, neu ddychwelyd i’r gwaith, felly’n cyfrannu at ganran y bobl mewn cyflogaeth. Mae tystiolaeth ansoddol hefyd gan y ddau bartner a thystiolaeth ansoddol gan RCS y gall IWS gael effaith gadarnhaol ar les unigolion a'r ffordd y maent yn rheoli eu hiechyd, felly’n cyfrannu at sgorau iechyd meddwl cymedr a nifer y bobl sydd yn ymgysylltu ag ymddygiad iach.

Roedd rhywfaint o dystiolaeth hefyd o IWS yn cefnogi cynnydd tuag at themâu trawsbynciol. Gallai IWS fod wedi cyfrannu at gynnydd tuag at gyfle cyfartal fel y dangosir gan y partneriaid cyflenwi yn gweithredu mesurau gweithredu cadarnhaol ar gyfer grwpiau gwahanol, ac yn cyrraedd targedau yn fras ar gyfer cyflenwi gwansaethau i fenywod, pobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig, a phobl â chyfrifoldebau gofalu. Roedd rhywfaint o dystiolaeth hefyd o gynnyd tuag at ddatblygu cynaliadwy trwy’r newid sefydliadol a welwyd mewn mentrau, a thuag at drechu tlodi yn y dystiolaeth bod unigolion wedi cael cymorth i ddychwelyd i’r gwaith.

Fodd bynnag, mae y tu hwnt i gwmpas y gwerthusiad i ystyried yr effeithiau hyn ar lefel gymdeithasol yn hytrach na lefel unigol.

Nododd y gwerthusiad fod y gwasanaeth wedi arddangos buddion i unigolion a sefydliadau a bod achos clir dros ei ymestyn ar draws Cymru.

Gwnaed cyfres o argymhellion i’w hystyried wrth gyflwyno IWS yn genedlaethol yn y dyfodol:

  • Dylai cyflenwi seilwaith ar gyfer gwasanaeth ar draws Cymru gynnwys dulliau cyfathrebu clir er mwyn sicrhau bod dysgu’n cael ei gipio a’i rannu rhwng partneriaid cyflenwi.
  • Codi ymwybyddiaeth o’r gwasanaeth oedd y prif her. Mae cyflwyno’n genedlaethol yn gyfle i weithredu dull strategol mwy cyson o godi proffil y gwasanaeth ar draws Cymru. Dylai hyn gynnwys ymgysylltu â rhanddeiliaid ehangach, y defnydd o gyfathrebu amrywiol a dulliau allgymorth, dull wedi ei dargedu o gynyddu hunangyfeiriadau gan feddygon teulu, a hyrwyddo hyrwyddwyr lles yn y gweithle fel menter genedlaethol.
  • Gallai ymgyrch hyrwyddo cenedlaethol llwyddiannus gyda’r cynnydd yn y galw a ragwelir am y gwasanaeth, olygu bod angen mwy o ystyriaeth i flaenoriaethu grwpiau penodol o gleientiaid, ac allgymorth wedi ei dargedu’n fwy.
  • Dylid cryfhau a datblygu’r model cyflenwi hyblyg ymhellach i fodloni anghenion cyfranogwyr unigol, i gynnwys nifer y sesiynau, cymorth sydd yn cael ei gynnig, dull cyflenwi, dewis o therapydd a dewisiadau iaith.
  • Dylid cytuno ar ddull parhaus a’i weithredu ar gyfer bodloni anghenion lleiafrif bach o gyfranogwyr sydd angen mwy na chwe sesiwn i gwblhau eu cymorth.
  • Dylai’r model cymorth hyblyg i gyflogwyr barhau, gyda phwyslais penodol ar ddatblygu a lledaenu enghreifftiau o ymarfer effeithiol.
  • Mae cyflwyno ehangach yn rhoi cyfle i ddysgu o’r heriau hanesyddol o amgylch rhoi tystiolaeth o gymhwysedd a chofnodi canlyniadau cyfranogwyr. Y nod ddylai fod i ddatblygu a gweithredu dull wedi ei symleiddio tuag at atgyfeiriadau a dilyniant ar ôl ymyrraeth.
  • Mae’r heriau a brofwyd yn y gwerthusiad hwn a’r un blaenorol yn awgrymu y dylid rhoi ystyriaeth bellach i’r ffordd y mae’r cyflwyno ehangach yn cael ei werthuso. Gallai hyn gynnwys cynnwys y tîm mewn gwerthusiad ffurfiannol, a chanfod ffyrdd amgen o ymgysylltu cyflogwyr a meddygon teulu â’r ymchwil.

Manylion cyswllt

Awduron yr Adroddiad: Sefydliad Dysgu a Gwaith

Mae’r safbwyntiau a fynegwyd yn yr adroddiad hwn yn perthyn i’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd Llywodraeth Cymru.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Laura Entwistle
Ebost: ymchwil.iechydagwasanaethaucymdeithasol@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 25/2023
ISBN digidol 978-1-80535-570-0

Image
GSR logo