Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru yn gwerthfawrogi eich barn a'n nod yw gwneud gwelliannau yn seiliedig ar y wybodaeth a'r adborth a gawn.

Rydym yn croesawu adborth cadarnhaol a negyddol.  

Pryd y gallwch chi ddefnyddio’r broses gwynion

Mae'r polisi cwynion yn caniatáu i ni ystyried cwynion am ein gweithredoedd, gan gynnwys, er enghraifft:

  • methu â darparu gwasanaeth yr oeddem yn bwriadu ei ddarparu neu y mae'n rhaid i ni ei ddarparu yn ôl y gyfraith;
  • methu â darparu gwasanaeth sy’n cyrraedd ein safonau;
  • rhoi cyngor sy'n gamarweiniol neu'n annigonol

Ni fyddwn yn ystyried:

  • cwynion am benderfyniad ddim ond am nad ydych yn cytuno ag ef
  • cwynion am bolisi a deddfwriaeth y llywodraeth

Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau llawn ar gwynion.

Sut i wneud cwyn

Mae sawl ffordd o wneud cwyn:

Post

Gallwch ysgrifennu at y cyfeiriad canlynol:

Tîm Cynghori ar Gwynion
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Ffôn

Gallwch gysylltu â’r Tîm Cynghori ar Gwynion ar 03000 251378.

E-bost

Gallwch anfon e-bost at cwynion@llyw.cymru.

Ffurflen ar-lein

Gallwch ddefnyddio’r ffurflen ar-lein ar LLYW.CYMRU.