Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae’r adroddiad hwn yn rhan o’r gwerthusiad ffurfiannol o’r Cwricwlwm i Gymru. 

Mae’r adroddiad yn cyflwyno canfyddiadau gwaith ymchwil ansoddol ynghylch gwireddu Cwricwlwm i Gymru mewn unedau cyfeirio disgyblion (UCDau) a darpariaeth arall addysg heblaw yn yr ysgol (AHY), dan arweiniad Prifysgol Bangor, mewn partneriaeth â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd. 

Nod yr ymchwil oedd rhoi sylw i 2 nod canolog mewn perthynas â darpariaeth AHY. Y rhain oedd:

  1. deall sut mae canllawiau Cwricwlwm i Gymru yn cael eu gweithredu yn ymarferol
  2. archwilio sut caiff darparwyr AHY eu cynorthwyo i weithredu Cwricwlwm i Gymru

Methodoleg

Roedd y fethodoleg yn cynnwys: 

  • recriwtio unigolion sy’n cyflawni amrediad o rolau sy’n ymwneud â darpariaeth AHY ar draws Cymru i gymryd rhan yn yr astudiaeth.  Roedd y rhain yn cynnwys ymarferwyr sy’n cynllunio’r cwricwlwm ac sy’n addysgu mewn AHY mewn UCD a heb fod mewn UCD, a chynrychiolwyr awdurdod lleol fel swyddogion cynhwysiant a’r rhai sy’n ymwneud ag atgyfeirio, comisiynu a sicrhau’r cwricwlwm
  • at ei gilydd, roedd 36 unigolyn wedi cymryd rhan yn yr astudiaeth, gan gynnwys cynrychiolwyr o 9 UCD, 9 awdurdod lleol a 10 darparwr AHY heb fod mewn UCD ar draws Cymru. Cynrychiolwyd pob rhanbarth yn y sampl, gan gynnwys lleoliadau mewn ardaloedd trefol a gwledig
  • adolygiad pen desg, gan gynnwys adolygiad o ddogfennaeth polisi a chanllawiau sy’n ymwneud â darpariaeth AHY, a gweithdy gyda swyddogion polisi Llywodraeth Cymru i adnabod llinellau ymholi a ddefnyddiwyd fel rhan o drafodaethau ansoddol
  • gwnaethpwyd gwaith dadansoddi fesul cam, ac roedd yn cynnwys: adolygiad o drawsgrifiadau trafodaethau; llunio crynodebau ysgrifenedig o bob trafodaeth; gwaith codio agored o drawsgrifiadau er mwyn nodi themâu a oedd yn codi dro ar ôl tro

Mae’r adroddiad yn amlygu nifer o gyfyngiadau sy’n gysylltiedig â’r astudiaeth hon, sef:

