Grant refeniw o helpu i godi ymwybyddiaeth a chefnogi cydraddoldeb a chynhwysiant o fewn cymundau.
Cynnwys
Ynglŷn â'r rhaglen grant
Nod y grantiau hyn yw cefnogi pobl â nodweddion gwarchodedig a helpu i gyflawni Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol Llywodraeth Cymru 2024 i 2028.
Mae gan y rhaglen grant ddau fath o grantiau refeniw.
Grant ymwybyddiaeth ac ymgysylltu
Mae cyllid ar gael ar gyfer gweithgareddau sy'n codi ymwybyddiaeth o grwpiau gwarchodedig, neu'n cefnogi ymgysylltu â'r grwpiau hynny.
Mae cyfanswm cyllid o £750,000 ar gael. £500,000 yn 2025 i 2026 a £250,000 yn 2026 i 2027.
Grant arloesi
Cyllid i gefnogi sefydliadau sy'n gweithio gyda'i gilydd i wella dulliau cyfathrebu a chydweithio, ac i fabwysiadu dulliau arloesol sy'n ymateb i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb a chynhwysiant ar lefel ranbarthol, leol neu gymunedol.
Mae cyfanswm cyllid o £450,000 ar gael. £300,000 yn 2025 i 2026 a £150,000 yn 2026 i 2027.
Cyllid a meini prawf
Grant ymwybyddiaeth ac ymgysylltu
- Grantiau llai: £2,000 i £9,999
- Grantiau mwy: £10,000 i £100,000
Grant arloesi
- Dyfarniadau o £40,000 i £100,000
Pwy all wneud cais am y grant?
- Sefydliadau'r trydydd sector (er enghraifft, grwpiau cymunedol, elusennau cofrestredig, mentrau cymdeithasol).
- Awdurdodau lleol (ar sail cydlafurio).
- Cyrff cyhoeddus eraill (ar sail cydlafurio).
Rhaid i geisiadau gan grwpiau ffydd ganolbwyntio ar fynd i'r afael ag anghydraddoldeb a hyrwyddo cynhwysiant yn unig. Ni all Llywodraeth Cymru ariannu gorchwylion sy'n hyrwyddo gweithgareddau crefyddol.
Ni fyddwn yn derbyn ceisiadau gan sefydliadau a busnesau o'r sector preifat.
Sut i wneud cais
Llenwch y ffurflen gais a chynnwys y dogfennau ategol, a'u hanfon i RhaglenGrantCydraddoldebAChynhwysiant@llyw.cymru.
Mae fersiynau BSL o'r ffurflenni cais ar gael hefyd.
Rhaid anfon ceisiadau erbyn 11.59 pm ar 16 Tachwedd 2025 fan bellaf.
Ni fyddwn yn derbyn ceisiadau anghyflawn na rhai hwyr.
Asesu’r ceisiadau
Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn asesu'r ceisiadau:
- Sifft 1: gwirio bod yr holl wybodaeth yn cael ei darparu a bod yr holl feini prawf cymhwystra yn cael eu bodloni.
- Sifft 2: ymatebion i gwestiynau'r cais yn cael eu sgorio.
Nid yw cyflawni'r sgôr isaf posibl yn gwarantu cyllid. Bydd y ceisiadau sydd â'r sgôr uchaf yn cael eu hariannu yn gyntaf, yn dibynnu ar y cyllid sydd ar gael a nifer y ceisiadau sy'n dod i law.
