Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Mae Gemma yn uchel iawn ei pharch am ei dull cwbl unigryw o hybu cydweithio i sicrhau bod pawb yn teimlo eu bod yn arbennig ac yn rhan allweddol o’r broses. Mae hi’n goruchwylio’r cydweithio arloesol ag Ysgol Gyfun Pencoed a Choleg Penybont, gan ddatblygu ffyrdd newydd o sicrhau bod dysgwyr ôl-16 yn gallu manteisio ar ddarpariaeth alwedigaethol ac academaidd o ansawdd uchel. 

Mae Gemma hefyd yn cydlynu Rhaglen Prentisiaethau Iau rhwng Coleg Penybont ac ysgolion uwchradd lleol a darpariaeth fi n nos sy’n dod â 180 o ddisgyblion o wahanol ysgolion lleol at ei gilydd. Mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn cael gofal, gan ddweud ei bod yn mynd ymhell y tu hwnt i’r disgwyliadau i sicrhau’r deilliannau gorau posibl i’r dysgwyr.