  • natur fach a hunanddewisol y sampl, sy’n golygu nad yw’r canfyddiadau yn rhai y mae modd eu cyffredinoli
  • y ffaith bod y trafodaethau a gynhaliwyd yn seiliedig ar gipolwg o’r sefyllfa ar un adeg, gan gyfyngu ar y gallu i archwilio ‘taith’ Cwricwlwm i Gymru AHY mewn UCD ac AHY heb fod mewn UCD, a’u cynnydd dros gyfnod hwy
  • o ganlyniad i’r amser cyfyngedig a oedd ar gael yn ystod trafodaethau, ni fu modd cael ymdeimlad llawn o’r gwaith cynllunio a wnaethpwyd a lefel y manylder a fu ynghlwm â hyn bob tro
  • gofynnwyd i’r holl gynrychiolwyr UCD ac awdurdodau lleol yn y sampl i rannu copi o grynodeb eu cwricwlwm, pan oedd un ar gael (gan mai dim ond 3 chrynodeb y bu modd eu harchwilio, gwnaethpwyd penderfyniad i beidio dadansoddi’r rhain)
  • ni fu modd cynrychioli pob math o ddarpariaeth AHY yn yr astudiaeth hon, o ganlyniad i ystod eang y ddarpariaeth ar draws Cymru
  • y tu hwnt i’r grwpiau cyfranogwyr a gafodd eu recriwtio, ceir rhanddeiliaid eraill sy’n cyflawni rôl bwysig wrth ddatblygu cwricwlwm AHY, megis rhieni neu gofalwyr, dysgwyr ac ymarferwyr mewn ysgolion prif ffrwd, nad oeddent wedi cael eu cynnwys yn y sampl
  • efallai bod cyfranogwyr wedi tueddu i gynnig ymatebion yr oeddent yn teimlo eu bod yn ddisgwyliedig neu’n cyd-fynd â normau polisi; er mwyn lleihau risg tuedd dymunoldeb cymdeithasol gymaint ag y bo modd, pwysleisiodd yr ymchwilwyr sut y gallai adborth gonest gael dylanwad cadarnhaol ar welliannau i bolisi ac arfer, gan sicrhau y byddai pawb yn hollol ddienw yn yr adroddiad terfynol
  • ceir risg hefyd o weld tuedd ymchwilwyr; roedd yr ymchwilwyr wedi cadw dyddiadur myfyriol i fyfyrio am eu profiadau personol, eu hystyriaethau a’u rhyngweithiadau trwy gydol y broses er mwyn lleihau risg tuedd neu fyfyrio am ei effaith bosibl

Canfyddiadau

Datblygodd y tîm ymchwil restr o brif gwestiynau ymchwil a oedd wedi tywys y gwaith casglu data ar gyfer yr astudiaeth hon, ac wedi cynnig strwythur ar gyfer yr adroddiad hwn.

Cwestiwn ymchwil 1: ym mha ffyrdd y mae darparwyr AHY yn cynorthwyo dysgwyr i feithrin gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau yn unol â Fframwaith Cwricwlwm i Gymru? 

Roedd hi’n farn gyffredin ymhlith ymarferwyr AHY bod rhai o’r manteision o weithredu Cwricwlwm i Gymru yn cynnwys mwy o ymgysylltu gyda dysgwyr, gwelliant o ran cymhelliant, a mwy o ffocws ar anghenion, dyheadau a chynnydd dysgwyr. Amlygodd rhai ymarferwyr ymddygiad gwell ymhlith dysgwyr hefyd, trwy gyfrwng dull mwy holistaidd o ddysgu, sy’n gwerthfawrogi lles a datblygiad personol.

Amlygodd rhan fwyaf o ymarferwyr AHY fanteision hyblygrwydd Cwricwlwm i Gymru ac roeddent yn teimlo bod ei ethos yn cyd-fynd yn dda â’r ddarpariaeth a’r amgylchedd dysgu cefnogol yr oeddent eisoes yn ei gynnig. I’r ymarferwyr hyn, roedd Cwricwlwm i Gymru yn caniatáu cyfleoedd pellach i gynllunio cwricwla pwrpasol er mwyn bodloni anghenion, galluoedd a diddordebau amrywiol dysgwyr unigol, gan adlewyrchu amgylchedd meithringar a dulliau eu darpariaeth AHY bresennol sy’n canolbwyntio ar y dysgwr.

Roedd rhan fwyaf o gynrychiolwyr awdurdodau lleol yn teimlo bod hyblygrwydd Cwricwlwm i Gymru yn cynorthwyo galluogedd a pherchnogaeth ymarferwyr i ddatblygu’r cwricwlwm yn unol â’u cyd-destun lleol ac anghenion y dysgwyr.  Roedd y cynrychiolwyr hyn o’r farn bod hon yn ffordd fuddiol o gynnig ystod eang o gyfleoedd dysgu dilys i ddysgwyr, yn ogystal â meithrin cysylltiadau gyda grwpiau cymunedol lleol.

