Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Yn 2022 i 2023, gofynnwyd i bobl fel rhan o'r Arolwg Cenedlaethol a oeddent yn rhoi o'u hamser am ddim (hynny yw, yn ‘gwirfoddoli’) i unrhyw glybiau neu sefydliadau.

Prif ganfyddiadau

Bu 30% o bobl yn gwirfoddoli yn 2022 i 2023, i fyny o 26% yn 2019 i 2020.

Mae cysylltiad annibynnol rhwng y ffactorau canlynol a bod yn fwy tebygol o wirfoddoli:

  • bod yn wryw
  • meddu ar gymwysterau addysgol lefelau uwch
  • teimlo bod bywyd yn werth chweil
  • bod yn briod
  • cymryd rhan mewn chwaraeon 3 gwaith yr wythnos neu ragor
  • defnyddio’r rhyngrwyd
  • bod â ffydd grefyddol
  • byw mewn ardal wledig
  • byw mewn ardal â llai o amddifadedd

Gwirfoddolwyr

Wrth reoli ffactorau eraill (caiff hyn ei egluro yn yr Adroddiad technegol atchweliad), roedd cysylltiad arwyddocaol rhwng y nodweddion canlynol a bod yn wirfoddolwr.

Rhyw

Roedd cyfran uwch o ddynion yn gwirfoddoli o gymharu â menywod, gyda 32% o ddynion yn gwirfoddoli a 27% o fenywod.

Addysg

Roedd pobl â chymwysterau addysgol lefelau uwch yn fwy tebygol o wirfoddoli. Bu 37% o bobl â’r lefel uchaf o gymwysterau addysg yn gwirfoddoli, o gymharu â 18% o bobl heb unrhyw gymwysterau.

Ffigur 1: Pobl sy'n gwirfoddoli, yn ôl eu cymhwyster uchaf ac yn ôl blwyddyn

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Siart far fertigol sy'n cymharu'r pum lefel o gymhwyster a allai fod gan wirfoddolwyr yn 2022 i 2023. Addysg uwch (lefel 4+) oedd y cymhwyster mwyaf cyffredin ymysg gwirfoddolwyr, gyda 37% o bobl. Mae hyn yn arwyddocaol uwch na phob lefel arall o gymwysterau.

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru, 2022 i 2023

Teimlo bod bywyd yn werth chweil

Bu cyfran y bobl a fu'n gwirfoddoli yn cynyddu gyda'r teimlad bod bywyd yn werth chweil. Gofynnwyd i bobl roi sgôr allan o 10 yn nodi a oeddent yn cytuno â'r syniad bod 'y pethau rydych chi'n eu gwneud yn eich bywyd yn werth chweil'. Roedd 35% o bobl a oedd yn teimlo bod bywyd yn hynod werth chweil (yn rhoi sgôr o 9 neu 10) yn gwirfoddoli, o gymharu â 14% o bobl nad oeddent yn teimlo'n gryf fod bywyd yn werth chweil (yn rhoi sgôr o 0 i 4). Mae'n bosibl bod perthynas ddwyffordd rhwng y ffactorau hyn. Gall gwirfoddoli wneud i rywun deimlo'n gryfach fod pethau yn ei fywyd yn werth chweil, neu gall rhywun sy'n teimlo bod pethau'n werth chweil hefyd fod yn fwy tueddol o roi o'i amser i wirfoddoli.

Statws priodasol

Roedd cyfran y bobl a fu'n gwirfoddoli yn uwch ymhlith pobl briod o gymharu â phobl sengl. Bu 34% o bobl briod yn gwirfoddoli o gymharu â 25% o bobl sengl.

Cymryd rhan mewn chwaraeon

Roedd 35% o bobl a fu'n cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon o leiaf 3 gwaith yr wythnos yn wirfoddolwyr yn 2022 i 2023, sef yr un gyfran ag yn 2019 i 2020. Roedd hyn yn cymharu â 26% o bobl a fu'n gwirfoddoli nad oeddent yn cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon i'r graddau hyn. Roedd 12% o bobl a fu'n cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon o leiaf 3 gwaith yr wythnos hefyd yn gwirfoddoli mewn clwb chwaraeon. Mae hyn yn debyg i 2019 i 2020.

