Neidio i'r prif gynnwy

Adran 1. Pa gamau y mae llywodraeth cymru yn eu hystyried a pham

Ar ffurf naratif, disgrifiwch y mater a'r camau a gynigir gan Lywodraeth Cymru. Sut ydych chi wedi cymhwyso / sut byddwch chi’n cymhwyso’r pum ffordd o weithio yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 i’r camau arfaethedig, drwy gydol y cylch polisi a chyflawni?

Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried cyfuno dyfarniad cyflog 2022/2023 ar gyfer y meddygon hynny sydd ar bwynt cyflog uchaf Contract Meddygon Arbenigol 2008 ac sydd â dyfarniad anghyfunol o 4.5%. 

Disgrifiad o'r mater

Yn GIG Cymru, mae dau gontract cyflogaeth ar gyfer meddygon arbenigol a meddygon gradd arbenigol (meddygon SAS). Meddygon SAS yw'r rhai sydd ag o leiaf pedair blynedd o hyfforddiant ôl-raddedig, dau ohonynt mewn arbenigedd perthnasol. Mae meddygon SAS yn grŵp sydd ag ystod eang o sgiliau, profiad ac arbenigeddau. 

Cyflwynwyd y contract cyflogaeth cyntaf yn 2008 (Contract 2008) a chyflwynwyd yr ail gontract cyflogaeth yn 2021 (Contract 2021) ac fe’u datblygwyd mewn trafodaethau rhwng cyflogwyr y GIG, Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA) a llywodraethau yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. 

Gwnaeth Contract 2021 newidiadau i delerau ac amodau Contract 2008 i sicrhau bod y radd SAS yn cael ei gweld fel gradd gyrfa gadarnhaol sy’n gwerthfawrogi gwaith caled ac ymroddiad. 

Cynhaliwyd digwyddiad cwmpasu ar ddiwygio’r contract (cyn y trafodaethau) mewn partneriaeth â BMA Cymru Wales i gasglu barn a sbarduno trafodaeth rhwng cyflogwyr y GIG a meddygon SAS. Atgyfnerthodd y digwyddiad hwn yr angen i ddiwygio’r telerau ac amodau gwasanaeth a’r cyfleoedd datblygu sydd ar gael i’r grŵp hwn o staff, a oedd, ar y cyfan, yn teimlo yn ôl y sôn eu bod yn cael eu tanbrisio a’u bod wedi ymddieithrio oddi wrth eu rolau a’u rhagolygon gyrfa.

Mae’r mandad ar gyfer trafodaethau i ddiwygio’r contract yn nodi disgwyliad Llywodraeth Cymru ar gyfer cynigion ar y cyd ar gyfer cytundeb ar y cyd, gan gynnwys ystyried uchelgeisiau Cymru Iachach, yn ogystal ag unrhyw argymhellion perthnasol o’r adolygiad o’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau mewn meddygaeth.  Dylai cynigion ar y cyd gydnabod hefyd nad yw pob meddyg am symud ymlaen yn syth drwy raglen hyfforddi ffurfiol i ddod yn feddyg ymgynghorol neu’n feddyg teulu ac felly dylent gynnig llwybrau ychwanegol ar gyfer gyrfa mewn meddygaeth sy’n cefnogi opsiynau gyrfa hyblyg a datblygiad parhaus meddygon ar bob cam o’u gyrfa.

Fel rhan o Gontract 2021, cytunwyd ar gytundeb tâl aml-flwyddyn. Roedd y cytundeb cyflog aml-flwyddyn yn cynnwys y canlynol:
 

Contract 2021 – cytundeb cyflog aml-flwyddyn 2021 i 2024 
Pwynt Blynyddoedd
o Brofiad 
2020 i 2021 Blwyddyn 1
2021 i 2022
Blwyddyn 2 
2022 i 2023
Blwyddyn 3 
2023 i 2024
Strwythur pwyntiau
cyflog newydd yn
2023 i 2024
0 £41,360 £45,345 £50,620 £51,000 1
1 £44,896 £45,345 £50,620 £51,000 1
2 £49,494 £49,989 £50,620 £51,000 1
3 £51,957 £56,061 £57,182 £58,756 2
4 £55,506 £56,061 £57,182 £58,756 2
5 £59,044 £58,756 £58,756 £58,756 2
6 £59,044 £63,285 £64,550 £65,500 3
7 £62,658 £63,285 £64,550 £65,500 3
8 £62,658 £63,285 £64,550 £65,500 3
9 £66,276 £66,939 £72,003 £72,500 4
10 £66,276 £66,939 £72,003 £72,500 4
11 £69,894 £70, 593 £72,003 £72,500 4
12 £69,894 £70, 593 £75,730 £80,000 5
13 £69,894 £70, 593 £75,730 £80,000 5 - brig
14 £73,510 £74,245 £75,730 £80,000 5 - brig
15 £73,510 £74,245 £75,730 £80,000 5 - brig
16 £73,510 £74,245 £75,730 £80,000 5 - brig
17 £77,126 £77,897 £79,144 £80,000 5 - brig