Pwysleisiwyd bod iechyd a lles yn flaenoriaeth i ddysgwyr ar draws yr holl ddarpariaeth AHY ac amlygodd rhan fwyaf y cyfranogwyr bod hon yn agwedd graidd ar ddarpariaeth eu cwricwlwm. Roedd y gweithgareddau yn cynnwys cydweithio gydag asiantaethau allanol fel Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) a’r gwasanaethau cymdeithasol i ddarparu cymorth holistaidd ac unigoledig i ddysgwyr. Roedd gwireddu Cwricwlwm i Gymru wedi annog ymarferwyr i ystyried sut y byddai iechyd a lles yn cael ei integreiddio mewn cyd-destun mwy trawsgwricwlaidd.

Amlygodd y rhan fwyaf o ymarferwyr AHY a chynrychiolwyr awdurdodau lleol y ffaith bod yr integreiddio hwn, law yn llaw â dulliau mwy hyblyg o gynnig amgylcheddau dysgu, yn arbennig o fuddiol i ddysgwyr, er enghraifft, trwy ddysgu a chynnal gweithgareddau yn yr awyr agored, ymgysylltu cymunedol, therapi cerddoriaeth ac ymwybyddiaeth ofalgar.

O fewn darpariaeth AHY, roedd y rhan fwyaf o ymarferwyr yn defnyddio llais y dysgwr er mwyn cynnwys diddordebau a dewisiadau dysgwyr wrth gynllunio’r cwricwlwm. Roedd hyn yn cynnwys cynnal sesiynau adborth a thrafodaethau a chynnwys llais y dysgwr wrth ddatblygu Cynlluniau Datblygu Unigol (CDU). Roeddent yn credu bod y dull hwn yn creu profiadau dysgu sy’n ennyn mwy o ddiddordeb.

Roedd bron i hanner yr ymarferwyr AHY heb fod mewn UCD yn barnu nad oedd Cwricwlwm i Gymru yn berthnasol iawn i’w darpariaeth nhw. Roedd y rhesymau dros hyn yn cynnwys y ffaith bod ganddynt wahanol flaenoriaethau dysgu nad ydynt yn rhai academaidd, a ffocws ar anghenion cyflogadwyedd a galwedigaethol. Roedd hyn yn ymwneud â dysgwyr cofrestriad deuol, felly roeddent yn mynychu ysgolion prif ffrwd hefyd. O’r herwydd, nid oedd yr ymarferwyr hyn yn teimlo bod cyflwyno Cwricwlwm i Gymru wedi arwain at newidiadau i’w darpariaeth neu eu harfer nhw.

Cwestiwn ymchwil 2: i ba raddau ac ym mha ffyrdd y mae cwricwlwm a threfniadau asesu Cwricwlwm i Gymru wedi galluogi darparwyr AHY i gynorthwyo eu dysgwyr? (Lle y mae trefniadau yn cynnwys cynllunio; addysgu a dysgu; adolygu’r cwricwlwm; ac asesu) 

Adroddodd bron pob ymarferydd eu bod yn canolbwyntio ar gynnydd unigol dysgwyr, yn hytrach na thargedau cyrhaeddiad penodedig. Roedd y mwyafrif yn barnu bod cyflwyno Cwricwlwm i Gymru yn cynorthwyo newid cadarnhaol tuag at dderbyn dulliau mwy holistaidd ac ansoddol o asesu o fewn darpariaeth AHY.

Adroddodd rhai ymarferwyr AHY am ddatblygiadau cadarnhaol o ran y ffordd yr oedd trefniadau asesu Cwricwlwm i Gymru wedi helpu dysgwyr i ddeall eu cynnydd eu hunain. Amlinellont newid tuag at ddulliau mwy ffurfiannol sy’n cynorthwyo hunanymwybyddiaeth dysgwyr a’u hymgysylltiad gyda’u taith addysgol. Amlygodd rhai cyfranogwyr yr arfer o ddathlu datblygiad dysgwyr mewn meysydd y gallent gael eu hanwybyddu gan ysgolion prif ffrwd (er enghraifft, presenoldeb, ymddygiad, ac agweddau at ddysgu), a oedd yn helpu i newid persbectifau dysgwyr am yr hyn y gall llwyddiant ei olygu.