Defnydd o'r rhyngrwyd

Roedd cyfran y bobl a fu'n gwirfoddoli yn uwch ymhlith pobl a oedd yn defnyddio'r rhyngrwyd: roedd 31% o bobl a oedd yn defnyddio'r rhyngrwyd yn gwirfoddoli o gymharu â 17% o bobl nad ydynt yn defnyddio'r rhyngrwyd.

Ffigur 2: Pobl sy'n gwirfoddoli, yn ôl cyfran y bobl sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon, yn defnyddio'r rhyngrwyd ac yn teimlo bod pethau mewn bywyd yn werth chweil

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Siart far fertigol sy'n cymharu cyfran y bobl sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon 3 gwaith yr wythnos neu ragor, sy'n dweud eu bod yn teimlo'n gryf iawn bod pethau a wneir mewn bywyd yn werth chweil ac sy'n defnyddio'r rhyngrwyd, fel y gofynnwyd yn arolwg 2022 i 2023, â chanlyniadau 2019 i 20. Roedd 35% o bobl a fu'n gwirfoddoli yn 2022 i 2023 yn teimlo'n gryf bod pethau a wneir mewn bywyd yn werth chweil, o gymharu â 30% yn 2019 i 2020. Cyfran y bobl a fu'n defnyddio'r rhyngrwyd ac yn gwirfoddoli oedd 31% yn 2022 i 2023 o gymharu â 27% yn 2019 i 2020.

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru, 2019 i 2020 a 2022 i 2023

Crefydd

Roedd pobl a oedd â ffydd grefyddol yn fwy tebygol o wirfoddoli na phobl heb ffydd. Roedd 35% o bobl â chrefydd yn wirfoddolwyr, o gymharu â 25% o bobl heb ffydd grefyddol. Y cyfrannau hyn oedd 32% o gymharu â 21%, yn y drefn honno, yn 2019 i 2020. Roedd XX% o bobl â ffydd grefyddol hefyd yn gwirfoddoli gyda grŵp crefyddol.

MALlC

Roedd cyfran y bobl a fu'n gwirfoddoli yn uwch ymhlith pobl sy’n byw mewn ardaloedd â llai o amddifadedd. Bu 33% o bobl yn yr ardaloedd â’r amddifadedd lleiaf yn gwirfoddoli, o gymharu â 25% o bobl yn yr ardaloedd â’r amddifadedd mwyaf.

Ardal

Gwelwyd bod pobl a oedd yn byw mewn ardaloedd gwledig yn fwy tebygol o wirfoddoli na phobl a oedd yn byw mewn ardaloedd trefol: roedd 35% o bobl mewn ardaloedd gwledig yn gwirfoddoli, o gymharu â 27% mewn ardaloedd trefol.

Ni welwyd gwahaniaeth arwyddocaol o ran gwirfoddoli rhwng grwpiau oedran, cyfeiriadedd rhywiol gwahanol, na grwpiau ethnig gwahanol.

Math o wirfoddoli

Bu pobl yn gwirfoddoli mewn nifer o wahanol sefydliadau (Ffigur 3). Bu'r dosbarthiad o ddynion a menywod a fu'n gwirfoddoli yn y sefydliadau hyn yn 2022 i 2023 yn debyg i'r dosbarthiad a welwyd yn 2019 i 2020. Roedd rhyw yn ffactor pwysig mewn cyfraddau gwirfoddoli ac, yn ogystal, roedd rhai gwahaniaethau o ran rhyw yn y math o sefydliad lle mae pobl yn dewis gwirfoddoli. Er nad oedd rhai’n arwyddocaol wahanol, yn fwyaf nodedig, roedd cyfran uwch o ddynion na menywod yn gwirfoddoli mewn clybiau chwaraeon.

