Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Mae Ceri wedi neilltuo ei holl yrfa fel athrawes i ddisgyblion a chymuned Ysgol Gymraeg Casnewydd, gan ddangos cynhesrwydd ac ymrwymiad rhyfeddol tuag at y disgyblion yn ei gofal. Mae hi’n credu’n angerddol yn ei hathroniaeth ac mae’n ymdrechu i sicrhau bod pob athro’n cael y rhyddid i arloesi yn eu hystafelloedd dosbarth. 

Mae’n sicrhau bod pob disgybl yn profi ’r addysg orau bosibl ac mae hi’n dathlu eu hamrywiaeth, gan wneud gwir wahaniaeth i ddisgyblion yn ei gofal. Mae Ceri yn eithriadol am ddatblygu talentau'r staff a'r disgyblion, ac mae ei drws bob amser ar agor. Mae Ceri yn creu ymdeimlad gymuned a chynwysoldeb i obawb sy’n rhan o gymuned Ysgol Gymraeg Casnewydd.