Cynyddodd y system gyflog newydd yng Nghontract 2021 y cyflog cychwynnol ar gyfer meddygon SAS o £41,360 i £51,000 erbyn diwedd y cytundeb tair blynedd, a lleihawyd y pwyntiau cyflog yn sylweddol o 11 i 5, gan leihau hyd yr amser o 18 mlynedd i 12 mlynedd hefyd i godi i frig y raddfa, gan gynyddu enillion cyfartalog gyrfa, a chefnogodd sylwadau a wnaed ar sut i leihau'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau gyda strwythurau cyflog.

Cytunwyd ar y fargen aml-flwyddyn hon a’i rhoi ar waith ym mis Ebrill 2021, cyn yr argyfwng costau byw, ac roedd yn seiliedig ar godiadau cyflog cyfartalog o flynyddoedd blaenorol i annog pobl i symud ymlaen o Gontract 2008 i Gontract 2021. 

Roedd gan feddygon SAS presennol yng Nghymru yr opsiwn i ddewis a hoffent aros ar Gontract 2008 neu symud i Gontract 2021.

Cyflog 2022 i 2023

Ar gyfer blwyddyn ariannol 2022/2023, dyfarnwyd dyfarniad cyflog o 4.5% i bob grŵp meddygon oherwydd yr argyfwng costau byw. Fodd bynnag, pe bai hwn yn cael ei gymhwyso i Gontract 2008, byddai’r pwynt cyflog uchaf yn parhau’n uwch na phwynt cyflog uchaf Contract 2021. Mae hyn oherwydd mai, ar y pryd, y pwynt cyflog uchaf ar Gontract 2008 oedd £296 yn fwy na Chontract 2021 (ar ddiwedd mis Mawrth 2022). 

Felly, ar gyfer 2022 i 2023, penderfynodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y dylid rhewi’r cyflog uchaf ar Gontract 2008 er mwyn cynnal uniondeb Contract 2021 a’i raddfeydd cyflog, er mwyn sicrhau na fyddai’r meddygon SAS hynny sydd wedi symud i Gontract 2021, neu sydd yn y broses o drosglwyddo iddo, yn cael eu hannog i beidio â gwneud hynny o safbwynt cyflog yn unig.

Er mwyn lliniaru’r effaith negyddol ar y meddygon SAS hynny sydd ar bwynt cyflog uchaf Contract 2008 ar hyn o bryd, cytunodd y Gweinidog y byddent yn cael taliad anghyfunol parhaus o 4.5% i sicrhau eu bod yn cael codiad cyflog.

Cyflog 2023 i 2024

Gwnaeth y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ddatganiad ysgrifenedig ar 24 Awst 2023, lle cyhoeddwyd dyfarniad ar gyfer staff meddygol a deintyddol. Roedd hwn yn cynnwys codiad cyflog o 5% ar gyfer 2023/24 ar gyfer y rhai a gyflogir yn y GIG ar delerau ac amodau meddygol a deintyddol, sy’n cynnwys meddygon ymgynghorol, meddygon a deintyddion dan hyfforddiant, a’r meddygon SAS ar Gontract 2008.

Effaith dyfarniad cyflog 2023 i 2024

Derbyniodd y rhai a oedd eisoes ar bwynt cyflog uchaf Contract 2008 ddyfarniad anghyfunol parhaus o 4.5% ar gyfer 2022 i 2023. Fodd bynnag, ar hyn o bryd nid yw unrhyw feddygon SAS sydd wedi symud i bwynt cyflog uchaf Contract 2008 yn y flwyddyn ariannol 2023 i 2024 ymlaen yn gymwys i dderbyn y taliad anghyfunol parhaus o 4.5% – yn wahanol i’w cymheiriaid a oedd ar frig eu pwynt cyflog cyn dechrau blwyddyn ariannol 2023 i 2024. 

Mae'r taliad anghyfunol yn werth £3,575 y flwyddyn ar ben y cyflog o £84,664 y flwyddyn.

