Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Mae Brian yn chwarae rhan amlwg iawn yng ngwaith cydweithredol yr ysgol, gan wneud cysylltiadau a’r ysgolion bwydo a’u helpu ag adnoddau dynol, a rheolaeth ariannol gadarn.

Mae Brian yn ymroi i bob agwedd ar waith yr ysgol; mae’n fwy na rheolwr, mae’n arweinydd sy’n cysylltu ei waith a gweledigaeth a bwriad strategol yr ysgol. Mae Brian yn gwneud penderfyniadau pendant sy’n seiliedig ar yr hyn sydd orau i bawb. Mae ei lygaid ar y bel bob amser ac mae’n edrych ymlaen ac yn meddwl beth fyddai’n datblygu’r ysgol.

Mae’n ddoeth, yn bwyllog ac yn credu’n angerddol yn yr ysgol, ac mae’r disgyblion yn ei ddisgrifio fel person cynnes sy’n creu amgylchedd diogel i bawb.