Nododd dros hanner yr ymarferwyr AHY bod lles a datblygiad personol yr un mor bwysig â chynnydd academaidd. Mae hyn wedi arwain at osod Maes Iechyd a Lles wrth wraidd eu darpariaeth AHY, ac mae asesiadau yn eu lle i fonitro’r datblygiad hwn. Fodd bynnag, adroddodd rhai am heriau wrth fesur cynnydd ym meysydd lles ac ymgysylltu â dysgu.

Adroddodd tua hanner yr ymarferwyr bod arosiadau neu ymyriadau tymor byr i ddysgwyr o fewn darpariaeth AHY yn ei gwneud hi’n anodd cwblhau asesiadau ystyrlon sy’n cynnig dirnadaeth o gynnydd dysgwyr mewn perthynas â’r camau cynnydd. Roedd y rhan fwyaf o ymarferwyr o’r farn, gan nad oes ffordd ragnodedig o fesur cynnydd, bod hyn yn ei gwneud hi’n anodd alinio a chymharu cynnydd dysgwyr yn ystod cyfnodau pontio i ac o ysgolion prif ffrwd.

Roedd hi’n farn gyffredin ymhlith ymarferwyr bod gwaredu targedau cyrhaeddiad yn cyflwyno heriau a oedd yn ymwneud â sut a phryd i gynnal asesiadau. Adroddwyd bod hyn – ynghyd â defnyddio gwahanol strategaethau adrodd, disgwyliadau amrywiol ynghylch pa fetrigau sy’n dynodi cynnydd, a dulliau anghyson o rannu data rhwng darparwyr addysg – wedi ei gwneud hi’n anodd alinio a chymharu cynnydd dysgwyr yn ystod cyfnodau pontio.

Gan bod dysgwyr yn aml yn mynychu darpariaeth AHY am gyfnodau byr, amlygodd ymarferwyr bod hyn yn ei gwneud hi’n anodd cwblhau asesiadau ystyrlon sy’n ymwneud â chamau cynnydd. Roedd hyn yn golygu nad oedd hi’n hawdd gweld na mesur y cynnydd a gaiff ei sicrhau gan ddysgwyr mewn meysydd eraill (er enghraifft, lles ac ymddygiad) trwy lens Cwricwlwm i Gymru.

Mynegwyd rhai pryderon gan ychydig o ymarferwyr am y diffyg canllawiau sydd ar gael fel sylfaen ar gyfer y cymwysterau TGAU a TAAU newydd.[troednodyn 1] Roedd hyn wedi peri pryder ynghylch a oeddent yn bodloni gofynion Cwricwlwm i Gymru ac yn paratoi eu dysgwyr mewn ffordd effeithiol ar gyfer arholiadau. 

Cwestiwn ymchwil 3: sut mae rhanddeiliaid yn cydweithio (neu’n cymryd rhan mewn deialog broffesiynol) er mwyn cynorthwyo dysgwyr AHY? 

Roedd hi’n arfer cyffredin i ddarparwyr AHY gydweithio gyda rhanddeiliaid amrywiol megis rhieni neu gofalwyr, awdurdodau lleol, ymarferwyr iechyd a seicolegwyr addysg er mwyn cynorthwyo gweithgarwch ymgysylltu a chynnydd, iechyd a lles dysgwyr, ac addysg a phrofiadau byd gwaith. Daeth addysg a phrofiadau byd gwaith i’r amlwg fel maes arbennig y rhoddwyd pwyslais arno wrth i ddarparwyr gydweithio ag eraill; gyda dros hanner yr ymarferwyr yn amlygu sut y mae dysgu cysylltiedig â gwaith yn creu llwybrau ystyrlon i ddysgwyr yr oeddent wedi ymddieithrio o ddulliau academaidd mwy traddodiadol yn flaenorol.