O ran y meddygon SAS hynny ar Gontract 2008 nad oes ganddynt hawl ar hyn o bryd i’r dyfarniad anghyfunol o 4.5%, bydd amrywiaeth o unigolion yn y grŵp hwn â nodweddion gwarchodedig fel y’u diffinnir yn Neddf Cydraddoldeb 2010, a gall rhai ohonynt gael eu heffeithio’n fwy cadarnhaol neu negyddol na grwpiau eraill o bobl. Mae Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb wedi'i gwblhau i ystyried yr effeithiau ar y rheini â nodweddion gwarchodedig. 

Camau arfaethedig

Mae’r asesiad effaith hwn yn ystyried yr effaith y mae dyfarniad cyflog 2022/2023 wedi’i chael ar feddygon SAS a gyrhaeddodd bwynt cyflog uchaf Contract 2008 o 1 Ebrill 2022. 

Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried cyfuno’r dyfarniad cyflog o 4.5% o fis Ebrill 2022, a fydd yn lliniaru’r materion cydraddoldeb sydd wedi dod i’r amlwg yn ddiweddar, a achoswyd gan rai meddygon yn cael dyfarniad anghyfunol o 4.5% o 2022 i 23 ac eraill ddim. 

Bydd cyfuno'r dyfarniad cyflog o 4.5% yn golygu y bydd pob meddyg ar y pwynt cyflog hwn yn derbyn yr un cyflog. Fodd bynnag, efallai y bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn ystyried talu’r un taliad anghyfunol o 4.5% i’r rhai sy’n cyrraedd y pwynt cyflog uchaf o 2023 i 2024 ymlaen.

Mae manteision ac anfanteision cyfuno’r dyfarniad cyflog, yn hytrach na pheidio â chyfuno’r dyfarniad cyflog, wedi’u hystyried ac mae’r Gweinidog wedi cael gwybod am y goblygiadau ariannol. Ac eithrio’r goblygiadau ariannol amlwg ar gyllideb Llywodraeth Cymru ac oni nodir yn benodol yn yr asesiad effaith hwn, ystyriaethau ac effaith y dyfarniad cyflog o 4.5% ar feddygon SAS a gyrhaeddodd bwynt cyflog uchaf Contract 2008 o 1 Ebrill 2022 ymlaen, boed yn ddyfarniad cyfunol neu anghyfunol, yr un peth. Dylid darllen yr asesiad effaith hwn felly yn unol â hynny. 

Pe bai Llywodraeth Cymru yn dewis peidio â chymryd unrhyw gamau neu atal y taliad anghyfunol, mae’n debygol o gael effaith negyddol ar gysylltiadau diwydiannol a byddai’r materion cydraddoldeb yn parhau.

Wrth gynhyrchu’r asesiad effaith hwn, mae swyddogion wedi ystyried amrywiaeth o opsiynau sydd ar gael i’r Gweinidog er mwyn mynd i’r afael â’r materion a godwyd neu liniaru’r materion hynny. Yn benodol, mae swyddogion wedi ystyried ymarferoldeb (a) gwneud dim byd, lle byddai'r drefn bresennol yn aros, a (b) atal y taliad anghyfunol presennol o 4.5% yn ei gyfanrwydd, a fyddai'n golygu na fyddai pawb sy'n derbyn y taliad yn cael y taliad. Nid yw’r opsiynau hyn wedi’u hargymell i’r Gweinidog ac o ganlyniad nid ydynt wedi cael eu hasesu o ran effaith. 

Pum ffordd o weithio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Mae’r saith nod llesiant, yr amcanion llesiant a’r pum ffordd o weithio o dan egwyddor datblygu cynaliadwy Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 wedi’u hystyried wrth lunio’r asesiad effaith hwn. Yn benodol, ystyriwyd a all y penderfyniad hwn wneud y mwyaf o’r cyfraniad ar draws y saith nod llesiant ac amcanion llesiant Llywodraeth Cymru.

O ystyried natur gyfyngedig y penderfyniad hwn o ran y bobl yr effeithir arnynt, cydnabyddir y bydd y cyfraniad at yr holl nodau ac amcanion llesiant yn gymharol gyfyngedig. Fodd bynnag, yn benodol, nodir y bydd y penderfyniad hwn yn cyfrannu’n gryf at y nodau llesiant canlynol: (a) Cymru fwy cyfartal a (b) Cymru o gymunedau cydlynol. Ystyrir nad oes unrhyw effaith negyddol ar y pum nod llesiant arall. 

