Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau o ymchwil ansoddol gydag ymarferwyr EOTAS a chynrychiolwyr awdurdodau lleol yn archwilio'r cyflawniad o'r Cwricwlwm i Gymru mewn darpariaeth EOTAS (gan gynnwys Unedau Cyfeirio Disgyblion).
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Gwerthusiad ffurfiannol o Gwricwlwm i Gymru
Mae'r gwerthusiad ffurfiannol o Gwricwlwm i Gymru yn mabwysiadu dulliau cymysg gan gynnwys arolygon o uwch arweinwyr ac ymarferwyr, arolygon o rieni/gofalwyr a dysgwyr, astudiaethau achos hydredol i ddeall teithiau gwireddu cwricwlwm ysgolion, a sawl astudiaeth ansoddol seiliedig ar bynciau sy'n archwilio elfennau penodol o Gwricwlwm i Gymru. Ei nod yw darparu darlun ansoddol a meintiol eang o sut mae'r diwygiadau'n gweithio, sut mae arfer yn newid a sut mae ymarferwyr, dysgwyr a'u teuluoedd yn profi'r newidiadau hyn.
Roedd yr ymchwil yn cynnwys gwaith maes gyda 36 o gyfranogwyr, gan gynnwys ymarferwyr addysg heblaw yn yr ysgol (EOTAS) a chynrychiolwyr awdurdodau lleol, a gynhaliwyd rhwng Mehefin a Hydref 2024 dan arweiniad Prifysgol Bangor gyda chefnogaeth Ymchwil Arad. Tynnodd y sampl o naw Uned Cyfeirio Disgyblion, naw awdurdod lleol a 10 darparwr EOTAS (ar wahân i Unedau Cyfeirio Disgyblion) o ranbarthau ledled Cymru.
Mae'r adroddiad yn cyflwyno canfyddiadau ar:
- sut mae darparwyr EOTAS yn cefnogi dysgwyr i ddatblygu gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau yn unol â fframwaith Cwricwlwm i Gymru
- sut mae darparwyr EOTAS wedi mynd ati i gynllunio cwricwlwm ac asesu
- sut mae rhanddeiliaid allweddol yn cydweithio i gefnogi dysgwyr EOTAS
- a oes gan ddarparwyr EOTAS fynediad at ddysgu proffesiynol a chymorth i gynorthwyo gyda chynllunio cwricwlwm ac asesu
Mae Llywodraeth Cymru wedi ystyried canfyddiadau’r adroddiad ac wedi cyhoeddi ymateb.
