Grant i annog a chefnogi pobl i sefyll mewn etholiad yng Nghymru.
Cynnwys
Pa gyllid sydd ar gael?
Mae £200,000 ar gael y flwyddyn i gefnogi ymgeiswyr sy’n sefyll mewn etholiad yng Nghymru. Ymgeiswyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol ddylai gael budd o'r cyllid.
Gwybodaeth am y grant
Mae ein 'Rhaglen Lywodraethu' yn cynnwys y nod o “ddathlu amrywiaeth a cheisio cael gwared ar anghydraddoldeb o bob math”.
Mae'r grant hwn yn cefnogi ein nod o ddileu’r rhwystrau sy’n atal dinasyddion rhag sefyll mewn etholiad.
Ein nod yw cyllido amrywiaeth o sefydliadau er mwyn sicrhau bod modd cyrraedd pob grŵp. Byddwn hefyd yn ceisio sicrhau lledaeniad daearyddol. Bydd y panel grantiau yn ystyried gwerth am arian wrth wneud penderfyniadau.
Pwy all ymgeisio am y grant?
- Sefydliadau o Gymru sydd wedi eu cofrestru gyda'r Comisiwn Elusennau
- Sefydliadau 'dielw'
Rydym yn croesawu ceisiadau sy'n cynnig gweithio mewn partneriaeth a gweithio ar y cyd. Dylai fod un ymgeisydd arweiniol a fydd yn gweithredu fel deiliad y grant a'r rheolwr data.
Ni fyddwn yn derbyn ceisiadau gan unrhyw sefydliad sydd â chysylltiadau gwleidyddol. Ni fydd y cynllun yn darparu cyllid yn uniongyrchol i unigolion sy’n ceisio cael eu hethol.
Meini prawf angenrheidiol
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn ymuno â fforwm trafod Llywodraeth Cymru. Bydd y fforwm yn cyfarfod yn rheolaidd.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cynnig gwerthusiad ar ddiwedd cyfnod y grant.
Sut i ymgeisio
Ymgeisiwch drwy lenwi’r ffurflen gais.
Gallwch gyflwyno gwybodaeth ychwanegol rydych chi'n ei hystyried yn ddefnyddiol i gefnogi eich cais. Gall hyn fod yn gynlluniau prosiect, cynlluniau cyfathrebu, diagramau sefydliadau a pherthnasau.
E-bostiwch eich cais cyflawn at: Etholiadau.Elections@llyw.cymru
Byddwn yn ysgrifennu at Ymgeisydd Arweiniol pob cais i roi gwybod iddynt beth yw’r canlyniad.
Llinell amser a gwybodaeth bellach
Bydd y cyfnod ymgeisio am grant ar agor am bedair wythnos. Rhaid derbyn ceisiadau am gyllid yn ystod y cyfnod ymgeisio.
Ar ôl cau'r cyfnod ymgeisio, bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn cwrdd i asesu ceisiadau. Yna bydd sefydliadau'n cael gwybod am y penderfyniad yn ogystal â'r camau nesaf.
Dyddiadau a gwybodaeth allweddol i'w hystyried:
- 26/09/2025: Agor y cyfnod ymgeisio am grant
- 24/10/2025: Cau'r cyfnod ymgeisio am grant
- 10/11/2025: Ceisiadau’n cael eu hasesu gan swyddogion