Mae swyddogion wedi ystyried effeithiau posibl a chanlyniadau hirdymor y cynigion gyda'r bwriad o atal problemau pellach rhag digwydd mewn perthynas â Chontract 2008 yn y dyfodol neu atal gwahaniaethau rhag cynyddu. Mae Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA) wedi dwyn y mater hwn i sylw swyddogion ac, ar gefn y cydweithio hwn, mae swyddogion wedi cysylltu ag ystod ehangach o gydweithwyr yn fewnol ac o fewn Cydwasanaethau’r GIG i wirio’r dystiolaeth ac ystyried yr effaith.

Atal 

Gallai diwygio’r dyfarniad cyflog anghyfunol o 4.5% o 2022 i 2023 i fod yn gyfunol ar y pwynt cyflog uchaf ar Gontract 2008 annog meddygon SAS i barhau i weithio yn GIG Cymru gan y bydd eu graddfeydd cyflog cyfunol yn gymaradwy â’u cymheiriaid yn Lloegr a Gogledd Iwerddon. Gall y penderfyniad hwn hefyd gyfrannu at gyfraddau cadw ac felly helpu byrddau iechyd lleol i gadw staff medrus.

Integreiddio

Byddai gweithredu’r cynnig hwn yn cyd-fynd â’r amcanion a nodau llesiant, yn arbennig o ran cyfrannu at Gymru fwy cyfartal.

Cydweithredu

Trwy gydberthnasau sy'n bodoli eisoes, bydd angen cydweithio'n agos â phartneriaid a rhanddeiliaid allweddol fel Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA) a Chyflogwyr GIG Cymru i amlygu i'r unigolion ar y pwynt cyflog uchaf bod camau wedi'u cymryd ar eu cyflog. Mae hyn yn cynnwys codi ymwybyddiaeth o’r ffaith y gall rhai unigolion dderbyn arian ychwanegol sydd wedi’i ôl-ddyddio ac amlygu y gallai’r tâl ychwanegol hwn ddod yn bensiynadwy. 

Byddai’r dull cydweithredol hwn yn cefnogi Llywodraeth Cymru yn well i adlewyrchu ac ymateb i faterion sy’n dod i’r amlwg, gan weithio’n agos gyda’n partneriaid cyflawni allweddol i fonitro a chefnogi’n rhagweithiol er mwyn mynd i’r afael ag unrhyw faterion a allai godi yn ystod y cyfnod cyflawni.

Effaith 

Bydd y cynnig yn cael effaith gadarnhaol ar feddygon SAS ar y pwynt cyflog uchaf os oes ganddynt daliad cyfunol ychwanegol ar gyfer y blynyddoedd i ddod a bydd yn bensiynadwy. Gallai hyn yn ei dro gael effaith gadarnhaol ar gyfraddau recriwtio a chadw ar gyfer meddygon SAS ledled Cymru, a fydd yn ei dro yn cael effaith gadarnhaol ar y GIG a’r gofal a ddarperir i’r gymuned leol.

Hirdymor 

Mae’r cynnig hwn yn dangos bod Llywodraeth Cymru yn gweithredu er budd hirdymor y meddygon SAS hynny gan ei bod yn rhoi pob un ohonynt ar sail gyfartal ac yn darparu budd unrhyw daliad cyfunol ychwanegol ar gyfer blynyddoedd i ddod sydd hefyd yn bensiynadwy. 

Yn y tymor hir, gall hefyd gyfrannu at godi morâl staff ac ymdeimlad cynyddol o deyrngarwch i GIG Cymru drwy ddangos bod Gweinidogion Cymru yn cefnogi meddygon SAS, yn cydnabod y cyfraniad y mae’r grŵp meddygon hwn yn ei wneud i GIG Cymru, ac yn cymryd camau priodol a phrydlon mewn ymateb i faterion a godwyd.

Costau a buddiannau

Mae goblygiadau ariannol a manteision cost yr opsiynau i gyfuno’r dyfarniad cyflog o 4.5% yn ôl i fis Ebrill 2022, yn hytrach na’r dyfarniad anghyfunol ar y pwynt cyflog uchaf, wedi’u hamlinellu mewn cyngor i’r Gweinidog. 

Mantais gyffredinol y penderfyniad a wneir fydd mynd i’r afael â’r pryderon cydraddoldeb sydd wedi dod i’r amlwg yn ddiweddar.

Mecanwaith

Bydd taliadau ychwanegol yn cael eu gweinyddu drwy broses gyflog sefydledig gyda chyflogres y GIG o fewn GIG Cymru.  Nid oes angen unrhyw newidiadau deddfwriaethol ar gyfer y penderfyniad hwn.