Ffigur 3: Y gyfran sy'n gwirfoddoli yn ôl rhyw a math o sefydliad

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Siart far lorweddol sy'n cymharu deg math gwahanol o sefydliad y gwirfoddolodd pobl ynddynt yn arolwg 2022 i 2023, yn ôl rhyw. Y sefydliad mwyaf cyffredin i ddynion wirfoddoli ynddo oedd clwb chwaraeon, gyda chyfran o 11%. Roedd hyn yn sylweddol is i fenywod, gyda chyfran o 4%. Y math o sefydliad mwyaf cyffredin i fenywod wirfoddoli ynddo oedd sefydliadau elusennol, gyda chyfran o 10%.

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru, 2022 i 2023

Amser gwirfoddoli

Gwelwyd bod pobl, yn fwyaf cyffredin, yn gwirfoddoli am 10 awr neu lai yr wythnos (69% o wirfoddolwyr). Roedd cyfran y bobl a oedd yn gwirfoddoli am 11 i 20 awr yn llawer is (18%). Roedd cyfran y bobl a oedd yn gwirfoddoli am 21 i 30 awr, 31 i 40 awr neu fwy na 40 awr yn llawer is eto. Bach iawn oedd y gwahaniaeth rhwng dynion a menywod o ran nifer yr oriau a dreuliwyd yn gwirfoddoli.

Ffigur 4: Cyfran y gwirfoddolwyr yn ôl nifer yr oriau yn gwirfoddoli mewn wythnos

Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Siart far lorweddol sy'n dangos gwahanol gyfnodau amser o wirfoddoli mewn oriau bob wythnos. Roedd 69% o bobl a fu'n gwirfoddoli yn gwneud hynny am 10 awr neu lai yr wythnos. Roedd 4% o bobl yn gwirfoddoli am fwy na 40 awr yr wythnos. Gwelwyd gostyngiad yng nghyfran y bobl a fu'n gwirfoddoli wrth i nifer yr oriau yr wythnos gynyddu.

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru, 2022 i 23

Y cyd-destun polisi

Mae Cynllun Trydydd Sector Llywodraeth Cymru yn nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo buddiannau mudiadau gwirfoddol ac yn diffinio pedair thema drawsbynciol sy'n sail i weithgarwch yn y sector, sef: datblygu cynaliadwy, yr iaith Gymraeg, cydraddoldeb ac amrywiaeth, a threchu tlodi.‌‌‌ Yn deillio o'r cynllun, mae Polisi Gwirfoddoli: cefnogi cymunedau, newid bywydau Llywodraeth Cymru, sy'n nodi tri diben allweddol: gwella cyfleoedd gwirfoddoli i bobl o bob oed ac o bob rhan o gymdeithas; helpu gwirfoddolwyr i gymryd rhan yn fwy effeithiol, gan gynnwys drwy hyfforddiant priodol; codi statws gwirfoddoli a gwella ei ddelwedd. Mae Llywodraeth Cymru a Chyngor Partneriaeth y Trydydd Sector yn ystyried gwirfoddoli'n agwedd bwysig ar gymunedau cryf, y dylid ei hyrwyddo a'i gefnogi.

I adlewyrchu’r newid yn natur gwirfoddoli ers datblygu’r polisi gwirfoddoli presennol, gwnaeth Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip (ar y 23 Mai 2023) Ddatganiad Llafar yn amlinellu datblygiad Dynesiad Newydd at Wirfoddoli yng Nghymru i ddeall a chefnogi dyfodol gwirfoddoli yng Nghymru yn well. Bydd y Dynesiad yn un sy’n addas ar gyfer ein cenedlaethau o wirfoddolwyr yn y dyfodol, gan gynnwys y sectorau gwirfoddol, cyhoeddus a phreifat – gan helpu i greu amgylchedd lle mae gwirfoddoli’n gynaliadwy, yn gryf ac yn llewyrchus. Mae Gwaith i ddatblygu'r Dynesiad Newydd hwn wedi dechrau.