Adroddodd pob UCD eu bod yn gweithio gydag ysgolion prif ffrwd. Lle’r oedd y cydweithio yn gweithio’n dda, roedd cyfathrebu a chyfarfodydd rheolaidd i rannu gwybodaeth am gynnydd, anghenion a phrofiadau dysgwyr yn cael eu hwyluso gan staff cyswllt dynodedig neu’r awdurdodau lleol.

Fodd bynnag, adroddodd dros hanner y darparwyr AHY heb fod mewn UCD nad oeddent yn cael unrhyw gyswllt neu fawr iawn o gyswllt gydag ysgolion prif ffrwd. Arweiniodd hyn at heriau tybiedig megis prosesau rhannu data a chyfathrebu anghyson er mwyn pennu’r hyn yr oedd dysgwyr wedi ei ddysgu yn flaenorol ac wrth gytuno ar sut y dylai cynnydd ymddangos i wahanol ddysgwyr.

Cwestiwn ymchwil 4: a yw ymarferwyr mewn UCDau yn cael mynediad at ddysgu proffesiynol a chymorth er mwyn cynorthwyo wrth gynllunio’r cwricwlwm ac asesu?

Adroddodd bron pob ymarferydd a oedd yn gweithio mewn UCD eu bod wedi manteisio ar gyfleoedd dysgu proffesiynol mewn meysydd a oedd yn cynnwys cynllunio cwricwlwm, arweinyddiaeth ac asesu. Nododd yr ymarferwyr hyn bod ymgysylltu â dysgu proffesiynol o fudd iddynt a’i fod yn gwella eu gwybodaeth o brif agweddau Cwricwlwm i Gymru, megis y 4 diben a themâu trawsgwricwlaidd. 

Fodd bynnag, amlygodd rhai ymarferwyr y ffaith nad oedd y dysgu proffesiynol a gynigir gan gonsortia addysg ac awdurdodau lleol wedi rhoi sylw i’r heriau penodol y mae darparwyr AHY yn eu hwynebu, megis yr angen am ddosbarthiadau llai, staffio cyfyngedig, a chyfrannau uwch o ddysgwyr sydd ag anghenion cymdeithasol, emosiynol a meddyliol ac anghenion cymorth ymddygiad. 

Adroddodd rhai ymarferwyr AHY eu bod yn defnyddio hyfforddiant mewnol yn lle dysgu proffesiynol allanol. Roedd enghreifftiau o hyn yn cynnwys rhannu arbenigedd mewnol a chomisiynu/datblygu hyfforddiant pwrpasol sy’n ymateb i’r angen, megis cynorthwyo anghenion dysgu ychwanegol (ADY) penodol, cymorth ymddygiad, neu strategaethau addysgu a dysgu.

Cwestiwn ymchwil 5: a yw AHY heb fod mewn UCD yn cael cwricwlwm wedi’i gynllunio gan awdurdod lleol, yn unol â’r ddeddfwriaeth?

Er gwaethaf y ffaith bod dyletswydd ar awdurdodau lleol i sicrhau cwricwla priodol i ddysgwyr sy’n cael eu cyfeirio at ddarpariaeth AHY heb fod mewn UCD, adroddodd dros hanner y darparwyr hyn eu bod yn datblygu eu dull eu hunain weithiau gan nad ydynt yn cael fawr iawn o gyfarwyddyd. Roedd rhai darparwyr yn barnu bod hyn wedi creu heriau iddynt wrth ddeall a gwireddu agweddau mandadol o’r Fframwaith. Mae hyn yn codi cwestiynau ynghylch a yw dysgwyr ar draws darpariaeth AHY yn cael mynediad teg at ddysgu sy’n adlewyrchu gofynion y Fframwaith. 

Cwestiwn ymchwil 6: sut mae’r awdurdod lleol yn penderfynu pa ddarpariaeth AHY ddylid ei darparu i ddysgwyr?