Adran 8. Casgliad

(Sylwer y bydd yr adran hon yn cael ei chyhoeddi)

8.1    Sut y mae pobl y mae'r cynnig yn fwyaf tebygol o effeithio arnynt wedi'u cynnwys yn y gwaith o'i ddatblygu

Nid ymgynghorwyd ar y cynnig penodol hwn. Yn lle hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi ymgysylltu’n flaenorol â Chymdeithas Feddygol Prydain (BMA), sef yr undeb llafur sy’n cynrychioli barn meddygon SAS ledled Cymru. Mae’r trafodaethau gyda Chymdeithas Feddygol Prydain wedi rhoi’r mewnwelediad angenrheidiol i alluogi Llywodraeth Cymru i lunio’r cynnig.

8.2 Beth yw'r effeithiau cadarnhaol a negyddol mwyaf arwyddocaol

Agwedd fwyaf arwyddocaol y cynnig hwn yw y bydd meddygon SAS ar bwynt cyflog uchaf Contract 2008 yn cael codiad cyflog cyfunol. Mae hyn yn debygol o hybu morâl yn y grŵp hwn o staff a sicrhau y bydd pawb ar y pwynt cyflog uchaf yn cael yr un lefel o gyflog waeth pryd y cyrhaeddant frig y raddfa gyflog.

Bydd hefyd yn mynd i’r afael â phryderon cydraddoldeb mewn perthynas â Chontract 2008 ynghylch yr effaith ar ryw/rhywedd, oedran a hil sy’n cael eu creu ar hyn o bryd gan mai dim ond y rhai oedd ar y pwynt cyflog uchaf yn 2022 i 2023 sy’n derbyn y taliad anghyfunol o 4.5%, ond nid yw'r rhai sy'n cyrraedd y pwynt cyflog uchaf yn y blynyddoedd dilynol yn ei gael.

Effaith negyddol fwyaf arwyddocaol y cynnig hwn yw y bydd hyn yn rhoi straen ychwanegol ar gyllideb Llywodraeth Cymru ar adegau o anhawster ariannol. Mae angen gwneud y penderfyniad yng nghyd-destun yr amgylchiadau ariannol presennol yn dilyn penderfyniad y Cabinet ar 1 Awst 2023 i nodi arbedion yn ystod blwyddyn ariannol 2023 i 2024, gyda chyfyngiadau ar wariant yn ystod 24/25. Mae yna bwysau ariannol sylweddol sy'n wynebu cyllideb 23/24 ac mae gwaith yn parhau ar baratoadau ar gyfer cylch cyllideb 24/25. Bydd gan y cynnig hwn oblygiadau i’r trafodaethau ar gyfer 24/25, yn enwedig o ran Contract 2021 pan ddaw’r cytundeb aml-flwyddyn i ben, gan y bydd yn ehangu’r gwahaniaeth rhwng y rheini ar bwyntiau graddfa uchaf Contract 2008 a phwyntiau graddfa uchaf Contract 2021. Bydd asesiad effaith pellach yn cael ei gynnal cyn gwneud penderfyniad ynghylch y dyfarniad cyflog ar gyfer Contract 2021 ar gyfer 2024 i 2025. 

8.3 Yng ngoleuni’r effeithiau a nodwyd, sut bydd y cynnig yn gwneud y canlynol: 

  • cynyddu’r cyfraniad i’n hamcanion llesiant a’r saith nod llesiant; a/neu
  • osgoi, lleihau neu liniaru unrhyw effeithiau negyddol?

Yr effaith fwyaf arwyddocaol ar weithredu taliad cyfunol i’r rhai sydd ar bwynt cyflog uchaf Contract 2008 yw y bydd Llywodraeth Cymru wedi mynd i’r afael â’r pryderon cydraddoldeb a grëir ar hyn o bryd drwy dalu elfen anghyfunol i ddim ond y meddygon SAS hynny a gyrhaeddodd bwynt cyflog uchaf Contract 2008 yn ystod neu cyn 2022 i 2023. 

Bydd y cynnig hwn yn cyfrannu at y nodau llesiant canlynol: (a) Cymru fwy cyfartal a (b) Cymru o gymunedau cydlynol. Ystyrir nad oes unrhyw effaith negyddol ar y pum nod llesiant arall.

8.4 Sut y caiff effaith y cynnig ei monitro a'i gwerthuso wrth iddo fynd rhagddo ac ar ôl iddo gael ei gwblhau

Mae swyddogion o'r farn nad oes angen monitro a gwerthuso parhaus o dan yr amgylchiadau gan yr ystyrir ei fod yn gyfystyr â / cynrychioli dyfarniad cyflog o fewn cyfyngiadau Contract 2008 a bydd yn cael ei adolygu yn unol â gweithdrefnau/arferion safonol.