Gwybodaeth am ansawdd

Arolwg hapsampl, parhaus ar raddfa fawr yw Arolwg Cenedlaethol Cymru, sy'n cynnwys pobl ledled Cymru. Caiff cyfeiriadau eu dewis ar hap, a chaiff gwahoddiadau eu hanfon drwy'r post yn gofyn am rif ffôn ar gyfer y cyfeiriad. Gellir darparu'r rhif ffôn drwy borth ar-lein, drwy linell ymholiadau dros y ffôn neu'n uniongyrchol i rif ffôn symudol y cyfwelydd ar gyfer yr achos hwnnw. Os na chaiff rhif ffôn ei ddarparu, mae'n bosibl y bydd cyfwelydd yn ymweld â'r cyfeiriad ac yn gofyn am rif ffôn. Ar ôl cael rhif ffôn, bydd y cyfwelydd yn defnyddio dull dewis ar hap i ddewis un oedolyn yn y cyfeiriad i gymryd rhan yn yr arolwg. Cynhelir y rhan gyntaf o'r arolwg drwy gyfweliad dros y ffôn; cynhelir yr ail ran ar-lein (oni fydd yr ymatebydd yn amharod i'w chwblhau ar-lein neu'n methu â gwneud hynny, ac os felly, caiff y cwestiynau hyn hefyd eu holi dros y ffôn).

Mae siartiau manwl a thablau canlyniadau ar gael yn ein dangosydd canlyniadau rhyngweithiol. I gael gwybodaeth am gasglu’r data a’r fethodoleg, gweler yr Adroddiad ansawdd a'r Adroddiad technegol.

Statws Ystadegau Gwladol

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi'r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Ystadegau a'r Gwasanaeth Cofrestru 2007, gan ddangos eu bod yn cydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Golyga statws Ystadegau Gwladol fod yr ystadegau swyddogol yn bodloni'r safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus.

Dylai'r holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Dyfernir statws Ystadegau Gwladol iddynt yn dilyn asesiad gan gangen reoleiddio Awdurdod Ystadegau'r DU. Mae'r Awdurdod yn ystyried a yw'r ystadegau'n cyrraedd y safonau uchaf o ran cydymffurfio â'r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau a dadleuon cyhoeddus.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â'r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os byddwn yn pryderu a yw'r ystadegau hyn yn dal i gyrraedd y safonau priodol, byddwn yn trafod unrhyw bryderon â'r Awdurdod yn brydlon. Gellir dileu statws Ystadegau Gwladol ar unrhyw adeg pan nad yw'r safonau uchaf yn cael eu cynnal, a gellir adennill y statws pan gaiff y safonau eu hadfer.

Cadarnhawyd y byddai'r ystadegau hyn yn parhau i gael eu dynodi'n Ystadegau Gwladol ym mis Mehefin 2020 yn dilyn gwiriad cydymffurfiaeth gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (llythyr cadarnhau). Cafodd yr ystadegau hyn eu hasesu'n llawn yn erbyn y Cod Ymarfer ddiwethaf (adroddiad llawn) yn 2013.

Ers yr adolygiad diweddaraf gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, rydym wedi parhau i gydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, er enghraifft drwy:

  • darparu dadansoddiadau manylach yn y dangosydd canlyniadau
  • diweddaru pynciau'r arolwg yn rheolaidd i sicrhau ein bod yn parhau i ddiwallu anghenion polisi sy'n newid
  • parhau i gynnal dadansoddiad atchweliad fel rhan safonol o'n hallbynnau i helpu defnyddwyr i ddeall cyfraniad ffactorau penodol at ganlyniadau o ddiddordeb

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru, sef sicrhau Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol yn fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o'r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae rhaid eu defnyddio i fesur cynnydd tuag at gyflawni'r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. Cafodd y 50 o ddangosyddion cenedlaethol eu gosod ym mis Mawrth 2016. Mae'r Arolwg Cenedlaethol yn casglu gwybodaeth ar gyfer 15 o'r 50 o ddangosyddion.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai'r ystadegau yn y datganiad hwn hefyd ddarparu naratif ategol ar gyfer y dangosyddion cenedlaethol a gallai byrddau gwasanaethau cyhoeddus eu defnyddio mewn perthynas â'u hasesiadau a chynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswll

Timau arolygon
Ebost: arolygon@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Image
Ystadegau Gwladol

SB 42/2023