Nododd holl gynrychiolwyr awdurdodau lleol bod anghenion dysgwyr yn ystyriaeth ganolog wrth benderfynu ar y math o ddarpariaeth AHY sy’n cael ei neilltuo, ynghyd â ffactorau fel iechyd meddwl, iechyd corfforol, cynnydd academaidd, ac ymgysylltu ag addysg prif ffrwd. Roedd penderfyniadau ynghylch lleoliadau AHY yn cynnwys nifer o randdeiliaid ac weithiau, defnyddiwyd prosesau ffurfiol megis Mynediad Teg neu ddarpariaeth arbenigol.

Adroddodd dros hanner y cynrychiolwyr awdurdodau lleol bod ganddynt fecanweithiau sicrhau ansawdd yn eu lle i fonitro’r ddarpariaeth AHY a gynigir yn eu hawdurdodaeth er mwyn sicrhau tegwch i ddysgwyr sy’n symud ar draws gwahanol leoliadau addysgol. Roedd y rhain yn cynnwys asesu addasrwydd y cwricwlwm a’i berthnasedd i anghenion dysgwyr; adolygu’r mesurau diogelu sydd yn eu lle; ac ansawdd cyffredinol y profiad dysgu.

Meysydd i'w hystyried

Canfu’r gwaith maes dystiolaeth gyfyngedig i ddynodi a yw’r cwricwla a ddarperir gan awdurdodau lleol yn ddigonol er mwyn bodloni anghenion dysgwyr AHY heb fod mewn UCD. Felly, mae’n bosibl y bydd angen mwy o gymorth gan awdurdodau lleol i gryfhau’r maes hwn. Dylid archwilio’r meysydd canlynol er mwyn hwyluso hyn:

  • dylai awdurdodau lleol sicrhau bod darpariaeth AHY heb fod mewn UCD yn bodloni gofynion mandadol Cwricwlwm i Gymru ar gyfer pob dysgwr AHY
  • dylid sefydlu sianelau cyfathrebu clir rhwng awdurdodau lleol, ysgolion prif ffrwd, a darparwyr AHY heb fod mewn UCD ynghylch gweithredu’r cwricwlwm
  • pan nad oes rhai yn bodoli, dylai awdurdodau lleol sefydlu prosesau sicrhau ansawdd diffiniedig er mwyn monitro ac adolygu’r ddarpariaeth AHY heb fod mewn UCD, gan neilltuo cyfrifoldebau rhanddeiliaid mewn ffordd glir
  • dylai awdurdodau lleol gynnal cyswllt rheolaidd gyda darparwyr AHY heb fod mewn UCD trwy gyfrwng swyddogion cyswllt dynodedig neu aelod o staff enwebedig, fel bod llinell gymorth gyson ar gyfer ymholiadau cwricwlwm
  • dylid cynnig cyfleoedd dysgu proffesiynol i ddarparwyr AHY heb fod mewn UCD sy’n gweithredu o fewn neu sy’n cael eu comisiynu gan yr awdurdod lleol, fel eu bod yn ymwybodol o ofynion Cwricwlwm i Gymru ac yn cael eu cynorthwyo i’w bodloni mewn ffordd effeithiol

Amlygodd yr astudiaeth hon sawl maes lle y byddai modd gwella’r cyfleoedd dysgu proffesiynol i ddarparwyr AHY mewn UCD a heb fod mewn UCD:

  • dylid cynorthwyo cyfleoedd ar gyfer mwy o gydweithio rhwng darparwyr AHY; byddai hyn yn galluogi ymarferwyr i rannu arbenigedd ynghylch y ffordd orau o gynorthwyo anghenion dysgwyr yng nghyd-destun heriau cyffredin
  • mae cynnig dysgu proffesiynol mwy cydlynol ar draws awdurdodau lleol yn bwysig er mwyn sicrhau dealltwriaeth gyson o ofynion Cwricwlwm i Gymru a’r cymorth y mae ei angen ar ddysgwyr AHY sy’n pontio ar draws darpariaeth; dylai’r dysgu proffesiynol a gynigir ystyried amrywiaeth cyd-destunau a dysgwyr AHY, er mwyn sicrhau bod y cynnig dysgu proffesiynol yn fwy perthnasol i ddarparwyr AHY
  • dylid darparu enghreifftiau arfer da o arferion asesu ar gyfer Cwricwlwm i Gymru i UCDau

Nododd y gwaith ymchwil yr angen am ddulliau mwy cadarn er mwyn hwyluso gweithgarwch rhannu data effeithiol rhwng ysgolion, awdurdodau lleol, a darparwyr AHY er mwyn cynorthwyo cynnydd a threfniadau asesu wrth i ddysgwyr bontio.

Dylai Llywodraeth Cymru ystyried dewisiadau er mwyn creu platfform digidol cyffredin diogel ar gyfer ysgolion prif ffrwd, awdurdodau lleol, a darparwyr AHY sy’n galluogi:

  • diweddariadau amser-real ynghylch cynnydd dysgwyr
  • trosglwyddo data asesu mewn ffordd ddi-dor
  • cofnodi meysydd o ddiddordeb personol a strategaethau cymorth llwyddiannus
  • cofnodi anghenion penodol dysgwyr (e.e., dysgwyr ag anghenion iechyd cymdeithasol, emosiynol a meddyliol, ADY, iechyd corfforol) ac ymyriadau presennol

Byddai modd adnabod cydlynwyr pontio dynodedig ym mhob darpariaeth (prif ffrwd ac AHY) er mwyn hwyluso pontio esmwyth i ddysgwyr. Byddai’r rolau hyn yn gyfrifol am sicrhau bod gwybodaeth amserol a chyflawn yn cael ei rhannu rhwng darparwyr.

Byddai modd archwilio sefydlu fforymau ymarferwyr traws-sector rheolaidd er mwyn cynorthwyo wrth rannu arfer effeithiol a gwella profiadau pontio i ddysgwyr.

Bu’r broses o sicrhau crynodebau cwricwlwm UCD ar gyfer yr astudiaeth hon yn heriol. Dylai gwaith ymchwil pellach ystyried a oes heriau i UCDau wrth iddynt ddatblygu eu crynodebau, ac os felly, pa gymorth y byddai modd ei ddarparu efallai i oresgyn hyn.

Dylai gwaith ymchwil pellach ystyried pa welliannau y byddai modd eu gwneud i welededd ac argaeledd crynodebau cwricwlwm UCD, a dylid ystyried hefyd sut y gellir integreiddio asesiad o’r crynodebau mewn prosesau sy’n bodoli eisoes, fel arolygiadau Estyn.

Troednodyn

[1] Dylid nodi, ers cwblhau’r gwaith maes, bod CBAC wedi rhyddhau eu manylebau drafft TGAU Gwneud-i-Gymru i’w haddysgu o fis Medi 2025. Bydd y TAAU ar gael i ddysgwyr 14 i 16 oed o fis Medi 2027, a chaiff y manylebau eu rhyddhau yn 2025 (Llywodraeth Cymru, 2024a).

Manylion cyswllt

Awduron: Dr Kaydee Owen (Prifysgol Bangor), Dr Margiad Williams (Prifysgol Bangor), Dr Anne Hodgson (Prifysgol Metropolitan Caerdydd), Martin Jones (Arad), Sam McAlister-Wilson (Arad)

Safbwyntiau’r ymchwilydd a fynegir yn yr adroddiad hwn ac nid rhai Llywodraeth Cymru o reidrwydd.

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â:

Cangen Ymchwil Cwricwlwm
Yr Is-adran Ymchwil Gymdeithasol a Gwybodaeth
Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: ymchwil.cwricwlwm@llyw.cymru

Rhif ymchwil gymdeithasol: 72/2025
ISBN Digidol: 978-1-80633-116-1

GSR logo